Monday, February 20, 2012

Hystings y Blaid - Caernarfon

Roedd tua tri chant a thri deg yn yr hystings ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid yng Theatr Seilo, Caernarfon heno.

Mae hyn tua 318 yn fwy na ddaeth i hystings y Toriaid yn Aberystwyth pan roedd Twidl Dym yn ymgodymu'n frwd efo Twidl Di yn eu gornest arweinyddol nhw. Twidl Dym enillodd honno _ _ _ neu Twidl Di - 'dwi ddim yn cofio'n iawn. Er gwaetha'r siom honno, o leiaf 'does dim rhaid i Twidl Dym na Thwidl Di annerch eu cynhadledd wanwyn eleni oherwydd ei iddi gael ei chanslo am nad oedd neb eisiau mynd i Landudno i wrnado arnyn nhw'n rwdlan.

Ta waeth, 'dwi'n crwydro - roedd y tri ymgeisydd yn gaboledig a hyderus heno, a rydym yn ffodus i gael dewis mor anodd ger ein bron. Byddaf yn amlwg yn dod yn ol at hyn, ond mae'r nifer a ddaeth allan ar nos Lun yn y gaeaf yn awgrymu bod teimlad ar led bod yr etholiad yn un arwyddocaol i ddyfodol y Blaid - ac yn wir y wlad.



35 comments:

Anonymous said...

Cytuno bod y tri yn eithaf tebyg o ran cryfderau v gwendidau.

Ond ydy hyn yn dangos ein bod ni wedi cael ymgeiswyr hynod o gryf yntau digon gwan, oherwydd y broblem mai dim ond pwll bychan o ACau oedd yna - 'best of a bad bunch'?

Beth bynnag ywr ateb- dylsa'r Blaid newid y rheolau a gadael RYWUN i redeg ond gydar rheol eu bod nhwn GORFOD bod yn AC yn yr etholiad nesaf.

Beth petai Plaid yn colli mwy o seddi a mynd lawer i 7 neu 8 = tydy hyn ddim digon o ddewis na?

Anhysbys said...

1. BlogMenai: roedd na buzz neithiwr yn Seilo (da di'r lluniau)

2. Anon 11.12

(i) "ymgeiswyr ..... digon gwan"
Does yr un ohonynt yn wan.

(ii) "Beth bynnag ywr ateb- dylsa'r Blaid newid y rheolau a gadael RYWUN i redeg ond gydar rheol eu bod nhwn GORFOD bod yn AC yn yr etholiad nesaf."
Amhosib gwarantu hyn.

Wil Ty Pen said...

Diddorol oedd clywed Dafydd Êl yn sicrhau'r gynulleidfa y byddai Aalodau Cynulliad y Blaid yn cadw llygad barcud ar weithgareddau S4C gan sicrhau na fyddai'r un llanast yn digwydd eto.
Tipyn bach o "godi pais wedi piso" ddwedwn i!

Anonymous said...

Dwi'n cytuno fod yna rhyw ysbryd newydd ar droed i'r Blaid

Un o'r rhesymau yn fy marn i ydi fod aelodau'r Blaid wedi rhoi gymaint o egni mewn i sicrhau refferendwm llwyddiannus 1997 a 2011. Yn sicr o fy mhrofiad helaeth i rhannu taflenni/ymgyrchu yn ystod y ddwy ymgyrch, aelodau Plaid Cymru wnaeth 90% o'r gwaith caib a rhaw. Nawr fod y ddwy ymgyrch yma wedi bod yn syfrdanol o lwyddiannus dani'n medru rhoid ein hegni nawr i ymgyrchu am annibyniaeth /cymru rhydd yn hyderus fod blynyddoedd y malu awyr diangen heibio

maen_tramgwydd said...

Di-enw 11:13

I fod yn onest, dw i'n credu bod dau reswm am yr 'ysbryd newydd'.

Yn gyntaf, y digwyddiadau yn yr Alban, a'r tebygrwydd y bydd newidiadau cyfansoddiadol yn dod yn eu sgîl fydd yn trawsnewid perthynas Cymru a gweddill y DU.

Yn ail, penderfyniad Leanne i sefyll. Mae ei hymgyrch wedi anadlu bywyd i mewn i ornest a fuasai'n ddigon anniddorol hebddi.

Dw i ddim yn credu y buasai cannoedd o aelodau'r Blaid wedi troi allan i'r hystings fel maent wedi gwneud onibai amdani.

Di-enw 11:12

Mae gwendidau gan bawb. Rhaid eu cydbwyso gyda'u cryfderau.

