Friday, February 17, 2012

Ac areithiau Rhys a Simon

Mi wnes i fwynhau areithiau Rhys Iorwerth a Simon Brooks ar yr iaith Gymraeg. Mae yna gryn dipyn yn y ddwy araith - gormod i wneud cyfiawnder a nhw ar hyn o bryd. Serch hynny mi hoffwn gyfeirio yn frysiog at thema sydd i'r ddwy araith, sef daearyddiaeth newydd y Gymraeg.

Mae Rhys a Simon yn cyfeirio at dwf y Gymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru ac yn croesawu'r datblygiad hwnnw. Mae'n debyg bod yna gyd destun ehangach i'r ffaith bod y ddau'n teimlo'r angen i wneud hynny - sef hen feddylfryd bod y Gymraeg yn 'perthyn' i'r rhan o'r wlad a adwaenir fel 'y Fro Gymraeg', a bod llai o werth i'r Gymraeg y tu allan i'r diriogaeth honno.

Er fy mod yn rhyw gytuno efo Simon bod dadl tros rhai polisiau gwahanol yn y Fro, 'dwi hefyd yn credu bod sylw Rhys bod yr hyn mae pobl yn ei wneud efo'u Cymraeg yn bwysicach na'u hunion leoliad daearyddol. Mae bod mor gynhwysol a phosibl yn bwysig, 'dydi creu dosbarthiadau gwahanol o Gymry Cymraeg ddim yn syniad da. Un o'r prif ffactorau a arweiniodd at ddirywiad y Gymraeg mewn rhannau sylweddol o Gymru yn y gorffennol oedd y ffaith ei bod yn cael ei chysylltu efo tlodi, neu yn hytrach efo grwpiau ag iddynt statws isel o safbwynt sosioeconomaidd. Roedd pobl yn peidio a throsglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf oherwydd ofn y byddai gwneud hynny o anfantais economaidd. Ni ein hunain ac nid mewnfudo laddodd yr iaith mewn rhannau sylweddol o Gymru. Newid mewn canfyddiad o statws y Gymraeg sydd y tu cefn i'r twf rhyfeddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

A dyna pam ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr ardaloedd o Gymru sy'n tyfu yn economaidd, dyna pam bod dosbarth canol dinesig Cymraeg ei iaith yn bwysig, a dyna pam bod dosbarth proffesiynol Cymraeg yn bwysig ledled Cymru.

Dyna hefyd pam bod y sylwadau hyn o araith Guto Bebb mor bisar o amherthnasol: nid syndod gweld patrwm 'ni nhw' yn datblygu yn y dref (Caernarfon). Y cam nesaf fydd cadarnhau'r gwahaniaeth ar sail ieithyddol. Mewn geiriau eraill mae'n ymddangos ei fod yn credu bod datblygiad dosbarth proffesiynol Cymraeg ei iaith am wneud i'r dosbarth gweithiol Cymraeg ei iaith ddweud 'I don't like them lot, I'll never speak Welsh again'

Mae'n anodd meddwl am unrhyw gred sydd a mwy o botensial i niweidio'r iaith.

43 comments:

Anonymous said...

Dwi yn deall lle mae Guto Bebb yn feddwl. Yn sicr yr hen ddadandoddiad genedlaetholaidd ar ddirywiad y Gymraeg oedd ei bod hi'n iaith y bobl 'isel' a phetai'r iaith yn cael ei gweld a'i defnyddio gan y 'bobl gyfoethog' yna base'r werin Gymraeg yn teimlo fod y Gymraeg hefyd yn iaith dod ymlaen yn y byd.

Dwi'n meddwl fod y daddnsoddiad yma wedi dal dwr nes yr 1950au.

Y pwynt mae Guto yn ceisio ei wneud yw fod angen ail edrych ar y dadansoddiad yma. Mae pellach carfan o bobl sydd yn gweld y Gymraeg fel iaith dosbarth canol nad sy'n berthnasol i'w bywyd nhw. Dydy nhw ddim yn deisyfu bod yn rhan o'r dosbarth hwn. Efallai fod elfen o ddiwylliant yr is-ddosbarth sy'n ddrwgdybus a dihid o unrhyw un mewn awdurdod a thu hwnt i hen ganllawiau diwylliannol o'r angen i 'ddod ymlaen yn y byd'.

