Saturday, January 20, 2024

Hynt a Helynt y Pleidiau ers 2016 - Plaid Cymru

 Mae’r busnes o edrych yn ôl tros y blynyddoedd ers i’r blogio rheolaidd yma ddod i ben wedi cymryd mwy o amser nag oeddwn i wedi ei ragweld – ond rydan ni’n cyrraedd tua’r diwedd – ac wedi gwneud hynny byddwn yn dechrau ymateb i ddigwyddiadau cyfredol. 




Edrych ar hynt a helynt Plaid Cymru wnawn ni nesa’, Llafur wedyn a’r iaith Gymraeg wedyn.  Wedi gwneud hynny byddwn yn symud ymlaen i edrych ar faterion cyfredol.

Mae naratif wedi datblygu i’r cyfnod ar ôl 2016 fod yn un aflwyddiannus i’r Blaid yn etholiadol.  ‘Dydi hynny ddim yn dal dwr mewn gwirionedd.  Cafwyd pump etholiad yn ystod y cyfnod – dau etholiad cyffredinol, un etholiad Senedd Cymru ac etholiadau Cyngor ddwywaith.


 Er i’r bleidlais fynd i lawr yn yr etholiadau cyffredinol rhwng 2015 a 2019 aeth nifer seddi’r Blaid i fyny o 3 i 4 tros y cyfnod a llwyddwyd i beidio colli seddi yn wyneb yr ymchwydd Corbyn yn 2017 na’r fuddugoliaeth Doriaidd fawr yn 2019.  Yn wir  roedd y canlyniadau oddi mewn i’r amrediad cul iawn o ran y ganran o’r bleidlais mae’r Blaid wedi bod yn sicrhau dros y degawdau diwethaf – rhwng 9.9% a 14.3%  mewn etholiadau cyffredinol a rhwng 17.9% 21.2% mewn etholiadau Senedd Cymru.

 

Llwyddodd y Blaid i ethol mwy o gynghorwyr sir yn 2022 nag erioed o’r blaen ag eithrio 2017. Er bod cwymp bach  yn 2022 o gymharu a 2017, digolledwyd y Blaid am hynny wrth iddi ennill rheolaeth llwyr ar bedwar Cyngor – Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Yn ychwanegol cafodd ei hun yn rhan o’r glymblaid sy’n rheoli cynghorau Conwy, Dinbych, Penfro a Chastell Nedd Port Talbot. Cafwyd llwyddiant arwyddocaol o ran seddi a enillwyd yn Wrecsam hefyd. 


Cafwyd cwymp bach iawn yng nghanran y bleidlais yn etholiad Senedd Cymru yn 2021, ond enillwyd sedd yn ychwanegol.


Ond rhaid cyfaddef na symudodd y Blaid ymlaen yn etholiadol – yn hanesyddol anaml y bydd hynny yn digwydd pan nad yw Llafur mewn grym yn San Steffan. 

Serch hynny mae’r cytundeb efo Llywodraeth Cymru wedi caniatáu iddi ddylanwadu yn sylweddol ar bolisi llywodraethol ac felly ar natur cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol a bywyd Cymru yn y presennol.  Fel yn nyddiau Cymru’n Un mae crynswth y datblygiadau ddaeth o gydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi dod o gyfeiriad Plaid Cymru ac – yn wahanol iawn i’r Blaid Geidwadol -  mae felly wedi cael dylanwad sylweddol ar fywyd yng Nghymru.

Saturday, January 13, 2024

Hynt a Helynt y Pleidiau ers 2016 - Y Toriaid

 Pan ddaeth y blogio rheolaidd yma i ben, roedd y Blaid Doriaidd Gymreig yn ymylu ar fod yn eithaf call a rhesymol – ar adegau o leiaf.  Er mai Andrew RT Davies oedd yn arwain bryd hynny hefyd, ‘doedd o heb syrthio i lawr y twll cwningod Adain Dde mae’n cael ei hun ynddo bellach bryd hynny – er ei fod wedi gogwyddo tua’r Dde o’r dechrau’n deg.



Beth bynnag am hynny, bu’n rhaid iddo ymddiswyddo fel arweinydd yn 2018 yn dilyn ffrae a gododd pan ddaeth yn amlwg ei fod yn cuddio ei swyddfa oddi wrth ei etholwyr ac yn dilyn sbel o gynllwynio yn ei erbyn gan aelodau seneddol Toriaidd yn San Steffan.


