Thursday, August 27, 2009

Guto, David ac Oscar

'Dwi'n rhyw ddeall o flog Ceidwadwyr Aberconwy nad yw pawb o griw'r cwch Geidwadol yn rhwyfo i'r un cyfeiriad yn yr etholaeth.

Waeth i mi heb a honni fy mod yn arbenigwr ar yr etholaeth arbennig yma. Er ei bod drws nesaf i'r un 'dwi'n byw ynddi mae yna nifer o etholaethau eraill 'dwi'n eu hadnabod yn well o lawer. Serch hynny hoffwn wneud sylw neu ddau ar y ddadl rhwng Oscar - Ceidwadwr ac awdur un o flogiau mwyaf diflas a phlwyfol Cymru a Guto Bebb - ymgeisydd y Toriaid yn yr etholaeth.

I ddechrau mae Oscar yn cwyno bod ei sylwadau ar flog Ceidwadwyr Aberconwy yn cael eu cymedroli - hynny yw nad ydynt yn cael eu cyhoeddi. 'Dwi wedi cael yr un broblem pan 'dwi wedi ceisio gwneud sylwadau (digon ffeind a chymharol anwleidyddol). 'Dwi ddim yn meddwl bod fy sylwadau fi wedi cael eu cymedroli - 'dwi'n weddol siwr bod nam technegol ar y blog ac nad yw'n bosibl gadael sylwadau o bob peiriant yno. Mae'r diffyg sylwadau cefnogol neu feirniadol, yn awgrymu fy mod yn gywir.





Mae Oscar yn cymharu Guto'n anffarfiol efo David Jones, aelod seneddol etholaeth gyfagos Gorllewin Clwyd ac awdur blog sydd bron mor ddiflas (ond ddim mor blwyfol) ag un Oscar ei hun. Mae'n ymddangos bod y naill yn ganolbwynt gweithgaredd brwdfrydig a hynod effeithiol tra bod y llall yn treulio'i oriau'n hamddena mewn hammock yng ngardd gefn ei annedd sylweddol sydd wedi ei leoli yn rhywle anymunol, gorllewinol a Chymreig ynghanol y defaid, y derwyddon, y niwl, y gwynt a'r eithafwyr.

'Rwan, dydw i'n amlwg ddim yn un o gefnogwyr mawr Guto - ond efallai y dyliwn dynnu sylw at ganlyniadau'r etholiadau cyffredinol diwethaf. Roedd Guto'n sefyll yn hen sedd Conwy tra bod David erbyn hynny wedi dianc o'r fan honno i sedd mwy Ceidwadol Gorllewin Clwyd. Bu bron iddo a chyflawni'r wyrth o fethu a churo Gareth Thomas. Roedd yna ogwydd o fwy na 4% tuag at Guto tra bod y gogwydd tuag at David yn llai na hanner hynny. Yn wir perfformiad Guto oedd yr un gorau i'r Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru, ac un o'r rhai gorau yng Nghymru gyfan ar ddiwrnod digon symol i'r Toriaid.



Cwyn fawr arall Oscar ydi bod Guto'n ymddiddori gormod mewn materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad ac mewn etholaethau cyfagos (hy rhai gorllewinol llawn defaid, derwyddon, niwl, nashis ac ati). 'Rwan mae'r gwyn gyntaf yn wirioneddol idiotaidd gan y byddai osgoi trafod materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad yn golygu osgoi trafod tua 80% o'r hyn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar etholwyr Aberconwy. Mae'n rhaid cyfaddef bod diddordeb mawr Guto yn Arfon ychydig yn od ar un olwg, ond rhesymau - ahem - hanesyddol sydd wrth gefn hynny. Mae hefyd yn digwydd byw yn yr etholaeth honno.

Felly beth yn union ydi problem Oscar? Gellir cael goleuni ynglyn a hyn (os fawr ddim arall) ym mlog David Jones - blog mae Oscar yn meddwl y Byd ohono. 'Dwi'n rhestru teitlau diweddar blogiadau David:

Prescott Clears It Up.
Dump Russell Brand & Save £1,000,000.
Healthandsafety Corner - rhywbeth am flodau yn Llundain.
Time to reassess CCTV - rhywbeth am gamerau yn Llundain.
PMS Headache - rhy ddiflas i mi ddarllen y peth i gyd ond rhywbeth i'w wneud efo llefarydd Brown ar rhywbeth neu'i gilydd.
Redwood is Right; Recall Parliament.
More Power for Councils.
Lewis Letter Doesn't Stack Up - roeddwn yn meddwl am eiliad mai cyfeirio at lythyrwr mwyaf toreithiog Cymru (ac efallai'r Byd), Robin Lewis oedd David yma, ond rhywun o'r enw Ivan Lewis sy'n rhywbeth neu'i gilydd yn y Swyddfa Dramor sydd ganddo mewn golwg.
Quintissentially Mandelson.
Shame is Too Much To Expect From Mr MacAskill.
Miliband and Gadaffi Can't Both Be Telling The Truth.
Miliband's Silence Dishonours Britain.

