Thursday, January 19, 2012

Syrpreis, syrpreis _ _ _

_ _ _ mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd wedi penderfynu peidio a chyhoeddi'r bwlch rhwng gwariant ar addysg yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r blog yma wedi dangos yn y gorffennol bod y bwlch enwog wedi datblygu tros gyfnod o bedair blynedd- 2003 - 2007 - y cyfnod trychinebus hwnnw hanes Cymru pan roedd Llafur mewn grym ar ei ben ei hun. Roedd y cyfnod wedi ei nodweddu gan raglenni cau ysbytai, cyfyngu ar wariant ar addysg, a diffyg crebwyll cyffredinol.

A barnu o dystiolaeth y misoedd diwethaf a newyddion heddiw, gallwn ddisgwyl yr un math o beth y tro hwn hefyd.

4 comments:

Anonymous said...

Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gallu dod o hyd i fwy o arian? Nid oed pot di waelod i gael. Ac unpeth arall....y llynedd roedd BBC Cymru allan yn y Ffindir yn edrych ar y system addysg yno. Nid oeddynt hwy yn gwario cymaint a ninnau ar addysg ac roeddynt yn cael canlyniadau gyda'r gorau yn y byd. Nid wyf i'n cefnogi Llafur.....ond nid wyf ychwaith yn cefnogi taflu arian at bob problem a gwneud addewidion afreal.

Plaid Gwersyllt said...

Mae ysgolion Lloegr yn cael mwy o arian gen ei Hawdurdod Lleol i brynu gwasanaethau i mewn. Yng Nghymru mae Awdurdodau Lleol yn cadw fwy o'r arian a darparu y gwasanaeth ei hunain. Dydy ni ddim yn cymharu tebyg ai debyg. Dydy o ddim mymryn o bwys os nad ydy y Llywodraeth yn cyhoeddi y wybodaeth fe fydda nhw yn ei gasglu o ac felly fydda nhw yn agored i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Anonymous said...

Anghywir Plaid Gwersyllt.
Roedd ffigwr llynedd yn dangos y gwahaniaeth yn y cyfanswm oedd yn cael ei wario y pen gan yr ysgol ar awdurdod lleol, nid arian oedd yn mynd i ysgol yn unig.

£600 cofiwch, ysgol gyda 100 o blant = £60,000 yn llai

Anonymous said...

Pam cymharu gyda Lloegr o hyd, pam bod pawb yn meddwl bod llechio arian i ffwrdd yn datrys problemau?

Yn sicr, dwi'n meddwl bod llawer gormod o arian yn cael ei wario ar iechyd yn Nghymru. A fysa fo'n lles i'r GIC cael mwy o toriadau i gael gwared a lot o staff sydd yn fy marn i yn gwneud rol ni ddylai bydoli (a mae hyn yn dod o rywun sydd yn gweithio yn y system!!). Llawer gormod o reiolwyr, a dim digon o synwyr cyffredin. A oes ffigyrau allan yn dangos faint o % arian y GIC syn mynd ar staff sy'n cael ei labelu yn "non medical? / management and admin?"