Saturday, August 19, 2017

Ynglyn a'r sibrydion am arweinyddiaeth y Blaid

Wna i ddim treulio llawer iawn o amser yn trafod arweinyddiaeth Plaid Cymru - mae'r cyfryngau wedi bod wrthi trwy gydol Mis Awst, er bod eu straeon wedi eu hadeiladu ar fawr ddim o sylwedd - fel sy'n aml yn wir yr amser yma o'r flwyddyn   

Yn fy marn bach i - ac roedd fy marn bach  i'n llawer mwy cywir nag un y cyfryngau prif lif yn ol yn 2012 - ychydig iawn o awydd sydd i newid arweinydd ymysg aelodau'r Blaid - yr unig bobl sydd ag unrhyw rym i wneud hynny.

 Dydi hynny ddim yn golygu nad ydi'r cyfryngau prif lif am ddweud y gwrthwyneb wrth gwrs.  A dydi hynny ddim am gau cegau'r fflyd o bobl sydd erioed wedi codi bys i helpu'r Mudiad Cenedlaethol, ond sydd yn teimlo mai eu cenhadaeth nhw ydi cynnig cyngor di ddiwedd o hirbell ar sail beth bynnag sy'n troelli yn eu pennau ar y pryd.



Mae'r Blaid wedi ei 'bendithio' gan amrediad anhygoel o bobl sy'n torri eu boliau eisiau dweud eu pwt am sut y dylai wneud pethau - o'r cyfryngau, i'r bobl ecsentrig hynny sy'n teimlo'r angen i ddweud eu pwt ar derfyn straeon Golwg360 i bobl ar ymylon diog y Mudiad Cenedlaethol i arweinyddiaeth UKIP (i'r graddau y gellir rhoi'r geiriau 'UKIP' ac 'arweinyddiaeth' yn yr un frawddeg heb chwerthin).  Yr ymateb priodol i'r brefu yma gan amlaf ydi ei anwybyddu.

Serch hynny mi ddyweda i bwt am y storm Awst dila ddiweddaraf.  Dydi Plaid Cymru yn hanesyddol ddim wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn etholiadol.  Yn wir gallwn ddweud bod pawb sydd erioed wedi arwain y Blaid wedi ei harwain i etholiadau sydd heb bwt o amheuaeth wedi bod yn aflwyddiannus - gydag un eithriad.  Yn wir mae rhai o'n cyn arweinwyr wedi 'methu' yn etholiadol  ym mhob un etholiad maent wedi arwain y Blaid iddi.  Wna i ddim mynd i fanylion i osgoi gwneud i unrhyw un wrido.  Mae hefyd yn wir bod y Blaid yn draddodiadol wedi bod yn barod iawn i faddau i'w harweinwyr am fethu'n etholiadol.  Mae maddeuant am fethiant etholiadol wedi bod yn rhywbeth hawdd iawn i'w gael ym Mhlaid Cymru.

Yr eithriad wrth gwrs ydi Leanne - does yna ddim methiant etholiadol clir wedi bod yn ystod ei chyfnod fel arweinydd er mai sail arferol y galw am newid arweinyddiaeth ydi 'methiant' etholiadol honedig.

Mae'r tabl isod yn dangos y sefyllfa etholiadol a etifeddwyd gan Leanne ochr yn ochr a pherfformiad diweddaraf y Blaid:



Fedra i ddim dod o hyd i ffigyrau sy'n caniatau i mi roi cymhariaeth ystyrlon o bleidlais a chanran y Blaid yn etholiadau lleol 2017, ond aeth nifer y cynghorwyr a etholwyd i fyny o 170 yn 2012 i 203 - perfformiad sy'n ymylu ar fod y gorau yn hanes y Blaid.  Etholwyd dau gomisiynydd heddlu yn 2016 hefyd. Daeth y Blaid yn ail i Lafur yn yr etholiadau cyngor, yr etholiadau Cynulliad a'r etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu.  