Mae hanner y lincs sydd ym mlog David yn cyfeirio rhywun at ddeunydd darllen dyddiol y dyn - y Telegraph, neu'r Sunday Times.

'Rwan mi wnes i awgrymu ar gychwyn y darn yma mai blog Oscar ydi'r mwyaf cachlyd yng Nghymru - ond o nofio trwy'r llyn o ddiflasdod yma, 'dwi wedi newid fy meddwl. Yr unig flog gwaeth nag un Oscar ydi blog ei arwr. 'Does yna ddim byd diddorol, dim byd lleol, dim byd gwreiddiol, dim byd treiddgar, dim mymryn o wybodaeth na ellid ei gael yn rhywle arall ar gyfyl y domen dail yma o flog. Y cwbl sy'n cael ei gyflwyno ger ein bron ydi ailadroddiad o ddehongliad Adain Dde bland a chwbl ragweladwy'r papurau mae rhyw greadur druan yn gorfod eu stwffio trwy dwll llythyrau David pob bore. Mae cadw'r blog yn wastraff amser llwyr.

Pam bod Oscar wedi dotio cymaint ar flog David felly - onid yw'n gallu fforddio i brynu'r Telegraph a'r Sunday Times trosto'i hun?

Efallai, ond mae'n debyg gen i mai Seisnigrwydd world view y blog sy'n apelio at Oscar druan. Mae ei flog o ei hun yn Seisnig ond yn lleol o ran ei ddiddordebau, tra bod un David yn Seisnig ond yn 'genedlaethol' o ran ei ddiddordebau yntau. Mae'r ddau yn mynd efo'u gilydd fel hufen a jam. Mae blog Aberconwy yn cynnwys elfennau lleol a 'chenedlaethol'. Mae rhywfaint o'r 'lleol' yn ymwneud ag ardal ehangach na gogledd etholaeth Aberconwy, ac mae'r elfennau 'cenedlaethol' yn genedlaethol yn ystyr Cymreig yn hytrach na Phrydeinig y gair hwnnw.

Problem Guto ydi ei fod yn rhy Gymreig (ac efallai'n rhy wrthnysig Gymreig) i gydadran sylweddol o aelodau a chefnogwyr plaid sydd yn ei hanfod yn Brydeinllyd o ran gwleidyddiaeth ac yn Seisnig o ran diwylliant. Mi fyddai un neu ddau yn dweud bod hon yn groes mae wedi ei chreu iddo'i hun - ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn rhyw gydymdeimlo efo fo am unwaith.

19 comments:

Cigfran said...

Diddorol,
Pwy sydd dros UKIP ?
mi fuasai ymgeisydd cryf ganddynt yn gallu achosi dipyn o broblem i Guto,pwy a wyr,digon o le i Phil Edwards wasgu heibio hyd yn oed ?

Digon o waith,serch hynny ond mi gredaf fod pleidlais y toris yn un feddal iawn ymysg sawl math o etholwyr,a pan fydd y blaid Lafur yn taflu llawer o faw adeg etholiad fe gaiff Guto ei wasgu o ddwy ochor.

Be di'r siawns bydd Guto'n gwneud dipyn o "Nashbashing"yn y misoedd i ddod.?

Cai Larsen said...

Hyd y gwn i dydi UKIP heb ddewis ymgeisydd.

Guto Bebb said...

Hi Cai,

Dwi'n wirioneddol poeni rwan. Cydymdeimlad gan Cai!!!

O ran cynnwys dy gyfraniad - wyddwn i ddim fod fy mherfformiad y gorau yn y gogledd i'r Ceidwadwyr yn 2005 ond yr oedd y gogwydd yn 4.5% - llawer mwy nag sydd ei angen y tro hwn.

O ran y problemau technegol - wn i ddim, bydd rhaid edrych mewn i hyn ond mae na sawl un bellach wedi cael yr un broblem.

Yn olaf ti'n gymharol anheg yn datgan fod gennyf ddiddordeb ysol yn etholaeth Arfon. Ni chredaf fy mod wedi blogio unwaith am yr etholaeth honno sy'n wahanol iawn i etholaeth Caernarfon y bu'm yn Gadeirydd arni amser maith yn ôl.