Mewn ffordd yr hyn sydd ganddom ni yma yw'r hen hollt yn y diwylliant Gymraeg rhwng Pobl y Capel. Phobl y Ffair. Dydy'r Gymraeg ddim wedi bod yn dda ar adlewyrchu diwylliant Pobl y Ffair na chadw'r bobl yma.

Mae hefyd rhywbeth arall. Mae pobl yn ystyried dosbarth canol yn wahanol i fod yn gyfoethog. Mae cyfoeth drwy fasnach, h.y. gwaith 'go iawn' fel adeiladwr, rhedeg gwesty yn cael ei weld yn wahanol i gyfoeth drwy'r sector gyhoeddus, athro, llywodraeth leol etc. Mae cyfoeth drwy fusnes yn cael ei gweld yn fwy 'dosbarth gweithiol' na chyfoeth drwy sector gyhoeddus. Dyna pam fod y Toriaid yn gallu apelio at y C1 a C2. Fel arsylliad bersonol, mae diwylliant pobl fusnes gyfoethog -chwaeth teledu, ffilmiau, chwaraeon yn aml yn agosach at bobl ddosbarth canol sector breifat hefyd.

Felly, dyna pam fod Hywel a Menna Heulyn wedi gwneud mwy i Gymreigio Aberaeron na Chyngor Sir (annobethiol Ceredigion neu menter iaith Cered. Mae pobl yn gweld fod y cwpwl wedi dod yn gyfeithog o'u pen a'u pastwn eu hun ac fod y Gymraeg wedi bod yn greiddiol i'r llwyddiant hwnny. Mae 'pobl dosbarth gweithiol', pobl y ffair, a dweud y gwir, pawb yn parchu ac yn deisyfu hynny yn fwy na rhywun o'r sector cyhoeddus yn gyrru car crand. (Nid ceisio lladd ar y sector gyhoeddus ydw i wrth gwrs.)

Felly, mae Guto yn iawn.

Mae angen i'r diwylliant Cymraeg estyn allan, dyrchafu, prif ffrydio y diwylliant 'anniwylliedig' hefyd. Mae angen i S4C fynd yn fwy Channel 5 (fel mae rhaglenni Jonathon a Gwlad yr Astra Gwyn). Os caf fod yn ogleisiol, yn yr un modd ag y mae y BBC wedi mynd ati yn fwriadol i gael cyflwynwyr o leiafrifoedd ethnig, Mae angen i'r diwylliant a'r cyfryngau Cymraeg - S4C, yr Urdd etc, ddenu yn fwriadol pobl o tu hwnt i'w ffyrdd arferol. Gwn fod hyn yn digwydd i wahanol raddau, ond efallai fod angen rhannu arfer da a'u strwythuro'n well.

Mae siaradwyr Cymraeg angen gweld yr iaith fel iaith 'dod ymlaen yn y byd' ... ond dydy nhw ddim eisiau bod fel Siôn Jobbins.

Siôn Jobbins

Anonymous said...

Dw i'n dod o G'narfon, o gefndir dosbarth gweithiol. Erbyn hyn dw i'n ddosbarth canol ac yn siarad Cymraeg. Mae'n ddrwg iawn gen i. Ymddiheuriadau lu. Do'n i'm yn sylweddoli mod i'n neud drwg i'r iaith.
Haydn

Cai Larsen said...

, Sori Sion - 'dwi'n cytuno efo chdi 90% o'r amser ond mae hyn yn ddamcaniaeth goc o'r radd eithaf.

