Tuesday, February 28, 2012

Y BBC ac ymddiswyddiad Chris Hughes o Lais Gwynedd

Ag ystyried cymaint wnaeth ystafell newyddion y Bib o'r ffaith i Chris Hughes guro Dafydd Iwan yn etholiadau Cyngor Sir Gwynedd yn 2008, mi fyddai rhywun yn rhyw feddwl y byddai ymadawiad Chris a Llais Gwynedd am Blaid Cymru o rhywfaint o ddiddordeb iddynt - yn arbennig cyd mai Chris ydi'r pedwerydd cynghorydd Ll G i ymddiswyddo ers 2008. 

Ond mi fyddai rhywun yn meddwl yn anghywir.  A barnu oddi wrth wefan y Bib a Wales Today 'dydi'r mater o ddim diddordeb o gwbl - a pha ryfedd pan mae yna straeon go iawn fel, yr un am rali'r Ceidwadwyr ddiwedd mis nesaf neu'r un sy'n dweud  rhywbeth neu'i gilydd am ffenestri i son amdanynt.

18 comments:

maen_tramgwydd said...

Mae'r 'Bib' yn anwybyddu'r SNP yn yr Alban ar bob cyfle.

Anonymous said...

Yn amlwg tydi cynghorwyr Gwynedd yn gadael Llais ac yn ymuno a Phlaid Cymru ddim yn ffitio naratif ystafell newyddion y Bîb ym Mangor.

Anonymous said...

Mae canlyniadau is-etholiadau ym Mlaenau Ffestiniog, Bangor a Phenrhyndeudraeth ynghyd a phenderfyniad Chris Hughes yn awgrymu y bydd Llais Gwynedd yn gwynebu colledion trwm yn etholiadau mis Mai.

Tra nad oes gennyf unrhyw amser i arweinyddiaeth LlG, mae un neu ddau o gynghorwyr gwerth chweil (a dim mwy na hynny) yn eu plith a byddai yn biti eu gweld yn colli oherwydd y "swing" amlwg i ffwrdd o wleidyddiaeth protest Louise Hughes, Owain Williams ayyb

Gobeithio yn fawr y bydd yr unigolion hyn - y Cyng, Peter Read er enghraifft - yn dilyn esiampl Chris Hughes.

Anonymous said...

Ond yr hyn sydd fwyaf rhyfeddol ydi diffyg sylwadau ar y mater hwn ar flogiau amrywiol gan hoelion wyth y Llais - dan enwau eraill fel arfer wrh gwrs. Y Llais wedi tewi; Y Llais yn fud; Y Llais wedi diflannu . . . .

Anonymous said...

A yw hyn yn dangos eu bod wedi disgyn oddi ar radar y wasg ac felly wedi colli eu diddordeb? Yn sicr, y math yma o sylw roedd Gwilym Euros, AMJ a Now yn erfyn amdano, ond prin iawn yw'r hynny dwi wedi ei glywed ganddynt ers mis Mai 2011 - efallai mae'r ffaith iddynt beidio gwrthwynebu cau Ysgol Machreth wedi eu cornelu?

A mai 2012 ddaw ergyd farwol i Lais Gwynedd? Mae sibrydion wedi bod ers tro bod sawl un yn ystyried os nad wedi penderfynu sefyll yn annibynol.

Anonymous said...

"Soldiers of fortune" yw LlG bellach sydd yn teithio hyd a lled y Sir - o fynwentydd Caernarfon i doiledau cyhoeddus Meirionnydd - yn chwilio am drigolion blîn sydd yn meddwl eu bod wedi cael cam mewn rhyw ffordd.

Er eu bod yn fwy o Z Team nag o A Team a bod pobl Gwynedd wedi gweld trwy Louise Hughes, Owain Williams ar criw, disgwiliwch weld llawer mwy ohonynt ble bynnag yng Ngwynedd mae anghydfod yn codi rhwng rwan a mis Mai.

HC said...

