Mi gawn ni gip tros yr ychydig flogiadau nesaf ar hynt a helynt pleidiau gwleidyddol ers ymadawiad Blogmenai. Llais Gwynedd a’r man bleidiau cenedlaetholgar - neu rhannol genedlaetholgar yn gyntaf.
Roedd Llais Gwynedd yn thema cyson ym Mlog Menai yn y gorffennol. Diflannodd o’r tir yn ystod absenoldeb y blog, rhywbeth sy’n digwydd yn ddi eithriad yn hwyr neu’n hwyrach i’r pleidiau bach cenedlaetholgar - neu rannol genedlaetholgar yn achos Llais Gwynedd - sy’n dod i fodolaeth o bryd i’w gilydd yng Nghymru. Serch hynny daeth dwy blaid arall i fodolaeth – Propel a Gwlad.
Hyd yn hyn mae eu perfformiadau etholiadol wedi bod yn drychinebus o wael gyda’r ddwy blaid yn cael llai nag 1% o’r bleidlais yr un yn etholiadau Senedd Cymru yn 2021. ‘Doedd eu perfformiad fawr gwell yn etholiadau lleol 2022.
Wedi dweud hynny mae’n debyg iddynt gael dylanwad arwyddocaol ar ganlyniad etholiad Senedd Cymru 2021.
Er iddynt wneud yn wael iawn yng Ngogledd Cymru mae’n debygol iawn iddynt gymryd digon o bleidleisiau oddi ar Blaid Cymru i sicrhau mai Llafur ac nid Plaid Cymru gafodd y bedwerydd sedd ranbarthol yn y Gogledd a felly’n rhoi digon o seddi i Lafur reoli Cymru heb orfod cael cymorth gan blaid arall.
Roedd Carrie Harper o fewn 21 pleidlais o gael y bedwerydd sedd i’r Blaid – roedd Propel a Gwlad wedi cael tua 1,600 pleidlais rhyngddynt ar y rhestrau rhanbarthol. Hen ddigon i roi grym llwyr i Lafur ym Mae Caerdydd.
Hyd y gwelaf, rhoi mwyafrif llwyr i Lafur ydi unig gyfraniad Propel a Gwlad i fywyd cyhoeddus Cymru i bob pwrpas. Mae’n annhebygol y bydd y naill blaid na’r llall efo ni am hir – ‘dydi pleidiau sydd efo’r lefelau mor isel sydd a sydd gan y ddwy blaid yma byth yn goroesi am hir – ond bydd eu cymorth i’r Blaid Lafur yn 2022 yn sicrhau ôl nodyn iddynt yn hanes gwleidyddol Cymru yn y dyfodol.
No comments:
Post a Comment