Cymerwyd ei le gan Paul Davies, ond bu’n rhaid i hwnnw fynd yn ei dro oherwydd iddo fod yn rhan o ddigwyddiad a allasai fod yn groes i reolau covid – er iddo yn ddiweddarach gael ei ganfod yn ddieuog o dorri Cod Ymddygiad y Senedd.


Arweiniodd hyn at ail ymddangosiad Andrew RT Davies fel arweinydd – ond a hithau’n gyfnod  Johnsonaidd  ac ôl Johnsonaidd – dychwelodd ar ffurf Andrew ‘Blanket’ Davies gwawdlun ohono fo ei hun sy’n treulio cryn dipyn o amser hynod swnllyd ar wefannau cymdeithasol yn myllio, blagardio, ffraeo, camarwain a mynegi daliadau Adain Dde plentynnaidd.

 

Cafwyd dau etholiad cyffredinol ers 2016 – y naill yn 2017 a’r llall yn 2019.  Llwyddodd y Torïaid i gynyddu canran eu pleidlais yn y ddau etholiad, gan barhau efo’r record (eithaf anhygoel a bod yn onest) o gynyddu eu canran o’r bleidlais ym mhob etholiad ers trychineb 1997.  Yn y flwyddyn honno 19.6% yn unig o’r bleidlais a sicrhawyd ganddynt a ni chawsant gymaint ag un sedd.  Cafwyd 36.1% o’r bleidlais ac 14 sedd yn 2019. 


O ran etholiadau eraill roedd pethau’n fwy cymysg o lawer.  Dyblodd y blaid eu cynrychiolaeth ar gynghorau sir yn 2017, ond cafwyd cwymp sylweddol o ran seddi a phleidleisiau yn 2022.  Enillwyd 5 sedd ychwanegol yn etholiadau Senedd Cymru yn 2021 – ond roedd hynny ar draul y pleidiau Adain Dde eraill yn bennaf yn hytrach na Llafur. Ar ben hynny – a ‘dwi ddim yn gwybod faint o bobl sydd am gofio hyn – cawsant eu canlyniad etholiadol  gwaethaf erioed yn yr etholiad Senedd Ewrop rhyfedd hwnnw a gynhaliwyd yn 2019 – daethant yn 5ed, gan sicrhau 6.5% o’r bleidlais yn unig. 


A rŵan rydan ni’n lle rydan ni.  Pan enillodd Thatcher 14 sedd a 31% o’r bleidlais yn 1983 cymrodd 4 etholiad cyffredinol i’r Torïaid Cymreig golli’r cwbl.  Yn sgil anhrefn Brexit, Johnson, Truss a Sunak ac ati ac ati, os ydi’r polau Prydeinig yn cael eu gwireddu, bydd yn cymryd un etholiad yn unig iddyn nhw fynd o 14 sedd i nesaf peth i ddim – neu ddim.


Ac o ran Senedd Cymru?  Mae’r sefydliad yn bodoli ers 1999 – a ‘dydi’r Torïaid ddim wedi llwyddo i ddylanwadu dim oll ar ddeilliannau llywodraethu Cymru ers hynny. Dim. Zilch. ‘Dydi hynny ddim am newid yn y dyfodol agos na chanolig – ac yn wir ‘does yna ddim rheswm i gredu y byddant byth yn ymarfer unrhyw ddylanwad ar lywodraethiant Cymru.

Wednesday, January 10, 2024

Hynt a Helynt y Pleidiau yng Nghymru ers 2016 - y Pleidiau Adain Dde Eithafol

 Nid Llais Gwynedd yn unig a ddiflannodd o’r tir yn ystod absenoldeb Blogmenai - diflannodd nifer o bleidiau Adain Dde eraill o Senedd Cymru os nad o’r tir.   




Roedd UKIP wedi ennill 7 sedd yn Etholiadau’r Cynulliad 1996, ond - ddim yn gwbl annisgwyl - aeth hi’n ffradach yn ddigon buan. Roedd 5 o’r 7 aelod wedi ymddiswyddo o’r blaid erbyn mis Mai 2019 ac ymunodd 4 ohonyn nhw efo Grwp Brexit newydd.  


Pan ddaeth etholiad 2021 roedd 5 plaid unoliaethol Adain Dde neu boblyddol - UKIP, Abolish, Reform, y Christian Party a rhywbeth o’r enw’r No More Lockdowns Party.  


Er nad oedd perfformiad y pleidiau Adain Dde / Poblyddol  Prydeinig mor ddifrifol o wael a’r rhai Cymreig, roeddynt ymhell, bell o ennill cymaint ag un sedd.  Yn wir mae’n anhebygol y byddant wedi ennill sedd petai holl bleidleisiau’r 5 blaid wedi eu bwrw tros un blaid yn unig.


Bydd yn fwy anodd iddynt gael aelodau wedi eu hethol i Senedd Cymru yn 2026 - mae’r trothwy o dan y drefn newydd tua ddwywaith y trothwy o dan yr hen drefn.  


Felly mae’n dra anhebygol y cawn weld i ba raddau y byddai’r pleidiau Adain Dde / Poblyddol Prydeinig wedi cyd weithredu.  Maent yn anghytuno ar faterion cyfansoddiadol Cymreig a materion ieithyddol - ond mae llawer iawn yn gyffredin rhyngddyn nhw fel arall.  


Byddai gweld i ba raddau byddant wedi cyd weithio wedi bod yn ddiddorol iawn. 

Tuesday, January 09, 2024

Hynt a Helynt y Pleidiau Gwleidyddol yng Nghymru ers 2016 – Llais Gwynedd ac ati.

Mi gawn ni gip tros yr ychydig flogiadau nesaf ar hynt a helynt pleidiau gwleidyddol ers ymadawiad Blogmenai.  Llais Gwynedd a’r man bleidiau cenedlaetholgar - neu rhannol genedlaetholgar yn gyntaf.


Roedd Llais Gwynedd yn thema cyson ym Mlog Menai yn y gorffennol. Diflannodd o’r tir yn ystod absenoldeb y blog, rhywbeth sy’n digwydd yn ddi eithriad yn hwyr neu’n hwyrach i’r pleidiau bach cenedlaetholgar - neu rannol genedlaetholgar yn achos Llais Gwynedd - sy’n dod i fodolaeth o bryd i’w gilydd yng Nghymru.  Serch hynny daeth dwy blaid arall i fodolaeth – Propel a Gwlad. 





Hyd yn hyn mae eu perfformiadau etholiadol wedi bod yn drychinebus o wael gyda’r ddwy blaid yn cael llai nag 1% o’r bleidlais yr un yn etholiadau Senedd Cymru yn 2021.  ‘Doedd eu perfformiad fawr gwell yn etholiadau lleol 2022. 

Wedi dweud hynny mae’n debyg iddynt gael dylanwad arwyddocaol ar ganlyniad etholiad Senedd Cymru 2021.


 Er iddynt wneud yn wael iawn yng Ngogledd Cymru mae’n debygol iawn iddynt gymryd digon o bleidleisiau oddi ar Blaid Cymru i sicrhau mai Llafur ac nid Plaid Cymru gafodd y bedwerydd sedd ranbarthol yn y Gogledd a felly’n rhoi digon o seddi i Lafur reoli Cymru heb orfod cael cymorth gan blaid arall. 





Roedd Carrie Harper o fewn 21 pleidlais o gael y bedwerydd sedd i’r Blaid – roedd Propel a Gwlad wedi cael tua 1,600 pleidlais rhyngddynt  ar y rhestrau rhanbarthol.  Hen ddigon i roi grym llwyr i Lafur ym Mae Caerdydd.


Hyd y gwelaf, rhoi mwyafrif llwyr i Lafur ydi unig gyfraniad Propel a Gwlad i fywyd cyhoeddus Cymru i bob pwrpas. Mae’n annhebygol y bydd y naill blaid na’r llall efo ni am hir – ‘dydi pleidiau sydd efo’r lefelau mor isel sydd a sydd gan y ddwy blaid yma byth yn goroesi am hir – ond bydd eu cymorth i’r Blaid Lafur yn 2022 yn sicrhau ôl nodyn iddynt yn hanes gwleidyddol Cymru yn y dyfodol.

Saturday, January 06, 2024

Twf Diweddar Damcaniaethau Cynllwyn a’u Heffaith ar Wleidyddiaeth

 Ymlaen a ni at nodwedd ryfedd arall o’r tirwedd gwleidyddol newydd rydym yn cael ein hunain yn ei droedio - y bywyd newydd ddaeth i ran damcaniaethu cynllwyn – conspiracy theories yn ystod y cyfnod.

‘Does yna nemor ddim ynglŷn a hyn yn yr hen Flogmenai – ‘doedd yna ddim angen, prin bod y mater yn codi mewn gwleidyddiaeth. Serch hynny mae’n debygol iawn y bydd cryn son amdanynt yma yn y dyfodol.  Mae damcaniaethu cynllwyn bellach yn dylanwadu ar wleidyddiaeth ar sawl lefel, gan gynnwys gwleidyddiaeth leol.


Mae’r gau resymu sydd yn gyrru’r damcaniaethau hyn yn hen nodwedd o wleidyddiaeth y Dde eithafol, er nad yw wedi ei gyfyngu i’r rhan yna o’r sbectrwm gwleidyddol chwaith.  Ond hyd yn ddiweddar rhywbeth oedd yn nodweddu’r cyrion gwleidyddol oedd.  Mae bellach wedi ymestyn ymhell o’r cyrion.


Roedd y math yma o resymu yn un o’r ffactorau oedd tu ôl i’r bleidlais Trump a Brexit.  Ond yr hyn roddodd fywyd newydd go iawn i rai o’r damcaniaethau hurt yma, a thynnu pobl atynt o’r newydd oedd ymateb rhai carfannau o bobl i covid, y cyfnod clo a’r mesurau roedd rhaid i lywodraethau ar hyd a lled y Byd eu cymryd i amddiffyn eu dinasyddion oddi wrth y feirws. Nid oes angen dweud bod bodolaeth gwefannau cymdeithasol hefyd yn ffactor allweddol.






Mae’n debyg mai’r dair ddamcaniaeth sydd wedi ffynnu yn sgil covid ydi’r Great Replacement Theory, y Great Reset Theory a QAnon.


Damcaniaeth ydi’r Great Replacement  sydd wedi ei seilio ar y gred bod cynllwyn yn mynd rhagddo i gyfnewid poblogaethau gwyn Ewrop a’r UDA am bobl sydd ddim yn wyn o gyfandiroedd eraill.  Mae’r ddamcaniaeth yn amlwg yn hiliol yn ei hanfod.


Mae’r Great Reset Theory yn ddamcaniaeth sy’n hawlio bod cynllwyn ar waith  i ail osod cymdeithas mewn modd sy’n ffafrio gwahanol elitau, corfforaethau, llywodraethau  ac ati trwy amddifadu pawb arall o’u eiddo, rhyddid, arian ac ati. 


Mae’r ddamcaniaeth yma yn anwybyddu grymoedd economaidd sylfaenol (‘dydi poblogaeth sydd heb allu i wario ddim yn fanteisiol i gorfforaethau cyfalafol) ac yn drysu cyfalafiaeth am sosialaeth.


Er bod y ddamcaniaeth hon wedi tyfu yn ystod y cyfnod covid, ail wampiad ydi hi mewn gwirionedd o ddamcaniaeth arall – y New World Order – a dyfodd o gwahanol obsesiynau gwrth lywodraethol efengyliaeth Americanaidd, ond sydd mewn gwirionedd wedi benthyg llawer o syniadau o ddamcaniaethau cynllwyn o’r ddeunawfed ganrif.  Mae ffrwd gwrth semitaidd gref yn llifo trwy’r ddamcaniaeth hefyd.


Damcaniaeth wallgo sydd wedi tyfu o’r cwlt Trump ydi QAnon.  Mae’r ddamcaniaeth yn wrth semitaidd yn ei hanfod ac yn gofyn i’w dilynwyr gredu bod criw Satanaidd sy’n bwyta plant ac yn eu cam drin yn rhywiol yn rheoli’r Byd, a bod Trump am fynd i’r afael efo’r broblem a dienyddio’r holl ddrwg weithredwyr.


 ‘Doeddwn i heb fwriadu son am hon a bod yn onest gan mai rhywbeth Americanaidd ydi hi wedi bod hyd yn ddiweddar. Ond mae yna arwyddion ei bod yn dechrau angori yr ochr yma i’r Iwerydd, ac yn wir mewn gwleidyddiaeth leol.

Mae’r dair ddamcaniaeth wrth reswm yn nonsens llwyr a heb eu gwreiddio mewn realiti – rhywbeth sy’n wir am ddamcaniaethau cynllwyn fwy neu lai yn ddi eithriad – ond mae’r rhan fwyaf o’r gwahanol syniadau ffug sydd o gwmpas heddiw wedi eu gwreiddio yn un neu fwy o’r dair ddamcaniaeth, ac mae nhw’n ymddangos fwyfwy mewn gwleidyddiaeth genedlaethol a lleol.


Mae nifer o ragdybiaethau yn gyrru damcaniaethau cynllwyn gan gynnwys y canfyddiadau bod pob dim yn gysylltiedig, nad ydi pethau fel mae nhw’n ymddangos a bod grymoedd maleisus a chudd ar waith.  Mae’r patrwm hwn o feddwl yn caniatáu i’r sawl sy’n arddel y feddylfryd i weld cynllwyn ym mhob twll a chornel – ac yn bwysicach ym mhob newid bach neu fawr i gymdeithas neu bolisi cyhoeddus.


Felly mae damcaniaethau cynllwyn yn creu fframweithiau sy’n caniatáu i’r sawl sydd yn eu harddel gwestiynu neu herio unrhyw beth nad ydyn nhw’n reddfol yn eu hoffi – canlyniadau etholiad, newidiadau demograffig, camau i leihau llygredd neu allbynnau carbon, newidiadau mewn agweddau tuag at ryw a rhywioldeb, digiteiddio gwasanaethau neu arferion gwaith, datblygiadau technolegol eraill, newidiadau mewn polisi iechyd cyhoeddus, meddyginiaeth i ddelio efo haint, camau i sicrhau tegwch i grwpiau lleiafrifol neu grwpiau sy’n dioddef oherwydd rhagfarn ac ati ac ati.


Roedd damcaniaethau cynllwyn yn bodoli pan ddaeth y blogio rheolaidd yma i ben yn 2016 wrth gwrs, ond prin eu bod yn treiddio i wleidyddiaeth prif lif yr ochr yma i’r Iwerydd.  Mae hynny bellach wedi newid ac mae damcaniaethau cynllwyn yn gyforiog ar wefannau cymdeithasol ac yn dylanwadu ar wleidyddiaeth genedlaethol a lleol. 


Byddwn yn dychwelyd at y pwnc yma maes o law.

Thursday, January 04, 2024

Brexit a Gogledd Iwerddon

 Un o ganlyniadau eraill Brexit sydd ddim yn cael digon o sylw yr ochr yma i’r Mor Celtaidd – ond sydd yn cael sylw di ben draw yng Ngogledd Iwerddon - ydi’r effaith ar y berthynas rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU. 

Mae’n ffaith bod y broses Brexit wedi gwthio Gogledd Iwerddon ymhellach oddi wrth gweddill y DU nag yw wedi bod ers canrifoedd.  I’r graddau yna mae Brexit yn rhoi mwy o straen ar undod y DU mwy nag unrhyw beth arall ar hyn o bryd.  ‘Dydi hi ddim yn anodd egluro’r fecanwaith sy’n arwain at hyn.





Mae safonau gwahanol o ran nwyddau, trefniadau masnachu ac ati yn sicr o arwain at ffin eithaf caled rhwng yr endidau sy’n arddel safonau gwahanol. Os na wneir hyn mae nwyddau ac ati o’r endid sydd efo safonau is yn sicr o lygru marchnadoedd yr endid sydd a safonau uwch.  Mae hyn yn wir ym mhob ran o’r Byd.


Petai Gogledd Iwerddon yn ddrws cefn i nwyddau israddol gyrraedd yr  UE, byddai hynny’n fygythiad gwirioneddol i’r Farchnad Sengl. ‘Doedd yr UE erioed am gymaint ag ystyried hynny.  Felly oni bai bod y DU yn cytuno i ffin eithaf caled ni fyddai cytundeb erioed wedi dod i fodolaeth rhwng yr UE a’r DU – a byddai goblygiadau economaidd sylweddol i hynny.


Tra bod dealltwriaeth o hyn yn bodoli o’r cychwyn mae’n debyg bod rhagdybiaeth gan lawer o bobl oedd o blaid Brexit y byddai’r rhwystrau i fasnach yn cael eu gosod ar hyd ffin Gogledd Iwerddon / Gweriniaeth Iwerddon.  ‘Doedd hynny erioed am ddigwydd mewn gwirionedd. Mae sawl rheswm am hyn. 


Yn gyntaf byddai ffin ar dir mawr Iwerddon yn broblem sylweddol i’r Weriniaeth (ac i’r Gogledd wrth gwrs) a ‘doedd yr UE erioed am flaenoriaethau’r DU dros y Weriniaeth. ‘Dydi’r UE ddim yn blaenori gwledydd sydd ddim yn aelodau ar draul rhai sydd yn aelodau.


Yn ail ni fyddai’n  bosibl plismona ffin sydd a 300 a mwy o leoliadau croesi. ‘Doedd hi ddim yn bosibl selio ffin Gogledd Iwerddon pan oedd degau o filoedd o filwyr ac is adeiledd milwrol enfawr yn ceisio gwneud hynny a phan roedd y fyddin Brydeinig wedi chwythu i fyny 90% o’r ffyrdd oedd yn croesi’r ffin.


Yn drydydd roedd mwyafrif clir o boblogaeth Gogledd Iwerddon yn erbyn gadael y DU (ac roedd mwyafrif mwy ohonynt o blaid y protocol ac mae mwyafrif tebyg o blaid Fframwaith Windsor gyda llaw). 


Nid yn aml mae pleidiau unolaethol yng Ngogledd Iwerddon yn gywir am unrhyw fater o gwbl, ond mae hyd yn oed cloc wedi stopio yn gywir ddwywaith y diwrnod.  Mae eu canfyddiad bod y mesurau i reoli symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU yn fygythiad sylweddol i undod y DU yn gwbl gywir. Mae’r trefniadau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn gosod Gogledd Iwerddon ar lwybr economaidd cwbl wahanol i weddill y DU, ac mae goblygiadau pellgyrhaeddol am fod i hynny.  


Nid bod y DUP, TUV ac ati yn haeddu unrhyw gydymdeimlad wrth gwrs – gwthio am y Brexit caletaf bosibl wnaethon nhw hyd iddyn nhw weld (yn hwyr iawn) y canlyniadau anhepgor i Ogledd Iwerddon – canlyniadau oedd mewn gwirionedd yn anhepgor o’r dechrau’n deg.

Monday, January 01, 2024

Dau ddigwyddiad gwleidyddol enfawr 2016

 Fel soniais ddoe bydd y blogio tros yr wythnos neu ddwy nesaf yn edrych ar y newidiadau gwleidyddol sylweddol rhwng 2016 a rŵan – ac roedd 2016 yn goblyn o flwyddyn wleidyddol. 

Roedd dau ddigwyddiad gwleidyddol mawr, annisgwyl a phellgyrhaeddol yn ystod 2016 – refferendwm Brexit ac ethol Trump yn arlywydd yr UDA. 


Roedd y ddau benderfyniad democrataidd yn gamgymeriadau sylweddol, ond roeddynt wedi eu seilio ar ragdybiaethau digon tebyg – canfyddiad bod gormod o fewnfudo i’r ddwy wladwriaeth, cred nad ydi’r system ariannol ryngwladol yn gweithio er budd niferoedd sylweddol o bobl, anniddigrwydd ymhlith pobl canol oed a hyn na hynny ynglŷn a newidiadau cymdeithasol eithaf mawr sy’n mynd rhagddynt yn Byd Gorllewinol a chanfyddiad sydd ymhlyg yn niwylliant  gwleidyddol y ddwy wlad eu bod yn wledydd unigryw a felly nad ydynt angen dilyn yr un rheolau a gwledydd eraill a nad ydynt angen cydweithredu efo gwledydd eraill chwaith – exceptionalism. 





Roedd y ddau benderfyniad wedi eu seilio ar addewidion o ddatrysiadau syml i broblemau cymhleth, ac roedd y datrysiadau hynny’n aml  yn tynnu’n groes i egwyddorion economaidd sylfaenol, ac yn wir i’r ffordd mae’r Byd yn gweithio. Ond roedd y datrysiadau yn syml ac roeddynt yn cael eu gwthio gan gyfryngau prif lif dylanwadol iawn oedd (a sydd) yn hollol hapus i wthio  naratifau nad oeddynt wedi ei seilio ar ffeithiau.


Mae’r canlyniadau wedi bod yn drychinebus, ac mae llawer o ynni gwleidyddol y ddwy wladwriaeth wedi ei losgi wrth i’w systemau gwleidyddol, ariannol a chyfreithiol geisio delio efo canlyniadau’r penderfyniadau ers hynny.  Mae hynny yn debygol o barhau i’r dyfodol canolig os nad y tu hwnt i hynny. Mae’r penderfyniadau a wnaed – ynghyd a’r cyfnod Covid wedi effeithio’n sylweddol iawn ar ein gwleidyddiaeth ni heddiw.


O edrych ar bethau yng nghyd destun gwleidyddiaeth y DU yn benodol mae’r goblygiadau wedi bod yn hynod bell gyrhaeddol.





Enillodd y Blaid Doriaidd  ddau etholiad cyffredinol – y naill o drwch blewyn a’r llall efo mwyafrif anferth. Mae hefyd werth nodi y cafwyd cyflafan o aelodau seneddol cymharol synhwyrol y Blaid Doriaidd cyn etholiad 2019.   


Mae’r hyn a ddilynodd etholiad 2019 wedi bod yn syfrdanol. Ers 2016 mae’r DU wedi mynd trwy 5 Prif Weinidog, 6 Ysgrifennydd Cartref (gan gynnwys Braverman ddwywaith), 6 Ysgrifennydd Tramor a 6 Canghellor y Trysorlys. Mae’r blaid hefyd wedi colli’r rhan fwyaf o’i hygrededd ac yn polio 15% i 20% yn is nag oeddynt yn 2019.  O’i wireddu mewn Etholiad Cyffredinol byddai hynny’n arwain at golli’r rhan fwyaf o’u haelodau seneddol, a hynny o ddigon. 


Gwaddol arall ddaeth yn sgil Brexit oedd niwed sylweddol i’r economi yn arbennig felly yng nghyd destun masnach ryngwladol, chwyddiant, buddsoddiad, y farchnad stoc  a thwf economaidd. Masnach ryngwladol ydi conglfaen twf economaidd y rhan fwyaf o wledydd, ac yn sicr rhai o faint cymedrol fel y DU, ac mae codi rhwystrau i fasnachu (fel mae Brexit yn ei wneud) yn rhwym o gael effaith economaidd negyddol. Wnaeth y cyfnod Covid ddim helpu wrth gwrs, ond mae perfformiad  economaidd y DU yn sylweddol waeth na pherfformiad gwledydd cyffelyb.


Mae niwed i’r economi wedi effeithio’n sylweddol ar wariant cyhoeddus, ar lefelau trethiant ac incwm real pobl ac mae hynny yn ei dro yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd fwy neu lai pawb yn y DU.


Ond fel arfer yn y DU ceir problemau ychwanegol – mae’r wlad yn anarferol yng nghyd destun Ewrop o ran yr anghyfartaledd economaidd strwythurol sy’n ei nodweddu. Gellir gweld yr anghyfartaledd hwnnw yn y boblogaeth yn ei chyfanrwydd ac yn rhanbarthol – gyda Chymru ymysg rhanbarthau tlotaf y DU wrth gwrs.  Ac ar ben hynny mae Cymru wedi colli cyfraniadau strwythurol yr UE.  Mae’n debyg bod Brexit wedi cael effaith mwy negyddol ar Gymru nag unman arall yn y DU. 


Y sefyllfa economaidd dywyll ydi un o’r prif resymau pam fod y Torïaid yn gwneud mor wael yn y polau ar hyn o bryd.  Gan nad ydi’r holl rwystrau i fasnach sy’n dod yn sgil Brexit wedi eu gweithredu eto, mae’r niwed i’r economi yn debygol o waethygu tros y blynyddoedd nesaf. Yr ymgais i ddelio efo hynny fydd prif ffocws llywodraethau’r DU tros y blynyddoedd nesaf.


‘Dydi safbwynt Llafur ar sefydlu perthynas nes – a mwy ffyniannus – efo’n cymdogion agosaf ddim yn sylfaenol wahanol i un y Toriaid (nag yn wir, safbwynt yr ERG).  Os ydym i gredu’r hyn mae Llafur yn ei ddweud maent yn erbyn ail ymuno efo’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau. 


A chymryd hynny mae posibilrwydd cryf y bydd Llafur yn cael eu hunain mewn llywodraeth – a hynny efo mwyafrif enfawr - yn ddiweddarach eleni, ond mai llywodraethu am un tymor yn unig fydd y blaid.  Fydd hi ddim yn bosibl mynd i’r afael efo’r problemau economaidd sylweddol mae Brexit wedi eu creu heb gydnabod bod y math o Brexit rydym wedi ei gael yn sylfaenol niweidiol i’r economi.