Merthyr Tudful a Rhymni. Llafur yn colli 9 ac yn syrthio o 17 i 8
Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill 6 ac yn mynd o sero i 6. Mae ganddynt bron cymaint o seddi na’r Blaid Lafur. Eraill yn ennill 3 ac yn mynd o 16 i 19.
Trychineb etholiadol i Lafur. Hwyrach mai hwn ydi’r perfformiad salaf yng Nghymru ganddynt – ac mae hynny’n dweud cryn dipyn.
Serch hynny, mae ganddynt oruwchafiaeth o 46% yn yr etholiadau San Steffan. Mae’n bosibl y bydd gogwydd sylweddol yn eu herbyn – yr uchaf yng Nghymru efallai – ond go brin y gall Llafur golli’r sedd.
Mae mwyafrif Llafur yn llai o lawer yn y Cynulliad, gyda Huw Lewis – 37% tros y Democratiaid Rhyddfrydol – cwymp anferthol o 23%. Serch hynny gan fod gweddill y bleidlais wedi ei rhannu’n weddol agos rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru ac Annibynnol. Iddynt golli byddai’n rhaid wrth ogwydd ychwanegol yn eu herbyn o tua 11%. Mae’n sicr yn bosibl, ond fyddwn i ddim yn disgwyl gogwydd felly ddwy waith o’r bron. Os byddant yn ei cholli, y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn elwa.
Caerffili: Doedd yr etholiadau lleol ddim yn dda o gwbl i Lafur yma chwaith, ond roeddynt yn well nag ym Merthyr. Collodd Llafur naw sedd a rheolaeth o’r cyngor. Enilliodd y Blaid 6 ac Annibynnol 3.
Mae’r sir wedi ei rhannu yn ddwy sedd seneddol – Caerffili ac Islwyn. Mae Islwyn yn yr hen Went, a byddwn yn edrych ar honno yn y dyfodol agos.
Yn yr etholiadau San Steffan mae gan Llafur bron i 40% o oruwchafiaeth. Anaml iawn, iawn y ceir gogwydd o 20% mewn etholiad cyffredinol, a fydd yna’r un y tro hwn chwaith. Llafur i ennill, a phethau’n agos o bosibl rhwng Plaid Cymru a’r Toriaid ynglyn a phwy ddaw’n ail (os ydi Ron Davies yn sefyll yn Annibynnol gallai yntau ddod yn ail). Yr unig beth a allai wneud pethau’n ddiddorol fyddai petai Ron Davies yn sefyll yn enw’r Blaid - Dydi hyn ddim yn amhosibl – wedi’r cwbl mae’n rhan o’r glymblaid sy’n rheoli, ac mae ei wraig yn gynghorydd Plaid Cymru mewn ward gyfagos i’w un o.
Mae pethau’n debygol o fod yn nes o lawer yn yr etholiadau Cynulliad. Llai na 35% o’r bleidlais a gafodd Jeff Cuthbert, gyda’r Blaid ar 26% a Ron Davies ar 22%. Pen a byddai Ron wedi sefyll, mae’n debyg mai Llafur fyddai wedi ennill beth bynnag – y nhw ddaeth ar y blaen yn yr etholiad ranbarthol yng Nghaerffili. Gallai’r sedd yn hawdd syrthio – ac os bydd yn syrthio, i Blaid Cymru bydd yn cwympo mae’n debyg.
Bro Morgannwg: Un sedd seneddol sydd yma. Wnaeth Llafur ddim mor wael a hynny yn yr etholiadau lleol, gan golli tair yn unig o’u 16 sedd. Collodd y Blaid 2 o’u with, enilliodd y Toriaid 5 i roi 25 iddynt (a rheolaeth o’r cyngor, ac enilliodd Annibynnol 3 gan roi cyfanswm o dair iddynt. 3.8% yw goruwchafiaeth Llafur yn San Steffan a 0.2% ar lefel Cynulliad. Ni does ganddynt unrhyw obaith o ddal y sedd yn y naill etholiad na’r llall yn y tirwedd gwleidyddol sydd ohoni – felly Alun Cairns yn mynd i Lundain a Jane Hutt i golli ei sedd.
