Ac yma yn Arfon mae Llafur yn ymladd yr ymgyrch mwyaf negyddol y gallaf ei chofio sydd wedi ei seilio i raddau helaeth ar stwff o'r gorffennol pell, stwff cwbl amherthnasol i'r etholiad neu stwff maent wedi eu wneud i fyny.
Monday, May 04, 2015
Ydi Martin (Eaglestone) yn byw yn yr un Bydysawd a phawb arall?
O diar, Llafur yn meddwl bod pleidiau eraill yn ymladd yn negyddol.
A llongyfarchiadau i Hywel _ _
_ _ am ennill pleidlais Enlli.
Bechod y bydd rhaid iddo ddisgwyl deunaw mlynedd nes y bydd ddigon hen i fwrw pleidlais.
Llongyfarchiadau i _ _
_ _ Owen Smith am wneud y fath argraff ar bobl Cymru fel Gweinidog Cymreig Cysgodol. Ymddengys bod cymaint ag 1% yn meddwm mai fo ydi'r boi i sefyll tros Gymru - 1% yn well na'r hyfryd Pippa Bartolotti.
Roedd sgor Leanne yn llawer uwch nag un Owen, Carwyn a Miliband efo'i gilydd.
Poster y diwrmod
Poster y Blaid Werdd yn Riverside, Caerdydd. Swmiwch i mewn i weld y sgwennu bach.
Ymddengys bod Gwyrddion Gorllewin Caerdydd mor blentynaidd a Llafur Arfon.
Cystadleuaeth yr etholiad
Cystadleuaeth bach o ran hwyl. Beth mae'r llwynog yn ei ofyn i Alun Pugh? Dim gwobr mae gen i ofn - dim ond y clod. Gadewch eich awgrymiadau ar y dudalen sylwadau - neu ar trydar gan dabio @OlafCaiLarsen
Mi gychwynaf i efo un:
Faint o lwynogod bach ddaru eich plaid eu lladd yn ddamweiniol wrth drio lladd pobl yn Iraq ac Afghanistan?
Sunday, May 03, 2015
Pam bod y Blaid Lafur fel ag y mae hi?
Mae tynnu sylw at anonestrwydd sylfaenol yn naratifau gwleidyddol gwleidyddion Llafur yn rhywbeth sydd wedi datblygu i fod yn un o themau mwyaf cyffredin y blog yma. Son ydw i am ymdrechion mynych gwleidyddion Llafur i gamarwain - neu a bod yn blaen - ddweud celwydd wrth yr etholwyr. Mae'r blog yma wedi edrych ar ddwsinau o achlysuron yn y gorffennol ar gelwydd bwriadol gan wleidyddion Llafur - ac yn ddi amau byddwn yn edrych ar gelwydd tebyg yn y dyfodol hefyd.
Rwan mae'n ddiddorol nad ydi gwleidyddion Llafur yn teimlo unrhyw chwithdod ynglyn a dweud celwydd cwbl fwriadol. Dydyn nhw ddim yn teimlo unrhyw chwithdod chwaith ynglyn a gwrthod cyfaddef nad ydi'r wybodaeth maent yn ei gwyntyllu yn gywir, nag ynglyn a gwneud pob dim o fewn eu gallu i ateb cwestiynau'r etholwyr ynglyn a'u hamrywiol honiadau.
Rwan dwi'n gwybod bod pob plaid yn troelli - ond yn fy mhrofiad i does yna'r un mor barod i ddweud celwydd noeth na'r Blaid Lafur. Rhywbeth sy'n mynd law yn llaw a hyn ydi obsesiwn Llafur efo moesoli. Mae'r cysyniad bod y Blaid Lafur yn blaid sylfaenol foesol tra bod y pleidiau eraill yn sylfaenol anfoesol yn rhywbeth sydd wedi gwreiddio ym meddylfryd y Blaid Lafur. Dyna pam maent byth a hefyd yn gweld agendas cudd i achosi pob math o ddrygioni gan bleidiau eraill. Dyna pam eu bod yn credu bod y Toriaid yn bobl anhygoel o ddrwg, a bod pob plaid arall yn Doriaid cudd.
Y tueddiad yn niwylliant Llafur i foesoli sy'n arwain at y celwydd yn y pen draw. Pan mae pobl yn meddwl eu bod yn fwy moesol na phawb eraill, yr hyn maent yn ei olygu mewn gwirionedd ydi bod eu hamcanion yn fwy moesol na rhai pawb arall. Canlyniad hynny yn ei dro ydi bod yr amcan yn cyfiawnhau'r dulliau o gyrraedd tuag ati. Os ydym yn ystyried ein hamcanion yn foesol uwchraddol, dydi dweud celwydd i ymgyraedd tuag atynt ddim yn edrych mor ddrwg.
