Friday, September 26, 2008

Llais Gwynedd, - pam yr holl gelwydd?



Dyfrig Siencyn

Wedi bod yn brysur am ychydig ddyddiau - ond mi wnawn ni ail gychwyn gyda blog Gwilym Euros Roberts - un o gynghorwyr Llais Gwynedd o bellafion Blaenau Ffestiniog.

Ymddengys i Gwilym ymddangos (os mai dyna mae rhywun yn ei wneud ar raglen radio) gyda Dyfrig Siencyn (Plaid Cymru Dolgellau) ar Manylu ddydd Llun, ac fe aeth hi'n dipyn o ffrae. Gofynwyd cwestiwn gan Gwilym (Euros nid Owen)i Dyfrig oedd yn awgrymu ei fod wedi pleidleisio ar fater cynllunio am resymau amhriodol. Gofynodd Gwilym Owen i Gwilym Euros dynnu'r cwestiwn yn ol - gwrthododd hwnnw wneud hynny. 'Does yna ddim rhithyn o wirionedd y tu ol i'r ensyniad oedd y tu cefn cwestiwn

Yn ei flog dadl Gwilym Euros ydi nad oes unrhyw beth enllibus wedi ei ddweud, oherwydd i'r sylw gael ei wneud ar ffurf cwestiwn.

Mae'n bwynt diddorol - a byddai achos llys ar y pwnc hefyd yn ddiddorol. Y cwestiwn y byddai'n rhaid i'r llys ei ystyried ydi os oedd y cwestiwn wedi ei ofyn er mwyn pardduo neu roi enw drwg i Dyfrig. Byddai pam mor debygol ydi'r honiad / cwestiwn o fod yn wir hefyd yn ystyriaeth wrth gwrs.

I wthio pethau i eithafion efallai ei bod werth gofyn beth fyddai'n digwydd pe byddwn i yn mynd o gwmpas y lle yn gofyn cwestiynau megis:

Ydi o'n wir bod Gwilym Euros yn mynd o gwmpas Blaenau wedi ei wisgo fel dynas wedi iddi dywyllu?

Oes gwirionedd yn yr honiad mai sniffian seddi beics ydi hoff hobi Gwilym?

Ydi o'n wir bod Gwilym wedi prynu fan hufen ia er mwyn ei pharcio y tu allan i ysgolion lleol er mwyn gwerthu hash i blant?


'Dwi'n prysuro i ychwanegu yn y fan hyn nad oes y mymryn lleiaf o reswm i ofyn yr un o'r tri chwestiwn uchod - nac yn wir i ofyn cwestiwn o unrhyw fath ynglyn a buchedd Gwilym. Hyd y gwn i mae ei safonau personol gyda'r mwyaf di lychwyn yng Nghymru os nad y Bydysawd.

Pe byddwn yn ddigon gwirion i ofyn yr uchod heb egluro eu bod yn nonsens llwyr gallai Gwilym fynd a fi i'r llys - a byddai'r llys yn dod i benderfyniad yn ddiymdroi nad ymgais gonest i ofyn cwestiynau ydynt, ond ymdrech i bardduo.

'Dydi cwestiwn Gwilym Euros ar Manylu ddim mor glir wrth gwrs. Pe byddai'r mater byth yn dod i'r llys, byddai bargyfreithwr Gwilym yn ceisio dadlau mai ymgais onest i ddarganfod gwybodaeth oedd y cwestiwn a byddai un Dyfrig yn honni mai ymdrech i bardduo ydoedd.

Fyddwn ni byth yn darganfod beth fyddai wedi digwydd wrth gwrs - gem pobl mwy goludog na Dyfrig a Gwilym ydi'r gem enllib mae gen i ofn - er 'dwi'n teimlo y bydd y mater yn cael ei godi mewn fforwm arall maes o law.

Beth bynnag, mae'r stori yn taflu goleuni digon diddorol ar natur Llais Gwynedd. Mae'n grwp gwleidyddol digon anarferol ar sawl golwg. Er enghraifft mae dweud celwydd personol yn eithaf anarferol ymysg pleidiau cyffredin - ond enllib maleisus a phersonol oedd unig naratif gwleidyddol nifer o'u hymgeiswyr (ond nid Gwilym wrth gwrs). Mae'n apelio at pob math o elfennau gwahanol - o genedlaetholwyr rhonc i wrth Gymreigwyr lloerig.

Y rheswm am hyn ydi mai plaid gwrth Plaid Cymru ydi Llais Gwynedd yn annad dim arall. Mae rhai o'i chefnogwyr yn casau'r Blaid am eu bod yn casau Cymru, ac mae rhai o'i chefnogwyr a'i harweinwyr yn bobl chwerw sy'n credu iddynt gael cam gan gwahanol aelodau o'r Blaid yn y gorffennol - cam yn y man gwaith, methu cael eu dewis i fod yn ymgeiswyr ac ati.


A dyna pam bod drewdod celwydd personol ac enllib yn dew o gwmpas Llais Gwynedd. Mae'n rhan o'r natur ddynol bod pobl yn dweud celwydd personol neu o leiaf yn credu ac yn gwasgaru pob stori dan haul am bobl maent yn eu casau.

Mae grwpiau gwleidyddol wedi eu seilio ar emosiynau digon sylfaenol - pleidiau sosialaidd ar yr ymdeimlad o bwysigrwydd tegwch, rhai rhyddfrydig ar ryddid personol, rhai cenedlaetholgar ar wladgarwch. Mae hyn yn ei dro yn esgor ar ddiwylliant mewnol neilltuol i bleidiau.

Casineb ydi'r emosiwn sylfaenol sy'n cynnal Llais Gwynedd - ac mae ei diwylliant mewnol ac felly ei naratif gwleidyddol yn cael eu gyrru gan hynny.

5 comments:

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Anonymous said...

Pa ran o gael cais cynllunio yn Meirionnydd sy'n gelwyddog ? - Mater o ffaith yw hynny.

Anonymous said...

Does dim angen achos llys i wybod nad yw'r ffaith bod enllib wedi ei eirio ar ffurf cwestiwn yn unrhyw fath o amddiffyniad cyfreithiol. Mae'r cynsail hwnnw wedi ei osod ers tro byd. Hynny yw mae "Ydy'r sibrydion cryf yn pentref bod XXXX yn curo ei wraig yn gywir,tybed?" ac "Mae 'na sibrydion cryf yn y pentref bod XXXX yn curo ei wraig" ill dau yn enllibus. Dyw'r ffaith bod rhywun yn ail-adrodd si enllibus neu yn gosod marc cwestiwn ar ei ddiwedd ddim yn unrhyw fath o amddifyniad.

Dyfrig said...

Dwi wedi ymateb i hyn ar fy mlog i http://bloganswyddogol.blogspot.com/2008/09/enllib-gwilym-euros.html