Thursday, February 09, 2012

DET ac annibyniaeth - yn ol i'r myrllwch

'Dwi'n rhyw drio daeall ond fedra i ddim, fedra i ddim - am safbwynt Dafydd Elis Thomas at annibyniaeth 'dwi'n son wrth gwrs. 

Rydym wedi hen sefydlu ei fod yn erbyn annibyniaeth i Gymru cyn cynhadledd ddiwethaf y Blaid, ond ei fod wedi dod i gefnogi annibyniaeth rhywbryd yn ystod y gynhadledd - neu o bosibl yn fuan wedi iddi ddod i ben.  Ond os ydi'r rhifyn diweddaraf o Golwg (dim fersiwn ar lein) i'w gredu mae bellach yn ystyried y cysyniad yn esiampl o rhyw ramantiaeth emosiynol. 

Rwan 'dwi'n cael trafferth i ddilyn  rhesymeg y darn.  Ar un llaw mae'n dadlau nad yw'r dyn cyffredin yn uniaethu gyda thrafodaeth gyfansoddiadol am le Cymru o fewn y Deyrnas Unedig cyn mynd ati i gyflwyno dadl gyfansoddiadol ei hun y dylid cael gwared ar y swydd o Ysgrifennydd Gwladol Tros Gymru ac y dylai Lloegr gael ei senedd ei hun.  'Dydi o ddim yn egluro pam y byddai'r dyn cyffredin yng Nghymru yn uniaethu efo ymgyrch i gael senedd i Loegr.



Mae'n dweud nad ar sail emosiwn, rhamantiaeth nag ideoleg y dylai'r Blaid wneud penderfyniadau, ond ar sail beth mae 'pobl' yn ei feddwl.  Petai pleidiau eraill wedi dilyn y rhesymeg yma yn y gorffennol mi fyddem yn dal i grogi pobl, mae'n debygol na fyddai merched wedi cael pleidlais, mi fyddai refferendwm ar adael Ewrop wedi digwydd ers talwm, byddai Lerpwl yn dal i allforio caethweision i bedwar ban Byd ac mae'n bosibl y byddai carfannau mawr o fewnfudwyr yn colli eu hawl i fudd daliadau 'fory nesaf.

'Dwi ddim yn gwybod os oes rhywun mewn sefyllfa i fy helpu, ond 'dwi'n cael cryn drafferth i ddeall os ydi Dafydd yn cefnogi un o bolisiau creiddiol y Blaid neu beidio.  'Dydw i jyst ddim yn deall beth mae'n ceisio ei ddweud. 

A dyna broblem y Blaid tros gyfnod o amser - nid yn unig mewn perthynas ag annibyniaeth - diffyg eglurder, diffyg gallu i gadw at negeseuon syml ond dealladwy, diffyg cysondeb.  Mae llawer o enghreifftiau o hyn. 

Er enghraifft, yn ol yn Etholiad Cyffredinol 2010, am unwaith mewn etholiad Prydain gyfan roedd gan y Blaid stori oedd yn gweddu i'r tirlun etholiadol ehangach.  Mewn etholiad lle'r oedd yr economi, gwariant cyhoeddus a'r posibilrwydd o senedd grog yn dominyddu, gallai neges y Blaid y byddai'n mynnu bod Fformiwla Barnett yn cael ei gwneud yn fwy teg i Gymru petai mewn sefyllfa i wneud hynny fod wedi taro deuddeg.  Ond 'doedd nifer o lefarwyr y Blaid ar y cyfryngau ddim hyd yn oed yn codi'r pwnc - roeddynt yn canu o'u llyfr emynau eu hunain.  Felly hefyd yn etholiad Cynulliad 2011 - gallai polisi'r Blaid o godi pres i adeiladu is strwythur  trwy fenthyg wedi bod yn un effeithiol mewn amser lle'r oedd toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn fygythiad real - ond 'doedd hanner ein llefarwyr ar y cyfryngau ddim yn son am y peth - yn arbennig at ddiwedd yr ymgyrch.

Ac yn anffodus byddai arweinyddiaeth Dafydd Elis Thomas yn sicrhau mwy - llawer mwy - o'r un dryswch.  I mi dwy brif dasg arweinydd newydd y Blaid fydd sicrhau proses greu polisi mwy effeithiol a thrylwyr, a sicrhau bod negeseuon sylfaenol y Blaid yn gyson ac yn adlewyrchu'r polisiau hynny.  'Dwi'n mawr obeithio bod yr amser pan roedd llefarwyr swyddogol y Blaid yn ymddangos ar y cyfryngau ac yn 'gwneud eu peth eu hunain'  - hyd yn oed pan roedd hynny'n anghyson efo beth roedd llefarwyr eraill yn ei ddweud - bron drosodd.

'Dydi Dafydd methu hyd yn oed bod yn gyson efo'r hyn mae o ei hun wedi ei ddweud yn gynharach, heb son am fod yn gyson a pholisiau'r Blaid.  Ni all chwaith fynegi ei hun yn glir ac yn syml - mae pob dim yn gymhleth, yn astrus yn siwdo academaidd, ac yn gallu cael ei ddehongli mewn sawl ffordd.  Byddai arweinyddiaeth sy'n cyfleu gwybodaeth yn y ffordd yma yn gwneud i'r Blaid edrych yn wirion i'r cyhoedd, a byddai'n esiampl gwirioneddol wael i bawb arall sy'n llefaru ar ein rhan.  Rydym angen arweinyddiaeth o'r math yma i'r un graddau ag yr ydym angen clec ar ein pen torfol efo morthwyl.

