Friday, March 21, 2014

Ann Clwyd a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Waeth i mi roi fy nghardiau ar y bwrdd cyn cychwyn.  'Dwi'n  ei chael braidd yn anodd i gydymdeimlo  efo Ann Clwyd.  Dwi'n gwybod ei bod yn weddw, dwi'n gwybod bod amgylchiadau marwolaeth ei gwr yn rhai trist, dwi'n gwybod ei bod wedi teimlo'r amgylchiadau hynny i'r byw a'i bod am sicrhau bod pethau'n well i. bobl eraill.  Ond i mi mae yna rhywbeth anymunol a di chwaeth yn y cyferbyniad rhwng ei diddordeb yn ei theimladau ei hun a'i  hanes fel propogandydd tros ryfeloedd tramor - rhyfeloedd sydd wedi arwain at ddioddefaint ar raddfa Beiblaidd i ddegau o filoedd o bobl eraill.

Ac yn anarferol dwi'n cael fy hun yn rhyw hanner cydymdeimlo efo Carwyn Jones.  Roedd ei ymysodiad ar Ann Clwyd yn y Cynulliad yn fwy chwyrn nag oedd yn ddoeth o'i safbwynt o, ond mae'n hawdd deall ei rwystredigaeth.  Mae'r Toriaid yn Llundain yn achub ar pob cyfle i ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru - nid am eu bod efo fawr o ddiddordeb yn y pwnc ond fel rhan o'u strategaeth yn i danseilio Llafur yn etholiad cyffredinol 2015.  Dydi o ddim botwm o ots ganddyn nhw os ydi miloedd o weithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael eu pardduo fel rhan o'r strategaeth honno.  Dydi o ddim mymryn o ots ganddyn nhw chwaith os ydynt yn tanseilio moral gweithwyr iechyd yng Nghymru yn llwyr yn y broses - mater bach ydi hynny o gymharu a chadw David Cameron yn 10 Downing Street.  Mae ymddygiad Ann Clwyd yn atgyfnerthu'r strategaeth honno, a mae'n rhaid bod Andrew RT Davies wrth ei fodd cael ei dyfynu tros lawr y Cynulliad Cenedlaethol.

Rwan, dydi'r sefyllfa ddim yn union yr un peth a'r sefyllfa Dafydd Elis Thomas.  Roedd Dafydd yn tanseilio ei Blaid oherwydd ei fod o'r farn ei bod o'r pwysigrwydd mwyaf ei fod o'n cael doethinebu yn ddi dramgwydd.  Mae Ann Clwyd yn tanseilio ei phlaid (ac yn tanseilio gweithwyr iechyd) am ei bod wedi ei hargyhoeddi bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wirioneddol wallus.  Mae o leiaf rhan o'r canfyddiad hwnnw wedi ei seilio ar brofiad unigol personol.  Mae'r canfyddiad wedi ei atgyfnerthu gan dystiolaeth pobl sydd - am rhyw reswm neu'i gilydd - ddim eisiau datgelu eu henwau na manylion eu cwynion.  Petai yr hyn mae'n ei ddweud yn wir, mi fyddai tanseilio ei phlaid yn gwbl ddealladwy.  Ond - fel mae Carwyn Jones yn ei ddweud - dydi hi ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth o werth i ddangos bod gwirionedd yn ei honiadau.  Dydi hi ddim chwaith yn fodlon datgelu manylion yr ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth ei gwr - a hynny ar sail preifatrwydd - a hynny er ei bod wedi bod yn fodlon gwneud defnydd o wybodaeth ddethol, cyffredinol ac emosiynol o'r achos er mwyn ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Rwan, petai Ann Clwyd yn cymryd cam yn ol ac yn ceisio ymateb i'r sefyllfa mewn ffordd llai emosiynol byddai'n gweld nad oedd ei methiant yn gynharach heno i ddweud nad oedd Ysbyty'r Heath yn cymharu efo Mid Staffs yn briodol, a bod cymhariaeth o'r fath yn pardduo gweithwyr iechyd yn yr Heath.  Byddai hefyd yn gweld bod rhaid iddi ddarparu manylion os ydi hi am i gwynion gael eu cymryd o ddifri.  Byddai yn gweld nad ydi hi'n rhesymegol casglu bod amgylchiadau marwolaeth trist ei gwr yn golygu bod y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn bwdr.  Ac yn wir byddai'n gweld ei bod yn cael ei defnyddio gan elynion y Gwasanaeth Iechyd, a'i phlaid ei hun i yrru agenda wleidyddol.

