Monday, June 16, 2008

Alun Cairns - gwaeth na Hitler

Ymddengys bod Alun Cairns yn y cachu

Ymddengys bod yr athrylith gwleidyddol Wayne David a lwyddodd i golli'r Rhondda i Lafur a

Stori bach gwirioneddol chwydlyd.

Mae greasy wop yn wir yn derm sarhaus sy'n cael ei ddefnyddio i ddi raddio Eidalwyr.

Mae gan yr iaith Saesneg gyfoeth o dermau tebyg sy'n cael eu defnyddio i sarhau trigolion gwahanol wledydd eraill, yn union fel mae gan yr Esgimo dorreth o eiriau i ddisgrifio gwahanol fathau o eira. Mae'r Esgimo yn dod i gysylltiad a phob math o eira, felly mae angen geirfa eang. Roedd gan y Saeson lawer o elynion, felly roedd angen geirfa eang a phriodol i'w disgrifio a'i gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd.

'Dwi'n digwydd bod (jest) ddigon hen i gofio sut oedd pethau cyn i Saeson ddechrau teimlo cywilydd ynglyn a'u holl hanes. Roedd y comics yr oeddwn i'n eu darllen fel plentyn yn llawn cyfeiriadau at square headed krauts, slit eyed Japs, greasy wops, filthy frogs ac ati ac ati.

Roedd llyfrau plant megis Rupert the Bear yn llawn cyfeiriadau dilornus at dramorwyr o bob math. Mae unrhyw un sydd ag adnabyddiaeth mwyaf arwynebol o bapurau newydd Fictorianaidd yn gwybod o'r gorau bod cyfeiriadau hollol ddi hid at bobl o hiliau gwahanol yn ddigon a codi gwallt darllenwr modern.

Mae rheswm am hyn - roedd ideoleg y byddem heddiw yn ei disgrifio fel un hiliol wrth wraidd y ffordd yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn cael ei chyfiawnhau ar lefel deallusol.

Mae'r hyn a ddywedodd Alun Cairns wedi ei wreiddio mewn hen naratif - naratif sy'n effeitho ar y ffordd yr ydym oll yn edrych ar y Byd - yn Gymry yn ogystal a Saeson. Mae'n rhan o'n hetifeddiaeth fel petai.

'Dydi cael sterics torfol pob tro mae yna rhyw dwll bach yn ymddangos yn y llen tenau sy'n cuddio'r hen feddylfrydau mae ein byd wedi ei wreiddio ynddo ddim yn ffordd aeddfed o ddelio efo'r pethau sy'n ein gwneud yr hyn yr ydym.

Mae'r ymateb hysteraidd hunan gyfiawn, hunan fodlon, ffug santaidd yr ydym wedi ei gael tros y dyddiau diwethaf gan lympiau o wleidyddion diwerth fel Wayne David a'r erchyll, anymunol Alun Davies yn agwedd neilltuol o anymunol i'r holl beth.

Mae honiad Alun Davies bod yr hyn a ddywedodd Alun Cairns yn arwydd o rhyw hiliaeth sy'n neilltuol i'r Blaid Geidwadol yn esiampl wych o wleidydd bach dwl, deallusol ddiog yn cymryd mantais o'r hysteria sydd wedi ei wreiddio yn ein diffyg gallu i ddeall a delio efo ein cefndir i sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad a di ymdrech ar ei ran ei hun.

Mae ymateb ufudd, cachgiaidd y Blaid Geidwadol yn gywilydd arnyn nhw hefyd.

Mi wnaeth Alun Cairns gamgymeriad gwirion. Mae'r hyn sydd y tu ol i'w gamgymeriad yn rhywbeth sy'n rhan ohonom oll. Ceir agweddau llawer mwy maleisus a chignoeth tuag at dramorwyr mewn bywyd pob dydd - mae gwneud hw ha mawr o hyn yn ffordd ddi gost o bellau ein hunain oddi wrth hynny.

Byddai wedi bod yn hen ddigon petai Cairns wedi ymddiheuro a dweud bod ei sylwadau yn gamgymeriad ac yn annerbyniol.

Mae'r llabuddio defodol yn gwbl chwydlyd a llwfr.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Fy hoff lyfrau pan oeddwn yn blentyn oedd y Famous Five a'r Secret Seven, plantos oedd yn gwybod yn iawn sut i ddelio a Wops, Jerrys, Taffy's a phob math o estroniaid eraill – er gwell er gwaeth, maent yn rhan o'm diwylliant!

Diwylliant rwy'n ceisio cefnu arno, ond yn rhan o'r cefndir sy'n dod allan yn anfwriadol achlysurol - megis yn achos Alun ar Ddau o'r Bae!

Cwlcymro said...

Does gan esgimo ddim mwy o eiria am eira na y Saeson!