Saturday, August 29, 2009

Gair bach o gysur i Mr Paul Flynn


Mae nifer o flogwyr wedi gwneud hwyl am ben Paul Flynn tros yr wythnos neu ddwy diwethaf oherwydd ei ymateb hunan bwysig a phwdlyd i'r ffaith na wnaeth yn arbennig o dda yn 'etholiad' Totalpolitics. Mae Paul o'r farn mai'r unig eglurhad am ei ganlyniad siomedig ydi bod cynllwyn anferth yn bodoli ymhlith blogwyr Cymreig yn gyffredinol a Phleidwyr yn benodol. Felly mae Paul yn dipyn o conspiracy theorist pan mae'n dod i egluro'r anfadwaith arbennig yma.

Fedar Paul ddim deall sut y gwnaeth cymaint o flogiau Cymreig mor dda, ac mae'n syndod mawr iddo i flog Vaughan ddod yn y deg uchaf a hwnnw wedi ei 'sgwennu yn uniaith Gymraeg. Daeth y blog hwn yn uwch nag un Vaughan gyda llaw, ac mae hwnnw hefyd yn uniaith Gymraeg (fwy neu lai). Mae i mi ddod yn uchel yn 'rhyfeddach' ar un olwg nag i un Vaughan wneud hynny - 'does gen i ddim cymaint o gysylltiadau na Vaughan, ac mae ei flog o yn un proffesiynol. Mi ddyliwn ychwanegu mewn gonestrwydd bod ei flog o'n well nag ydi fy un i hefyd.

Efallai bod y ffaith nad ydi Paul wedi sylwi ar hynny yn awgrymu pam ei fod yn cael anhawster deall y sefyllfa. 'Dydi o ddim yn ymddiddori yn y blogosffer Cymreig, ac nid yw ei flog mewn gwirionedd yn rhan o'r blogosffer hwnnw. Ceisiaf gynnig ychydig o gymorth iddo ddod i delerau efo'r anghyfiawnder erchyll mae'n gorfod ymdopi a fo.

Paul - mathemateg syml sydd y tu ol i'ch problem - 'does yna ddim cynllwyn gan flogwyr Cymreig yn gyffredinol na'r Pleidwyr drwg, drwg chwaih. Petai yna un fi fyddai'r cyntaf i wybod - a 'dwi'n gwybod dim. Fodd bynnag, mae yna scene blogio gwleidyddol Cymreig - mi'r ydan ni'n darllen blogiau ein gilydd. Anaml iawn er enghraifft y byddaf i'n darllen blog o'r tu allan i Gymru (ag eithrio poliicalbetting.com) . Mae'n dilyn felly ein bod ni'n pleidleisio i'n gilydd yn hytrach nag i flogiau o'r tu allan i Gymru.

Oherwydd bod y pleidleisiau o Gymru yn tueddu i fynd i flogiau Cymreig mae'r ffaith nad oes llawer o flogiau Cymreig yn cael ei negyddu o safbwynt pleidleisio. Mewn sefyllfa lle mae pleidleisiau yn cael eu bwrw mewn cylch cyfyng, mae pob pleidlais yn fwy pwerus na'r rhai lle maent yn cael eu dosbarthu'n ehangach.

Mae yna fwy o flogwyr a phleidleiswyr o lawer yn Lloegr - ond mae eu pleidleisiau yn cael eu gwasgaru'n eang iawn. Mae yna llai o bleidleiswyr yng Nghymru - ond 'does yna ddim yn agos cymaint o flogiau i bleidleisio trostynt - felly mae mwy ohonynt yn mynd i'r un blogiau. Mae'r cylch pleidleisio yn gyfyng.

Mae hyn yn wir am flogiau sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng. Mae yna is scene Cymraeg ei hiaith. Ychydig o flogiau felly sydd ar gael - ond mae siaradwyr Cymraeg yn tueddu i bleidleisio trostynt a pheidio gwasgaru ymhellach. Mi fyddwn yn tybio i mi dderbyn pleidleisiau'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg a bleidleisiodd. Pe bawn yn 'sgwennu yn Saesneg, ni fyddai llawer o'r rheini ar gael i mi.