Ond dyna ydi problem Ann Clwyd, dydi hi ddim yn cymryd cam yn ol ac yn edrych ar bethau yn oeraidd.  Ymateb emosiynol i sefyllfa'r Cwrdiaid oedd yn gyfrifol am ei throi'n bropogandydd rhyfel i George  Bush yn y gorffennol ac ymateb emosiynol i drychineb bersonol sydd wedi ei throi yn bropogandydd i agenda Doriaidd heddiw.  Mae hefyd yn amlwg yn afresymegol i ddadlau na ddylai'r Cynulliad gael mwy o bwerau yn sgil ei honiadau, tra'n ddigon bodlon i bwerau tros iechyd aros yn San Steffan er gwaethaf sgandalau llawer, llawer gwaeth.

Cyn gorffen hoffwn bwysleisio nad ydw i'n dadlau na ddylid dal y weinyddiaeth Llafur yng Nghaerdydd yn stebol am fethianau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  Lle ceir tystiolaeth ddibenadwy dylid gwneud hynny ar pob cyfri.  Ond yr hyn sydd ddim yn briodol ydi ymosod mewn modd hysteraidd ar y Gwasanaeth yn ei gyfanrwydd ar sail cwynion unigol - yn arbennig felly cwynion sydd yn rhai cyffredinol yn absenoldeb unrhyw fanylion penodol.  Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'i gweithwyr yn rhy bwysig i gael ei drin fel pen droed gwleidyddol.

20 comments:

Anonymous said...

Cai ti darllen y adroddiad heddi nath dod mas am methiannau Arolygiaeth gofal iechyd cymru? dyna yw stad iechyd yn cymru!

Gwynfor Owen said...

Buaswn yn cytuno yn llwyr a'r hyn 'rwyt yn ei ddeud petaet heb son am Dafydd a'r Blaid. 'Roedd ymateb arweinydd y Blaid I Dafydd yn llawer fwy chwyrn nag oedd yn ddoeth iddi. Efallai bod ganddi hithau rwystredigaeth hefyd, ond mae y Blaid I fod I ymddwyn yn gallach na'r pleidiau eraill. Dyma'r neges 'rwyf yn bersonol wedi bod yn ei roi I bobl Cymru ar hyd y blynyddoedd

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Anonymous said...

In truth it's a sad look out when thousands of Welsh health workers who provide care and compassion every day of the year are attacked and humiliated by a raving war mongering harridan.

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
howget said...

Mae gen i brofiad personol o anfedusrwydd a gofal gwarthus gafodd aelod o fy nheulu gan y Betsi, pan ofynais i Ffred neud wbath am y gwasanaeth ei unig ymateb oedd - pa ddiddordeb ydio i chdi - son am agwedd sarhaus y dosbarth canol cymraeg. Gobeithio bydd Ann Clwyd yn dal ati, mae pawb yn gwybod sut lanast sydd yn y betsi h.y. heblaw am lywodraeth cymru ar blaid bach.

Anonymous said...

Ac mae gen i dystiolaeth am rywun anofonodd lythyr difrifol at Alun Ffred fis Rhagfyr diwethaf a byth wedi cael ateb. Teg edrych tuag adref medda nhw......

Cai Larsen said...

A dweud y gwir Howget dwi'n siwr mai celwydd ydi dy honiad am ymateb dy aelod Cynulliad i gwyn. Go brin y byddai unrhyw wleidydd o unrhyw blaid yn ymateb felly - a beth fyddai'r pwrpas ymateb mewn ffordd mor wirion?. Ti ddim yn union yn berson di duedd nag wyt?

Byddwn hefyd yn dy atgoffa mai gweinidogion Llafur sydd wedi bod yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Os ti'n poeni am y wasanaeth, efallai y dylet gysylltu efo Mr Drakeford.

O ran Anon 2.02 mae gennym berson di enw yn dweud bod person di enw arall wedi dweud rhywbeth wrtho. Da iawn.

Anon 1.23 - dwi wedi chwalu'r sylw oherwydd dy fod yn gwneud honiad personol am Ms Clwyd heb ddarparu unrhyw dystiolaeth a dwi'n chwalu sylw Anon 1.23 am bod ei hymateb yn datgelu'r honiad personol di dystiolaeth.