Mae'n wir i'r bleidlais  syrthio yn etholiad cyffredinol 2017 o gymharu ag un 2015 - ond mae bron yn reol di feth yng ngwleidyddiaeth Cymru bod y Blaid yn ei chael yn anodd pan mae Llafur allan o rym yn San Steffan, ond yn boblogaidd.  Ar ben hynny roedd yr etholiad diweddaraf wedi ei nodweddu gan wasgfa na welwyd ei thebyg ers degawdau ar bleidiau llai. Cynyddodd y nifer aelodau seneddol o dri i bedwar tros y cyfnod hwnnw wrth gwrs.

Collwyd tua 17,000 o bleidleisiau, o gymharu a cholled o bron i 27,000 i'r Lib Dems, 170,000 i UKIP a 33,000 i'r Gwyrddion.  

O edrych y tu allan i Gymru collodd yr SNP 477,000 o bleidleisiau a 21 sedd.  Yng Ngogledd Iwerddon collodd y pleidiau llai - yr UUP a'r SDLP eu holl seddi.  Wrth ymyl y gyflafan yma roedd perfformiad y Blaid yn well na boddhaol - llawer gwell.

Beth felly ydi'r gwir reswm am y galwadau am newid arweinyddiaeth?  Yn fy marn i mae wedi ei wreiddio yng nghanfyddiad rhai pobl - yn genedlaetholwyr ac yn unoliaethwyr - o'r hyn y dylai'r Blaid fod.  Mae'r rhan fwyaf o arweinwyr y Blaid wedi bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl oedd wedi ymgartrefu yng Ngorllewin neu Ogledd Orllewin y wlad.  Roeddynt hefyd yn ddi eithriad yn ddynion.  Roeddynt  yn adlewyrchu'n gywirach yr hyn y teimla llawer y dylai'r Blaid fod.  Dyna yn y bon beth sydd y tu ol i'r grwgnach, nid 'methiant' etholiadol.

32 comments:

Anonymous said...

Beth am y rheswm fod llawer in anghyfforddus gyda'r safiad ym mhell ar yr ochr chwith i wleidyddiaeth? Hefyd, mae'n ymosod yn rheolaidd ar yr asgell dde boed hynny'n golygu UKIP, y Toriaid neu Trump a nawr ISIS. Llafur sydd rhaid eu gorchfygu yng Ngymru. Record truenus Llafr yng Nghymru sydd angen ei danlunellu. Mae ganddi darged fel talcen eglwys ond gwell ganddi ymosod ar bleidiau sy'n perthyn i'r dde. Mae wedi gwneud jobyn iawn fel arweinydd. Ond mae'n amser iddi symud i'r nail ochr er mwyn rhywun arall.

ON
Nid oedd hawl gan bobl feirnidau gwleidyddion? A finnau'n meddwl ein bod mewn gwlad rydd democrataidd.

Anonymous said...

Un peth arall.....wyt ti'n meddwl yr oedd hi'n ddoeth i fynd yn syth i drydaru pan glywodd am rai fanylion o'r gyflafan ym Marcelona? Wyt ti wir yn meddwl hynny? Rwyt ti'n barod wedi gorfod ysgrifennu blogiad i'w hamddiffyn a thrydaru yn yr un modd. Dangosod naifrwydd ar ei rhan. Bron gellir ei alw'n dwpdra.

Cai Larsen said...

Ym - o ran beirniadu gwleidyddion - mae hynny'n ddigon teg - ond paid a disgwyl i neb gymryd sylw o anghenrhaid. Dobynu ar natur y feirniadaeth.

O ran y busnes tir canol - mae honna'n hen ffasiwn ac yn rhy ddiweddar. Lle i fod yn yr 80au 90au 00ies ac o bosibl y 70au ydi'r tir canol. Doedd neb yn trafferthu i drio bod yna cyn hynny. Ffenomena dros dro o bosibl.

