Monday, March 05, 2018

Felixwatch

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod mai un o brif bwrpasau'r blog ydi egluro i bobl am beth mae'r Tori asgell dde eithafol, Felix Aubel yn ymddiheuro wedi iddo orfod  chwalu rhyw drydariad neu'i gilydd.  Beth bynnag dyma'r ymddiheuriad diweddaraf:

A dyma wrthrych yr ymddiheuriad.
  


I'r graddau bod yr 'ymddiheuriad' yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu mai ceisio mynegi ei hoffter o eira roedd yn hytrach na gwyntyllu honiad cyfangwbl ffug am fewnfudwyr i Loegr.

Barnwch chi - a barnwch pam y byddai rhywun eisiau gwasgaru honiad celwyddog am grwp mawr o bobl.

1 comment:

Anonymous said...

Tori eithaf prif lif ydi Felix Aubel, mae arnai ofn dweud. O sgwrsio a sawl aelod o'r Blaid Geidwadol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r mwyafrif llethol ohonynt yn arddel syniadau digon tebyg i rai Felix. Maent yn ddieithriad yn Unoliaethwyr rhonc ; maent yn frwd dros adael yr UE, ac mae atgasedd tuag at 'fforinars', a Mwslemiaid yn glefyd sy'n rhemp yn eu plith.

Felly, pam mae mwy nac un AC y Blaid yn yr wythnosau diwethaf wedi datgan bwriad o greu clymbaid hefo'r giwad asgell-dde eithafol yma at ol yr etholiad nesaf ?

Bobol bach! Cofiwch yr Arglwydd Penrhyn ! Cofiwch hanes Churchill yn anfon milwyr i'r cymoedd ! Cofiwch Dryweryn ! Cofiwch Magi Thatcher yn difetha economi Cymru yn yr 1980au !

Cofiwch ymgyrch y Toriaid i wrthwynebu sefydlu Cynulliad i Gymru ym 1979 ac ym 1997.

A'r wythnos diwethaf ymosodiad haerllug Janet Finch-Saunders ar gynghorau cymuned sy'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Clymblaid hefo'r Toriaid. Na!