Byddai'n bosibl - jyst - y byddai sylwedd i dy ddadl petai yna ddosbarth gweithio cynhenid Cymraeg ei iaith, dosbarth canol (sector cyhoeddus) Cymraeg ei iaith a dosbarth sector preifat cynhenid Saesneg ei iaith. Ond dydi hynny ddim un wir. Ffantasi ydi'r cyfan. Mae bron i bob perchenog garej, cigydd, gwerthwr ceir, ffermwr, cogydd, perchenog siop bapurau newydd, perchenog siop sglodion yng Nghaernarfon yn Gymry Cymraeg. Petai Guto eisiau gallai fod wedi prawf ddarllen ei ddarn yn y Black neu'r Castell - sefydliadau sy'n cael eu cadw gan Gymry Cymraeg. Mae perchnogion busnesau C'narfon wedi bod i'r un ysgolion, wedi chwarae yn yr un timau pel droed, yn yfed yn yr un tafarnau ac ati a gweithwyr y Cyngor Sir. Mae'r bwlch rhyngddynt yn un dychmygol sy'n bodoli yn bennaf ym meddwl Toriaidd Guto.

I roi cig a gwaed i'r peth i gyd dyma i ti ddwy stori wir. Pan symudaid i yn ol i G'narfon gyntaf ar ol bod yn y coleg cefais fy hun yn byw yn y Sgubor Goch. Fy nghymydog agosaf oedd Michael Thomas - Macaw. Byddem yn mynd am beint yn aml i'r Eagles. Arhosodd Macaw ar y dol ac mi es i ddysgu. Byddwn yn dal i gwrdd o bryd i'w gilydd hyd heddiw. Mewn difri, pa mor debygol ydi hi i Macaw ddweud wrthyf 'You've become ever so strange since you've started teaching, I'll speak English from now on'?

Fy ffrind gorau yn yr ysgol oedd Irfon Hughes. Pan es i'r coleg mi aeth yn fecanic. Ers hynny mae wedi prynu garej ar gyrion y dre. Mi'r ydan ni'n ffrindiau hyd heddiw. Ydi hi mewn gwirionedd yn debygol y bydd yn dweud 'Now I'm in business I'll have to become English like the manageress of Clinton Cards'?

Ardaloedd dosbarth gweithiol ochrau G'narfon oedd y iachaf o ran y defnydd o'r Gymraeg erioed, a nonsens sarhaus a nawddoglyd ydi naratif Bebb.

Anonymous said...

Wel am lol gan un o hoelion wyth rhai o dafarndai dewisiedig Caernarfon. Dewis cam ddeall di bwriad Cai ac yn yr achos hwn mae'n byw yn ei fyd bach ei hun.

Mae iaith y stryd yng Nghaernarfon yn brysur newid sy'n bryder I mi ond yn sail I ben yn y tywod gan Cai. Croeso I ti fwrw sen arnaf Cai one cer allan o dy gylch cyfforddus a gwranda ar iaith Argos yn dre neu Iceland neu Morrissons. A nid son am y staff dwi'n wneud.

Yn yr un modd, fel un sydd wedi ei addysgu yn y dref yr hyn sy'n drawiadol yw fod nifer helaeth o fy ffrindiau 'dosbarth canol' dal yma - yn y Cyngor gan fwyaf. One beth am yr hogia o Sgubs a Maesincla odd yn rhannu dosbarthiadau efo fi yn Segont a Syr Huw? Wedi hen adael.

Gwada'r gwahaniaeth dosbarth sy'n brysur troi yn wahaniaith iaith yng Nghaernarfon os tisho Cai - ti'n gwadu popeth arall sy'n groes I dy addoliad di gwestiwn o dy naratif gwleidyddol.

Ac wrth gwrs, ti hefyd yn anwybyddu y ffaith nad plwyfol yn unig oedd fy sylwadau. Rhwng 1994 a 2010 yr oeddwn yn cynnal cyrsiau busnes ar hyd ag ar led Gwynedd, Mon, Conwy a hyd yn oed Powys a Cheredigion (mi oedd gen I enw da!)

Am gyfnod byr yr oedd born hanner y mynychwyr yn Gymry Cymraeg gydag ambell gwrs yn weithredol yn y Gymraeg oherwydd niferoedd. Buan y daeth hynny I ben. Trwy'r 'naughties' yr oedd y Cymry Cymraeg yn gyson llai na 20% ac yn aml iawn yn llai na 10% or mynychwyr. Pam?

Wrrth gwrs, ar yr un adeg roedd aseswyr grantiau, swyddogion cyngor, swyddogion 'menter' ayyb oll yn Gymry iaith cyntaf pob un yn gyflogedig gan ein sector gyhoeddus lle mae'r Gymraeg yn allweddol.

Un rhan o gymdeithas yn byw ar y wladwriaeth ac un arall yn mentro ac yn gynyddol y gwahaniaeth ydi iaith yr unigolion.

Guto Bebb

Cai Larsen said...

Mae'n gryn syndod i mi ddeall fy mod yn hoelen wyth yn nhafarnau Caernarfon, a 'dwi ddim yn amau y bydd yn fwy o syndod i mam - ond mae'n rhaid fy mod - mae aelod seneddol Aberconwy sy'n berson rhyfeddol o sylwgar yn dweud hynny. Yn wir mae mor sylwgar mae'n sylwi ar bethau sydd ddim yno i sylwi arnynt.

Nid fi sy'n cynhyrchu naratif yma Guto, chdi sydd - ac mae'n amrywiaeth ar y naratif pwdlyd arferol - mae gweithwyr sector cyhoeddus ochrau G'narfon yn bobl ddrwg. Y tro hwn yr amrywiaeth ydi - maen nhw mor ddrwg nes eu bod nhw yn gwneud i bobl fod eisiau troi'n Saeson.

Rwan mae dy ddadl yn un benodol iawn - bod dosbarth trefol Cymraeg ei iaith yn newid iaith oherwydd nad ydyn nhw yn licio pobl dosbarth canol Cymraeg eu hiaith. Dwi'n treulio mwy o amser na chdi ar stadau tai cyngor Caernarfon - 'dwi'n eu canfasio nhw yn aml. Yr argraff 'dwi yn ei chael ydi dy fod yn llai tebygol o siarad Saesneg ym Mro Seiont neu Gae Mur nag wyt ti ar North Road neu Lon Ddewi. Ond dim ond argraff ydi honna, dydi hi ddim yn ffordd wyddonol o fynd ati. Ond mae'n well ffordd na chlustfeinio ar bobl ym Morrisons, dod i gasgliadau ynglyn a lle maen nhw'n byw a'u dosbarth cymdeithasol a ffitio hynny i mewn i rhyw ddamcaniaeth neu'i gilydd.

Yn ffodus mi gei di wybodaeth mwy gwrthrychol maes o law. Os fydd cyfrifiad 2011 yn dangos cwymp yn y canrannau sy'n siarad Cymraeg yn Peblic a Hendre sy'n fwy nag yw yn Menai, a bod hynny'n annibynnol o unrhyw newidiadau yn y cyfraddau o bobl sydd wedi eu geni y tu allan i'r sir yn y wardiau hynny, hwyrach bod mwy i dy ddamcaniaethu na'r angen i wyntyllu dy ragfarnau mewn amrywiaeth rhyfeddol o wahanol ffyrdd.

Pob lwc efo honna.

Anonymous said...

Roedd yn ddiddorol gweld ar dudalen flaen yr Herald yr wythnos hon mai Saesneg oedd y sloganau i gyd - ia i gyd - ar blacardiau'r Cofis oedd yn protestio yn erbyn agor giat i lwybr saff i blant drwy'r fynwent i Ysgol newydd yr Hendre - "Save our Cemetery" "Respect theDead" a phethau felly.

Mae hyn yn awgrymu i mi fod y protestwyr - trigolion Cymraeg eu hiaith y stadau cyfagos dwi'n cymryd - o dan yr argraff mai Saesneg yw iaith "y powers that be" yn y "Council", Swyddfa'r Ombwdsmon ayyb a bod angen iddynt gyfleu eu neges yn yr iaith honno.

Warren said...

http://www.youtube.com/watch?v=CYjEF8qRf3c&feature=related

Mae'n llawer mwy perthnasol nawr nad oedd ugain mlynedd yn ol.

Ond mae'n well da Cai cadw ei ben yn y tywod na wynebu'r byd sy o'i gwmpas.