Er y llwyddiant yn y refferendwm mae'r Blaid wedi llithro'n ôl cryn dipyn yn y degawd diwethaf

Dyma gyfle i'r Parti a Cymru symud ymlaen trwy ddewis arweinydd ifanc, carismatig, a galluog, sydd yn meddiannu'r posibilrwydd o ddeniadu carfan newydd o boblogaeth ein gwlad i genfogi y mudiad cenedlaethol.

Ni allwn fod yn sicr iddi lwyddo yn y dasg, ond os na chaiff hi y cyfle, ofnaf mai aros yn yr un lle neu parhau i lithro'n ôl fydd y canlyniad os etholir Elin neu Dafydd.

Anonymous said...

Maen Tramgwydd

Yn cytuno fod yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban a ymgeisyddiaeth Leanne wedi creu cyffro gylch yr hystings a'r gystadleuaeth am arweinyddiaeth. Ond does dim un o'r ymgeiswyr yma yn mynd i arwain at lwyddiant ysgubol i'r Blaid.

Foddbynnag hoffwn i bwysleisio eto gymiant o rhyddhad oedd canlyniad 2011. Dwi'n teimlo fel rhywun sydd wedi deffro ar ol blynyddoedd o gur pen. Roedd gwastraffu ein hegni ar gwestiwn mor sylfaenol 'a ddylai Cymru gael hunan lywodraeth' yn beth hollol nacyring i neud, roedd gorfod llusgo'n ffordd drwy'r dadlau rwtch just yn ymladd rhywun.

Yn gyffredinol i'r Blaid dwi'n credu fod gan bobol fwy o 'egni' rwan ein bod ni allan o 'gors anobaith'

maen_tramgwydd said...

Di-enw 2:14

Er mai aelodau'r Blaid wnaeth rhan fwyaf o'r gwaith cyn y refferendwm, heb bleidleisau cefnogwyr Llafur buasai'r ymdrech wedi bod yn fethiant yn fy nhyb i.

Yn y bôn cam bach ydoedd, ond hefyd cam pwysig. Er hynny, mae Cymru'n bell iawn o gael hunan lywodraeth.

Yn yr etholiad canlynol fe dalodd y Blaid y gost am fynd i mewn i'r glymblaid. Am ryw reswm roedd y canlyniad hynny yn annisgwyl i IWJ.

Ni fydd llwyddiant sylweddol i'r mudiad cenedlaethol os na ddenir cefnogwyr Llafur i'n plith. Rhaid gofyn felly, pa un o'r tri ymgeisydd sy'n fwya tebyg o lwyddo i wneud hynny?

Dyna pam dw i'n cefnogi Leanne.

Anonymous said...

Maen Tramgwydd

Rwy'n anghytuno. Mae gan Gymru Hunan Lywodraeth bellach. Nid y math o Hunan Lywodraeth y byddwn ni yn ei ddeisyfu ond ni fedrid gwadu mae Hunan Lywodraeth ydyw.

Fy mhwynt i felly, yw fod yr egwyddor wedi ei setlo. Ac ein bod ni fel Pleidwyr wedi gwastraffu gymaint o'n hegni a'n doniau yn sefydlu'r egwyddor hwn, egwyddor sydd bellach yn ymddangos yn chwerthinllyd o amlwg a syml

Mi fedrwn ni fwrw ymlaen nawr i ddadlau a son am bethau llawer iawn pwysicach a chreiddiol fel rheoli dwr ayyb.

O ran Leanne yn denu cefnogwyr Llafur atom, simplistic iawn yw credu acen gref, magu mewn ty cyngor = pledleisiau. Dyw hyn ddim wedi gweithio i Leanne mewn etholiadau a dyw pledleiswyr Llafur erbyn hyn ddim i gyd yn 'halen y ddaear'chwaith

maen_tramgwydd said...

Di-enw 5:14

Bydd rhaid i ni anghytuno am Leanne, mae'n amlwg.

Y broblem yw mae popeth yn gymharol. Yn fy marn i, i gymharu a Leanne, mae'r ddau arall yn llai tebygol o ledaenu cefnogaeth yr etholwyr.

Fe fu un o'r ddau yn arwain y Blaid yn y gorffennol, ac ni lwyddodd mewn hyn o beth. Hyd y gwela i mae o'n llai tebyg i lwyddo 'nawr.

Fel mater o reidrwydd mae angen dipyn o garisma, ac ychydig iawn o hwnnw sydd gan y ddau.

Nid cefndir Leanne yn unig sy'n apelio i mi, ond ei hansawdd. Mae hi hefyd yn ddiffuant - rhinwedd anarferol ym mysg gwleidyddion. Wrth gwrs, d'oes dim modd i fod yn siwr, ond amser a ddengys.

Anonymous said...

