Mae ail gyflwyniad y syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) yn un diddorol. Syniad Adam Price ydi o wrth gwrs - fe gyflwynodd y syniad gyntaf tua pedair blynedd yn ol pan roedd ail strwythuro awdurdodau lleol ar agenda Llywodraeth Cymru.
Cyd destun ail godi'r syniad ydi bod Llywodraeth Cymru eisiau i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu endidau sy'n cymryd cyfrifoldeb am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd yn ogystal ag elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.
Mae nifer o'r unedau newydd sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn croesi ffiniau ieithyddol - a diwylliannol hefyd.
O safbwynt rhywun sydd eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu mae'r syniad yn un i'w groesawu - cyn belled a bod cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn ganolog i genhadaeth yr endid newydd a bod y Gymraeg hefyd yn ganolog i'r ffordd mae'r endid yn cael ei weinyddu a'i reoli.
Yn ei gyfarfod yn yr Eisteddfod i drafod y syniad cafwyd awgrym gan Adam Price gallai Penfro a Chonwy fod yn rhan o'r awdurdod newydd yn ogystal a siroedd Cymreiciach Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Y broblem efo cynnwys Conwy a / neu Penfro ydi y byddai gwneud hynny's Saesnigeiddio'r endid newydd yn sylweddol.
2 comments:
Rhyw fath o 'Gaeltacht' Cymraeg felly? Y broblem fawr ydi ei weld fel gwarchodfa i'r iaith, wrth y dybiant yn tyfu fod yna, a yna yn unig, byddei gwir drigfa iawn i'r hen iaith. Be eich barn?
Pwyntiau a data diddorol. Ond!
Os na fedrwch Gymrigeiddio'r wlad o'r "Fro Gymraeg" hyd at Glawdd Offa yna mi fydd dyfodol yr iaith ar ben.
WHD
Post a Comment