Efallai y bydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio’r blogiad yma.
Dadl y blogiad oedd bod yr holl ddathlu pan ganiatawyd i’r DU fynd i gam 2 o’r trafodaethau Brexit efo’r DU yn anwybyddu un gwirionedd anghyfleus - y rheswm bod y DU wedi cael mynd ymlaen i gymal 2 oedd oherwydd ei bod wedi ildio i pob gorchymyn gan yr UE.
Aeth y blogiad yn ei flaen i ddadlau mai dyma fyddai patrwm yr holl drafodaethau - y DU yn gwneud synnau ynglyn a sefyll ei thir, llinellau coch ac ati, cyn dilyn cyfarwyddiadau’r UE yn ddof. Y rheswm am hyn ydi bod y DU angen cytundeb efo’r UE yn llawer, llawer mwy na mae’r UE angen cytundeb efo’r DU.
Ac mae yna ddathlu mawr wedi bod yr wythnos yma oherwydd y cytundeb ynglyn a’r cyfnod pontio. Ond - yr un yn union ydi’r patrwm wedi bod, efo’r DU yn taflu pob llinell goch o’r neilltu.
- Lleihau’r cyfnod pontio o ddwy flynedd i 21 mis
-Cynnwys cymal cosb am fethu â chydymffurfio â rheolau’r UE. Mae’r cymal yn berthnasol i’r DU ac nid i’r UE.
- Polisi Pysgodfeydd Cyffredin i barhau yn ystod y cyfnod pontio heb unrhyw gynnydd yng nghwota Y DU.
- Hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i barhau tros y cyfnod pontio
- Y ‘backstop’ ar gyfer Gogledd Iwerddon i ddigwydd os na cheir ffordd arall o atal ffin galed yng Ngogledd Iwerddon.
- Cadarnhad bod Sbaen a’r gair olaf ynglyn ag unrhyw drefniadau sy’n ymwneud â Gibraltar.
No comments:
Post a Comment