Friday, June 13, 2008

Iwerddon yn dweud NA

Mae'n dda iawn gen i nodi i Iwerddon wrthod cytundeb Lisbon - yn rhannol oherwydd i mi ennill swm bach go dwt o bres ar y canlyniad.

Mae, serch hynny yn ganlyniad diddorol o ran y patrwm pleidleisio. O graffu ar y ffigyrau isod, mae'n amlwg i unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am ddaearyddiaeth cymdeithasegol Iwerddon bod patrwm pendant o bleidleisio ar waith yma.

Y bobl sydd wedi pleidleisio NA ydi ceidwadwyr cymdeithasol gwledig (yn arbennig rhai mewn ardaloedd cymharol dlawd), a'r dosbarth gweithiol trefol. Mae'r dosbarthiadau canol trefol wedi pleidleisio yn drwm o blaid y cynnig.

Er enghraifft mae Dublin South West sydd wedi ei ganoli ar stad dai enfawr Tallaght (ac mae'n enfawr - mae tua 100,000 o bobl yn byw ynddi) wedi pleidleisio NA o 65/35, tra bod y tair etholaeth ddosbarth canol sy'n ei ffinio - Dublin South (63/37), Dublin South East (62/38) a Dun Laoghaire (63.5/36.5)- wedi cynhyrchu'r mwyafrifoedd mwyaf i IA yn y wladwriaeth.

Ar yr ochr arall y wlad mae arch geidwadwyr cymdeithasol mewn lleoedd fel Donegal SW (63/37) a Donegal North East wedi (65/35) wedi cynhyrchu mwyafrifoedd sylweddol i NA. Mae'r etholaethau yma ymhlith y lleoedd mwyaf ceidwadol yn Ewrop.

Mae'r cyfuniad hwn (gwledig ceidwadol a trefol dosbarth gweithiol) wedi rhoi sbocsan yn olwyn y prosiect Ewropiaidd cyn heddiw - yn refferendwm Nice 1 - ond mae'r patrwm yn gliriach y tro hwn.

Mewn materion lle mae canfyddiad o fygythiad i hunaniaeth gwleidyddol Iwerddon mae'r ddau grwp yn tueddu i ddod at ei gilydd. Mewn refferendwm ar gwestiynau megis ysgariad maent ar begynnau cwbl wahanol.

Mae hyn oll yn ddiddorol i mi oherwydd ei fod yn adlewyrchu hen batrwm yng ngwleidyddiaeth Iwerddon.. Yn ystod y rhyfel Eingl Wyddelig y cyfuniad yma o geidwadwyr gwledig a'r dosbarth gweithiol trefol oedd pwerdy'r gwrthryfel.

Felly hefyd yn y rhyfel diweddar yn y Gogledd - yn ardaloedd tai cyngor trefol ac ardaloedd gwledig iawn Armagh, Tyrone a De Derry oedd perfedd dir y mudiad gwereniaethol. Mae'r glymblaid genedlaetholgar Wyddelig wedi ei hadeiladu o elfennau gwahanol iawn.

Mae gwleidyddiaeth Cymru yn dra gwahanol. 'Dydi ceidwadiaeth cymdeithasol ddim yn ffrwd gref mewn syniadaeth gwleidyddol yng Nghymru, ac mae'r wleidyddiaeth a dyfodd o'r Chwyldro Diwydiannol ar Ynys Prydain wedi effeithio ar ein gwleidyddiaeth mewn ffordd sydd wedi clymu prif ffrwd gwleidyddiaeth dosbarth gweithiol Cymru i Loegr.

Mae lle i gredu bod pethau'n newid yng Nghymru serch hynny. Fel rydym wedi ystyried o'r blaen mae'r ymdeimlad o genedligrwydd Cymreig ar ei gryfaf yn rhai o ardaloedd tlotaf y wlad, ac mae pleidlais y Blaid Lafur wedi chwalu i raddau helaeth yn rhai o'r ardaloedd hynny. Y blaid Lafur ydi'r prif ffactor sydd wedi clymu ein gwleidyddiaeth mor glos i un Lloegr.

Enillwyd refferendwm 97 trwy greu clymblaid dros dro rhwng elfennau 'Cymreig' ar y Maes Glo a chenedlaetholwyr mwy traddodiadol yn y Gorllewin. Mae yna rhywbeth tebyg rhwng hyn a'r glymblaid a chwalodd Lisbon yn yr Iwerddon ddoe.

Mae modd gwthio hyn yn rhy bell - fel nodwyd uchod mae gwahaniaethau sylfaenol yng ngwleidyddiaeth y ddwy wlad. Ond os oes yna wers i ni i'w dysgu hon ydi hi - Os ydi Cymru byth am ddatblygu i fod yn wladwriaeth go iawn, bydd rhaid i'r wladwriaeth honno gael ei hadeiladu ar glymblaid o elfennau cymdeithasegol gwahanol - a dyna pam bod rhaid i genedlaetholdeb Cymreig fod yn eangfrydig ac yn gynhwysol o ran ei natur.

Bu fy hen gyfaill, Steff Owen mor garedig a thynnu fy sylw at fapiau twt, hawdd i'w copio yn dangos y canlyniadau. Felly dwi'n tynnu'r ffigyrau bler a rhoi'r mapiau yn eu lle.



No comments: