Wednesday, August 02, 2017

Mymryn o Schadenfreude

Dwi wedi treulio'r diwrnod yn symud recordiau 78" - miloedd ohonyn nhw (peidiwch a gofyn pam, da chi).  Mae feinyl ar y gorau yn drwm, ond mae'r hen finyl a ddefnyddwyd mewn recordiau 78" tua dwywaith trymach na'r record finyl gyfoes.  Dwi'n brifo trostaf.  Felly i godi fy nghalon ychydig dyma fynd ati i gael ychydig o hwyl i edrych ar berfformiad y Dib Lems bach 'na yn eu - ahem - cadarnle yn rhanbarth Gogledd Cymru.



Gogledd Cymru ydi rhanbarth mwyaf poblog ac mewn rhai ffyrdd mwyaf amrywiol Cymru.  Byddai dweud bod perfformiad y Dib Lems yma yn erchyll yn sylw caredig.  Mae yna 9 etholaeth yn y Gogledd ac roedd cyfanswm y blaid yn amrywio o 479 yn Ynys Mon i 1089 yng Ngorllewin Clwyd.  Roedd eu canran o'r bleidlais yn amrywio o 1.3% yn Ynys Mon i 2.9% yng Ngorllewin Clwyd.  

Gan bod angen 5% o'r bleidlais i gadw ernes collwyd pob ernes yn y Gogledd - ond aeth y Dib Lems gam yn well na hynny - rhywsut llwyddwyd i fethu cael mwy na hanner hynny - 2.5% - mewn 6 o'r 9 etholaeth, a llwyddwyd i gyrraedd y mil yn yr etholaethau hynny.

Os ydym yn adio pob pleidlais gafodd y Lib Dems ym mhob etholaeth yn y Gogledd cawn gyfanswm o 7529. Mae hyn yn llai o bleidleisiau na gawsant yn Wrecsam ar ei ben ei hun yn 2010.  Ni fyddai'r cyfanswm yn ddigon i ennill sedd mewn unrhyw etholaeth yn y Gogledd yn 2017 (nag yn unman arall yng Nghymru).  Yn wir ni fyddai'n ddigon i fod yn ail mewn unrhyw etholaeth - y Toriaid yn Ynys Mon ddaeth yn ail efo'r cyfanswm isaf (10,834).  Fyddai 7529 ddim wedi bod yn ddigon iddynt ddod yn drydydd yno chwaith.  Yn wir cafodd y blaid oedd yn ail fwy na dwywaith gyfanswm y Dib Lems tros y Gogledd mewn nifer o etholaethau.

Rhag eich bod yn meddwl mai ffliwc oedd y perfformiad anhygoel yma, fis ynghynt cawsant 15 sedd tros 5 a 1/2 cyngor y Gogledd allan o 296 cynghorydd - gyda bron i hanner y rheiny ar un cyngor - Fflint. 

Dyna fo - dwi'n teimlo'n well rwan.

1 comment:

Marconatrix said...

Och, druan o beth ydi hynny. A'r Libs yn bobl neis iawn wedi'r cyfan. Beth ar y byd sy wedi mynd o'i le, tybed?