Mae angen anadlu bywyd ac egni newydd i fewn i'r blaid ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr. Mae gennyf barch mawr tuag at DET ac Elin ond, fel "aelod traddodiadol" o'r gogledd orllewin, rwyf yn bwriadu cefnogi Leanne Wood oherwydd y potensial sydd ganddi i dorri tir newydd a herio'r sefydliad Llafuraidd.

Credaf fod gwir gyfle gan Leanne i ennill yn enwedig os y byddai yn gyrru neges clir ei bod yn bwriadu arwain mewn ffordd cynhwysol a chwith canolig.

Mae Elin wedi disgyn i'r trap o gynnig y dirprwy-arweinyddiaeth ar blat i aelod tebyg iawn iddi hi ei hun. Rwyf yn gobeithio yn fawr y bydd Leanne yn datgan ei bwriad i arwain tîm arweinyddiaeth fyddai yn cynrychioli Cymru gyfan ac a fyddai yn gwneud y mwyaf o dalentau ein grŵp cynulliad.

Anonymous said...

Nid wyf wedi llwyddo i fynd i unrhyw gyfarfod - hoffwn wybod , ym marn pawb , pa un o'r ymgeiswyr sydd debycaf o ddal ei dir/thir gyda'r llipryn Carwyn Jones .
Ni fuaswn yn breuddwydio pleidleisio dros DET , a cefais (i ddechrau) fy merswadio i bleidleisio dros LW. Erbyn hyn , yr wyf wedi darllen sylwadau yn bwrw amheuon dros ei gallu i fynegi ei hun yn y ddwy iaith. Oherwydd hynny, rwyf yn ail-feddwl, ac yn dueddol o bryderu nad oes yna arweinydd o gwbl yma. Mae EJ yn berson gyda llawer o hygrededd, ond ni allaf ei gweld yn apelio rhyw lawer at ddosbarth gweithiol Cymraeg Arfon, heb son am miloedd difater y Cymoedd .

Anonymous said...

Mewn gwirionedd mae risg pa bynag ymgeisydd fydd yn fuddigol:

DET - yr ymgeisydd Marmite - risg y byddai'n hollti cefnogwyr y Blaid ac na fyddai yn denu cefnogwyr newydd
EJ - risg mai Elin yw'r "continuity candidate" - par saff o ddwylo sydd ag arddull tebyg i IWJ
LW - risg ei bod yn rhy asgell chwith / anaeddfed / arwynebol

Yn bersonol rwyf yn teimlo'n gryf mai parhad y status quo yw'r risg mwyaf i'r blaid. Dwi felly'n bwriadu cefnogi Leanne yn y gobaith fod ganddi'r potensial i dyfu i fewn i'r swydd a chynnig.

Wil Ty Pen said...

Ydy hi'n wir fod rhan fwyaf o Aelodau Cynulliad y Blaid wedi datgan eu cefnogaeth i Elin? Tipyn o faen melin rownd ei gwddw dudwn i ... onid nhw oedd y tacla gadwodd Wigli rhag cymryd yr arweinyddiaeth?
Tipyn o "own goal" adeg hynny.

Anonymous said...

Mi wnes i fwynhau'r "adloniant" (chwedl y llais yn y theatr cyn cychwyn) yn yr hystings echnos!

DET. Roeddwn i'n teimlo bod DET yn ceisio'n ormodol chwarae i ryw syniad oedd ganddo fe o beth fyddai'r gynulleidfa'n hoffi ei glywed. Bosib bod hynny wedi taro deuddeg ymhlith criw dethol o'r gynulleidfa, ond doedd ei gyfeiriadau at ryw bobl ("heddwch i'w llwch") yn bendant ddim yn berthnasol i mi, fel rhywun 28 oed sydd wedi bod yn aelod o'r blaid ers 10 mlynedd.

Faint bynnag y mae DET yn trio dweud bod ei safbwynt ef ar niwclear yn cyd-fynd â pholisiau'r Blaid, a faint bynnag y mae'n ceisio ein argyhoeddi ei fod yn glir ei safbwynt ar gwestiwn annibyniaeth, y gwir amdani yw bod ei safbwyntiau ar y ddau bwnc yma yn achosi rhwygiadau a chamddealltwriaeth oddi mewn i'r Blaid, heb sôn am y tu allan i'r Blaid. Wela i ddim sut yn y byd y gallai DET ddenu unrhyw bleidleisiau ychwanegol adeg etholiadau'r Cynulliad. Yn wir, mae llu o aelodau'r Blaid eisoes wedi dweud y byddan nhw'n dadymaelodi pe dewisir DET yn arweinydd, felly mae'n siwr gen i am bob un o'r rhain bydd nifer fawr o'r rhai sydd fel arfer yn pleidleisio i'r Blaid hefyd yn troi eu cefn ar y Blaid.

