Saturday, March 29, 2014

Pam bod pleidlais tros Lafur yn bleidlais tros dlodi

Dydw i ddim yn hollol siwr pam ei bod yn fater o syndod i un neu ddau bod Llafur wedi pleidleisio o blaid cap budd daliadau George Osborne.  Mae'n sicr yn wir bod Llafur yn hoffi rhoi'r argraff ei bod yn blaid sy'n edrych ar ol buddianau'r pobl dlotaf mewn cymdeithas, ond mewn gwirionedd ychydig iawn o lwyddiant maent wedi ei gael yn gwneud hynny.  I weld hynny does dim rhaid i ni edrych ymhellach na'r Mynegai Amddifadedd sy'n cael ei gyhoeddi gan y Cynulliad ei hun.  Mae'r mynegai yn mapio amddifadedd yng Nghymru yn hynod fanwl, gan rannu'r wlad i unedau cyfri o tua 1,500 o bobl a chyfrifo'r lefel o amddifadedd - neu dlodi - ym mhob uned.  Edrychir ar amrywiaeth o ddangosyddion - cyflogaeth, incwm, addysg, iechyd, diogelwch, mynediad i wasanaethau, tai a'r amgylchedd.  Ceir perthynas agos iawn rhwng amddifadedd a chynrychiolaeth Llafur.

O edrych ar y mynegai yn ei gyfanrwydd yr hyn sy'n drawiadol ydi'r berthynas hynod agos rhwng ardaloedd sy'n pleidleisio Llafur yn rheolaidd ac amddifadedd.  Er enghraifft mae 44.4% o ardaloedd cyfri Merthyr yn y 20% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae'r ffigyrau hefyd yn uchel iawn ym Mlaenau Gwent (40.4%), Rhondda Cynon Taf (34.9%), Castell Nedd Port Talbot (30.8%), Penybont (28.2%), Caerdydd (26.6%), Caerffili (26.4%), ac Abertawe 24.5%).  Mae'r cwbl o'r ardaloedd hyn efo cynrychiolaeth Llafur ar lefel Cynulliad, ac mae'r cwbl yn gynghorau sy'n cael eu rheoli gan Lafur.  Mae pob ardal hefyd gyda chynrychiolaeth Llafur yn San Steffan ag eithrio Gogledd a Chanol Caerdydd.  Yng Ngorllewin a De Caerdydd - a gynrychiolir gan Lafur - mae mwyafrif llethol yr ardaloedd di freintiedig yng Nghaerdydd.

Nid oes gan y siroedd sydd gyda llai na 10% o'u hardaloedd cyfri yn yr 20% mwyaf difreintiedig (Gwynedd, Powys, Ceredigion, Penfro a Mynwy) ddim  un Aelod Cynulliad nag Aelod Seneddol a dydi Llafur ddim yn rheoli'r un o'r cynghorau.  Yn wir llond dwrn o gynghorwyr yn unig sydd ganddynt rhwng y pump awdurdod.

Mae Llafur wedi tra arglwyddiaethu tros rannau eang o Gymru ers 1918 neu 1922.  Roedd yr ardaloedd yma yn dlawd bryd hynny, ac maen nhw'n dlawd heddiw.  Mae naratif Llafur wedi honni bod pleidlais i Lafur yn bleidlais tros degwch cymdeithasol a thros ddileu tlodi o'r dechrau'n deg.  Ac eto y cymunedau oedd fwyaf di freintiedig yn 1918 ydi'r mwyaf di freintiedig heddiw.  Dydi bron i ganrif o bleidleisio i Lafur ddim wedi newid hynny.  Dydi'r 11 mlynedd pan roedd gan Llafur eu dwylo ar yr holl lefrau pwer yng Nghaerdydd ac yn Llundain ddim wedi newid dim.  Yn wir cynyddodd y bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn ystod y cyfnod hwnnw. Dydi hyn ddim yn fater bach - a dweud y gwir does yna fawr o ddim byd pwysicach - mae tlodi wedi cael effaith hynod negyddol ar fywydau cenedlaethau o bobl yng Nghymru.

Ydi pethau'n debygol o fod yn wahanol yn y dyfodol?  Wrth gwrs nad ydyn nhw.  Dydi mynd i'r afael efo amddifadedd yng Nghymru ddim yn flaenoriaeth i Lafur, a 'doedd o erioed yn flaenoriaeth.  Mae datganiad Llafur nad ydynt am ddiwigio Barnett - er gwaetha'r ffaith eu bod yn cydnabod bod y fformiwla yn anheg a Chymru- yn dangos yn ddigon clir nad yw am fod yn flaenoriaeth yn y dyfodol chwaith.  Mae dweud un peth tra'n gwneud rhywbeth hollol wahanol wedi gweithio am ddegawdau i Lafur yng Nghymru.  Fydd yna ddim byd yn newid tra bod y patrwm hwnnw'n parhau.  Mae pleidlais tros Lafur yn bleidlais tros dlodi.

Gellir gweld y mynegai yn ei chyfanrwydd yma.  


3 comments:

Anonymous said...

Clywch clywch

Mi ddylsai "vote Labour,stay poor"

Yn slogan i bawb ym mhob etholiad am flynyddoedd i ddod

Anonymous said...

Os ydych chi'n byw yn un o gymoedd difreintiedig y de-ddwyrain, i bwy fyddech chi'n pleidleisio? Y Toriaid? Plaid y breintiedig? Y Lib Dems? Plaid y diffaith? Plaid Cymru? Plaid nirfana rywbryd ymhen can mlynedd?

Mae'r Blaid Lafur yn llwgwr ac yn ddiffaith ond does yr un blaid arall yn cynnig unrhyw obaith credadwy, er gwaethaf ei methiant alaethus dros y blynyddoed

Ioan said...

Oes 'na angrefftiau o ardaloedd (trefol) oedd yn dlawd yn 1918, wnaeth beidio a pleidlesio Llafur, a sydd yn gyfoethog rwan?