Monday, February 06, 2012

Pam nad ydi penderfyniad Simon o gymorth mawr i Elin

Mae'n amlwg yn anffodus i Simon Thomas benderfynu taflu ensyniadau i gyfeiriad Leanne Wood (Fischer Price politics) wrth ddod a'i ymgyrch i ennill arweinyddiaeth y Blaid i ben. Mi fydd pob dim ar ben erbyn Mawrth 15, a bydd rhaid i holl aelodau'r Blaid yn y Cynulliad gydweithio wedi hynny. Siomedig iawn.

Un neu ddau o bwyntiau brysiog eraill ynglyn a'r penderfyniad fodd bynnag.

Yn gyntaf mae'n debyg bod y penderfyniad yn anhepgor - mae'n amlwg nad oedd ymgyrch Simon wedi cydio yn y ffordd y gwnaeth yr ymhyrchoedd eraill, ac mae'n dra thebygol mai pedwerydd digon sal fyddai ei safle petai wedi aros yn y ras.



Yn ail 'dwi ddim yn meddwl bod sefyllfa Elin wedi ei gryfhau rhyw lawer. Gan mai dull STV sy'n cael ei ddefnyddio mae'n debygol y byddai llawer o'i ail bleidleisiau wedi gwneud eu ffordd i bentwr Elin beth bynnag.

Mae'r penderfyniad i gynnwys Simon fel dirprwy arweinydd i Elin petai hi'n ennill yn broblem. Canlyniad bargen rhwng y ddau ydi hyn yn ol pob tebyg.  Un o atyniadau Leanne ydi'r ffaith ei bod yn dod o ran o Gymru sy'n bwysig i'r Blaid - rhan sydd rhaid ei ennill os ydi'r Blaid i gamu ymlaen yn sylweddol. Neu i roi pethau mewn ffordd arall, byddai llwyddiant ar ei rhan yn torri ar y ddelwedd a geir mewn rhannau o Gymru o'r Blaid fel rhywbeth gwledig, Gorllewinol ac egsotig. Byddai cael arweinydd a dirprwy arweinydd sydd yn cael eu cysylltu yn bennaf a Cheredigion yn atgyfnerthu'r ddelwedd anffodus yma. Oherwydd hynny mi fyddwn yn bersonol yn ei chael yn llawer mwy anodd cefnogi'r tocyn anghytbwys yma na chefnogi Elin ar ei phen ei hun.

12 comments:

Anonymous said...

Sylw hynod anaeddfed gan Simon Thomas sy'n codi cwestiynau elfenol am ei grybwyll gwleidyddol - ymgeisydd AdamPrice nid FisherPrice yw Leanne Wood.

Anonymous said...

Cytuno'n llwyr. Penderfyniad rhyfedd iawn a cham gwag sy'n mynd yn groes i naws gynhwysol y ras. Digon teg i Simon Thomas dynnu allan a rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones ond mater hollol wahannol yw mynnu ei le fel ddirprwy drwy wneud hynny. Mae Simon Thomas bellach wedi mynd ati i gyfiawnhau'r dealltwriaeth rhyngddo ag Elin Jones ar Golwg 360, gan gynnwys honiad bod "mwyafrif aelodau’r grŵp yn gwbwl hapus ’da’r tocyn dwbwl yma”, er bod ychydig o amwysedd yn perthyn i 'hapus' h.y a ydynt yn derbyn hyn neu yn gefnogol i'r ddau fel darpar arweinyddion? Mae gen i ofn fod hyn oll yn mynd i adael blas cas a gwneud mwy o niwed nac o les. Roeddwn wedi bwriadu bwrw fy ail bleidlais dros Elin ond yn sgil hyn mi fydda i yn ymatal.

Anonymous said...

Dwi ddim yn deall pam fod Elin wedi cytuno i glymu ei hun i bartneriaeth Ceredigion x 2 efo'r ymgeisydd gwanaf o bell ffordd.

Gan mai Leanne Wood sydd wedi rhedeg yr ymgyrch gryfaf a'r mwyaf atyniadol o bell fordd, byddai apel amlwg i docyn "Un Cymru" Leanne + Elin ac i raddau llai i docyn Elin + Leanne.

