Friday, January 27, 2012

Aelodaeth y Blaid wedi cynyddu'n sylweddol


Mae wedi bod yn amlwg ers wythnosau bod yr etholiad am yr arweinyddiaeth wedi esgor ar gynnydd sylweddol mewn diddordeb yn y Blaid ac mae'n naturiol felly bod mwy o bobl o lawer wedi gwneud cais i ymaelodi. Mae yna le i gredu hefyd bod llawer o'r aelodau newydd yn bobl nad ydynt wedi bod yn aelodau yn y gorffennol, ac yn aml maent yn bobl cymharol ifanc.

Fedra i ddim cofio unrhyw etholiad o'r blaen yn creu y fath ddiddordeb, ac mae yna reswm am hynny. Y tro hwn mae yna wahaniaeth go iawn rhwng rhai o'r ymgeiswyr - mae cyfle i adael y gorffennol ar ol. 'Dydi pobl heb fod yn ymuno efo'r Blaid yn eu canoedd er mwyn amddiffyn y status quo, a'r argraff 'dwi yn ei chael o siarad efo pobl sydd wedi bod yn aelodau ers blynyddoedd ydi bod y rhan fwyaf o'r rheiny eisiau torri tir newydd hefyd.

5 comments:

Unknown said...

Amserau cyffroes, ag angen arwinydd Gref ar y blaid.

Anonymous said...

Er dwi di pleidleisio dros Plaid Cymru yn etholiadau y gorffenol. Dwi newydd ymaelodi ddoe, Onin sicr y byswn i yn pleidleisio am Leanne, ond yr un problem bach ydy - ydy hi yn rhy wan dan bwysau fel FMQ's / BBC Question Time?

Hwn ydy'r UN peth bach sy'n fy mhoeni i!.

Simon Thomas - charismatic, ond lot o pethau cas yn cael ei dweud amdano.
Elin Jones - gwan OFNADWY ar Question Time, eithaf embarassing.
Daf El - or hen oes er fydd on ddiddorol gweld faint o bleidleisiau geith o.

Unknown said...

Mae Leanne wedi gwneud yn dda ar QT ag ati yn y gorfennol, ac mae hi yn siaradwr gref a diffuant.

Mae simon dal yn dioddef am golli Ceredigion, pan roedd e yno i'w enill, ac nid yw wedi calel digon o amser yn y senedd i ad-enill ei dir.

Byddai Elin yn union debyg i IWJ - dim siap.

Fe fyddai DET yn difa'r blaid. Ei unig ddidordeb yw mewn gogoniant ei hunan.

Felly - Leanne amdani. Efallai y bydd hi yn ein siomi, ond 'rwy'n amau hyny - mae ganddi'r doniau, y profiad, a'r poffeil iawn i fynd a Phlaid a CHymru ymlaen tuag anibyniaeth.

Fe fydd budigoliaeth unrhyw un o'r lleil yn drychineb.

Dylan said...

Fe ail-ymaelodais i fwy neu lai yr union eiliad ddaeth y dewis i wneud hynny ar-lein. Llawer iawn haws gwneud fel hynny. Me'n ddigon posibl bod llawer o rai eraill wedi gwneud yr un peth.

Wyt ti'n bwriadu datgan yn gyhoeddus yr ymgeisydd rwyt ti'n ei ffafrio, Cai?

Dyma awgrym o'm marn innau: Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne Leanne

Cai Larsen said...

Ydw Dylan - ond nid tan ar ol yr hystings.

Gyda llaw ti'n gwybod bod cyfarfod blynyddol cangen C'narfon nos Lun?