Mi fyddwn i'n cynghori yn erbyn rhagdybio ffynhonnell unrhyw ymysodiad terfysgol nes bod ffeithiau ar gael.

Anonymous said...

Beth am y tir cenedlaetholgar/gwrth-Brydeinig yn lle'r tir sosialaidd rhyngwladol sy'n apelio at fawr neb o werin Cymru heb law am rai grwpiau ar yr ymylon? Ond dwi wir yn meddwl fod Plaid Cymru wedi mynd yn rhy bell i'r cyfeiriad yma. A oes newid yn bosibl erbyn hyn?

Roeddwn yn arfer adnabod Leanne cyn iddi fod yn wleidydd pan oedd yn astudio ym Mhontypridd. Roedd hi'n chwilfrydig iawn dros y Gymraeg a Chymru. Dwi ddim yn cofio'r apel am bob fater adain chwith ffasiynol dan yr haul ag eithrio materion Cymreig. Ac mi roedd hi'n casau'r Blaid Lafur gyda bachan wrth-Gymraeg o'r enw Lee Whitehead yn eu cyrychioli yn y coleg. Pwy sy'n tynnu'r llinynnau y tu ol i'r llennu?

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn siwr faint o faterion Adain Chwith ffasiynol sy'n cael eu dilyn gan y Blaid a bod yn onest - fedra i ddim meddwl am llawer.

Mae yna gam ddealltwriaeth yn aml ynglyn a rol arweinydd. Dydi hi ddim yn gosod polisi, nag yn llywio strategaeth etholiadol - er bod ganddi fewnbwn i'r ddau.

Anonymous said...

Wnaiff ceisio dadlau nad ydi rol yr arweinydd mor bwysig a hynny( ddim yn gosod polisi na llywio strategaeth etholiadol) ddim tycio o gwbl.

Licio fo neu beidio LW ydi delwedd gyhoeddus Plaid Cymru. Licio fo neu beidio mae delweddd gyhoeddus yn cyfrif ym meddyliau pobl. Licio fo neu beidio, mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod Leanne yn "lightweight" na allan nhw ei chymryd o ddifrif. A phan mae hi'n trio bod o ddifri- mae hi llawer mwy brwd dros achosion progressive na'r achos cenedlaethol.

Be mae pobl yn gofio o'i chyfle mawr yn y dadleuon ar y teli? 2 sylw bachog yn erbyn Nigel Farage a Paul Nuttall.Plesio'r chwith Brudeinig reit siwr. Ond dim byd i'w wneud hefo Cymru!

Mae'r byd a'i nain yn gwybod bod ei hamser ar ben.

Gornest etholiadol a syniadau newydd ydi'r peth gorau allai ddigwydd i PC rwan.

"You are defending the indefensible" yn anffodus.

Plaid Whitegate said...

Hawdd bod yn feirniadol di-enw.

Mae'r syniad fod syniadau sosialaidd ddim yn gydnaws efo Cymreictod yn rhywbeth y bysa RJ Derfel a llawer o bobl eraill yn y mudiad cenedlaethol yn chwerthin ar ei ben.

Mae llwyddiant Llafur yn 2017 yn adrodd cyfrolau am be sy'n boblogaidd

Cai Larsen said...

Anon 9.33 - datganiad o ffaith ydi o nad ydi arweinydd yn lliwio polisi na strategaeth etholiadol - nid felly mae'r Blaid yn gweithio.

Licio fo neu beidio mae ffigyrau polio LW cystal os nad gwell na'r un gwleidydd arall yng Nghymru.

O ran yr achos cenedlaethol - tybed pryd oedd y tro diwethaf i'r Blaid gael ei harwain gan rhywun sy'n credu'n gwbl ddi amwys mewn annibyniaeth?

Cymru Rydd said...