Yr unig gyfraniad i mi wneud oedd trafod dewis Hywel Williams AS i dderbyn dros £10,000 mewn 'petty cash' yn syth i'w gyfrif banc - yr oedd yn un o gwta 60 AS wnaeth hyn ac yn bedwerydd neu bumed dwi'n credu yn y rhestr hawlio dan y drefn o daliad uniongyrchol heb dystiolaeth o'r gwariant.

Bu i mi dynnu sylw at hyn oherwydd fod Elfyn Llwyd wedi honni ar radio a theledu y byddai Plaid Cymru yn lanach na glan o ran costau. Nid felly y bu ac iawn nodi hynny hefyd fe fyddwn yn dweud.

O ran Cigfran - croeso i ti freuddwydio Mae hyd yn oed yr enwog Hen Rech yn cyfaddef iddo dderbyn dwy daflen yn ddiweddar gennyf ynghyd a phresenoldeb ar strydoedd yr etholaeth. Defnyddio'r post brenhinol wnaeth Llafur a'r Rhyddfrydwyr tra fod taflen Plaid Cymru ymddangosodd yn Nhachwedd 2008 yn parhau i gael ei dosbarthu. Dylid hefyd nodi fod y canlyniad yn 2005 er gwaethaf ymgeisydd digon call o ran UKIP.

Beth bynnag dwi'n mynd am yr hamoc 'na rwan - er gwaethaf y tywydd.

Guto

Cai Larsen said...

OK - 'dwi'n debyn nad ydi blog Aberconwy wedi son llawer am Arfon - ond bu diddordeb yn y gorffennol.

A bod yn onest 'dwi'n ystyried y dull yr oedd yr arian man yn cael ei drosglwyddo yn fater cymharol ddibwys - ond pawb at y peth y bo.

Guto Bebb said...

Hi Cai,

Bonheddig iawn i ti dderbyn y pwynt am fy niddordeb yn yr Arfon newydd - diolch.

Ni allaf gytuno gyda chdi am 'petty cash' Hywel. Mae £10,200i drethdalwr 40% yn cyfateb i godiad cyflog o tua £17,000. Dwi'n credu fod y £10,200 dros gyfnod o 2005 hyd 2008 felly heb unrhyw dystiolaeth mae Hywel wedi gallu derbyn arian parod sy'n gyfwerth a chodiad cyflog o tua £5,600 yn flynyddol a hynny heb unrhyw dystiolaeth o lle y bu i'r arian gael ei wario.

Rho fo fel hyn, pe byddet fel prifathro yn hawlio'r math yma o swm am dy gostau fyddai 'na ddisgwyl tystiolaeth i brofi'r hawl am y taliad neu ddim? Un rheol i AS ac un arall i bawb arall ydi'r hyn mae Hywel wedi'i wneud. Cofier mai 60 neu lai o Aelodau Seneddol sydd wedi gwneud hyn.

Nid ymosodiad yn erbyn dy Blaid ydi hyn. Fe fu i mi amddiffyn defnydd aelodau San Steffan dy blaid o arian ar gyfer uwch gyhuddo Blair yn gadarn ar radio ddwy waith. Nid felly y trefniant bach digon budur hwn.

Guto

Cai Larsen said...

Mi wnawn i ei roid o fel hyn - wrth ymyl trefniadau bach pobl fel Mr Crabb mae'n ymddangos yn ddigon di niwed.

O ran cymharu fy sefyllfa i - sy'n gweithio mewn amgylchedd lle mae rheolaeth ariannol yn arbennig o dyn - gyda rhywun sy'n gweithio mewn sefydliad lle nad oedd yna reolau ariannol gwerth son amdanynt - mae'r gymhariaeth yn un, wel, gwirion.

Guto Bebb said...

Dwi'n credu i Mr Crabb hawlio tua £12,000 felly er fy mod yn cytuno'n llwyr fod ei benderfyniad yn un barus dwi ddim yn derbyn dy honiad fod yna wahaniaeth sylfaenol rhwng ei weithred ar hyn mae Hywel wedi wneud.

Dwi hefyd yn dy atgoffa na fu i fy arweinydd honni fod y Ceidwadwyr yn wynach na gwyn - gwahanol iawn i sylwadau di-sail Elfyn.

O ran cymhariaeth wirion - na, fe fyddwn yn honni fod moesoldeb yn rhan o'r penderfyniad. Mae'r honiad fod y dyn heb dorri'r rheolau yn amddiffyniad hurt. Mae'r rheolau yn datgan na ddylid hawlio dim ond yr hyn sy'n hanfodol er gyfer gwneud y gwaith o fod yn AS. Sut mae posib cysoni hynny gyda'r penderfyniad i hawlio £250 pob mis heb unrhyw dystiolaeth fod yna wariant o fath yn y byd wedi digwydd?

Dwi ddim yn amddiffyn Stephen Crabb, ond paid ti, da chdi, a honni fod Hywel wedi gwneud dim o'i le gyda'r penderfyniad hwn. Y gwir yw ei fod yn hawlio swm sy'n cyfateb (o gofio ei fod yn drethdalwr yn ôl cyfradd o 40%) i bensiwn tair wythnos i wr neu wraig sengl a hynny fel 'petty cash'. Ni allwn hyd yn oed ddechrau cyfiawnhau y fath ymddygiad.

Dyna ddigon rwan - dwi ddim am ail fyw fy mywyd o fewn Maes E!!

Guto Bebb said...

Damia, ddaru mi ddim gweld dy sylw fod yr enwog (!) Oscar yn Geidwadwr. Efallai ei fod o'r anian honno ond nid oes tystiolaeth o fath yn y byd o pwy yw'r gwron nac ychwaith ei fod yn aelod o'r Blaid Geidwadol.

Y mae awgrymu fod ei sylwadau yn dystiolaeth o raniadau o fewn y Blaid geidwadol yn Aberconwy yn gyfystyr ac awgrymu fod sylwadau yr Hen Rech Flin yn dystiolaeth o raniadau o fewn Plaid Cymru yn etholaeth Aberconwy gan fod yr Hen Rech o anian cenedlaetholgar er ei fod ymhell o fod yn brin o roi swadan neu ddwy i Blaid Cymru yn weddol gyson.

Dwi'n mawr hyderu y byddai unwaith yn rhagor yn derbyn y sylw hwn yn yr ysbryd y mae'n cael ei gyflwyno :-)

Guto

Cai Larsen said...

Hmm - efallai ei bod yn amser i mi wneud blogiad bach ynglyn a threfniadau anarferol y Brawd Crabb.

Guto Bebb said...

Edrych ymlaen yn arw am y blogiad am gostau Mr Crabb ond un amod. Fel cyfraniad i degwch gwleidyddol beth am i ti, yn rhinwedd dy aelodaeth o Bwyllgor Rhanbarth yr Etholaeth Newydd yn Arfon, hefyd egluro sut y bu i Hywel wario ei £10,200 o 'petty cash' dros dair blynedd.

Dylid cofio fod Hywel wedi llwyddo i fod yn AS drytaf Cymru ddwy waith yn olynol er fod ei etholaeth yn ddaearyddol sylweddol llai na Meirionydd Nant-Conwy ac etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sydd, ill dwy, yn ôl aelodau dy blaid yn derbyn gwasanaeth o'r radd flaenaf.

Ai'r 'petty cash' sy'n gwneud Hywel yn ddrud?

Cai Larsen said...

Mi fydd rhaid i ti ddisgwyl am fymryn am flogiad Mr Crabb - 'dwi wedi addo ateb un neu ddau o bobl ar thema brogarwch a chenedlaetholdeb - a 'dwi'n bwriadu gwneud hynny tros y penwythnos.

Mi es i ar ol y ffeithiau rhywbryd gyda'r bwriad o greu blogiad, ond mi benderfynais yn erbyn cynhyrchu un - ond roedd y digwyleidd-dra yn ymylu ar fod yn ogleisiol.

Gyda llaw mi ges i'r myll rhywbryd efo Rod Richards wedi iddo gwyno am 'track record' Plaid Cymru a chreu blogiad ar 'track record' Rod.

Ches i erioed y gyts i'w gyhoeddi - er ei fod wedi ei seilio'n gyfangwbl ar ffynhonellau cyhoeddedig.

Roedd yn darllen fel rhywbeth o nofel gan Irvine Welsh. Mi fydd rhaid i hwnnw aros wedi ei guddio ar ffurf drafft am wn i.

Guto Bebb said...

Dwi'm yn amau dim dy fod yn gywir fod trefniadau 'prif' gartref Stephen Crabb yn codi cwestiynnau -dyna'n sicr oedd barn ei etholwyr yn y cyfarfod cyhoeddus a gafwyd ei drefnu ganddo i egluro pethau gyda'r canlyniad ei fod wedi ad-dalu elfennau o'i gostau. A da hynny.

A fydd yna gyfarfod cyhoeddus i drafod 'petty cash' Hywel?

O ran Rod Richards - wel o ddifrif, mae trio parddu'r Ceidwadwyr oherwydd yr hyn neu'r llall y mae Rod wedi'i wneud fel trio pardduo Plaid Cymru oherwydd rhywbeth dwi wedi wneud!!

Edrych ymlaen at dy gyfraniad ar frogarwch - perthnasol i agenda bolisi Cameron ar blaid Geidwadol fe fyddwn yn dadlau. Dwi'n dueddol i ochri gyda'r Hen Rech Flin ar fetr rheolaeth leol fel egwyddor.

Cai Larsen said...

Doeddwn i ddim yn pardduo'r Toriaid - sylw wrth fynd heibio oedd o.

Cigfran said...

Wrth i mi ffieiddio yn wythnosol gyda'r blaid Lafur brydeinig,mae clywed a darllen sylwadau'r toris yn fy atgoffa o'r diwrnod hwnnw yn 1997 pan oedd y messeia newydd Mr Blair yn cyrraedd Downing street gan wared a'Hamilton,Portillo,Rifkind a'u bath

All pobol anghofio mor sydyn?

Un peth sydd yn codi o'r stwr diweddaraf am dreuliau yw ei bod hi'n ymddangos mai'r Toriaid ,a'u chwiaid,gerddi,coed, nanis yw'r rhai sydd mwyaf di-hid am arian trethdalwyr,a fod sylwadau Guto am petty cash Hywel yn ymdrech i ddangos pawb cyn waethad a'u gilydd.

Gyda arian mawr o'r sector gyllid yn llifro i goffrau'r Toriaid,tybed be fydd dylanwad y sector honno ar bolisiau unrhyw lywodraeth Toriaidd wrth iddynt geisio lliwio llwybyr allan o'r llanast ariannol sydd o'n cwmpas?

Fel trwy'r 80 au a 90 au,buoedd y toriaid yn gwarchod y cyfoethog,breintiedig a de ddwyrain Lloegr ar draul y gweddill ohonnom .

Fydd rhwbath wedi newid ar y "Celtic fringes"? Bydd, ond nid er gwell. Mi rof 5 mlynedd tan ei fod yn dro i Llafur newydd newydd ail gylchu popeth eto.

Anonymous said...

Os ydych chi ddim ym gwybod pwy yw Ivan Lewis, pam ydych chi'n trio ysgrifennu blog gwleidyddol?

Cai Larsen said...

Anhysbys - Os ydych chi ddim ym gwybod pwy yw Ivan Lewis, pam ydych chi'n trio ysgrifennu blog gwleidyddol?

Cwestiwn gwych a bendigedig.

Alwyn ap Huw said...

Mae hyd yn oed yr enwog Hen Rech yn cyfaddef iddo dderbyn dwy daflen yn ddiweddar gennyf ynghyd a phresenoldeb ar strydoedd yr etholaeth.

Rwyt yn arafu braidd Guto, mae trydedd daflen wedi dod acw oddi wrth Phil ac mae cefnogwyr Ronnie yn gwneud galwadau ffôn i'r etholwyr bellach.

Guto Bebb said...

Helo Alwyn,

Fe fu i mi gynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nglan Conwy nos Fercher. Trueni na fuest yno. Croeso i ti ddod draw i Eglwysbach neu Gyffordd Llandudno wythnos nesaf.

O ran taflen arall gan Phil - rhyfedd nad yw rhain yn troi fyny yn nhai Ceidwadwyr Glan Conwy. Ymddengys fod gwybodaeth lleol Plaid Cymru yn wirioneddol wych o natur wleidyddol etholwyr.

Da clywed fod Ronnie wedi dechrau gweithio.


O ran sylwadau Cigfran. Nid mater bach ydi £10,200 ond swm sylweddol mwy na'r 'Duck House'. Nid mater o ddatgan bod pawb mor ddrwg a'i gilydd sydd yma ond nodi fod 59 yn unig allan o 650 wedi dewis derbyn 'Petty Cash' heb dystiolaeth a hynny'n syth i gyfrif banc. Yn hyn o beth dwi'n honni fod Hywel yn waeth nag eraill.

Anonymous said...

der artikel hat mich nachdenklich gemacht. wobei ich allerdings schon finde, dass gruende wie armut und stress auch im alter (mehr und mehr) einen gewissen ausschlag geben koennen zur flasche zu greifen. in jedem fall ist die aussage “man kan noch so viel vom leben haben” natuerlich nur zu unterstreichen!!! zudem verkraftet ein junger koerper wahrscheinlich eher ein glas mehr als ein aelterer mensch. ein gewisser warnschuss darf hier also ruhig erfolgen…