Friday, July 04, 2008

Y llywyddiaeth - etholiad di angen

Mae nifer wedi holi pam bod Elfyn Llwyd yn sefyll yn erbyn Dafydd Iwan. Dim ond Elfyn sy'n gwybod i sicrwydd wrth gwrs - ond mi geisiaf fy mymryn barn i ar y pwnc.

Efallai mai'r lle i gychwyn ydi gydag ymarferiad trychinebus yr hen Gyngor Gwynedd ar 'ymgynghori' ynglyn ag ail strwythuro ysgolion cynradd y sir. Fy unig brofiad personol i o'r broses hon oedd mynychu'r cyfarfodydd 'ymgynghori yn nalgylch Ysgol Glan y Mor. Cynhalwyd nifer o gyfarfodydd gyda llywodraethwyr ysgolion, ond byddai'r fformat yr un peth pob tro:

Cam 1: Biwrocrat nad oedd neb ond yr athrawon yn y gynulleidfa yn ei adnabod yn sefyll i egluro, gan ddefnyddio jargon proffesiynol oedd prin yn ddealldadwy i lawer o'i gynulleidfa, pam nad oedd yn gynaladwy i gynnal ysgol annibynnol yn eu pentref nhw.
Cam 2: Llywodraethwyr yn dadlau, weithiau'n ffyrnig, efo'r biwrocrat eu bod am gynnal eu sefydliadau i'r dyfodol.
Cam 3: Cynghorwyr Plaid Cymru yn codi i ddweud eu bod yn cytuno efo'r biwrocratiaid ac nid efo'u hetholwyr.

Byddai'r gynulleidfa yn bennaf yn llywodraethwyr - Cymry Cymraeg parchus sy'n ysgwyddo pob dyletswydd di ddiolch yn eu cymunedau - halen y ddaear ac asgwrn cefn cefnogaeth y Blaid.

Rwan mae'r blog yma wedi dadlau droeon mai prif apel y Blaid yn y Wynedd wledig oedd y ffaith bod yr etholwyr yn ei hystyried yn blaid leol oedd yn amddiffyn buddiannau lleol yn erbyn bygythiadau o'r tu allan.

Os ydi'r canfyddiad hwn yn gywir - a 'dwi mor siwr ag ydwyf o unrhyw beth mewn gwleidyddiaeth ei fod - mae'n anodd dychmygu unrhyw ymarferiad mwy distrywgar i'r Blaid yn etholiadol na'r un a ddisgrifwyd uchod. Ac wedyn - yn y diwedd - anwybyddwyd yr holl broses ymgynghori, ac aethwyd ati i greu cynllun llawer mwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth a drafodwyd yn yr 'ymgynghoriad'.

Mae'n anodd meddwl am unrhyw ffordd mwy effeithiol o ddifa cefnogaeth y Blaid yn rhai o'i chadarnleoedd traddodiadol. Llwyddodd yr 'ymgynghoriad' ail strwythuro i wneud rhywbeth na lwyddodd yr un blaid Brydeinig na'r cyfryngau torfol Seisnig i'w wneud mewn deg mlynedd ar hugain - niweidio'n sylweddol gefnogaeth etholiadol y Blaid yn Ne a Gorllewin Gwynedd. Mi fydda i'n deffro yng nghanol y nos yn fynych yn chwys trostof yn cofio'r ymarferiadau, ac yn cofio ffyrnigrwydd ymateb pobl yr oeddwn i wedi eu hystyried yn genedletholwyr rhonc tuag at y Blaid pan oeddynt yn siarad yn breifat. Ac yn waeth na ffyrnigrwydd mae siom wrth gwrs - siom pobl yn y Blaid oedd y peth mwyaf dirdynol i mi. Cyn yr etholiadau diweddar roedd pob un o saith cynghorydd ardal dalgylch Glan y Mor yn Bleidwyr. Un sydd ar ol heddiw.

Mae Elfyn yn deall hyn yn dda - ac mae'n deall y perygl sydd i'r Blaid ym Meirion Dwyfor (mae Arfon yn fater hollol gwahanol - ond testun blog arall ydi hynny). Ymarferiad sydd yn ceisio ail leoli'r Blaid yn ei thir traddodiadol - ac ail leoli Elfyn cyn belled a phosibl oddi wrth Dafydd Iwan sydd ar waith yma. mae'n ddealladwy - ond yn ddi angen - ac (a benthyg idiom Saesneg) yn methu'r pwynt.

Ond nid dyma'r ffordd o fynd ati. Y ffordd o ad leoli'r Blaid yn ei thirwedd gwleidyddol traddodiadol ydi trwy deilwra polisi cenedlaethol - ac yn bwysicach bolisi lleol. Nid y llywyddiaeth ydi'r mater creiddiol - polisi ydi'r broblem - a polisi ydi'r ateb. Mae arweinyddiaeth newydd y Blaid yng Ngwynedd wedi cymryd camau breision i'r cyfeiriad cywir.

Swydd gyfyng iawn ydi un y llywydd - ysbrydoli aelodau'r Blaid - hynny yw cyfathrebu mewnol mewn cyfrwng sydd ond yn ddealladwy i Bleidwyr. Dyma forte Dafydd. Mae'n dda iawn am apelio at genedlaetholwyr, ac yn wir diffinio cenedlaetholdeb cenedlaetholwyr iddyn nhw eu hunain. Dydi o ddim cystal am lunio polisi sydd ag apel y tu hwnt i'r Blaid - ond nid dyna hyd a lled y swydd.

Dyna pam y byddaf, yn ol pob tebyg yn pleidleisio i Dafydd yn yr etholiad am y llywyddiaeth ('dwi'n siwr bod hyn yn gryn sioc i Dafydd gan nad yw yn ol yr hyn a ddeallaf yn un o edmygwyr y blog hwn).

Mae'r etholiad yn ddi angen, ac yn bygwth tynnu sylw oddi wrth yr hanfodion - osgoi'r broblem ydi newid llywydd.

No comments: