Wednesday, March 21, 2018

Ah - y Toriaid Cymreig

Hmm - felly eithafwr adain dde gafodd ei ddal yn ceisio dechrau trafodaeth am ddychwelyd at yr erledigaeth o Iddewon a Mwslemiaid yn yr Oesoedd Canol efo eithafwr adain dde arall o Sweden sy’n cynrychioli’r Toriaid Cymreig ar Pawb a’i Farn ‘fory.  Dweud y cyfan rhywsut.





1 comment:

Anonymous said...

Y Toriaid. Mae gwir angen trafodaeth am natur a gwrthoedd y blaid hon, a thrafodaeth di flewyn at dafod gyda'r rhai o fewn rhengoedd y Blaid sydd yn dymuno gweithio hefo'r giwad yma.

Ers ei sefydlu Plaid Genedlaethol Lloegr fu hon. Plaid yr Undeb. Plaid y sefydliad Prydeinig. Plaid yr ymerodraeth. Plaid y dosbarth fu'n rheoli pethau ers cyn cof. Plaid yr Eglwys Wladol.

Plaid yr Arglwydd Penrhyn, Churchill a Maggie Thatcher.

Plaid hollol wrth-Gymreig. Plaid sy'n gallu cynghreirio'n gwbl ddi-draffarth hefo'r DUP... ac mae yna sawl AC o fewn y Blaid yn awyddus i greu clymblaid hefo'r eithafwyr hyn.

A'r bore 'ma...yn ol y BBC, Neil McEvoy: "Plaid isn't a pressure group but at times it has acted like one. We had the chance to throw Labour out of government, with the vote on the first minister in 2016, but we chose influence instead of government."

Mae angen trafodaeth ynglyn a hyn. A hynny rwan!