Hyd y gwelaf i, uchelgais DET i'r Blaid yw cefnogi'r Blaid Lafur i lywodraethu Cymru.

Elin. Perfformiad solet, chwarae teg. Araith dda ac ateb cwestiynau'n dda. Serch hynny, dwi dal ddim callach beth yw ei syniadau am sut i helpu economi Cymru. Ac er iddi ddweud yn ei haraith nad yw hi eisiau cael ei ystyried yn 'bâr saff o ddwylo', dwi'n ofni braidd mai dyna fyddai'r canfyddiad. Dwi'n dychmygu y gallai Elin gynnal cefnogaeth bresennol y Blaid, a helpu'r Blaid i gadw'r nifer bresennol o seddi yn etholiadau nesaf y Cynulliad. Dwi ddim wedi cael fy argyhoeddi y byddai'n gallu denu cefnogaeth y 100,000+ o etholwyr fyddai eu hangen er mwyn ymgyrraedd at 21+ o seddi. Elin fydd yn cael fy ail bleidlais.

Leanne. Dwi'n cyfadddef i mi fynd i mewn i'r hystings eisoes wedi penderfynu mai Leanne fydd yn cael fy mhleidlais gyntaf. Ac mae'n falch gen i ddweud fy mod wedi dod o'r cyfarfod hyd yn oed yn fwy pendant o hynny. Roedd yn areithio'n gryf, ac yn canolbwyntio ar yr economi, cymunedau a swyddi. Peth rhagorol am weledigaeth Leanne yw sut mae'r cyfan yn plethu i'w gilydd ganddi. Cymunedau cynaliadwy, yr iaith, economi, swyddi, ynni, heddychiaeth, cyfiawnder cymdeithasol, gwir annibyniaeth - mae'r cyfan yn plethu drwy'i gilydd ac yn cael eu hatgyfnerthu gan ei gilydd, ac mae'n llwyddo i gyfleu hynny yn gwbl ddiffuant. Ac yn hynny y mae ei chryfder pennaf i mi.

Yn ail agos i hynny yw'r teimlad sydd gen i mai hi yw'r ymgeisydd sydd yn dangos y potensial i symud sefyllfa etholiadol y Blaid ymlaen. Mae Leanne ac Elin ill dwy yn dangos yr uchelgais o fod eisiau goddiweddyd y Blaid Lafur, ond Leanne yw'r un dwi'n dychmygu yn gallu gwneud hynny. Mae llu o bobl wedi datgan eu bod wedi ymaelodi â'r Blaid am y tro cyntaf, neu wedi ailymaeolodi, gan iddyn nhw gael eu cyffroi gan syniadau a diffuantrwydd gwleidyddiaeth ac ymgeisyddiaeth Leanne, sy'n arwydd o'r potensial i ehangu apêl y Blaid, ac i ennill seddau ychwanegol. Mae hefyd eisoes yn denu cefnogaeth yr undebau sydd fel arfer mor unllygeidiog eu cefnogaeth i Lafur. Yn ol yr SNP ei hun, drwy ddenu cefnogaeth yr undebau y llwyddon nhw i dorri trwodd yn y modd y gwnaethon nhw drwy'r 'central belt'.

I'r rhai ohonoch sydd yn dal heb benderfynu'n derfynol, byddwn i'n eich annog i ystyried hyn - nid dewis pa un o'r tri sydd fwyaf apelgar at aelodau presennol y Blaid, a phleidleiswyr presennol y Blaid yn unig sydd ei angen, ond pa sydd â'r weledigaeth orau, mwyaf eglur a diffuant i fynd ati i geisio denu cefnoaeth 100,000+ o etholwyr ychwanegol.

Iwan Rhys

Anonymous said...

Iwan- Ti'n llygad dy le mai'r ystyriaeth bwysicaf o ran yr aelodau wrth ddewis arweinydd ydi- pwy sydd debycaf o gyrraedd pobl newydd. Ond mae yna garfan o aelodau sydd yn dal i feddwl yn nhermau pwy sy'n siarad orau hefo ni, pwy sy'n ein cysuro ni ac yn ein mwytho ni orau. Roedd hyn i'w weld yn yr ymateb ffafriol ymhlith aelodau hyn y gynulleidfa i fflachiadau o rethreg gan DET nos Lun.Paid a diystyried y meddylfryd ceidwadol hwn sy'n bodoli o hyd yn rhengoedd Plaid Cymru.

