Saturday, March 22, 2014

Cadw pethau yn y teulu - Y Blaid Lafur

Hmm, felly mae Stephen Kinnock wedi ei ddewis i amddiffyn sedd saff Llafur yn Aberafon yn 2015. Cafodd Stephen ei fagu yn Ealing, Lloegr, ei addysg prifysgol yng Nghaergrawnt ac mae'n byw yn Nenmarc neu yn y Swistir - yn ddibynol ar pwy rydych yn ei gredu.  Hogyn lleol felly.

Ond mae Stephen wrth gwrs yn fab i gyn arweinydd ac Aelod Seneddol Bedwellty, Neil Kinnock, a'r cyn Aelod Ewrop, Glenys Kinnock.  Mae gan Lafur Cymru hanes o gadw pethau yn y teulu - meddyliwch am Rhodri a Julie Morgan, neu Tal Michael / Alun Michael / Mary Wimbury, Huw Lewis a Lynne Neagle, Naz a Gwion Malik.

Nid bod llosgach gwleidyddol yn unigryw i Lafur Cymru wrth gwrs, mae'n nodweddu'r blaid yn ehangach - Hilary / Tony Benn, Herbert Morrison / Peter Mandelson, Harriet Harman / Jack Dromey, Ed a David Miliband er enghraifft.

Mae yna nifer o blant gwleidyddion Llafur eraill sydd wrthi'n chwilio am seddi saff ar hyn o bryd - Euan Blair, Georgia Gould, Emily Benn, Andy Sawford a Joe Dromey dim ond i enwi 5. Tybed faint ohonyn nhw fydd mor ffodus a Stephen?

10 comments:

Anonymous said...

Dipyn bach fath Gwynfor Evans a'r ap Gwynfors felly.....
O ia, a son am Lundain, nac anghofier mai yn Eltham y ganed a maged Mrs Liz Saville hefyd, y ddynas cau ysgolion , a rwan yn ymladd am sedd seneddol Elfyn Llwyd. Hmmmmmmm Taw yn agos atom oll Cai.

Anonymous said...

Ond o leia roedd Gwynfor yn wleidydd o argyhoeddiad a safon, yn dra gwahanol i'r Kinnocks.

Cai Larsen said...

Anon 5.47 - dwi'n meddwl y cei bod Liz yn byw ym Morfa Nefyn, nid yn y Swisdir. Dwi'n cymryd pan rwyt ti'n son am yr ap Gwynfors mai son am Mabon wyt ti - ymgeisydd aflwyddiannus am sedd ddiogel Meirion Dwyfor.

Mabon (ap Gwynfor) said...

Na Cai, ei gan Anon. uchod bwynt. O'r 7 plentyn gafodd Gwynfor, yr 14 wyr, a'r 19 gor-wyr (hyd yma) mi fues i'n gynghorydd tref yn Aberystwyth am ddwy flynedd.

Dynasty gwleidyddol heb ei ail na'i thebyg :-)

Gyda llaw, i fod yn bedant enw, mond fy nheulu i sy'n ap G's. Mae'r gweddill a chyfenwau gwahanol.

Pob lwc i Kinnock jnr. Cymru'n cael ei ddefnyddio unwaith eto er budd unigolion a phlaid wleidyddol.

Llwgr.

Gwynfor Owen said...

I fod yn deg Mae record pob Blaid yn o debyg gan gynnwys un ni. Mae llawer o'r un teulu yn Gynghorwyr Plaid Gwynedd er enghraifft. Mae hon yn stori fwy difrifol o lawer na hynny. A fydd pobl yr etholaeth yma yn ddigon dwl I dderbyn person sydd heb gysylltiad personol o'r ardal fel eu haelod Seneddol? Neu a fydd ent yn ymwrthod fel wnaeth aelodau y Blaid Lafur yn Blaenau Gwent pan wthiwyd ymgeisydd arnynt

Cai Larsen said...

Ia Gwynfor ond mae poblogaeth Gwynedd yn tua 110,000. Mae poblogaeth y DU yn 60m +. Mi fyddai rhywun yn meddwl y byddai yr un teuluoedd yn cael eu dewis trwy'r amser yn llai tebygol o dan yr amgylchiadau hynny.

Hefyd wrth gwrs does yna ddim cystadleuaeth mawr yn aml i sefyll mewn etholiad cyngor - mae pobl yn gwneud am eu bod yn teimlo y dylent. Mae cystadleuaeth mawr am seddi saff Llafur.

Gwynfor Owen said...

O'r gorau Cai fe gei di y pwynt yna

Anonymous said...

S'dim ots gen i am wreiddiau Kinnock Jnr. Mae ei syniadau Llafur o'r 1970au yn achosi mwy o bryder...

Mae e newydd dweud ar sioe Vaughan Roderick y bore 'ma y byddai'n hapus i alw Ed Milliband er mwyn rhoi pwys ar lywodraeth Cymru i newid eu polisi (fel yr un am gau cyffordd y M4 yn Port Talbot).

Jyst anhygoel sut mae'r math o wleidydd Labour yn meddwl...

Phil Davies

Dai said...

Mae gweld plant yn dilyn swydd neu gyrfa eu rhieni yn ddigon cyffredin. Faint o fusnesau "a'i feibion" fu yna dros y blynyddoedd? Pam ddylai gwleidyddieth fod yn wahanol?

William Dolben said...

Dai,

Mew cymdeithas rydd mae gennyt berffaith hawl i wneud eiddo neu gwmni i dy blant (ar ôl talu trethi wrth gwrs) ond dydi etholaeth ddim yn perthyn i ryw ddosbarth neilltuol (er ei bod hi ers talwm) and yn yr achos hwn mae'r Kinnocks wedi defnyddio eu snâm a'u dylanwad i achub y blaen ar y giwed leol. Y gamp rwan ydi cael y sprêj yna i gefnogi'r tywysog

Anghytunaf fymryn â Chai ynglyn â gwerth pobl ddwad. Gallasai rhywun hefo profiad rhyngwladol fod o fudd i ardal ddifreintiedig fel Aberafan ond carreg llam fydd y sêt ddiogel hon i Kinnock II a mi dreulith cyn lleied o amser y medrith o yn eu plith