Monday, March 24, 2014

Gweinyddiaeth Llafur Caerdydd - ffuredau mewn sach

Tri chynghorydd Llafur yn ymddiswyddo o'r cyngor mewn ychydig fisoedd, arweinydd y grwp Llafur a'r cyngor yn camu o'r neilltu oherwydd 'rhesymau teuluol' a rwan mae'r brodyr yn cael coblyn o ffrae  ynglyn a phwy sy'n cael mynd ar y cabinet.  Mae'r llanast rhyfeddol yma'n digwydd mewn cyfnod pan mae toriadau enbyd yn gorfod cael ei wneud i'r cyngor sydd a'r boblogaeth uchaf yng Nghymru o ddigon.  Pan y dylai'r weinyddiaeth fod yn dangos arweinyddiaeth gadarn yn wyneb amgylchiadau anodd mae ei meddwl wedi ei ffocysu'n llwyr ar ymgecru mewnol.

Mae prif ddinas Cymru yn haeddu llawer gwell arweiniad na hyn.

10 comments:

Anonymous said...

Wel dydi hi fawr gwell yng Ngwynedd yn nacdi Cai ? Deilydd portffolio addysg yn gadael ei swydd a hynny jest fel mae sgandal Ysgol Brynrefail yn dod yn amlycach , y bleidlais o ddiffyg hyder , argymhellion estyn heb weithredu arnynt, Pennaeth Addysg yn datgan ei fod yn ymddeol ayyb ayyb. Hwylus iawn.
Ac mae 'na sawl helbul arall acw yng Ngwynedd wrth gwrs. Tudlaen flaen yr Herald rhai wythnosau yn ol " Voluntary Sector Sold Off" - rhoi pres mudiadau ar Sell2Wales, ac wedyn lansio ymgyrch i " gadw'r bunt yn lleol". Mae'r peth bron yn chwerthinllyd oni bai ei fod mor drist.
Dwn im be ydi'r ddihareb gyfystyr Gymraeg am bobol mewn tai gwydyr.
Mae'n bell o fod yn fel acw yn tydi Cai ?

Cai Larsen said...

O diar, mae honna wedi ypsetio rhywun.

Hogyn o Rachub said...

Fel un o gyflogeion Cyngor Caerdydd mae’n siŵr na ddylwn i ddweud popeth sydd ar fy meddwl o ran hyn ... felly wna i ddim ac mi ddewisa i fy ngeiriau. Waeth beth mae neb yn ei feddwl o rai o’r gwleidyddion ar Gyngor Caerdydd – mae gen i farn gref ar nifer ohonynt fy hun – fentrwn i ddweud bod Phil Bale yn chwa o awyr iach, ac mae’n wleidydd o egwyddor sy’n wleidydd am y rhesymau cywir yn hytrach nag yn wleidydd gyrfa. Dydi hynny ddim yn wir am bob un o’r cynghorwyr yn fy marn i, er na fyddwn i’n enwi neb yma wrth gwrs. Ond ta waeth, mae’n dda gen i weld rhywun felly’n arwain sefydliad mor fawr â’r Cyngor. Hefyd, ac efallai y gwyddost hyn Cai, mae nifer o Gymry Cymraeg yn y ddinas yn falch tu hwnt o’i weld yn cael ei ethol gan y grŵp Llafur ac fel arweinydd, am ei fod yn wirioneddol, eithriadol frwd dros y Gymraeg, i’r graddau alla i ddim meddwl am gynghorydd mwy brwd dros yr iaith na fo yng Nghaerdydd!

Pob lwc iddo.

Anonymous said...

Be ydi'r peth Sell2Wales 'ma - y peth mae Llafur yn y Cynulliad yn gorfodi pawb i'w ddefnyddio i bwrcasu?

Cai Larsen said...

Does na neb yn amau ymroddiad Phil Bale i'r Gymraeg Jason, ond mae'r creadur wedi cael ei hun efo joban sy'n anos na bugeilio cathod.

Anonymous said...

Cyngor Gwynedd wnaeth DDEWIS rhoi arian mudiadau bychin ar sell2wales. Dim gorfodaeth. Diffyg dealltwriaeth efallai ond dim gorfodaeth. Blerwch llwyr.

Hogyn o Rachub said...

Dwi'n meddwl fydd pa mor anodd y bydd pethau iddo'n dibynnu ar ei ymateb i'r cyn-aelodau o'r Cabinet(http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/five-cabinet-members-cardiff-council-6867251). Mae gwleidyddiaeth cynghorau'n beth od tydi? Mae cynghorwyr yn aml iawn yn actio'n llawer pwysicach na gwleidyddion ar unrhyw lefel arall. Od o fyd. Ta waeth, wn i beth fyddwn i'n dweud iddo wneud ond eto, call fydda i mi beidio.

A doeddwn i ddim wedi postio'r neges uchod yn meddwl dy fod yn amau Phil Bale o ran ei ymrwymiad i'r Gymraeg neu ddim tebyg Cai. Ond wrth gwrs efallai na fyddai pawb sy'n darllen dy flog yn gwybod hynny. Maen nhw rwan beth bynnag!

A ti'n hollol gywir fod ganddo job a hanner i'w wneud. Fedr neb wadu bod hanes y weinyddiaeth bresennol wedi bod yn ... lliwgar, a dweud y lleiaf.

Anonymous said...

Un da ydi Hogyn o Rachub 'ma. Sa lot gwell iddo fo sgwennu blogmenai na Larsen !!

Cai Larsen said...

Ydi Jason, ond dydi o ddim patch ar hanes y weinyddiaeth Llafur ddiwethaf. Difyr gweld ysbryd Russell Goodwage yn ail ymddangos yn yr amgylchiadau yma. Mae'r dyn yn dod a thrwbwl efo fo - lle bynnag mae'n mynd.

Anonymous said...

Mae pobol Gwynedd yn haeddu dipyn gwell arweiniad hefyd - mae tudalen flaen y DP heddiw yn dangos hynny ! son am dorri gwasanaethau oherwydd y "twll mawr du" ond dim son am dorri swyddi chwaith..................staff dal yna i redeg gwasanaethau sydd ddim yn bodoli. Anhygoel !