Mae'n dda deall bod Darran Hill yn cadw llygad barcud ar wariant Llywodraeth Cymru ac yn cwyno'n groch am wariant o £1.8m ar rhywbeth neu'i gilydd yn Senedd Cymru.
Mae'n siwr ei fod yn gywir i ddadlau bod £1.8m yn swm sylweddol. Wedi'r cwbl mae'n tua 1/200 o'r hyn mae'r trethdalwr yn cael y fraint o'i dalu am beth sydd i bob pwrpas yn annedd breifat yn Llundain.
Neu'n 1/3,900 o'r hyn y gallai'r gwariant ar ddeddfwrfa arall fod - yr un yn Llundain.
No comments:
Post a Comment