Dwi'n gobeithio mod i'n anghywir fan hyn, ond y synnwyr ges i nos Lun oedd bod ymgyrch Leanne yn dechrau rhedeg allan o stem. Ond hyd yn oed os ydi hynny'n wir- ei hymgyrch hi yn anad dim sydd wedi diffinio'r ras hon. Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn ei thro wedi galluogi Elin i fod yn fwy taer a beiddgar yn ei phwyslais hi ar annibyniaeth.Mi rydan ni felly wedi cael ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r chwith ac ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r canol: a'r naill a'r llall yr un mor ddidwyll a phendant a'u gilydd. Mae hyn megis manna o'r nefoedd i genedlaetholwyr sydd wedi bod yn disgwyl i'r ddadl hon gael ei chyflwyno i bobl Cymru ers blynyddoedd!

Anonymous said...

Iwan- Ti'n llygad dy le mai'r ystyriaeth bwysicaf o ran yr aelodau wrth ddewis arweinydd ydi- pwy sydd debycaf o gyrraedd pobl newydd. Ond mae yna garfan o aelodau sydd yn dal i feddwl yn nhermau pwy sy'n siarad orau hefo ni, pwy sy'n ein cysuro ni ac yn ein mwytho ni orau. Roedd hyn i'w weld yn yr ymateb ffafriol ymhlith aelodau hyn y gynulleidfa i fflachiadau o rethreg gan DET nos Lun.Paid a diystyried y meddylfryd ceidwadol hwn sy'n bodoli o hyd yn rhengoedd Plaid Cymru.

Dwi'n gobeithio mod i'n anghywir fan hyn, ond y synnwyr ges i nos Lun oedd bod ymgyrch Leanne yn dechrau rhedeg allan o stem. Ond hyd yn oed os ydi hynny'n wir- ei hymgyrch hi yn anad dim sydd wedi diffinio'r ras hon. Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn ei thro wedi galluogi Elin i fod yn fwy taer a beiddgar yn ei phwyslais hi ar annibyniaeth.Mi rydan ni felly wedi cael ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r chwith ac ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r canol: a'r naill a'r llall yr un mor ddidwyll a phendant a'u gilydd. Mae hyn megis manna o'r nefoedd i genedlaetholwyr sydd wedi bod yn disgwyl i'r ddadl hon gael ei chyflwyno i bobl Cymru ers blynyddoedd!

Anonymous said...

Iwan- Ti'n llygad dy le mai'r ystyriaeth bwysicaf o ran yr aelodau wrth ddewis arweinydd ydi- pwy sydd debycaf o gyrraedd pobl newydd. Ond mae yna garfan o aelodau sydd yn dal i feddwl yn nhermau pwy sy'n siarad orau hefo ni, pwy sy'n ein cysuro ni ac yn ein mwytho ni orau. Roedd hyn i'w weld yn yr ymateb ffafriol ymhlith aelodau hyn y gynulleidfa i fflachiadau o rethreg gan DET nos Lun.Paid a diystyried y meddylfryd ceidwadol hwn sy'n bodoli o hyd yn rhengoedd Plaid Cymru.

Dwi'n gobeithio mod i'n anghywir fan hyn, ond y synnwyr ges i nos Lun oedd bod ymgyrch Leanne yn dechrau rhedeg allan o stem. Ond hyd yn oed os ydi hynny'n wir- ei hymgyrch hi yn anad dim sydd wedi diffinio'r ras hon. Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn ei thro wedi galluogi Elin i fod yn fwy taer a beiddgar yn ei phwyslais hi ar annibyniaeth.Mi rydan ni felly wedi cael ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r chwith ac ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r canol: a'r naill a'r llall yr un mor ddidwyll a phendant a'u gilydd. Mae hyn megis manna o'r nefoedd i genedlaetholwyr sydd wedi bod yn disgwyl i'r ddadl hon gael ei chyflwyno i bobl Cymru ers blynyddoedd!

Anonymous said...

Iwan- Ti'n llygad dy le mai'r ystyriaeth bwysicaf o ran yr aelodau wrth ddewis arweinydd ydi- pwy sydd debycaf o gyrraedd pobl newydd. Ond mae yna garfan o aelodau sydd yn dal i feddwl yn nhermau pwy sy'n siarad orau hefo ni, pwy sy'n ein cysuro ni ac yn ein mwytho ni orau. Roedd hyn i'w weld yn yr ymateb ffafriol ymhlith aelodau hyn y gynulleidfa i fflachiadau o rethreg gan DET nos Lun.Paid a diystyried y meddylfryd ceidwadol hwn sy'n bodoli o hyd yn rhengoedd Plaid Cymru.

Dwi'n gobeithio mod i'n anghywir fan hyn, ond y synnwyr ges i nos Lun oedd bod ymgyrch Leanne yn dechrau rhedeg allan o stem. Ond hyd yn oed os ydi hynny'n wir- ei hymgyrch hi yn anad dim sydd wedi diffinio'r ras hon. Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn ei thro wedi galluogi Elin i fod yn fwy taer a beiddgar yn ei phwyslais hi ar annibyniaeth.Mi rydan ni felly wedi cael ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r chwith ac ymgeisydd yn dadlau dros annibyniaeth o'r canol: a'r naill a'r llall yr un mor ddidwyll a phendant a'u gilydd. Mae hyn megis manna o'r nefoedd i genedlaetholwyr sydd wedi bod yn disgwyl i'r ddadl hon gael ei chyflwyno i bobl Cymru ers blynyddoedd!

