Monday, February 06, 2012

Sut allai'r ail bleidleisiau effeithio ar ganlyniad yr etholiad am yr arweinyddiaeth?

Mae'n beth rhyfedd - fel Dyfrig Jones 'dwi'n byw yng Ngogledd Gwynedd ond mae fy narlleniad i o ganlyniad tebygol yr etholiad arweinyddol yn gwbl wahanol i'w un o.  Tra bod Dyfrig o'r farn mai trydydd fydd Leanne Wood, 'dwi'n eithaf siwr y bydd yn dod yn gyntaf - mewn pleidleisiau cyntaf o leiaf.  'Dwi wedi siarad efo nifer go lew o aelodau o'r Blaid yma, ac mae mwyafrif clir yn gogwyddo tuag at Leanne.  Efallai y dyliwn ychwanegu mai son am Arfon ydw i, ac nid Meirion Dwyfor, ond mae yna lawer iawn o aelodau yn Arfon.

'Dydw i ddim, fodd bynnag yn hollol siwr mai Leanne fydd yn ennill.  Bydd ail bleidleisiau hefyd yn hynod bwysig, ac yma y bydd yr etholiad yn cael ei hennill a'i cholli.  Yn fy marn i bydd mwyafrif clir o ail bleidleisiau Dafydd Elis Thomas yn mynd i Elin, ond bydd ail bleidleisiau Elin yn torri yn fwy cyfartal.  Pleidlais geidwadol fydd un DET yn y bon, a bydd llawer o'i gefnogwyr yn rhoi eu hail bleidlais i'r ail ymgeisydd mwyaf ceidwadol yn eu barn nhw, ac Elin fydd honno.  Bydd llawer o gefnogwyr benywaidd Elin yn rhoi eu hail bleidlais i Leanne yn ogystal a'r sawl sy'n credu y dylai'r Blaid fod yn fwy cefnogol i annibyniaeth. 

Felly mae'r cwestiwn o bwy ddaw yn ail a thrydydd wedi'r cyfri cyntaf yn bwysig.  Os mai ail bleidleisiau Elin fydd yn cael eu cyfri yna ni fydd Leanne yn gorfod bod a llawer mwy o bleidleisiau cyntaf na DET i ennill.  Ond os mai ail bleidleisiau DET fydd yn cael eu cyfri, yna bydd rhaid i Leanne fod a bwlch clir rhwngddi hi ag Elin i ganiatau iddi ennill. 

6 comments:

Anonymous said...

"Bydd llawer o gefnogwyr benywaidd Elin yn rhoi eu hail bleidlais i Leanne "

Pam? Am ei bod hi'n fenyw? Siwr bod menywod Plaid Cymru yn fwy meddylgar na hynny.

Ond, ie, pleidleisiau pwy sy'n cael eu hail-ddosbarthu yw'r cwestiwn

Anonymous said...

Dwi ddim yn hoff o'r dull yma (AV) o ethol.

Mae'n gallu arwain i ganlyniad annisgwyliadwy o safbwynt yr etholwyr.

Sawl aelod or Blaid fydd yn meddwl bod rhaid iddynt gymhennu'r tri?

Dwi'n bwriadu pleidleiso Leanne yn rhif un, heb roi neb yn ail neu yn drydydd.

Os byddai'n bosib mi fuaswn yn rhoi minws i un ohonynt.

BoiCymraeg said...

Tybed a byddai ymgyrch Leanne wedi ei chryfhau pe bai Simon Thomas wedi aros yn y ras, i ddod yn bedwerydd? Mi dybiaf y byddai cefnogwyr ST yn dueddol o fod yn eithaf cytbwys rhwng y tri arall o ran eu hail ddewisiadau. Wedi dweud hynny, efallai na fyddai ST wedi cael digon o bleidleisiau cyntaf i wneud lawer o wahaniaeth.

Rwy'n credu dy fod di'n iawn o ran ail ddewisiadau Elin Jones a Dafydd-ET. Mi fyddwn i'n meddwl hefyd bod bron y cwbwl o gefnogwyr Leanne yn rhoi Elin fel ail-ddewis hefyd - dylai Elin felly gallu disgwyl ail bleidleisiau pawb bron.

Cai Larsen said...

Anon 11:30am. 'Dwi ddim yn dweud y bydd pob dynes o bell ffordd yn rhoi ei hail bleidlais i Leanne - ond mae patrymau yn amlygu eu hunain mewn STV - rhai daearyddol a rhai sy'n ymwneud a ffeithiau megis rhyw'r ymgeisydd.

Anon 12:27pm. STV nid AV ydi'r dull wrth gwrs. 'Does yna ddim mantais i'r dewis cyntaf o beidio a defnyddio'r ail a'r drydydd bleidlais.

WG: Mae'n bosibl y bydd llawer o ail bleidleisiau Leanne yn mynd i Elin, ond os na fydd yn dod yn drydydd - a 'dydi hynny ddim am ddigwydd - fyddan nhw byth yn cael eu cyfri.

Anonymous said...

menaiblog

Mae nifer o gyfeiriadau ar y we yn dangos mae AV fydd yn cael ei defnyddio, nid STV, gweler e.e.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-16909565

http://www.google.com/hostednews/ukpress/article/ALeqM5gx7E5H0o3vvDL6SktTSl7beApT9g?docId=N0165161327659680094A

Gweler hefyd:

http://www.psa.ac.uk/PSAPubs/TheAlternativeVoteBriefingPaper.pdf

Dwi'n cytuno nad oes mantais pleidleiso dros un yn unig, ond o leia fe all ddangos fy anfodlondeb efo'r ddau arall.

Os gwnaiff nifer o'r aelodau yr un peth mae'n bosib i'r ymgeisydd buddugol ennill efo llai na 50% or pleidleisiau.

Cai Larsen said...

Anon 7:11pm: 'Dwi'n meddwl dy fod yn gywir. STV mae'r Blaid yn ei ddefnyddio pan mae mwy nag un lle i'w lenwi ac ATV pan mae un lle yn unig sydd.

Gyda thri yn sefyll 'dwi ddim yn meddwl y bydd unrhyw wahaniaeth ymarferol os mai STV ta ATV a ddefnyddir. Byddai'n wahanol petai pedwar yn dal yn y ras.