Fel soniais ddoe bydd y blogio tros yr wythnos neu ddwy nesaf yn edrych ar y newidiadau gwleidyddol sylweddol rhwng 2016 a rŵan – ac roedd 2016 yn goblyn o flwyddyn wleidyddol.
Roedd dau ddigwyddiad gwleidyddol mawr, annisgwyl a phellgyrhaeddol yn ystod 2016 – refferendwm Brexit ac ethol Trump yn arlywydd yr UDA.
Roedd y ddau benderfyniad democrataidd yn gamgymeriadau sylweddol, ond roeddynt wedi eu seilio ar ragdybiaethau digon tebyg – canfyddiad bod gormod o fewnfudo i’r ddwy wladwriaeth, cred nad ydi’r system ariannol ryngwladol yn gweithio er budd niferoedd sylweddol o bobl, anniddigrwydd ymhlith pobl canol oed a hyn na hynny ynglŷn a newidiadau cymdeithasol eithaf mawr sy’n mynd rhagddynt yn Byd Gorllewinol a chanfyddiad sydd ymhlyg yn niwylliant gwleidyddol y ddwy wlad eu bod yn wledydd unigryw a felly nad ydynt angen dilyn yr un rheolau a gwledydd eraill a nad ydynt angen cydweithredu efo gwledydd eraill chwaith – exceptionalism.
Roedd y ddau benderfyniad wedi eu seilio ar addewidion o ddatrysiadau syml i broblemau cymhleth, ac roedd y datrysiadau hynny’n aml yn tynnu’n groes i egwyddorion economaidd sylfaenol, ac yn wir i’r ffordd mae’r Byd yn gweithio. Ond roedd y datrysiadau yn syml ac roeddynt yn cael eu gwthio gan gyfryngau prif lif dylanwadol iawn oedd (a sydd) yn hollol hapus i wthio naratifau nad oeddynt wedi ei seilio ar ffeithiau.
Mae’r canlyniadau wedi bod yn drychinebus, ac mae llawer o ynni gwleidyddol y ddwy wladwriaeth wedi ei losgi wrth i’w systemau gwleidyddol, ariannol a chyfreithiol geisio delio efo canlyniadau’r penderfyniadau ers hynny. Mae hynny yn debygol o barhau i’r dyfodol canolig os nad y tu hwnt i hynny. Mae’r penderfyniadau a wnaed – ynghyd a’r cyfnod Covid wedi effeithio’n sylweddol iawn ar ein gwleidyddiaeth ni heddiw.
O edrych ar bethau yng nghyd destun gwleidyddiaeth y DU yn benodol mae’r goblygiadau wedi bod yn hynod bell gyrhaeddol.
Enillodd y Blaid Doriaidd ddau etholiad cyffredinol – y naill o drwch blewyn a’r llall efo mwyafrif anferth. Mae hefyd werth nodi y cafwyd cyflafan o aelodau seneddol cymharol synhwyrol y Blaid Doriaidd cyn etholiad 2019.
Mae’r hyn a ddilynodd etholiad 2019 wedi bod yn syfrdanol. Ers 2016 mae’r DU wedi mynd trwy 5 Prif Weinidog, 6 Ysgrifennydd Cartref (gan gynnwys Braverman ddwywaith), 6 Ysgrifennydd Tramor a 6 Canghellor y Trysorlys. Mae’r blaid hefyd wedi colli’r rhan fwyaf o’i hygrededd ac yn polio 15% i 20% yn is nag oeddynt yn 2019. O’i wireddu mewn Etholiad Cyffredinol byddai hynny’n arwain at golli’r rhan fwyaf o’u haelodau seneddol, a hynny o ddigon.
Gwaddol arall ddaeth yn sgil Brexit oedd niwed sylweddol i’r economi yn arbennig felly yng nghyd destun masnach ryngwladol, chwyddiant, buddsoddiad, y farchnad stoc a thwf economaidd. Masnach ryngwladol ydi conglfaen twf economaidd y rhan fwyaf o wledydd, ac yn sicr rhai o faint cymedrol fel y DU, ac mae codi rhwystrau i fasnachu (fel mae Brexit yn ei wneud) yn rhwym o gael effaith economaidd negyddol. Wnaeth y cyfnod Covid ddim helpu wrth gwrs, ond mae perfformiad economaidd y DU yn sylweddol waeth na pherfformiad gwledydd cyffelyb.
Mae niwed i’r economi wedi effeithio’n sylweddol ar wariant cyhoeddus, ar lefelau trethiant ac incwm real pobl ac mae hynny yn ei dro yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd fwy neu lai pawb yn y DU.
Ond fel arfer yn y DU ceir problemau ychwanegol – mae’r wlad yn anarferol yng nghyd destun Ewrop o ran yr anghyfartaledd economaidd strwythurol sy’n ei nodweddu. Gellir gweld yr anghyfartaledd hwnnw yn y boblogaeth yn ei chyfanrwydd ac yn rhanbarthol – gyda Chymru ymysg rhanbarthau tlotaf y DU wrth gwrs. Ac ar ben hynny mae Cymru wedi colli cyfraniadau strwythurol yr UE. Mae’n debyg bod Brexit wedi cael effaith mwy negyddol ar Gymru nag unman arall yn y DU.
Y sefyllfa economaidd dywyll ydi un o’r prif resymau pam fod y Torïaid yn gwneud mor wael yn y polau ar hyn o bryd. Gan nad ydi’r holl rwystrau i fasnach sy’n dod yn sgil Brexit wedi eu gweithredu eto, mae’r niwed i’r economi yn debygol o waethygu tros y blynyddoedd nesaf. Yr ymgais i ddelio efo hynny fydd prif ffocws llywodraethau’r DU tros y blynyddoedd nesaf.
‘Dydi safbwynt Llafur ar sefydlu perthynas nes – a mwy ffyniannus – efo’n cymdogion agosaf ddim yn sylfaenol wahanol i un y Toriaid (nag yn wir, safbwynt yr ERG). Os ydym i gredu’r hyn mae Llafur yn ei ddweud maent yn erbyn ail ymuno efo’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.
A chymryd hynny mae posibilrwydd cryf y bydd Llafur yn cael eu hunain mewn llywodraeth – a hynny efo mwyafrif enfawr - yn ddiweddarach eleni, ond mai llywodraethu am un tymor yn unig fydd y blaid. Fydd hi ddim yn bosibl mynd i’r afael efo’r problemau economaidd sylweddol mae Brexit wedi eu creu heb gydnabod bod y math o Brexit rydym wedi ei gael yn sylfaenol niweidiol i’r economi.
No comments:
Post a Comment