Anonymous said...

Wil Ty pen 8:41

Mae nifer o AC wedi mynegi eu cefnogaeth i Elin Jones... yn eu plith Simon Thomas, Rhodri Glyn Thomas, a hefyd cyn-AS a chyn-AC Cynog Dafis.

Gweler:

http://www.clickonwales.org/2012/02/plaid-leadership-1-always-leading-from-the-front/

Mae'n rhaid i mi ddweud ar ôl darllen yr uchod i'r dywediad 'over egging' ddod i'm meddwl ar unwaith.

Er fod Elin yn dweud yn eitha clir ei bod hi am annibyniaeth i'n gwlad, nid dyna safbwynt rhai o'i chefnogwyr blaenaf.

Mae nifer ohonynt wedi datgan eisoes yn y cyfryngau na ddylid Cymru anelu at annibyniaeth, neu ni fydd Cymru fyth yn annibynol.

Ydy'n nhw wedi newid eu meddyliau - neu wedi cael rhyw fath o droedigaeth? Os na, pam mae nhw'n cefnogi Elin os ydi hi'n frwdfrydig dros annibyniaeth? Ni chlywais hi'n sôn rhyw lawer am y syniad cyn iddi benderfynu sefyll.

Anonymous said...

Criw "Geriatrics 4 DET" wrthi yn canfasio aelodau Dwyfor Meirionnydd dros y ffôn - "mobilising the base" neu despret tybed?

Er y pethau hurt mae o wedi ei ddweud, dwi'n dal yn bryderus y bydd Yr Arg yn dod drwy'r canol i ennill drwy redeg ymgyrch o dan y radar i ddychryn aelodau hŷn y Gogledd Orllewin i'w gefnogi yn hytrach na'r "merched penboetj ma" o'r De

Anonymous said...

Pwy yn union yw cefnogwyr DET ?
mae'n rhaid i mi gyfaddef mai gwawd ydi'r gair caredicaf i ddisgrifio fy nheimladau i ato, a felly hefyd nifer sylweddol o'm cyfoedion.
Dal i gofio disgrifiad y 'Prifardd' Derec Tomos ohono 'Lada o wleidydd' ,
a disgrifiad creulonach Now Gwynys
' Gwrtheyrn ein cyfnod ni' .
Sut gall rhywun sydd wedi cythruddo cenedlaetholwyr ers cenhedlaeth
(a) barhau i gael ei enwebu gan ei etholaeth .
(b) fod gyda pobl sy'n fodlon canfasio ar ei ran ?
Pwy , ee , yw ei gefnogwyr ymysg ei gyd ACau ?

Anonymous said...

Di-enw 9:25

"Gwrtheyrn ein cyfnod ni"

Da iawn!

D'oes gen i ddim syniad pwy yw ei gefnogwyr. Mae'n syndod mawr i mi ei fod o'n sefyll. Hollti'r mudiad fydd y canlyniad os caiff ei ethol. Fydd dim pwrpas i ni wedyn, ond i ymgrymu o flaen Yr Arglwydd.

Os digwyddir hynny efallai fe gaiff ei gofio fel, 'Chernobyl y Blaid' neu 'Dafydd ap Elis-Tomos ein Llyw Olaf'.

(Ystur 'chernobyl' yw 'wermod', sef cartref ei ffrind annwyl y Tywysog, ger Myddfai. Mae cyfeiriad yn Llyfr y Datguddiad i'r wermod, seren neu angel, sy'n disgyn i'r ddaear a gwenwyno y trydedd ran o'r dyfroedd)

Un o Eryri said...

Nid wyf yn meddwl fy mod yn Geriatric fel person 51 oed. Os mai dyna'r parch sydd at fobl hyn gan gefnogwyr Leanne, mae hi yn edrych yn ddyfodol du iawn ar Gymru. O ran y cyfarfod nos Lun mae'n edrych yn amlwg i mi nad oedd cefnogwyr mwyaf pybyr Leanne yn gwrando ar ei hatebion. Ni lwyddodd Leanne i ateb unrhyw gwestiwn a ofynwyd iddi. Buasai unrhyw ohebydd werth ei halen wrth ei fodd yn ei chwestiynu. Ac fel un o'r geriatrics dros Dafydd El chwedl di-enw gallaf ddweu bod pobl yn eu ugeiniau cyntaf yn canfasio drosto, a bod ymateb gwych iddo gan bobl o bob oed. Yr hyn oedd yn dddiddorol i mi ar ol Nos Lun yn union fel ar ol y rhaglenni teledu oedd y nifer o aelodau oedd yn bwriadu cefnogi Leanne, ond ar ol clywed ei hatebion neu ei diffyg atebion, 'roeddynt bellach yn bendant yn cefnogi Dafydd El.