Onid gofalu am etholwyr sydd yn pryderu mewn rhyw ffordd yw gorchwyl cynghorydd ? .
Credaf mai clymblaid o 'chancers' a 'misfits' yw Llais Gwynedd . Serch hynny, mae gennyf y barch mwyaf at Alwyn Gruffydd , yn arbennig. Tydi bod yn genedlaetholwr di-gyfaddawd ddim yn bechod. Mae o ac Owain Williams wedi aberthu dros eu cenedlaetholdeb.

Alwyn ap Huw said...

Baw isa'r domen oedd Chris am "ddwyn", sedd DI ym marn y blog yma ychydig yn ôl. Ond chware teg iddo am weld y goleuni!

Rwy'n hollol hyderus na fydd Chris yn sefyll yn etholiadau mis Mai, ac yn caniatáu i DI cael ei le haeddiannol yn ôl ar y cyngor.

Pe bai Chris yn cael sefyll fel ymgeisydd PC ym mis Mai, byddai hynny'n drewi braidd o'r cwynion bu gan Flog Menai yn erbyn ail ethol Oscar mewn gwisg Geidwadol ar ôl iddo droi ei gôt!

Cai Larsen said...

Ti 'n swnio fel petaet wedi ypsetio yn uffernol Alwyn -ymsetio i'r fath raddau dy fod yn dechrau gwneud stwff i fyny.

Yn gyntaf dydw i ddim yn gwneud llawer o sylw am y mater ag eithrio dyfynnu gair am air ddatganiad i'r wasg gan y Blaid, a beirniadu'r Bib am eu blacowt newyddion.

Yn ail celwydd ydi'r honiad fy mod wedi disgrifio Chris fel baw isa'r domen, neu unrhyw beth arall cyffelyb. Mae yna injan chwilio ar ochr y blog - pob lwc yn dod o hyd i sylw tebyg.

Yn drydydd mae Oscar wedi ei feirniadu yma am adael sedd na enilliodd yn ei enw ei hun ac am beidio mynd trwy broses ddemocrataidd i gael ei ddewis i'r Toriaidd. petai Chris yn sefyll ni fyddai'r naill sefyllfa na'r llall yn wir.

Mae croeso i ti feirniadu unrhyw beth dwi'n ei ddweud, ond tria wneud hynny ar sail ffeithiol plis.

Alwyn ap Huw said...

Heb ypsetio o gwbl Cai; nid ydwyf a na fûm yn aelod nac yn gefnogwr i Lais Gwynedd, fel y gwyddost yn iawn.

Prin fod angen ymchwilio Google er mwyn canfod dy fod wedi bod yn sarhaus a ddilornus o Lais Gwynedd ers ei gychwyn, dy fod wedi dilorni ymrwymiad genedlgarwyr amlwg megis Alwyn Gruffydd, Now Gwynys, Gwilym Euros ac ati at yr achos cenedlaethol.

Rwy'n sicr y byddai Chris Plaid yn gystal cynghorydd ac oedd Chris Llais, gan fy mod wedi canfod bod pobl wedi ymuno a Llais am resymau egwyddorol ar y cyfan; ac yn canfod Chris fel gwron egwyddorol.

Ond yr wyt ti wedi bod yn lladd ar aelodau Llais am bedwar blynedd gyfan. A ydi newid côt yn troi Chris o fod yn hogyn drwg i fod yn hogyn da?

Anonymous said...

Yn ol y son roedd cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd ddoe yn crisialu rhai o'r rhesymau bu i Chris Hughes adael Llais. Wedi clywed ei fod fel ffair a'r uchafbwynt mae'n debyg oedd Cynghorydd Louise Hughes yn derbyn sawl rhybudd gan y Cadeirydd wrth iddi wneud rant gwallgo yn erbyn pawb a phopeth gan weiddi "I hate Plaid Cymru" yn uchel ar draws y siambr. Ar ben hynny cafwyd Inspector Clusoe Llais aka Aeron Maldwyn Jones yn ymdrechu i sgorio pwyntiau 'cyfansoddiadol' megis diffygion sillafu ym mharagraff 3ci ar dudalen 117 o ryw ddogfen. A'r fath ddiffyg yn profi fod holl ffeithiau ariannol yr adroddiad yn wallus hefyd. An yna er eu cefnogaeth i'r lefel o dreth cyngor ym mhob pwyllgor a gweithgor dros y 6 mis diwethaf dyma Llais yn cynnig ei newid ar yr unfed awr ar ddeg, megis tynnu ffigwr allan o'r glas heb na ffeithiau na chyllideb i'w gefnogi.
Yn ol y cynghorydd roedd Llais a'u grwp o 8 (ie, mae nhw wedi crebachu'n sylweddol)wedi llwyddo i elyniaethu pawb arall o bob grwp. Ni chafwyd unrhyw gefnogaeth gan neb arall i unrhyw gynnig na gwelliant ganddynt.
Tra bod rhai aaelodau o Llais yn ymyfrydu yn y fath ymddygiad, mae'n amlwg fod eraill wedi dychryn.
Tybed a ydi'n bosibl fod rhai aelodau Llais bellach ddim isio cysylltu eu hunain gyda hynny?