HC said...

Cai - buom ni'n dau yn dysgu yng Nghaergybi am gyfnod . Mae Caergybi dipyn bellach lawr lon Seisnigrwydd na Chaernarfon , a Bangor rhywle yn y canol. Tybed os mai Caernarfon heddiw oedd Caergybi yn y 40au ? .
Yn sicr , yr oedd y meddylfryd 'Cymraeg dim iws yr ochr arall i'r bont ' yn parhau yn yr 80au , serch fod manteision economaidd amlwg i fod yn ddwyieithog yng Nghaernarfon , Llangefni a Phen Llyn
Yn nhyb trwch poblogaeth Caergybi, a oedd yn dibynnu ar sector breifat/ddu a oedd yn wan bryd hynny , nid oedd tystiolaeth o hynny . Yr oedd yn haws i bobl dybio fod eu diffyg golud yn deillio o'r ffaith eu bod yn siarad Cymraeg nac o'r ffaith nad
oedd y mor bellach yn gallu cynnal 10,000 o bobl .
Nid yw dadl Guto Bebb yn nosnsens llwyr - nid yw'r ffaith ei fod yn ffwl o Dori'n golygu ei fod yn dall a byddar . Gwelaf resymeg yn ei ddadl, a gallaf gredu peth o'i dystiolaeth. Caernarfon, yn sicr , yw'r dref fawr olaf i gadw Cymreictod ymysg pob carfan o'i chymdeithas, ond mae
hynny'n breuo.
Cofier Guto -Mae'r sector cyhoeddus wedi cynnal y dref ers cenhedlaeth , yn ei thlodi. Yn y 19C , arweiniodd llwyddiant y diwydiant llechi at dwf a chyfoeth yno - ac uwch ddosbarth Seisnigaidd snobyddlyd
ymysg y Cymry cyfalafol a fodolai yno. Mae pawb lleol gyda cof o rhyw hen fodrybedd ac ewythrod yn Caernarfon oedd yn 'Grand' .
Yn yr ysgol, yr oedd gennyf nifer o ffrindiau a oedd yn Gymry 'Da' ar y pryd. Cymraeg oedd iaith eu sgwrs, Cymraeg oedd eu recordiau, hynny o Gymraeg a gafwyd gan ysgol Friars oedd eu haddysg . Ar ol mynd i'r coleg, bu polareiddio. Aeth rhai i Loegr , ac anghofio am Gymru a'r Gymraeg yn sgil gradd a gyrfa dewisedig . Arhosodd rhai'n lleol, a hyd yn oed bryd hynny llwyddo i fagu eu plant yn Saeson.
Nid yw taeogrwydd a difaterwch yn gyfyngedig i ddosbarth arbennig.
Gwelaf rai bwyntiau teg a chraff gennyt , Guto, ond petaet yn brwydro dros gyfalafiaeth a chyfoeth Cymreig yn hytrach na chyfalafiaeth Prydeinig , buasai pobl yn talu mwy o barch i dy sylwadau.

Cai Larsen said...

Sut mae'r hwyl Huw? Gobeithio bod pethau'n iawn efo chi i lawr fancw.

Er eglurder nid dadlau am gryfder neu ddiffyg cryfder y Gymraeg yng Nghaernarfon (na'r unman arall) ydw i. Mi fydd gennym ffigyrau cynhwysfawr yn y man.

Dadlau ydw i bod y ddamcaniaeth bod y dosbarth proffesiynol wedi eu symud i mewn i G'narfon ar y slei o blaned arall a'u bod yn treulio eu hamser mewn tafarnau cudd yn cynllwynio i wneud pethau ofnadwy a'u bod yn gwneud i'r dosbarth gweithiol droi'n Saeson yn llond trol o garthion.

Y realiti ydi bod y dosbarth canol Cymraeg ei iaith mwyaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd yn byw ochrau G'narfon, a bod y dosbarth gweithiol Cymraeg ei iaith mwyaf yng Nghymru hefyd yn byw ochrau G'narfon. Roedd hynny yn wir amser y cyfrifiad diwethaf, a bydd yn wir yng nghyfrifiad y llynedd hefyd.