Gen i barch mawr at dy farn fel rheol ond rhaid deud bod dy ganfyddiad mai ryw sexism diarwybod yn y gogledd a'r gorllewin sydd wrth wraidd y beirniadu cynyddol hyn ar LW yn chwerthinllyd.

Ron i'n gefnogol iawn i Leanne yn 2012 ond imi, dydi hi ddim wedi prifio fel arweinydd o gwbwl, a throi yn ein hunfan ydan ni hefo hi wrth y llyw.

Yn fy nghylch ffrindiau o 10 o bobl- pob un ohonynt yn genedlaetholwyr hefo G fawr neu G fach- dim ond 1 sy'n dal i'w chefnogi. Pol fach hollol anwyddonol wrth gwrs- ond arwydd o sut mae'r gwynt yn chwythu ar lawr gwlad.

Yn strategol i'r Blaid dwi'n meddwl hefyd ei bod hi'n broblem fod LW wedi bod mor llafar ac amlwg o blaid aros yn yr UE- heb unrhyw nuances yn perthyn i'w safbwynt hi i gydnabod yr amheuon cwbl ddidwyll am y UE sy'n bodoli yma.

Byddai'n well i'r Blaid gael arweinydd sydd heb gysylltiad hefo'r "methiant" hwn ac sydd felly yn gallu cynnig neges newydd a chredadwy i'r ddwy garfan yma- aros a gadael.

Mae Brexit wedi newid popeth. Rhaid i PC gydnabod hynny.

Anonymous said...

Dw i'n meddwl bod un o'r uchod wedi raro'r hoelen ar ei phen, mae pobl yn credu bod hi'n lightweight ac yn dod drosodd yn ddiniwed a naîf iawn.

Cai Larsen said...

Tri phwynt brysiog - mae gen i ddiwrnod o fy mlaen yn clirio atic allan.

1). Dydw i ddim yn cyhuddo'r Gogledd a'r Gorllewin o fod yn 'sexist' - mae gan y Blaid ferch o AS a AC yn y Gogledd Orllewin. A dweud y gwir dwi'n credu bod agweddau felly yn llai cyffredin yma na mewn rhannau eraill o'r wlad. Son oeddwn i am ddisgwyliadau'r sawl sy'n cwyno am LW - ac maen nhw'n byw mewn gwahanol rannau o'r wlad, ond efo disgwyliadau tebyg.

2). Dydi'r data polio ddim yn awgrymu bod gan bobl yn gyffredinol feddwl isel o LW - y gwrthwyneb sy'n wir - ac mae wedi bod yn wir ers ei hethol yn arweinydd.

3). Os ydi'r Blaid i gael arweinydd sydd o blaid Brexit bydd rhaid dod o hyd i ryw ffordd o gael Emrys Roberts yn Aelod Cynulliad.

Anonymous said...