Cai Larsen said...

Anon 8.33 Mi roeddwn i yn rhyw ddeall ei bod yn dipyn o bedlam yn y siambr ddoe.

Alwyn Felly pan ti'n dweud fy mod yn ystyried Chris yn 'faw isa'r domen' yr hyn rwyt yn ei olygu ydi fy mod wedi beirniadu gwleidyddiaeth Llais Gwynedd.

Granda'r ffasgwr idiotaidd - mae ein trefn ddemocrataidd ni yn gweithio at yr egwyddor ein bod yn cael beirniadu safbwyntiau a gwleidyddiaeth ein gilydd. Mae troi beirniadaeth wleidyddol yn ymysodiad personol yn tanseilio'r holl broses ddemocrataidd. Does gen ti, na fi, na'r un blaid wleidyddol yr hawl i feddwl bod ein safbwyntiau y tu hwnt i feirniadaeth - yn arbennig felly pan mae'r safbwyntiau hynny yn rhai gwirion ac afresymegol.

Mae LlG yn grwp sy'n barod iawn, iawn i feirniadu, mae ganddio'r hawl i wneud hynny. Ond 'does ganddo ddim o'r hawl i ddisgwyl ei fod fel endid y tu hwnt i feirniadaeth wleidyddol. Am wn i mae'r rhan fwyaf o'i aelodau yn deall hynny, ond rwyt ti yn ymddangos i fod o dan yr argraff bod beirniadaeth o Lais Gwynedd yn rhyw ymysodiad maleisus ar gymeriad ei aelodau..

Mae dy agwedd yn un sylfaenol wrth ddemocrataidd.

Anonymous said...

Ηello my loved оne! I wish to ѕay that this аrticle is аwesome, nicе
wгitten anԁ іncludе almost all importаnt infoѕ.
I'd like to peer more posts like this .
Here is my webpage : 1 month loan

Anonymous said...

Very nice poѕt. I just stumbled upon your blοg and ωishеd to
say thаt ӏ have really enjoyed bгοwsing уοur blog pоsts.
In аny case I'll be subscribing to your rss feed and I hope you write again soon!

my page :: personal loans

Anonymous said...

hey there and thanκ уоu fοr уouг info – Ι've definitely picked up anything new from right here. I did however expertise some technical issues using this website, since I experienced to reload the web site many times previous to I could get it to load correctly. I had been wondering if your web host is OK? Not that I'm complaining, but ѕlow loaԁіng instanсes times will ѵery
frequently affect youг ρlacement in google аnd саn dаmage уour hіgh quаlity scоrе if advertising anԁ maгκeting ωіth Adωords.
Αnуway I'm adding this RSS to my email and can look out for much more of your respective fascinating content. Ensure that you update this again soon.

My web site: payday loans

Anonymous said...

Spot on with this write-up, I honestly believe that this site needs a
lot more attention. I'll probably be returning to see more, thanks for the advice!

Feel free to surf to my web blog ... augmenter ses Vue youtube

Anonymous said...

We are a gaggle of volunteеrs anԁ ѕtarting a new sсheme іn our community.
Your web site provided us with useful info tο wοrk on.
You've done a formidable task and our entire group will likely be grateful to you.

My web site :: same day loans

Anonymous said...

I uѕed tο be able to fіnd gοod іnformatiοn frоm youг blοg articles.


my webρage - instant cash loans
My web site: instant cash loans