Tuesday, April 17, 2007

Pam bod Plaid Cymru yn gwneud yn well mewn etholiadau Cynulliad?

'Dwi'n gwybod fy mod wedi gaddo gwneud rhywbeth arall, ac fe wnaf hynny maes o law - ond hyd yr etholiad fe geisiaf 'sgwennu gair neu ddau yn ddyddiol.

I roi fy nghardiau ar y bwrdd cyn cychwyn, 'dwi'n aelod o Blaid Cymru, 'dwi'n canfasio yn aml i'r blaid honno - yn ardal Caernarfon fel rheol, a 'dwi'n gadeirydd y Blaid yn nhref Caernarfon ar hyn o bryd. Cangen fwyaf Cymru fel mae'n digwydd bod.

Beth bynnag, at y cwestiwn - mae pawb yn gwybod bod y Blaid yn gwneud yn gymharol dda mewn etholiadau Cynulliad, ond ychydig o bobl sy'n deall pam. Yn fy marn i mae pedwar prif reswm am hyn:

(1) Mae pobl yn tueddu i resymu'n gwahanol mewn etholiad Cymru gyfan - dydi'r hen ddadl bod pleidlais i'r Blaid yn wastraff o bleidlais ddim yn dal dwr.

(2) Mae'r gyfradd pleidleisio yn is nag yw mewn etholiad San Steffan - ac mae Pleidwyr yn well am fynd allan i bleidleisio na dilynwyr y pleidiau Prydeinig - yn arbennig mewn etholiad Gymreig.

(3) Mae'r sylw a gaiff y pleidiau ar y cyfryngau yn weddol gyfartal.

(4) Ac yn bwysicach na dim efallai mae'r gwariant yn fwy cyfartal. Mae'r pleidiau Prydeinig yn fodlon gwario llawer iawn, iawn ar etholiadau San Steffan - ond nid ydynt yn fodlon gwario yn agos cymaint ar etholiadau Cymreig. Ystyrier y ffigyrau hyn sy'n dangos faint a wariwyd gan pob plaid fawr yng Nghymru yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf (2005):

Llafur - £1,075,470.00
Torïaid - £845,015.71
Dem Rhydd - £258,115.00
Plaid - £38,879.00

Yn anhygoel gwariodd y Toriaid £280,000 am pob un o'i tair sedd yng Nghymru.

Ffordd arall i edrych ar hyn ydi faint mae pob plaid yn ei wario y bleidlais. Dyma'r ffigyrau tros Brydain yn 2005:

Llafur: £1.90
Toriaid: £2.03
Lib Dems: 72p
SNP: 47p
Plaid Cymru: 22p
UKIP: £1.07
Plaid Werdd: 62p
BNP: 58p

Felly, mae'n dda gen i ddweud - y blaid ydi'r Blaid mwyaf cost effeithiol ym Mhrydain - mewn etholiadau o leiaf.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Ffigyrau diddorol dros ben, dwi'n cofio clywed ffigyrau tebyg am £/y bleidlais y gwahanol bleidiau yn is-etholiadau Blaenau Gwent.

O ble cefais di'r ffygyrau hyn, oes dolen i'w gael?

Unknown said...

Rhys: mae trafodaeth ar y maes ynglŷn â hyn; hefyd gweler y stori wreiddiol ar wefan newyddion y BBC.

Alwyn ap Huw said...

Yng nghyffiniau arfordir y gogledd yma mae nifer o bobl yn teimlo eu bod wedi eu dieithrio fwy oddi wrth y Cynulliad nag ydynt oddi wrth San Steffan, gan hynny mae pleidleisio i blaid leol yn bwysicach iddynt mewn etholiad Cynulliad. Er mae Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf brwdfrydig dros ddatganoli a mwyaf cefnogol i'r Cynulliad, hi hefyd yw'r blaid fwyaf lleol. Mae yna rywbeth paradocsaidd bron yn perthyn i gefnogaeth i'r Balid yn ystod etholiadau'r cynulliad, yma.