Saturday, May 23, 2009

Y Daily Post a Lwfansau Plaid Cymru

Mae Dail y Post yn poeni'n arw bod yr hen Plaid Cymru ddrwg 'na wedi gorfodi trethdalwyr sy'n pleidleisio i'r Blaid Lafur i dalu swm anferthol o £4,500 tuag at uwch gyhuddo'r cyn brif weinidog diarhebol o gelwyddog Mr Tony Blair.



Yr hyn sydd ganddynt ydi bod y tri aelod seneddol Plaid Cymru wedi defnyddio rhan o'u lwfansau cadw swyddfa ac ati i dalu am gyngor cyfreithiol ynglyn a'r posibilrwydd o uwch gyhuddo Blair. Mae'r defnydd yma o bres y trethdalwr yn cymaint o stwmp ar stumog y Daily Post, maent wedi mynd ati i greu stori tudalen flaen o'r mater.

Am rhyw reswm 'dydi'r stori ddim yn nodi mai cost y rhyfel hwnnw i drethdalwyr Unol Daleithiau'r America oedd $1,600,000,000,000,000,000, na bod 4,296 o'r dywydiedig drethdalwyr wedi eu lladd yn y rhyfel (heb son am y 110,600 o Iraciaid a laddwyd wrth gwrs).Yn ffodus roedd pethau'n rhatach ym Mhrydain - 179 o farwolaethau milwrol yn unig a chost i'r trethdalwr o £5,300,000,000, ond 'dydi'r Post ddim yn son am hynny chwaith.

Y prif reswm bod Prydain wedi cymryd rhan yn yr ymarferiad gorffwyll o ddrud (yn ariannol ac o ran y bywydau pobl) yma ydi bod y llywodraeth Lafur wedi rhaffu un celwydd ar ol y llall er mwyn creu argraff bod bygythiad o gyfeiriad Irac.

Fedra i ddim honni mai'r grwp atgas o bapurau mae'r Daily Post yn perthyn iddo - Trinity Mirror - oedd y mwyaf euog o bell ffordd o bedlera propoganda Blair yn y misoedd cyn y rhyfel. Serch hynny, pe byddai'r wasg - Trinity Mirror yn gynwysiedig - ar y pryd heb fod mor bathetig o grediniol o gelwydd gwleidyddion, hwyrach na fyddai'r trethdalwr wedi orfod dod o hyd i biliwn ar ol biliwn o bunnoedd i dalu am antur oedd wedi ei chyfiawnhau gan llond trol o gelwydd.

6 comments:

Preseli said...

Yffach! Os taw hwnna yw'r unig sgerbwd yng nghwpwrdd ASau'r Blaid maen nhw'n haeddu clod!

Beth am y biliynau mae Blêr a'i siort wedi costu i drethdalwyr y DU oherwydd eu rhyfel anghyfreithlon yn Irac... a'r degau o filoedd o bobol diniwed sy wedi cael eu lladd yno fel canlyniad?

Ydy'r Post yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg?

Cai Larsen said...

Sgerbwd y byddwn i'n eithaf balch o gael yn fy nghwpwrdd a dweud y gwir.

Ryan said...

Beth am y lwfans cyfathrebu a gwariodd y tair ar ymgyrch hysbysebu yn ystod etholiad y Cynulliad?

Cai Larsen said...

Wel mae'n ymddangos i'r tri Phleidiwr ofyn i awdurdodau senedd Lloegr os oedd y gwariant yn briodol. Yr ateb oedd - "Iawn, dim problem",

'Doedd yr awdurdodau ddim yn sylweddoli bod etholiad yng Nghymru ar y pryd.

Dweud y cyfan am y berthynas rhwng Cymru a Lloegr am wn i.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dwi'n teimlo fod y feirniadaeth yma ar y tri aelod yn anheg ac yn annoeth...fel treth dalwr, dwi ddim yn malio fawr eu bod wedi defnyddio £4,500 i'r dibenion yma...sa gen i broblem tasa nhw wedi adeildau cwt colomenod i ar gyfer y rhai mae Elfyn Llwyd yn eu cadw ond dim dyna be sydd wedi digwydd ac dwi'n meddwl bod ceisio ei paentio gyda'r ry'n brwsh a rhai o'r "lladron" yn San Steffan yn neud drwg i ddemocratiaeth.

Ryan said...

Mae hynny'n esgus cyfaddas.