Anonymous said...

Un o Eryri, pam wyt ti'n tybio mai un o gefnogwyr Leanne sy'n cyfeirio at y 'geriatrics'? Dyw'r person dienw penodol hwnnw ddim wedi dweud pwy y mae'n ei gefnogi. Annheg oedd ei sylw, rhaid dweud.

Mi wnes i wrando'n iawn ar y cwestiynau a'r atebion i gyd, diolch yn fawr, a Leanne ydy'r unig un wnaeth gyfathrebu orau i mi ei syniadau ar yr yr economi, swyddi, ynni, annibyniaeth.

Leanne hefyd (o'r hyn rydw i wedi'i weld) yw'r unig un sydd wedi cyhoeddi papur cyfoes yn dweud yn glir beth yw ei syniadau ar ynni a'r amgylchedd, a phapur cyfoes arall yn cyflwyno'n glir ei syniadau ar helpu'r Gymraeg. Mae ei phapur 'Annibyniaeth: cyfeiriad gwleidyddol newydd' yn cyflwyno'n glir ei gweledigaeth ar gyfeiriad i'r Blaid ac i Gymru. Ac mae'r papur 'Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd' yn cyflwyno ei syniadau ar sut i fynd i'r afael â chymunedau sydd wedi dioddef yn economaidd ers degawdau, ac sydd felly yr un mor berthnasol i gymunedau ledled de a gogledd Cymru ag ydynt i gymunedau cymoedd y de ddwyrain.

Mae'r ffaith i Dafydd El benderfynu rhoi lle blaenllaw ar ei wefan i res o bwyntiau bwled, wedi'u copio a'u gludo o swydd ddisgrifiad arweinydd gwrthblaid yn y Cynulliad, yn adrodd cyfrolau am ei uchelgais i'r Blaid.

Iwan Rhys

HC said...

Un o Eryri : Yr wyf innau'n 50 , ac yn gofio tan DET pan gafodd ei ethol yn y 70au . Yr oedd y tan wedi ei hen ddiffodd erbyn i mi gyrraedd oedran pleidleisio. Pam y dyliwn i bleidleisio i frenhinwr taeogaidd ?
Efallai nad yw Leanne Wood yn huawdl, ond mae ei safbwyntiau'n glir ac yn radical. Nid yw Elin Jones yn garismatig, ond mae'n gyson a didwyll . Mae'r ddwy gyda hanes o wrth-frenhiniaeth.
Mae'r cwestiwn yma o ymlyniad at goron Lloegr , i mi, yn bwynt hanfodol.

Un o Eryri said...

Iwan Rhys, y rheswm 'roeddwn yn tybio bod di=enw yn gefnogwr i Leanne oedd ei fod yn cyfeirio ar ferched o'r De.Yn bendant nid wyf yn meddwl bod Elin yn dod o'r De. 'Rwyf hefyd yn meddwl dy fod yn cymysgu dau beth Iwan uchelgais i'r Blaid, neu uchelgais i Gymru. Cymru sydd yn bwysig i mi. Mae Dafydd yn barod wedi profi trwy ei rol fel Llywydd bod modd symud Cymru ymlaen trwy ei wleidyddiaeth ef, ac mae yn fodlon gwneud yn union yr un peth trwy arwain y Blaid. Mae lle i ni ymfalchio yn hynny.
HC Siom i mi yw dy fod yn amlwg yn erbyn yr hyn mae ~Alex Salmond yn ei ddweud yn yr Alban. Problem i Loegr yw y Teulu Brenhinol. Nid yw yn broblem ddigon pwysig i ni boeni amdano yma. Pa un yw'r gorau gennyt, Cymru Anibynnol yn Ewrop o dan Frenhiniaeth Lloegr, neu Cymru fel rhan o wladwriaeth Lloegr, ond gyda Plaid Cymru yn gallu gweiddi eu bod yn erbyn y Frenhiniaeth. Medwl am y peth o ddifri
Gwynfor Owen

Anonymous said...

" 'Rwyf hefyd yn meddwl dy fod yn cymysgu dau beth Iwan uchelgais i'r Blaid, neu uchelgais i Gymru. Cymru sydd yn bwysig i mi."