Yn run yw fy nghanfyddiad innau. Ofnaf fod y gefnogaeth i LW yn y ffurf gwrthdro i Jeremy Corbyn. Mae aelodau llawr gwlad yn gefogol i Corbyn, ond bellach yn amheus am LW. Mae trwch o aelodau etholiedig Corbyn yn eu amau, tra mae cefnogaeth i LW yn gryf ymysg y rhain. Mae yna nifer uchel o 'fellow travellers' wedi dringo'n sydyn iawn yn rhengoedd y blaid i wthio agendau nad ydynt yn flaenoriaethau i genedlaetholwyr.
Yr oedd anterth LW yn 2015, gyda'i hymddangosiad ar deledu Prydeinig. Gwnaeth argraff ymysg yr adain chwith Brydeinig, ond nid yw wedi adeiladu ar hynny o gwbl yng Nghymru. Nid Cafwyd yr argraff mai dau beth yn unig sydd yn flaenoriaeth i'r blaid, sef cynnal mewnfudo a ffoaduriaid, ac atal Brexit. Yr oedd ymddangosiad LW ar y raglen deledu gyfatebol eleni yn dangos yr un blaenoriaethau a 2015, er fod y byd wedi newid. Ymosod ar yr adain-dde eithafol o hyd, heb grebwyll mai plaid Jeremy Corbyn yw'r gelynion mewn 80% o'r etholaethau. Prin iawn fu'r ymosodiadau effeithiol arno.
Ni fuaswn yn cwestiynu ymroddiad Leanne Wood i'r Gymraeg - gresyn nad yw'n fwy hyderus i'w siarad - ond Saesneg yw ei hiaith cyntaf, ac ni all newid hynny. Nid ysgolhaig mohoni.
Prif bryder cenedlaetholwyr ar lawr gwlad yw ei bod yn gwneud gwaith y Blaid Lafur drostynt drwy ganolbwyntio gormod o'i hymosodiadau ar yr asgell-dde, a bod hyn wedi llwyddo i gorlannu llawer o ieuenctid i bleidleisio dros y Blaid Lafur am y tro cyntaf.
Mae wedi bod yn anlwcus fod y Blaid Lafur wedi ethol arweinydd radical a 'populist' ers iddi hi ei hun ddod i'r brig, gan 'saethu ei llwynogod' hi, i raddau. Bu'r blaid yn anlwcus hefyd i'r twf mewn poblogrwydd Corbyn yn yr ymgyrch ddod i'r amlwg ar ol i'r llenyddiaeth etholiad gael ei argraffu - bum yn dosbarthu ambell i daflen (lleol) a oedd yn dweud rhywbeth i'r perwyl ' bydd y Blaid Lafur yn cael eu chwalu' pan oedd y rhod etholiadaol yn dechrau troi. 'Blindsided' ydi'r gair a ddefnyddir.
Bydd yn ddiddorol clywed beth fydd ei phwyslais yn y gynhadledd. Byddaf yn ei barnu ar hynny.

Anonymous said...

Siom etholiad 2017 oedd y dirywiad a welwyd ymhob un o seddi'r de ag eithrio cynnydd bychan iawn ym Mlaenau Gwent.Leanne oedd gobaith mawr y blaid i wneud argraff yn y rhan yna o'n gwlad ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu.

Anonymous said...

Etholiadau Cyngor Sir 2017 - gyda'r mwyaf llwyddiannus yn hanes y Blaid
Pôl piniwn ar ôl pôl piniwn yn dangos mai Leanne ydi gwleidydd mwyaf poblogaidd Cymru.
4 Aelod Seneddol

Ar yr un pryd, mae'n lle i boeni am i ni fethu ennill tir yn y Senedd.

Un peth ydi peidio hoffi arweinydd plaid, ond mae'n ddyletswydd ar y rhai sydd yn gwrthwynebu Leanne (ac mae 'na bobl sydd erioed wedi hoffi'r canlyniad) i gynnig arweinwyr amgen, gan gofio fod angen i'r enwau hynny fod â diddordeb yn y swydd. Put up or shut up os liciwch chi.

Anonymous said...

Polau piniwn fel y dau yma eleni ?


http://www.itv.com/news/wales/2017-04-24/draft-not-for-publication-is-our-poll-right/

http://blogs.cardiff.ac.uk/electionsinwales/2017/06/01/one-week-to-go-the-latest-welsh-poll/

Y cwestiwn y dylid gofyn ydi pam na droswyd llwyddiant yr etholiadau cyngor i mewn i bleidleisiau yn yr etholiad cyffredinol.

Cai Larsen said...

Oce - un neu ddau o sylwadau o edrych yn ol tros yr uchod.

Dwi'n meddwl bod y cyhuddiad 'lightweight' yn dweud mwy am ragfarnau'r sawl sydd yn eu gwneud na dim arall a bod yn onest. Mae LW wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o ddadleuon cyhoeddus, ymddangosiadau teledu ac ati. Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud iddi wneud hynny yn ddi gamgymeriad yn yr ystyr nad ydi wedi drysu ffeithiau, rhoi gwybodaeth ffeithiol na ellir ei brofi ac ati. Mae hynny'n anarferol.