Mae'n debyg bod y gwleidyddion Llafur hynny sy'n uwd o gelwydd yn eu bywydau proffesiynol yn bobl mor onest neu anonest ag unrhyw un arall yn eu bywydau personol. Diwylliant Llafur a'i thueddiad i foesoli sy'n creu gwleidyddion celwyddog.
Llafur watch 2014
Mae'r ysfa i wisgo i fyny fel anifeiliaid gwyllt yn gryf yn y Blaid Lafur y tro hwn. Llafur Caerffili yn ymgyrchu.
Llafur Watch 1013
O diar, mae'n ymddangos nad ydi pethau'n mynd yn dda i'r Blaid Lafur Llanelli. Dim byd o gwbl ar ol i'w gynnig ag eithrio ail gylchu'r un hen gelwydd trosodd a throsodd a throsodd.
Saturday, May 02, 2015
Delweddau'r diwrnod o Arfon
Leanne a Hywel ym Mangor, Caernarfon a Bethesda.
Rhag ofn eich bod eisiau gwybod pwy sydd yn y llun yn y gwaelod, criw o ymwelwyr o Ynys Manaw gafodd bas ar fws y Blaid o Fangor i Gaernarfon ar ddiwedd y dydd ydyn nhw.
Ymgyrch Llafur yn Arfon yn syrthio'n ddarnau
Rwan efallai fy mod i yn hen ffasiwn, ond dwi wedi ymwneud a rhyw etholiad neu'i gilydd trwy gydol fy mywyd fel oedolyn. Yn ystod yr amser hwnnw dwi'n rhyw feddwl fy mod wedi dod i ddeall rheolau sylfaenol ymladd etholiad cyffredinol yn weddol dda. Maen nhw'n sylfaenol syml.
1). Mae'r etholiadau cyffredinol yn ymwneud a materion economaidd - rhaid i pob neges sylfaenol ymwneud a materion bara menyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
2). Mae rhaid i naratif pleidiol mewn etholiad cyffredinol gysylltu a'r naratif ehangach. Mae hyn yn dod a ni'n ol i faterion economaidd.
3). Mae'n rhaid ymdrin a'r presennol - does yna ddim pwynt ymladd brwydrau'r gorffennol na'r dyfodol.
4). Mae'n rhaid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o'r adnoddau sydd ar gael.
5). Mae'n rhaid cadw ffocws tan y diwedd.
6). Mae'n hanfodol adnabod cefnogwyr a sicrhau eu bod yn pleidleisio ar y diwrnod.
Mae ymgyrch Llafur yn Arfon wedi llwyddo i dorri pob un o'r rheolau yna tros y dyddiau diwethaf. Ychydig iawn o adnoddau sydd ganddyn nhw ar lawr gwlad, ac mae hi'n benwythnos olaf ymgyrch etholiadol ffyrnig. Penderfynodd tim ymgyrchu Llafur mai'r ffordd orau o dreulio eu dydd Sadwrn olaf oedd trwy wisgo fel anifeiliaid gwyllt, a dilyn bws etholiadol y Blaid o gwmpas yr etholaeth. Felly tra'r oedd actifyddion y Blaid yn dosbarthu miloedd o daflenni, roedd tim ymgyrchol Llafur yn dawnsio mewn cylchfannau lle'r oedd y bws yn pasio.
Mae'n anodd bod yn siwr pam eu bod yn ymddwyn mewn modd mor bisar, ond fel strategaeth etholiadol roedd yn esiampl o idiotrwydd di glem o'r math gwaethaf. Duw a wyr pwy sy'n gyfrifol am eu hymgyrch, ond petai'n aelod o'r Blaid byddai wedi cael y sac yn syth oherwydd diffyg proffesiynoldeb a chrebwyll o sut i ymladd etholiad. Mae'n hanfodol i blaid wleidyddol ymddangos fel plaid ddifrifol a chyfoes, ac nid fel grwp pwyso ymylol. Mae'r Blaid wedi hen ddysgu'r wers honno.
Mae'n bosibl bod antics Llafur yn rhywbeth i'w wneud efo Deddf Hela, 2004 - neu o bosibl Deddf Atal Creulondeb i Anifeiliaid 1911 - pwy a wyr? Dydi'r naill ddeddf na'r llall yn ddim oll i'w wneud efo'r etholiad yma. Gwnaeth Plaid Lafur Arfon iddyn nhw eu hunain edrych fel grwp protest ymylol heddiw.
Subscribe to:
Posts (Atom)

























