Showing posts with label Neil McKevoy. Show all posts
Showing posts with label Neil McKevoy. Show all posts

Sunday, June 06, 2010

Ysgol Treganna - un gair bach olaf


Mae'r blogiad yma ynglyn a helynt Ysgol Treganna gan Neil McKevoy, arweinydd y Blaid ar Gyngor Caerdydd ar Waleshome.org a'r ymateb i'r blogiad hwnnw yn rhoi syniad go glir i ni o pa mor ymfflamychol a gwenwynig ydi'r mater yma yng Nghaerdydd.

Mae Simon Brooks yn ymddangos ar dudalen sylwadau'r blog i ofyn cwestiwn diddorol - ydi hi'n bosibl i rieni gael gwared o Cerys Furlong (un o dri chynghorydd Llafur Treganna) oddi ar fwrdd llywodraethu Ysgol Treganna?

Yn ol Simon does ganddi hi ddim cefnogaeth o du'r rhieni, ac mae wedi ei gyneirddiogi ei bod yn defnyddio ei statws fel cynrychiolydd ar ran yr Awdurdod Addysg Lleol ar fwrdd llywodraethu Ysgol Treganna i geisio cysylltu ei hun a'r ysgol mae'n gwneud pob dim o fewn ei gallu i'w thanseilio.



Gan mai cynrychioli'r AALl ac nid y rhieni mae Cerys mae'n anodd gweld bod yna ffordd uniongyrchol i rieni gael gwared o'r ddynas. Serch hynny mae mwy o gynrychiolwyr rhieni yn debygol o fod ar y bwrdd llywodraethol na sydd o gynrychiolwyr AALl. Gallai un neu fwy o'r rheiny ofyn i'r clerc roi eitem sy'n ymwneud a chynnig yn mynegi diffyg hyder ar ran y bwrdd yng ngallu Cerys i gynrychioli'r ysgol yn briodol. Yn sicr byddai yna ddadl dda iawn tros gario cynnig o'r fath - wedi'r cwbl mae'n rhan o ddyletswydd llywodraethwr i gefnogi ac hyrwyddo buddiannau'r ysgol mae'n llywodraethwr arno. Cynrychioli ac hyrwyddo buddiannau etholiadol y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerdydd ydi prif flaenoriaeth Cerys.

Ni fyddai cario cynnig o'r fath yn gorfodi Cerys i ymddiswyddo, ond byddai yn gwneud ei sefyllfa'n anodd. Byddai'n rhaid cael cynrychiolaeth ar ran yr AALl hyd yn oed petai yn ymddiswyddo wrth gwrs, a gallai un o'r ddau gynghorydd Llafur arall yn Nhreganna, Ramesh Patel neu Richard Cook gael eu cynnig. Mae'r cyntaf o'r rhain hyd yn oed yn llai addas na Cerys i fod yn llywodraethwr yn Nhreganna, a 'dydi Richard Cook ddim mymryn gwell na Cerys. Gellid pasio pleidlais o ddiffyg ymddiriedaeth yn y ddau yma yn eu tro a gwneud cais i'r tri chynghorydd ddewis rhywun sydd heb ei faeddu gan ddigwyddiadau'r dyddiau, ac yn wir y blynyddoedd diwethaf, i gynrychioli'r AALl ar fwrdd llywodraethol Ysgol Treganna.