Mae yna sylwedd i'r sylwadau am leoliad gwleidyddol y Blaid - ond nid mater yn ymwneud ag arweinyddiaeth un person ydi hynny. Mae penderfyniadau etholiadol / strategol yn rhai torfol. Roedd y lleoliad i'r Chwith i Lafur yn gweithio'n eithaf cyn Corbyn - cafodd y Blaid eu canran uchaf o'r bleidlais pan mae'r Toriaid mewn grym yn 2015 a'r ail ganran uchaf yn ei hanes (roedd 2001 yn uwch dwi'n credu). Mae angen dwr gwyrdd rhyngom ni a Llafur rwan - ac mae'n debyg y bydd aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gorfod bod yn rhan o'r bwlch hwnnw.

O ran ymosod ar y Dde ac ati, mae'n hawdd anghofio bod y tirwedd gwleidyddol wedi newid yn llwyr mewn cyfnod byr. Tan fis Mai eleni roedd Llafur mewn lle drwg ac roeddynt wedi colli tir yng Nghymru a thu hwnt. Mae'n debygol iawn y bydd rhaid bod yn fwy negyddol ac ymysodol tuag at Lafur yn y dyfodol - ond eto penderfyniad strategol i'w gymryd yn dorfol fydd hwnnw.

Cai Larsen said...

Y cwestiwn y dylid gofyn ydi pam na droswyd llwyddiant yr etholiadau cyngor i mewn i bleidleisiau yn yr etholiad cyffredinol.

Mi wnaethan nhw. Roedd pleidlais y Blaid yn llawer, llawer uwch yn yr Etholiad Cyffredinol nag oedd yn yr Etholiadau Cyngor.

Fel mae'r blog yma wedi ei drafod yn y gorffennol yr hyn ddigwyddodd oedd i bleidlais Llafur gynyddu'n sylweddol oherwydd (ac yn y drefn yma) pleidleiswyr 'newydd', cyn bleidleiswyr UKIP, cyn bleidleiswyr Gwyrdd, cyn bleidleiswyr Lib Dem, cyn bleidleiswyr PC.

Anonymous said...

Dwi meddwl fod agweddau progressive, bron metropolitan LW wedi bod yn turn off mawr i lot o fotwyr yn y cymoedd. Er fod LW wedi ennill y rhondda ar gownt ei phoblogrwydd fel person. Pam bod ukip wedi ennill cymaint o fots fan hyn? Ella am bod nhw'n siarad y math o iaith sy'n ateb meddwl socially conservative pobl yno. Gallai plaid ennill fots y bobl hyn hefo arweinydd newydd syn gallu tapio mewn hefo'r socially conservative mindset hwn ond mewn termau unashamedly Cymreig.

Cai Larsen said...

Rhywun fel Neil Hamilton felly?

Anonymous said...

Mi ofyna i eto. Pwy? Waeth i chi gyd a rhefru am Leanne. Pwy hoffech chi weld?*

*aelodau Cynulliad syyd â diddordeb mewn cwffio Leanne am y swydd

Cai Larsen said...

Efallai y byddai'r David Rowlands 'na yn ystyried gadael UKIP i arwain y Blaid a mynd o gwmpas y Cymoedd i siarad am y materion cymdeithasol geidwadol mae'n ymddangos bod trigolion y llefydd yna yn ei licio - capeli, Songs of Prayers, gwrthwynebu ysgariad, Law & Order, dirwestiaeth, y gosb eithaf, crogi pobl sy'n defnyddio cyffuriau, sefyll yn erbyn erthyliad, cefnogi'r frenhiniaeth a 'ballu.

Neu - wedi meddwl - efallai ddim.

Cymru Rydd said...