Anonymous said...

Fel ymgais amlwg i stitchio'r ras i fynny mae clymblaid Ceredigion yn gwneud i aelodau'r Cynllwyn Tŷ Cwri edrych fel disgyblion Machiavelli!

maen_tramgwydd said...

Di-enw 7:02

Hollol gytuno.

Sylw gwirion, ffôl a phlentynaidd. Ni fydd EJ yn elwa o'r bartneriaeth yn fy marn i.

Roeddwn yn disgwyl bod mwy o synnwyr cyffredin ganddi. Dylai roi pellter ar unwaith rhyngddi hi a'r fath ragfarnau.

Aled GJ said...

Siomedig iawn. Roedd cangen Plaid Cymru Y Felinheli wedi trefnu noson hefo Simon Thomas wythnos nesaf iddo gael cyflwyno ei weledigaeth i'r aelodau yn Arfon- ond bydd rhaid inni ganslo hwn rwan! Siomedig hefyd o ran y ras ei hun- mae hyn jest yn taflu cysgod sinicaidd drosti: hy ei throi yn ymdrech "atal" un ymgeisydd, yn hytrach na ras i wobrwyo'r ymgeisydd mwyaf deinamig ac ysbrydoledig. Fel cefnogwr i Leanne, dwi hefyd yn poeni y bydd hyn yn agor y drws led y pen i aelodau mwy "pragmataidd" PC i fwrw'u hail bleidlais dros yr Arglwydd. Tybed ai fo yn hytrach nag Elin fydd ai ennill go iawn yn dilyn penderfyniad rhyfedd Simon Thomas heddiw?

Anonymous said...

Mae tegannau Fisher Price yn gryf a dibynadwy yn fy mhrofiad i. Un o'r tegannau yna sy'n dod yn rhad gyda 'HappyMeal' McDonalds fu ymgyrch Simon Thomas o'r cychwyn.

Elin wedi dangos diffyg crebwyll yma. Byddai nifer dda o gefnogwyr Leanne wedi bod yn hapus cale Elin yn arweinydd a Leanen yn ddirprwy dybiwn i. Nid felly bellach.

Anonymous said...

Piti, roedd y ras yn foneddigaidd ac aeddfed nes i Simon ddechrau llichio'i degannau o gwmpas.

Anonymous said...

Cam gwag gan Elin. Roedd yn amlwg nad oedd Simon Thomas yn boblogaidd, felly pam clymu ei hun wrtho fe?

Leannne yw fy newis cyntaf i, ac Elin oedd fy ail ddewis. Doeddwn i ddim eisiau DET na Simon i arwain, felly doeddwn i ddim am roi pleidlais 3 na 4. Ond nawr, dwi'n ystyried peidio â rhoi'r ail bleidlais i neb.


Iwan Rhys

Anonymous said...

Roeddwn yn fodlon iawn i gefnogi Elin Jones ar y cychwyn, ond mae ymgyrch Leanne wedi apelio'n fawr i mi. Ar ol hyn, Leanne sydd yn bendant yn cael fy mhleidlas gyntaf. 'Sdim un ffordd mae cael Arweinydd a Dirprwy o Geredigion yn mynd i gryfhau'r achos. Mae Elin wedi gwneud camgymeriad anesboniadwy fan hyn.

Hogyn o Rachub said...

Rhaid cytuno efo'r uchod. Camgymeriad mawr gan Elin Jones dwi'n teimlo - swni efallai'n awgrymu ei fod yn ddigon o gamgymeriad i fod wedi colli'r arweinyddiaeth iddi. Ma'n biti mawr achos fy hun dwi wedi bwriadu pleidleisio dros Elin Jones o'r cychwyn a rwan, wel, dwi'n tueddu at Leanne "by default" (ac ma hynny'n biti imi'n bersonol achos dwi ddim yn dilyn yr heip, anhaeddiannol yn fy marn i, o'i chwmpas).

A dweud y gwir, dybiwn i mai Dafydd Êl gaiff y budd mwyaf o be ddigwyddodd ddoe.

Yr hystings amdani felly!!!

Cai Larsen said...

Mae'n dda nodi dy fod yn ol yn y gorlan HOR!