Rhondda Cynon Taf: Gwnaeth Llafur yn gymharol dda yn y sir boblog yma. Er iddynt golli 13 sedd gan syrthio o 57 sedd i 44, meant yn rheoli’r cyngor yn eithaf hawdd o hyd. Y Blaid ddaeth yn ail gyda 20 sedd, death y Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd gyda 4, cafodd y Ceidwadwyr (ia – y Ceidwadwyr) 1 gydag Annibynnol yn cael 6.
Ceir tair sedd seneddol yma – Rhondda, Pontypridd a Chwm Cynon. Yn etholiad cyffredinol roedd gan Lafur fwyafrif o 52%, yn y gyntaf, 33% yn yr ail a 50% yn y trydydd. Plaid Cymru sy’n ail yn y Rhondda a Chwm Cynon, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhontypridd. Mae’r mwyafrifoedd yn anferth yng Nghynon a’r Rhondda ac yn uchel ym Mhontypridd. Go brin y bydd unrhyw un o’r tair yn newid dwylo – er gallai’r mwyafrif ym Mhontypridd yn hawdd fod yn is na 20%. Serch hynny llwyddodd Plaid Cymru i gipio’r Rhondda yn etholiadau’r Cynulliad yn 1998, ond mae Llafur wedi gwneud job o waith yn lleol ers hynny.
Mae’r mwyafrifoedd yn 29% a 28% yng Nghynon a Rhondda yn y Cynulliad. Bydd hyn yn hen ddigon i gadw’r ddwy sedd. 14% ydi mwyafrif Llafur tros y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhontypridd, ond dylai hyn hefyd fod yn ddigon – anaml y bydd y blaid honno’n gwneud yn fawr o’u cyfle mewn etholiad Cynulliad.
Gwnaeth Llafur yn dda hefyd yng Nghastell Nedd Port Talbot gan gynyddu eu seddi o un i 37. Cynyddodd Plaid Cymru eu seddau hwythau o 1 i 11. Dyblodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu haelodaeth i bedair, aeth y Trethdalwyr i lawr chwech i dair a naw a gafodd annibynnol – dau mwy nag o’r blaen. Felly mae gennym batrwm unigryw yma – pob plaid yn elwa o danchwa’r Trethdalwyr.
Ceir dwy sedd yma – Aberafon a Chastell Nedd. Ar lefel San Steffan mae’r ddwy yn saff gyda mwyafrifoedd o 46% a 35%.
Yn y Cynulliad mae Aberafon yn saff i Lafur gyda mwyafrif o 32%, ond 8% yn unig ydi’r mwyafrif yng Nghastell Nedd. Plaid Cymru sy’n ail – a rwy’n rhagweld y bydd Plaid yn ei chipio – yn arbennig os mai Alun Llywelyn ydi ymgeisydd y Blaid, a Gwenda ydi ymgeisydd Llafur.
Penybont: Gwnaeth Llafur yn arbennig o dda o dan yr amgylchiadau yma gan gynyddu eu seddi o 5 i 27 – union hanner seddi’r cyngor. Cadwodd Plaid eu un sedd tra aeth y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr 2 i 11, y Toriaid i lawr o 1 i 6 ac Annibynnol i lawr 2 i 9.
Ceir dwy sedd seneddol – Pen y Bont ac Ogwr. Mae Ogwr yn gwbl saff i Lafur ar lefel Cynulliad a San Steffan – gyda 45% o fwyafrif yn y naill a 35% yn y llall. Mae sedd Pen y Bont yn fwy diddorol – ac mae wedi cael aelod seneddol Toriaidd yn y gorffennol cymharol agos. 17% o fwyafrif sydd ganddynt ar lefel San Steffan a 10% yn y Cynulliad. Fel y dywedais, gwnaeth Llafur yn gymharol dda yma yn yr etholiadau lleol diweddar, felly ‘dwi’n meddwl ei bod yn bosibl y bydd Llafur yn dal y sedd o fymryn ar lefel San Steffan, er gwaethaf tueddiadau mwy cyffredinol - ond fyddwn i ddim yn betio'r ty ar y peth - mewn etholiadau San Steffan bydd grymoedd 'cenedlaethol' yn aml yn goresgyn rhai lleol. 'Dwi'n meddwl y gall Carwyn Jones ddal ei sedd yn y Cynulliad - o drwch blewyn.
No comments:
Post a Comment