Ddim cweit yn dallt yr awgrym coeglyd am gael emrys roberts fel arweinydd?!! Dim dweud bod rhaid cael rhywun o blaid brexit fel arweinydd wnes i: ond yn hytrach rhywun sydd a'i dwylo neu ei dwylo yn lan fel tae- heb fod wedi ei chysylltu mor amlwg gyda safbwynt gafodd ei wrthod gan etholwyr Cymru. Rhywun sy'n gallu dadlau'n resymegol- dan ni bellach mewn cyfnod cwbl newydd ac mae gynno ni neges newydd ar ei gyfer all bontio rhwng y garfan aros a'r garfan gadael.

Falle'n wir mai'r safbwynt hwnnw fydd mynnu aros yn y farchnad sengl er mwyn sefydlu dwr gwyrdd rhwng plaid a'r toris/llafur. Ond o leiaf byddai arweinydd newydd yn gallu cyflwyno narratif gyda llechen cwbl lan heb fethiant anferth y refferendwm fel cysgod yn hofran uwch ei ben.

Ambell un wedi herio'r rhai sydd am newid arweinydd i enwi rhywun. Iawn, mi wnai dderbyn yr her. Yn y lle cyntaf, mi fyddwn i'n dadlau bod cael yr arweinydd iawn yn gwbl, gwbl hanfodol o feddwl am yr argyfwng sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Mae'n rhaid cael
gornest mor eang ag sy'n bosib felly dylid diwygio'r rheol fewnol er mwyn caniatau i'r aelodau seneddol drio hefyd fel ein bod yn gallu pysgota yn y pwll helaethaf posib. O ran pwy wedyn - wel mae'r rhan fwya'n tybio mai gornest rhwng rhun ap iorwerth ac adam price fydda hi.
Yn bersonol, er ei rinweddau amlwg mae wylfa to be or not to be yn ormod o faen melin rownd gwddf rhun. Pa bynnag ffor aiff hwn, mae o am gael ei gysylltu'n ormodol hefo'r fall-out. O ran Adam, er ei holl ddoniau yntau, falle ei fod wedi ei gysylltu'n ormodol hefo leanne a'r agenda chwith ganolog hyn y mae hi wedi ceisio ei hyrwyddo. Pwy felly? Mi dybiwn i mai rhwng liz saville a jonathan edwards ddylai hi fod. Dwi'n edmygu liz yn fawr ond falle bod o braidd yn fuan iddi. Jonathan Edwards imi felly. Siaradwr penigamp yn y Gymraeg a'r Saesneg a chenedlaetholwr cadarn. Hefyd hefo rhywfaint o
"edge" o'i gwmpas- elfen hanfodol os ydi plaid cymru am ddenu fots gan gefnogwyr llafur ac ukip yn y cymoedd.
Dydi bod yn "fluffy" a gwleiyddol gywir ddim yn tycio ymhlith y pleidleiswyr
hyn. Beth am drio cenedlaetholdeb cymreig diamwys sy'n barod i sychu'r llawr hefo llafur ac ukip yn yr ardaloedd hyn?

Cai Larsen said...

Ti'n gorfod bod yn AC i arwain PC.

Anonymous said...

Iawn, mi wnai i bethau'n haws i chi. Dyma'ch dewis chi. Mae'ch cyfraniadau chi gyd yn lladd ar Leanne wedi bod yn ddifyr iawn (mae'n fis Awst wedi'r cyfan) ond dyma'r rhestr i chi. Cofiwch, mae'n rhaid i chi sydd am weld cefn ar Leanne ddewis AC sydd â diddordeb yn y swydd rwan.

Llyr Huws Gruffydd
Sian Gwenllian
Rhun ap Iorwerth
Bethan Jenkins
Elin Jones
Steffan Lewis
Dai Lloyd
Neil McEvoy
Adam Price
Simon Thomas
Leanne Wood

Anonymous said...

