1). Arfon. Ychydig iawn o bleidleisiau gollodd y Blaid yn Arfon ond daethom yn agos iawn i golli'r sedd i ymgeisydd sy'n byw yn Llundain, na wnaeth fawr o ymdrech o gymharu a Sion Jones ac Alun Pugh, sydd ddim yn siarad Cymraeg a sy'n ystyried ei bod yn gwbl briodol ateb ymholiadau Cymraeg mewn Sbaeneg. Daeth y bleidlais bron i gyd gan bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn ddiweddar neu oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf. Daeth yr hollt ieithyddol yn ol gyda llaw - rhywbeth oedd wedi lled ddiflanu yn yr etholaeth. Roedd gwahaniaeth mawr rhwng y patrymau pleidleisio mewn cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dominyddu a'r lleill - er bod rhai eithriadau o'r ddwy ochr.
2). Corbyn. Mae perfformiad Llafur yn yr etholiad yma am ladd y ddadl mai'r canol ydi'r lle i fod yn wleidyddol am genhedlaeth. Roedd y canlyniad bron yn gymaint o slap i'r traddodiad Blairaidd nag oedd i'r Toriaid.
3). Mae'r Dib Lems mewn lle du iawn yng Nghymru - 62 o seddi cyngor enillwyd gan blaid fwyaf celwyddog yn y wlad, nid oes ganddynt yr un aelod seneddol am y tro cyntaf erioed i bob pwrpas a dim ond Kirsty Williams sydd ganddynt yn y Cynulliad, ac mae hithau yn fwy o aelod annibynnol na dim arall.
4). Yr Alban. Mae'n bosibl bod pleidleisio tactegol i'r Toriaid gan Lafurwyr gwrth annibyniaeth wedi caniatau i May barhau fel Prif Weinidog. Mae gwleidyddiaeth yr Alban hefyd wedi ei Ulstereiddio - yn bennaf diolch i'r Toriaid. Mae'r math yma o wleidyddiaeth yn fwy ffyrnig, cynhenus, ac anymunol na gwleidyddiaeth gweddill y DU. Toriaid Ruth Davidson sy'n gyfrifol am hyn i raddau helaeth.
5). Gogledd Iwerddon. Y DUP ydi plaid mwyaf eithafol ac yn wir boncyrs y DU o ddigon. Ar sawl cyfri maent ymhellach i'r Dde nag UKIP. Mae May am orfod dibynnu ar eu pleidleisiau nhw - ac mi fydd yna bris i'w dalu. Gallai hynny beryglu elfennau o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a hefyd mae yna oblygiadau i Brexit. Gan y bydd y DUP yn mynnu na fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i unrhyw ran arall o'r DU gallai hynny olygu y bydd rhaid i'r Toriaid anghofio am Brexit caled, neu gallai olygu Brexit caled ar ffin y Gogledd a'r Weriniaeth - rhywbeth fyddai'n arwain at y DU yn gadael yr UE heb gytundeb - rhywbeth fyddai'n arwain at anhrefn llwyr. Gallai'r DUP hefyd orfodi'r Toriaid i beidio ag ad drefnu'r ffiniau etholaethol - byddai newidiadau yn gostus i'r DUP. Yn y cyfamser mae'r canol gwleidyddol wedi ei sgubo o'r neilltu, ac mae'r etholaethau ar hyd y ffin bellach yn wyrdd tywyll, tywyll, tywyll. Mae gwleidyddiaeth y dalaith wedi ei bolareiddio yn llwyr - ac mae Brexit a'r ffin wrth galon y polareiddio hynny.
6). Plaid Cymru. Ag ystyried grym y llif i Lafur yng Nghymru mae cynyddu ein seddi yn erbyn y llanw wedi bod yn gryn gamp - er ein bod hefyd wedi bod yn lwcus iawn yn Arfon a Cheredigion ag ystyried maint y mwyafrifoedd. Ar y llaw arall gwleidyddiaeth unigryw y Gymru Gymraeg sydd wedi caniatau i hyn ddigwydd, a rydym unwaith eto ymhell o dorri tir newydd yn y Gymru ddi Gymraeg.
7). Llafur Cymru. Canlyniad da iawn iddyn nhw yng Nghymru - diolch i'r Blaid Lafur Brydeinig. Ar ol pleidleisio i Lafur am ganrif a chael ein hunain ar waelod pob tabl economaidd rydan ni wedi pleidleisio i Lafur eto, ac wedi gwneud hynny mewn niferoedd sylweddol iawn - mwy felly nag ydym wedi ei wneud ers cyfnod maith.
8). Y Toriaid. Ha, ha.
9). UKIP. Ha, ha, ha, ha, ha _ _ _