'Dydi'ch blog chi ddim yn un arbennig o Gymreig, ac nid yw'n rhan o'r scene mewn gwirionedd. O ganlyniad rydych yn cystadlu efo blogiau o'r blogosffer Seisnig - lle ceir mwy o bleidleisiau, ond hefyd mwy o gystadleuaeth am bleidleisiau.

'Rwan, er gwaethaf yr hunan bwysigrwydd a'r sancteiddrwydd, a'r ymlyniad rhyfedd i Peter Hain 'dwi'n hoff o Paul Flynn. Mae'n Gymro da ac yn ddatganolwr brwd. Mae ymhell bell o fod yn un o'r defaid llywaeth, lleddf ac ufudd, y nodwyr pennau ar clywch clywchwyr proffesiynol sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o etholaethau Llafur yng Nghymru. Unoliaethwr, ond unoliaethwr 'da'. Yn yr ysbryd yna mae gen i fymryn o newyddion da iddo o'r holl fusnes - sef hyn:

Y rheswm bod yna gorlan neilltuol Gymreig wedi datblygu yn y blogosffer gwleidyddol ydi oherwydd bod Cymru wedi datblygu ei gwleidyddiaeth neilltuol ei hun. Adlewyrchiad o'r Byd go iawn ydi'r blogosffer, ac adlewyrchiad o'r Byd gwleidyddol ydi'r blogosffer gwleidyddol.

Ugain mlynedd yn ol (petai'r We yn bodoli bryd hynny), byddai blog Mr Flynn ymhell o flaen y blogiau Cymreig eraill - a dweud y gwir go brin y byddant yn bodoli. Byddwn yn meddwl y byddai'n cytuno mai pris bach i'w dalu ydi cael cweir gan flog Vaughan, neu hyd yn oed flogmenai er mwyn gweld Cymru'n datblygu fel gwlad efo'i gwleidyddiaeth unigryw a neilltuol hi ei hun.

7 comments:

Hogyn o Rachub said...

Er daeth dy flog yn uwch, mae'r BBC yn honni ar dudalen flaen BBC Cymru iddo fod yr UNIG flog Cymraeg yn y top 10 ar top politics! Meddwl swni'n deud o'n i, a finna'n licio deud ryw bethau felly.

Cai Larsen said...

Diolch am rannu hynna efo ni HOR!

Hogyn o Rachub said...

Croeso. Dwi ar ganol sesiwn fawr. Dwi yn nhy ffrind ac yn meddwi'n wirion, ac eto, er gwaethaf yr afradwch o'm cwmpas, dwi'n ymweld a dy flog. Mae hyn yn ganmolaeth enfawr gan unrhyw un o Rachub. Fydd pawb, PAWB, yno'n llai sobor na fi!

Hogyn o Rachub said...

O'n i am ofyn be ti'n neud yn hwyr yn nos Sadwrn yn cymedroli sylwadau, ond yn amlwg dwi'n waeth yn eu sgwennu'n lled-feddw!

Cai Larsen said...

Hmm mae'n fraint ac anrhydedd medru dweud fy mod wedi amharu (hyd yn oed am eiliad neu ddwy) ar sesiwn rhywun o Ddyffryn Ogwen.

Yr ateb i'r cwestiwn ydi fy mod yn sgint (ac yn rhowlio ar sach lian a lludw) ar ol cymryd gwylau hir oedd tipyn yn yn rhy ddrud.

Daw eto haul ar fryn.

Anonymous said...

Dwi'n credu bod 'na gamddealltwriaeth o ran y gwahanol restrau yma. Dwi'n credu mai Vaughan oedd yr unig flog Cymraeg ar restr y blogiau Cyfryngau neu rywbeth tebyg.

Hynny sy wedi peri syndod a dryswch - bod blog Cymraeg ei iaith wedi cael digon o bleidleisiau i fod ar restr drwy gydol Prydain.

Cai Larsen said...

Y broblem ydi bod rhai rhestrau wedi eu rhyddhau tra nad ydi eraill. 'Dwi'n meddwl mai'r hyn oedd yn gwneud i Paul grio go iawn oedd bod Vaughan o'i flaen o yn rhestr Cymru - ond hwyrach fy mod yn anghywir.