Rhag ofn eich bod yn meddwl fy mod yn colli arni, 'dydw i ddim yn credu y caiff yr SNP gweir go iawn - i'r gwrthwyneb - maent yn debygol o wneud yn dda, ac efallai y byddant yn gwneud yn dda iawn.
Ond pe byddwn yn defnyddio rhesymeg David Williamson yn y Western Mail yna gallwn wneud dadl o'r fath. Fel mae fy nghyd Bleidiwr o flogiwr o Gaernarfon Sanddef yn nodi ar ei flog hynod ddarllenadwy,Ordivicius, 'dydi gwefannau fel un Martin Baxter o fawr o gymorth i rhywun sy'n ceisio darogan canlyniadau etholiad y tu allan i Loegr - ac yn arbennig felly yng Nghymru.
Mae dau brif reswm am hyn. Yn gyntaf mae'r wefan wedi ei chynllunio i ddelio gyda threfn tri phlaid, ac yn ail pe byddai'n gallu delio gyda pedair plaid 'does yna ddim data ar gael o Gymru - anaml iawn y bydd y Western Mail ei hun er enghraifft yn comisiynu pol piniwn Cymreig. Bydd y pleidiau gwleidyddol yn comisiynu polau preifat o bryd i'w gilydd - ond cyfyng iawn yw'r cylch sy'n dod i glywed am ganlyniadau'r rheini.
O ganlyniad mae'r gwefannau darogan yn cymryd bod pleidlais y pedwerydd plaid (hy yr SNP neu'r Blaid) yn aros yn static - beth bynnag y newidiadau eraill. Sefyllfa cwbl amhosibl.
Felly o chwarae gyda'r wefan a bwydo rhai o ganlyniadau polau piniwn diweddar mae'r wefan yn darogan y bydd yr SNP yn colli Perth and North Perthshire, Angus, Moray i'r Toriaid a Glasgow East i Lafur. Byddant yn cael eu gadael gyda Banff and Buchan, Dundee East a Na h-Eileanan An Iar yn unig. Hynny yw byddant yn colli mwy na hanner eu cynrychiolaeth.
'Rwan, 'dydi hyn ddim yn bosibl - does yna ddim un sylwebydd yn credu hynny - ac mae eu barn wedi ei seilio ar bolau piniwn (byddant yn cael eu cynnal yn yr Alban o bryd i'w gilydd), ar etholiadau Senedd yr Alban ac ar etholiadau lleol diweddar. Mae'n ddigon posibl mai dwblu, ac nid hanneru eu cynrychiolaeth fydd yr SNP.
Mae'r dystiolaeth sydd ar gael - etholiadau'r Cynulliad a'r etholiadau lleol eleni yn awgrymu y byddai'r Blaid hithau yn debygol o ddwblu ei chynrychiolaeth, gan gynyddu o 3 i 5 neu 6.
Mae'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf am amrywio'n sylweddol ym mhedair gwlad y DU. Dwi ddim am fynd ar ol Gogledd Iwerddon y tro hwn (ond bydd yn ddiddorol). Yn Lloegr bydd y Toriaid yn ennill tir - a llawer o dir - o ran pleidleisiau a seddi. Bydd Llafur yn colli tir yn sylweddol ac yn cael ei gwthio'n ol i rannau mwyaf trefol a diwydiannol y wlad. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli peth tir ac yn colli seddi gwledig i'r Toriaid. Byddant yn gwneud iawn am rhywfaint o'r colledion hyn yn y dinasoedd a'r trefi mawrion ar draul Llafur.
Yn yr Alban bydd Llafur eto'n colli tir yn sylweddol, ac yn cael ei chwalu i pob pwrpas yn Nwyrain y wlad. Bydd Y Toriaid yn ennill peth tir, yn arbennig yn Ne'r wlad. Bydd yr SNP yn symud ymlaen yn sylweddol ac yn dod yn agos at y bleidlais Lafur neu efallai yn ei goddiweddyd. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli cryn dipyn o bleidleisiau a seddi.
Bydd sefyllfa Cymru rhywle rhwng yr Alban a Lloegr. Bydd Llafur yn colli pleidleisiau a seddi. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn symud yn ol yn sylweddol hefyd - gan golli eu tair sedd yn y canolbarth, bydd Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol yn symud ymlaen, gyda'r Blaid Geidwadol yn ennill mwy o dir na Phlaid Cymru. Gwnaeth y Blaid yn well na'r Toriaid yn yr etholiadau lleol a'r etholiadau lleol diweddar, ond bydd yn Toriaid yn ddi eithriad yn perfformio'n gryfach na'r Blaid mewn etholiadau cyffredinol - a bydd y gwynt yn eu hwyliau y tro hwn. Byddant yn ennill 7 - 9 sedd.
Felly mae peth gwirionedd yn namcaniaeth Williamson, ond mae'n idiotaidd seilio stori papur newydd am Gymru ar fframwaith darogan canlyniadau etholiadol nad yw wedi ei gynllunio ar gyfer Cymru, ac nad yw'n gweithio mewn cyd destun Cymreig. Mae hefyd yn dystiolaeth o'r safonau difrifol o isel mewn sylwebaeth gwleidyddol yn y wasg Saesneg ei hiaith yng Nghymru.
ON - pol piniwn gwirioneddol ofnadwy arall i Lafur ar y ffordd 'fory.
No comments:
Post a Comment