Dydw i ddim yn cymysgu o gwbl. Mae'r ddau beth ynghlwm. Yr uchelgais i Gymru sy'n bwysig, ac rwyf i o'r farn mai'r uchelgais i Gymru ddylai fod sicrhau annibyniaeth. Y ffordd orau o symud tuag at hynny yw cael yr uchelgais i'r Blaid i ddod yn blaid fwyaf y Cynulliad. Leanne ac Elin yw'r unig rai sydd wedi datgan mai hynny yw'r uchelgais. Mae Dafydd El wedi gwneud a dweud sawl peth sy'n awgrymu nad yw'n gweld pwynt i'r Blaid anelu'n uwch na bod yn ail blaid fwyaf y Cynulliad, a chefnogi Llafur i lywodraethu Cymru. Ai fel hynny, felly, y mae'n bwriadu gwireddu'r uchelgais i Gymru?

Iwan Rhys

maen_tramgwydd said...

Iwan

Taro'r hoelen bob tro!!! Ardderchog!

Un o Eryri

D'oes dim gobaith i'r Blaid nac i Gymru or etholir DET.

Dw'i yn fy chwedegau ac mae'n amser i ni gael arweinydd sydd yn credu yn ei gwlad a'i phobl. Mae Leanne am i ni ENNILL, nid bodloni bod yn ail neu drydydd yn wastadol.

Un o Eryri said...

Iwan a Maen-Tramgwydd. 'Rydych eich dau yn son am yr angen i Blaid Cymru fod y Blaid mwyaf yn y Cynulliad. Ia neis iawn. Blynyddoedd yn ol, roeddwn innau yn credu mai'r unig ffordd i wneud pethau ddigwydd i Gymru oedd sicrhau mwyafrif i Plaid Cymru adeg hynny yn fwyafrif o Aelodau Seneddol o Gymru yn San Steffan. Ond mae hanes wedi dangos yn wahanol. Mae hi'n bosibl trwy gyd-weithio sicrhau cynnydd aruthrol i Gymru. Mae angen edrych ar realiti bywyd. Mae person sydd yn cydweithio yn ennill. Mae person sydd yn gweiddi bod rhaid bod mewn mwyafrif yn colli, ond cytunaf eu bod yn cael y pleser o weiddi mai nhw sydd yn iawn, ond dyw'r math yno o bleser byth yn denu llwyddiant

maen_tramgwydd said...

Un o Eryri:

Trueni na fuasit wedi rhoi y cyngor yna i Alex Salmond yn gynt.

Ni fuasai 'nawr yn cael y drafferth o fod yn Brif Weinidog yr Alban (dros ddau gyfnod) nac yn y broses o drefnu refferendwm annibyniaeth i'w wlad.

R'wyt ti'n swnio'n debyg iawn i Dafydd i hunan.

Os buaswn yn ei gredu, y fo sy'n gyfrifol am y datganoli sydd wedi dod i Gymru hyd yn hyn. Twt lol.

Fe ddaw mwy o ddatganoli, mae hyd yn oed y Toriaid am hynny - ond ar ei termau nhw.

Yr unig ffordd o sicrhau pẅerau sylweddol, neu annibyniaeth yn y pen draw, yw ennill yn etholiadol. Mae Salmond wedi profi hyn. Hyd y gwela i does dim gobaith gan Dafydd o wneud hynny.

Mae o'n llawer fwy tebyg o hollti'r Blaid.

Anonymous said...

Cydweithiodd Ieuan Wyn Jones a Carwyn Jones. Collodd un , ennillodd y llall . Mae'r cyfnod o wleidydda 'consensws' a 'cosy' a welwyd yn y bae ers blynyddoedd wedi rhoi llyfethair ar wleidyddiaeth Cymru a chenedlaetholdeb,ac wedi galluogi'r Blaid Lafur i ennill yr hawl i wneud dim.
Mae angen cyfnod o wleidyddiaeth milain, gwrthwynebus 'San-Steffanaidd'yng Nghymru .

Anonymous said...

This information is wοrth eveгуone's attention. Where can I find out more?
My webpage :: www.prweb.com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.htm

Anonymous said...

Why visitors still make use of to read news
papers when in this technological globe everything is presented
on web?

Stop by my weblog - hardwood floors

Anonymous said...

We аre a group оf voluntеeгs and starting a
new schеme іn οur сommunity.
Your web site provideԁ us with valuable informatіοn to
work on. Yοu have ԁone a foгmidablе job and оur entire сommunity ωill be
thanκful to you.

Also νisit my weblog :: Silk N Reviews

Anonymous said...

Thanks for the marvelous posting! I certainly enjoyed reading it, you
happen to be a great author.I will ensure that I bookmark
your blog and will come back in the foreseeable future.

I want to encourage you to definitely continue your great
job, have a nice weekend!

Also visit my web page ... cycle hair growth cycle