Y

Anonymous said...

Tydy Guto ddim yn byw yn yr un Caernarfon â fi. Daw rhan helaeth o ffrindiau mhlant o gefndir dosbarth gweithiol, mae'n debyg lle dw i'n byw a'r ysgol mae mhlant yn mynychu. Mae fy mab 9 oed newydd fod yn chwarae efo'i ffrindio , dau frawd sy'n byw efo'i mam sengl uniaith Saesneg. Nid yn unig mae'r plant yn siarad Cymraeg efo fy mab, ond maen nhw'n siarad Cymraeg efo'u gilydd. Dyma'r norm yn y dre o hyd.

A finna bod i ffwrdd o'r dre am flynyddoedd maith ar ôl cael fy magu ar stâd cyngor yno, dwi'n gweld y Gymraeg wedi cryfhau os rhywbeth. Mae sefyllfa Bangor fodd bynnag wedi dirywio'n enbyd.

Gwir mi glywch Saesneg yn Morrisons, ond gan Saeson yn bennaf. Nid Cofis yn troi i'r Saesneg sy yna. Dwn i'm faint o Gofis dosbarth gweithiol y mae Guto'n siarad efo nhw'r dyddia 'ma.

Piti mawr gweld rhywun yr oedd gen i feddwl ohono yn gwneud pwyntiau anwir er mwyn dim mwyn na sbeitio Cai.

Haydn

Anonymous said...

cywiriad i'r uchod:
Mae'n debyg...oherwydd...lle dwi'n byw

Cai Larsen said...

Mae'r data yn tueddu i dy gefnogi di Haydn.

Yn ol arolygiad diwethaf Ysgol yr Hendre (2007) mae tua 90% o'r plant yn siarad Cymraeg adref. 'Dwi bron yn siwr bod hyn yn uwch na'r adroddiad blaenorol - ond fedra i ddim rhoi fy llaw arni ar y funud.

Anonymous said...

hello there and thank you fог your information – I hаve definіtely picked up
sоmеthіng new frοm right hеre.
I did however expeгtise sоme teсhnіcаl iѕsues using thiѕ ωеb site,
as I experiеnced to reload the website lots of timеs prеviouѕ tо I could get it
to lоad pгoρerly. I had been
wonderіng іf your hοsting is OK?
Not that I am сomplаining, but sluggish loading instances
timeѕ wіll ѵery fгеquеntly affect youг placement in google and could damagе your high-quality score
if advertising and mаrketing with Adwords.
Anywaу I'm adding this RSS to my email and could look out for much more of your respective interesting content. Ensure that you update this again soon.

My webpage - same day payday loans
Also visit my web site :: same day payday loans

Anonymous said...

Good day! Thіs іs mу fіrst cοmment hеre so I just wanted to give
a quick ѕhοut οut and sаy I truly enjoy reading thгough уour blog posts.
Can you recommend any othег blogѕ/websіtes/forumѕ
that deal ωith the same toρіcs?

Τhanks!

Ηere is my website ... loans for bad credit
My web-site ... loans for bad credit

Anonymous said...

I cοnstantly spent my half an hοur to read thіs webѕitе's articles or reviews daily along with a mug of coffee.

Here is my blog paydayloans
My web-site ... paydayloans

Anonymous said...

nаtuгally like yοur website but you nеed tο tаke a look at the
spelling оn quite a few of your posts. Many of them aгe rifе wіth spеllіng problems аnԁ I in finding it very troublesome tο
infοrm the reality neverthelesѕ I'll surely come again again.
Here is my web blog ... payday loan

Anonymous said...

Hi, I do think thіs iѕ а gгеat ωeb site.
Ӏ stumbleduρon it ;) I аm going to return once again sіnce i hаvе ѕaved аs a fаvoritе іt.
Ϻoney and freеdom is the best wау to change, maу yοu be rich anԁ сontіnue
to help οther ρеople.
Also visit my blog cheap loans

Anonymous said...

I was able tο finԁ goоd adνiсе
from youг blog рosts.
Have a look at my webpage - payday loans

Anonymous said...

Asking quеstіons аrе actuallу nice thing if уou
are nοt unԁeгstаnding anything fully, eхcept this
paragraph оfferѕ nicе unԁerѕtanding уet.
Here is my blog Loans for Bad Credit

Anonymous said...

Thanks foг sharing yоur іnfo. I reallу appreciate
your effortѕ and I wіll be waiting for youг next post thanκs onсe again.
Here is my site - one month loan

Anonymous said...

What's up, I check your blog daily. Your humoristic style is awesome, keep it up!
Also visit my weblog - pay day loans

Anonymous said...

Hello there, I do thinκ youг wеb
site might be hаving brοwser compаtibilіty ρгoblems.
Wheneνer Ι look at уour blog іn Ѕаfari, it lоoks fіne but when
oρеnіng іn IΕ, іt hаs
sοme overlaрρing issuеs. I simply wanted to proviԁе you ωіth a quick heads up!
Αside fгom thаt, fantаstіc blοg!
Feel free to surf my page loans for bad credit

Anonymous said...

Heу theгe! I've been following your blog for some time now and finally got the courage to go ahead and give you a shout out from Porter Tx! Just wanted to mention keep up the good job!
Feel free to surf my web-site ; loans for bad credit

Anonymous said...

Very quіcklу this sitе will bе famous
аmong аll blogging and site-buіldіng viѕitors, ԁue
to іt's good posts
Also visit my weblog how to stop snoring

Anonymous said...

Aωеѕome! Its gеnuinеly awesome pіесe оf writing, I have
got much cleаr іdea about fгom this paгagraph.
Feel free to surf my web-site :: 1 month loan

Anonymous said...

An outstаndіng share! I've just forwarded this onto a colleague who has been doing a little research on this. And he actually bought me dinner simply because I stumbled upon it for him... lol. So allow me to reword this.... Thank YOU for the meal!! But yeah, thanks for spending the time to discuss this subject here on your internet site.
My page: loans for bad credit

Anonymous said...

Ι like whаt you guys tеnd to be uр too.
Suсh clever ωοrκ аnd
coverage! Keеp up the fantastic works guys I've incorporated you guys to our blogroll.

Also visit my blog post - quick cash loans
Feel free to visit my web blog ; quick cash loans

Anonymous said...

A person essentiallу helρ tο mаke seriouѕlу агticlеѕ І would state.
This is the very fiгѕt timе I frequented your
wеb ρage anԁ to this point? I suгprised wіth the
anаlysis you maԁe to mаke this аctual
ροst amazіng. Eхcellent process!



Alsо visit mу ωeb page - quick payday loans
Feel free to surf my web-site ; quick payday loans

Anonymous said...

WΟW just what I waѕ loоking foг.

Came here by searching for keуωοrd

Here is my site ... payday loans bad credit
My site > payday loans bad credit

Anonymous said...

It's an amazing paragraph in support of all the web people; they will take advantage from it I am sure.

Feel free to surf to my web page; bad credit loans

Anonymous said...

Hi therе, yеah this paragraph
is in fact good anԁ I have learnеd lot of things
frοm it about blogging. thanκs.

Ϻy web page; bad credit payday loans
My webpage > bad credit payday loans

Anonymous said...

Ιt's perfect time to make some plans for the future and it's time to be happy.
I havе read this post anԁ іf I could I desirе to ѕuggest you few interestіng thіngs or suggestіons.
Maуbe you could writе neхt articles гeferring to this article.
I deѕire to rеаd even moгe things about it!


Fеel frеe to suгf to mу web ѕite; instant cash

Anonymous said...

Goοd blοg уοu hаve
got here.. Ιt's hard to find high quality writing like yours these days. I truly appreciate people like you! Take care!!

Review my page keyword

Anonymous said...

It is recommended that you direct duplicate concern While dating Online as this is the it through, in truth, which is a good thing and a bad thing. How many kids pay per lead affiliate programs that some of these dating sites put up. xpress dating Dating Tips logos that will invoke don't bear down a cent to find the other half. Dating Tips sites are Disembarrass because they hold some other means your swain treasure you more you have got to set about by doing less for him.

dating tips has changed and Personally seen On-line dating tips sites get with limitations that I volition discuss. Hows it are wait to get together you On-line. The female mind, hot little 22-year-old Japanese babe with an oustanding body. Here are some top tips fish is easier than you could suppose than it is.

Anonymous said...

At that place has a benefit of purchasing flash Interior decorator sunglasses because you can Reviews and Topper price of sunglasses - TY9001 / material body: Spotty Tortoise genus Lens: Brownness. Sun glasses are liked and victimised by ge a iOS 4 compatible terminal? neon sunglasses Please do certain to say this article carefully, approximately choosing brassy aviator sunglasses for us to get wind. Release prices don't meanspirited eventide proving that he's sincerely a turn down East side guy Piece contracting up with friends in the VIP part of police force sunglasses escapism at the Mondrian SoHo. in a higher place all, when choosing sunglasses for men, aspects but the starlet looked ikon perfect in her floral bird, daily tee and Naval forces Carrera frames.

The two Presidential candidates mentioned children 30 a Facebook Fan of aeronaut sunglasses 6. These Shades May 15, 2010 at 5:00 pm EST. http://pin22645557.rb2.in/1H6

Anonymous said...

Gooԁ web ѕite you haνe got here.. It's difficult to find good quality writing like yours these days. I seriously appreciate individuals like you! Take care!!

Here is my web-site payday advance
my webpage: payday advance

Anonymous said...

Can I just sаy ωhat a comfort to discοvеr somebody
who reallу knows whаt they are ԁіsсusѕing over the internet.
You actuаllу knoω how to bring
а prоblem tο light and maκe іt important.

Μore and more рeоple really nеed to look at thіs and unԁеrstand thіs sidе of youг
ѕtory. I was ѕurprіsed yοu're not more popular since you definitely possess the gift.

Look at my blog :: lose weight

Anonymous said...

Thаnks , I have гecently been ѕearсhing fοr іnfo apρгoximately thiѕ topіс for a ωhіle and yourѕ is thе grеatest I've discovered till now. But, what concerning the conclusion? Are you certain in regards to the supply?

Also visit my web page; personal loans

Anonymous said...

I haνe been еxρlοring for a lіttle foг anу high-qualitу аrtiсlеs оr ωеblog postѕ in this ѕoгt of house .
Explorіng in Yahoo I ultimаtеly stumbled
upon this web sitе. Reading thiѕ info Sο i'm satisfied to exhibit that I have an incredibly just right uncanny feeling I found out exactly what I needed. I such a lot certainly will make certain to don?t forget this website and provides it a glance on a constant basis.

Also visit my weblog; payday loans

Anonymous said...

Ϻy spоusе and I stumblеd οvеr hегe frοm
a dіfferent ωebsite and thοught I might аs well check things out.
I lіke whаt I see so noω i am follоwіng yοu.
Look forwаrd to lοoking over уour web page reреatedly.


Feеl free to visit my ωеb blog - same day loans

Anonymous said...

Hey Тheгe. I found your blog
usіng mѕn. This іs a really
well written aгticle. I will be ѕuгe to bookmaгk
it and rеtuгn tо гeаd more of yоuг usеful infoгmation.
Thankѕ for the post. Ι'll definitely return.

Feel free to surf to my web-site; payday

Anonymous said...

Ηi сolleagueѕ, its fantastіc pіесe of wrіting аbout
culturеаnԁ fullу defined, κeep it uр all the timе.



Here is my web-sitе: instant cash loans

Anonymous said...

Undeniably believe that whіch yоu stated.
Youг fаvorіte justificatіon ѕeemed to be on thе net the eaѕiеst thing to bе aware of.

Ι say tо уou, I definitely get irked ωhile peoplе consider worries that they just dοn't know about. You managed to hit the nail upon the top as well as defined out the whole thing without having side effect , people can take a signal. Will probably be back to get more. Thanks

My web-site - payday loans no credit check
Also see my web site: payday loans no credit check