Sunday, March 16, 2014

Pan nad yw dweud yr hyn sy'n gwbl amlwg yn dderbyniol

Mae'n ddiddorol ac yn ddadlennol bod Nigel Farage yn cael disgrifio'r Swyddfa Gartref fel sefydliad amhrydeinig, heb gael ei hun yn destun sterics cyfryngol.  Yn yr un modd gall Nick Clegg ddefnyddio term tebyg am UKIP, ac mae George Osborne yn cael galw Llafur yn wrth Brydeinig heb achosi unrhyw wylofain na rhincian dannedd.

Ond os oes yna gyfeiriad gan y Blaid mewn datganiad i'r wasg at y ffaith cwbl ddi ymwad bod UKIP yn anghymreig yna mae'r  cyfryw blaid anghymreig  yn honni bod hynny'n golygu bod eu holl gefnogwyr ac yn wir cefnogwyr pob plaid unoliaethol yn cael eu disgrifio fel pobl anghymreig, mae Dafydd Ellis Thomas yn dod i'r casgliad bod rhaid iddo danseilio strategaeth etholiadol ei blaid ac mae Vaughan Roderick yn rhoi bron y cwbl o'i gyfweliad efo Dafydd Trystan ar Sunday Supplement i holi am y pwnc, ac ati.

Rwan mae pethau yn sylfaenol syml.  Mae UKIP yn anghymreig - 'dydi ei ideoleg ddim wedi ei gwreiddio yn y byd syniadaethol Cymreig, does ganddi ddim strwythur Cymreig fel sydd gan y pleidiau eraill, does ganddi ddim diddordeb yng Nghymru fel endid ynddi'i hun, byddai gweithredu ei pholisiau creiddiol yn hynod niweidiol i Gymru.

Ond dydi hynny ddim yn gyfystyr a dweud bod ei chefnogwyr yn anghymreig. Dwi'n meddwl mai yng  nghyfri Arfon yn 2010 oeddwn i yn gwrando ar areithiau'r ymgeiswyr yn dilyn datgan y canlyniad pan sylwais mai un ymgeisydd yn unig oedd heb drafferthu i ddefnyddio cymaint a gair o Saesneg.  Elwyn Williams, ymgeisydd UKIP oedd hwnnw.  Does yna ddim byd anghymreig am Elwyn, ond dydi hynny ddim yn golygu nad yw ei blaid yn anghymreig.

Yn yr un modd gallaf feddwl am bobl sydd wedi pleidleisio i'r Blaid na fyddai byth yn defnyddio'r ansoddair 'Cymreig' amdanyn nhw eu hunain.  Mae yna bobl yn fotio i bleidiau am resymau tactegol -  am nad ydyn nhw yn hoffi peilons neu ryfel Irac, am eu bod yn gwrthwynebu Ewrop, am eu bod nhw'n hoffi'r ymgeisydd, am bod eu gwraig / gwr yn dweud wrthynt lle i fotio, am bod yr ymgeisydd wedi eu helpu nhw efo rhyw broblem neu'i gilydd, am eu bod nhw'n hoffi'r logo ac am gant a mil o resymau eraill.

Mae'n gwbl briodol dod i'r casgliad bod UKIP yn anghymreig.  Dydi hi ddim yn briodol dod i gasgliad bod cefnogwyr y blaid adweithiol i gyd yn anghymreig - ond does 'na neb yn gwneud hynny wrth gwrs.  Mae'r ffaith bod defnyddio'r gair yn esgor ar y fath sterics yn dweud llawer am y cyfryngau Cymreig, ac am gymhlethdod israddoldeb llawer o Gymry.

3 comments:

Gwynfor Owen said...

Dim bai Dafydd ydyw bod y wasg yn dal a diddordeb yn y stori yma. Roedd y wasg wedi hen golli diddordeb yn y stori ar ol nos Sadwrn gyda ymateb gwych y Blaid yng Ngheredigion yn cael y sylw. Yn anffodus penderfyniadau arweinyddiaeth y Blaid wnaeth roi achos i'r wasg ddod yn ol a'r stori yma, a sydd hefyd wedi sicrhau fod y stori am rygnu ymlaen.

Aled GJ said...

Be sy'n ddiddorol ydi datblygiad y term hwn "Unwelsh".

Mi rydan ni fel Cymry Cymraeg yn gyfarwydd iawn hefo'r term "anghymreig",ond mae "UnWelsh" yn debyg o fod yn anghyfarwydd iawn i'n clustiau ni yn Saesneg heb son am Gymry di-Gymraeg. Mae'n hwyr glas amlygu'r ffactorau sydd yn milwrio yn erbyn buddiannau Cymru i'r garfan hon ac mae angen term Saesneg bachog a dealladwy er mwyn gwneud hynny.

Roedd Leanne yn llygad ei lle i dynnu sylw pawb at sut y mae UKIP yn ymgorfforiad perffaith o hyn a dwi'n meddwl ei bod yn dacteg hollol resymol ar ei rhan er mwyn sicrhau bod pleidlais graidd PC yn troi allan fis Mai. Roedd ymateb Dafydd El yn gwbl annealladwy yn hyn o beth.

Er hynny, dydi "UnWelsh" ddim yn tycio rhywsut fel term i esbonio be mae UKIP yn ei gynrychioli ac mae angen rhywbeth amgenach. Beth am ddechrau eu disgrifio fel a "Welsh-sceptic" party?

Byddai defnyddio'r term hwn hefyd yn gallu cyfeirio at y ffaith bod UKIP yn ei hanfod nid yn unig yn erbyn y ffaith fod gennym Senedd yng Nghaerdydd ond hefyd yn wrthwynebus i genedligrywdd Cymreig yn y bon.

Dwi ddim mor siwr faint all Blaid Cymru gystadlu hefo UKIP ar fater Ewrop ohono'i hun fis Mai a bod yn onest( roedd pol piniwn y penwythnos yn dangos y momentwm sydd ganddyn nhw ar y mater hwn).

Rhaid agor ail ffrynt gan ymosod ar eu man gwan, sef eu gwrthwynebiad i fodolaeth democratiaeth Gymreig yng Nghymru.

Ioan said...

Dwi ddim yn hoffi'r term sceptic fel 'insult' - peth da ydi bod yn sceptical fel arfer.

Ella "Anti-Welsh" yn well.

Ydw i wedi methu stori am newid polisi yn UKIP - y tro dwetha wnes i edrych, mi roedden nhw o blaid datganoli. Mewn un ffordd, mi allech chi ddadlau nad ydi'r blaid yn wrth-Gymreig, ond bod na ddigon o'eu gefnogwyr yn hen ddiawled Prydeinig grth-Gymreig (a gwrth Gymraeg)

O http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-24184033 :

I ask him if his party still want to abolish the Welsh assembly, and he gives me an equally brief reply.

"No," says Mr Farage.

"This was old UKIP thinking - we should pretend devolution isn't happening and shouldn't be happening and under my leadership that has very much reversed.

"Devolution has happened and there are two referendums in Wales that have confirmed that, so we should just jolly well get on and accept the fact that the whole of the United Kingdom is changing.

"We're moving towards a more federal model, that doesn't mean that we can't ask for more devolution in the sense that there are maybe powers in Cardiff that could go out locally but, no, we accept it."

Earlier this summer the UKIP MEP for Wales John Bufton threatened to set up a new political party to campaign for the abolition of the assembly if UKIP officially changed its policy.

"Well, very good luck to him." said Mr Farage.


Hwn ddigon diddorol hefyd:
http://www.bloggers4ukip.org.uk/2013/02/new-ukip-policy-on-devolution.html