Monday, January 09, 2012

Ydi manylion y ffiniau newydd ar fin cael eu rhyddhau?

Yn ol y wefan betio gwleidyddol politicalbetting.com mi fydd y newidiadau arfaethedig i'r ffiniau yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf.  Er nad ydi'r wefan yn ddi eithriad yn gywir mewn materion fel hyn, mae'n gywir yn llawer amlach na mae'n anghywir.

Bydd unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am wleidyddiaeth Cymru yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd y nifer o seddi Cymraeg yn cael eu torri'n fwy llym o lawer nag yn yr unman arall yn y DU.  Yn wir mae'n debyg mai 30 aelod yn unig fydd gennym o gymharu a'r 40 presenol, ac y bydd nifer o'n aelodau mwyaf adnabyddus yn wynebu brwydrau chwyrn yn erbyn aelodau eraill o'u plaid am enwebiaethau i seddau cymharol ddiogel.

'Dwi'n siwr y bydd darllenwyr Blogmenai yn poeni eu hunain yn sal ynglyn a'r brwydrau posibl rhwng Aelodau Seneddol megis Simon Hart a Stephen Crabb, Huw Irranca Davies a Chris Bryant, Paul Murphy a Nick Smith, Guto Bebb a David Jones, Jessica Morden a Paul Flynn. 

8 comments:

Anonymous said...

Mae'n debyg i BlogMenai ystyried y frwydr posibl rhwng Guto Bebb a David Jones mor boenus o ingol, ei fod wedi ei rhestri ddwywaith!

A beth am yr ymgiprys mawr rhwng Elfyn Llwyd a Hywel Williams am sedd De Gwynedd?

Cai Larsen said...

O ia, ti'n iawn - byddai'n well i mi unioni'r cam.

Fydd yna ddim sedd De Gwynedd fel y cyfryw wrth gwrs - 'does yna ddim llawer o bobl yn byw yno.

Ond ti'n gwbl gywir i awgrymu y bydd yr hollt yng Ngwynedd yn arbennig o ddiddorol. Yr hyn allwn fod yn siwr ohono ydi y bydd Bangor + naill ai Dyffryn Ogwen neu ardal Caernarfon yn mynd at Ynys Mon.

Dyddiau difyr!

Un o Eryri said...
This comment has been removed by the author.
Un o Eryri said...

Cawn edrych ymlaen i adael y sefydliad erchyll yma rhyw 10 A.S. ar y tro pob rhyw 7/8 mlynedd hyd nes bydd neb yn gorfod mynd yno o Gymru.Un peth rhaid i “Anonymous” gofio wrth gwrs, yw nad uchelgais gwleidyddol yw mynd i San Steffan gan Aelodau Plaid Cymru, ond yn hytrach dioddef gwasanaethu yno dros y tymor byr, er lles tymor hir ein gwlad. Gwahanol iawn yw hi wrth gwrs yn achos y pleidiau Unoliaethol, eu huchelgais mewn bywyd yw bod yn rhan o'r sefydliad yma, a dwi yn edrych ymlaen i weld y brwydrau ymhlith yr unoliaethwyr, gyda y prif frwydr efallai rhwng Guto Bebb a David Jones, a phwy a wŷr, os mai David Jones bydd enillydd y frwydr, efallai wnaiff y collwr bwdu ac ymuno a rhyw blaid arall yn fuan wedyn.

EmlynUwchCych said...

Mae'r argymhellion wedi'u rhyddhau i'r ASau o dan embargo hanner nos.

Does bosib y byddai un ohonynt yn fodlon "awgrymu" cynnwys yr adroddiad ymlaen llaw?

Anonymous said...

Elfyn Llwyd yn dioddef fel merthyr yn San Steffan ?
Creadur bach iddo fo !!

Anonymous said...

http://everyoneweb.com/spymobile1980a57/#spy_call_nokia_5233_mobile9 phone spy software for nokia [url=http://everyoneweb.com/spymobile1982a67/#spy_museum_discount_2012]spy sms software 1.5 review[/url] free spy software for android phones hd watch dvr spy camera text spy software free http://www.world66.com/member/brostafla1985_x9_g#spy_vs_spy_movie_wikipedia spy cell phones free online [url=http://everyoneweb.com/spymobile1973a131/#call_spy_for_iphone]text spy app free iphone[/url] best free spy software for android cell phone spy free app free mobile spy blackberry http://everyoneweb.be/spymobile1970a72/#spy_software_remote_installation_cell_phones boost mobile phone store locator [url=http://everyoneweb.be/spymobile1977a224/#mitsubishi_spyder_used_cars]cars 2 lego spy jet[/url] install mobile spy android phone monitor cell phone calls and text messages watch himym season 8 episode 4 free
http://surveys.questionpro.com/a/TakeSurvey?id=3400162#spy_kids_3_movie_trailer [url=http://everyoneweb.be/spymobile1977a213/#cell_spy_arsenal]free remote mobile phone spy software[/url]
#mobile_caller_location_finder_free_software_download

Anonymous said...

For further specifics of 3 month payday loans, feel free in visiting to us quick quick loans you is certain to get the most effective loan
if you have a good credit score, but when not you can
still get your loan.