Ydi'r bobol sydd yn gadael sylw ar dy feddyliau di hefyd yn 'ecsentrig'?

Cai Larsen said...

Dydi pobl ddim yn gadael sylw'n aml iawn.

Anonymous said...

"Ti'n gorfod bod yn AC i arwain PC"

"dylid diwygio'r rheol fewnol er mwyn caniatau i'r aelodau seneddol drio hefyd"

Cai Larsen said...

Y cyfansoddiad ydi o - nid rheol fel y cyfryw.

Byddai'n anodd i PC (neu'r SNP) sydd a'u ffocws ar y senedd ddatganoledig gael ei harwain o Lundain.

Beth bynnag, hyd y gwn i does yna'r un o'r ASau efo unrhyw ddiddordeb yn y job - er, mae'n rhaid cyfaddef nad ydw i'n gwybod llawer am agwedd Ben at y mater yma _ _

Anonymous said...

"Efallai y byddai'r David Rowlands 'na yn ystyried gadael UKIP i arwain y Blaid a mynd o gwmpas y Cymoedd i siarad am y materion cymdeithasol geidwadol mae'n ymddangos bod trigolion y llefydd yna yn ei licio - capeli, Songs of Prayers, gwrthwynebu ysgariad, Law & Order, dirwestiaeth, y gosb eithaf, crogi pobl sy'n defnyddio cyffuriau, sefyll yn erbyn erthyliad, cefnogi'r frenhiniaeth a 'ballu."

Fasa llawer iawn o'r polisiau hyn yn mynd i lawr yn dda yn y cymoedd yn anffodus.

Anonymous said...

Sylwer - Un ar goll oddi ar y rhestr?
Mewnlifiad.
Er i hynny lithro ychydig fel blaenoriaeth i'r pleidleiswyr yn ddiweddar yn erbyn ad-dwf pryderon am y Gwasanaeth Iechyd,trai UKIP a thwf chadarnlleoedd BAME dinesig a byddygion y Blaid Lafur yn methu celu eu hannesmwythdra bellach gydag hen werin draddodiadol y Blair Lafur sy'n gadael bwlch o.bosibl...Clywir llawer am y "Sgotiaid Newydd" O dderbyn hynny, onid gwir i Alex Salmond (neu rywun).addo'n ddistaw fach rywbeth i'r perwyl o "polisi mudo.Albanaidd i'r Alban" cyn etholiad llwyddiannus SNP nid nepell iawn oddi wrthym o ran lle ac amser?
M'ond gofyn..

Anonymous said...

Diddorol :

https://nation.cymru/2017/irrelevant-plaid-is-isolated-in-the-bay-bubble-we-need-to-empower-the-people-of-wales/

Oes yna awgrym o ymgeisyddiaeth yma ? . Mae yna feirniadaeth o'r tactegau presennol, yn sicr.

Anonymous said...

"Efallai y byddai'r David Rowlands 'na yn ystyried gadael UKIP i arwain y Blaid a mynd o gwmpas y Cymoedd i siarad am y materion cymdeithasol geidwadol mae'n ymddangos bod trigolion y llefydd yna yn ei licio - capeli, Songs of Prayers, gwrthwynebu ysgariad, Law & Order, dirwestiaeth, y gosb eithaf, crogi pobl sy'n defnyddio cyffuriau, sefyll yn erbyn erthyliad, cefnogi'r frenhiniaeth a 'ballu."


Dwi'n ddim yn credu dy fod yn deall y ceidwadaeth rydym yn siarad am. Ond yn sicr, nid ydynt o'r un farn a Leanne a'r Blaid parthed mewnfudo a gnweud Cymru'n 'sanctuary' for refugees'. Pobl syml gan fwyaf yn hoffi peint a rygbi ac efallai pel-droed ac eisiau gwaith ond yn becso dim am yr 'ishoos' mae Leanne a Plaid Cymru yn awr yn eu cefnogi a'u gwthio.