8 comments:

Anonymous said...

Mae rhan fwya o bobl Cymru yr un farn a DET.

Dylan said...

Anon - does prin neb yng Nghymru'n dallt barn DET heb son am gytuno ag o.

Mae rwdlan hirfaith DET wrth ateb unrhyw gwestiynau am annibynniaeth yn gwneud i mi fod isio tynnu fy ngwallt allan mewn rhwystredigaeth. Does neb sy'n hyrwyddo'r syniad o Gymru annibynnol o'r farn mai ystyr annibynniaeth yw bod yn fewn-blyg a hollol hunan-gynhaliol, heb gyfathrachu na chyd-weithio gyda gweledydd eraill o gwbl. Y gwrthwyneb sy'n wir. Mae Dafydd yn milwrio'n erbyn dehongliad o'r gair sy'n bodoli yn ei ddychymyg ei hun yn unig.

maen_tramgwydd said...

Dwi wedi gwrando arno fo nifer o weithiau, a bôb tro mae'n rhaid i mi ofyn, 'Beth yn hollol mae o'n olygu?' neu 'Beth yn union ddywedodd o?

Trychineb i'r Blaid os caiff ei ethol.

Anonymous said...

Boi deallus a boi sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i Gymru a'r Gymraeg ond sdim modd ei drystio. Piti, petai yn gallu siarad yn glir ac hyderus o blaid annibyniaeth - sef yr un peth fasai rhywun yn disgwyl i arweinyddiaeth plaid genedlaetholaidd wneud, siawns - faswn i yn bleidleisio drosto.

Galla i ddim ei drystio.

M.

Anonymous said...

DET ar Sharp End newydd ddweud "I have every confidence in the Local health board in north Wales" - dyma'r union agwedd sefydliadol sydd yn gyrru pobl i amau safbwynt y blaid ar ddyfodol ysbytai Bryn Beryl a Blaenau!

Byddai buddigoliaeth i DET yn fêl ar fysedd nytars Llais Gwynedd!

Anonymous said...

Mae ymdriniaeth Dafydd El o Annibyniaeth yn ddim llai na llwfr.

Yn yr hystyngau diweddar ar y teledu mae D El wedi mynegu ei gefnogaeth i Annibyniaeth ar sail geiriad cwestiwn yr Alban - sef cenedl gyn rhanu'r frenhiniaeth ac arian cyffredin Prydeinig.

Felly, os ydyn ni i ddeall D El, mae'r daw'r diffiniad o Annibyniaeth o du Alex Salmond.

Rwtsh!
Mae Alex Salmond wedi diffinio Annibyniaeth yn unol a beth mae ei Blaid yn credu ac anghenion pobl yr Alban. Hynny yw dewis sofran yr Albanwyr.

Dydio ddim yn gysyniad anodd ei ddeall - rhoi'r dewis i'r bobl.

Mae D El yn dechrau ben i weired. Dylai Cymru gael annibyniaeth - fod yn gwbl sofran - ac yna dewis faint o'u sofraniaeth y mae'n nhw am ei roi i sefydliadau eraill, megis Ewrop, CU, neu hyd yn oed gorff wleidyddol ar gyfer gwledydd ynysoedd Prydain. Ond ein dewis ni dylai fod.

Aled GJ said...

Mae'r Arglwydd yn arbenigo ar siarad mewn damhegion ar raglenni fel hyn. Mae o wedi hen feistroli'r rol "patrician holl wybodus" hyn, ac mae'n gallu bod yn effeithiol i ryw bwynt. Ond dwi'n meddwl y bydd yr hunan-bwysigrwydd a'r hollti blew damcaniaethol hyn yn llawer llai effeithiol yn yr hystings arfaethedig. Yn fanno, bydd angen llawer mwy o bendantrwydd, eglurdeb, a gweledigaeth, ac yn hyn o beth bydd gan Leanne ac Elin llawer mwy i'w gynnig i'r aelodau. Dwi'n rhagwled y bydd yr Arg yn dod yn drydydd sal.

Anonymous said...

Fe ddwedodd DET yn blaen ar Sharp End neithiwr nad oes gobaith gan Blaid Cymru guro Llafur i fod yn blaid fwyaf y Cynulliad. Wel nac oes os mai dyna fyddai barn yr arweinydd!

Mae'n amlwg mai uchelgais mwya DET i'r blaid yw cadw'r seddi sydd ganddi, falle ennill un neu ddwy arall ar y mwya, a pharhau hyd dragwyddoldeb i gefnogi'r blaid Lafur mewn llywodraeth.

Fy uchelgais i i'r Blaid yw ei gweld yn ennill 21+ o seddi, a ffurfio Llywodraeth. Pwy fyddai'r arweinydd gorau i allu cyflawni hynny? Leanne Wood.

Iwan Rhys