Anonymous said...

Yr hyn oedd yn arwyddocaol am sylwadau Carwyn Jones oedd yr hyn a ddywedodd o am yr adroddiad sydd wedi ei baratoi ynglyn a'r drinaieth a dderbyniodd Owen Roberts yn yr ysbyty. Cwynodd yn gyhoeddus ac yn benodol nad yw Ann Clwyd yn fodlon iddo gael ei gyhoeddi. Go brin y byddai'n dweud ffasiwn beth oni bai ei fod yn sicr iawn na fydd casgliadau'r adroddiad yn peri embaras i'r GiC yng Nghymru ac i Lywodraeth Cymru...

Mae gennai syniad na fyddwn yn clywed llawer mwy gan Ann Clwyd ynglyn a'r mater yma eto...

howget said...

Wel yn hysting sian gwenllian yn berea newydd oedd o a gen ti ffwc o gwilydd galw fi'n gelwyddog pan ti ddim.yn nabod fi

Cai Larsen said...

Does gen i ddim cywilydd o gwbl dy alw di'n gelwyddog pan ti'n gwneud honiad mor rhyfeddol o anhebygol.

howget said...

dyna ti- fel dwi di deud sawl gwaith - rhydd i bawb ei farn, ond oherwydd dy sylwadau anghwrtais tuag ataf dwi wedi gofyn i rhuannedd ddiddymu fy aelodaeth yn unionsyth a dwi wedi canslo'r debyd uniongyrchol. Ennill aelodau nid eu colli ydy'r arfer ia ddim?

Anonymous said...

Cywilydd arnat Cai Larsen. Mae dy sylwadau amharchus wedi costio aelod i Plaid Cymru rwan. Clyfar iawn.

Cai Larsen said...

Dydi hynny ddim yn gwneud dy stori mymryn mwy credadwy a dweud y gwir howget.

Gwynfor Owen said...

Rhag dy gywilydd Cai yn ypsetio rhywun mor croen denau, ei fod yn syndod ei fod yn gallu cerdded lawr y stryd heb i'w esgyrn ddisgyn i'r llawr

Anonymous said...

Bobol bach , lwcus nad cyfrifoldeb am gynyddu aelodaeth sydd gen ti yn PC Cai

howget said...

diolch am dy sylw Gwynfor - dwn im be ffwc ydio o dy fusnas di

Anonymous said...

Ti'n dioddef o tourets howget?

Cai Larsen said...

A bod yn deg Howget os ti'n gwneud datganiad cyhoeddus ar flog dy fod yn gadael plaid oherwydd nad ydi awdur y blog hwnnw yn credu stori liwgar ti wedi ei gadael ar y blog, ti'n ei wneud yn fusnes i bwy bynnag sy'n digwydd darllen y blog.

Anonymous said...

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ar ei liniau ar draws y DU , nid yn unig yng Nghymru. Efallai bod yn rhaid bellach i ni gyd dderbyn nad yw hen system Anruein Bevan yn addas i bwrpas. Gyda phoblogaeth yn heneiddio, amrediad meddygyniaethau yn llawer mwy (ac felly mwy o gost), arbenigedd meddygol ayyb ayyb wedi datblygu efallai bod yn rhaid i ni gyd dderbyn na fedar Gwasanaeth Iechyd a ddyfeisiwyd yn y ganrif ddiwethaf bellach fod yn addas i bwrpas. Yr hyn sydd yn fy wir ddigaloni yw gweld PC yn gwneud mor a mynydd o ofal babannod anghenus yn Arrowe Park ayyb. pan, mewn gwirionedd , cyfnod byr iawn yw y cyfnod yna a hefyd nifer fechan iawn o fabannod. Piti na fyddai gweledigaeth mwy strategol gan PC o safbwynt ad drefnu gwasanaethau iechyd. Mae cynnig megis y Cyngor Sir yn gyfrifol am ofal cynradd (fel sydd wedi ei grybwyll) yn hollol wrthun. Mi fyddai meddwl am Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am ofal cynradd (meddygon teulu, nyrsus, deintyddiaeth) yn fy llenwi gydag arswyd.......
Ble mae gwelediaeth strategol PC felly yn hytrach na neidio ar y wagen babannod bach. ?? Mae angen cynigion strategol o safon am ad drefnu Gwasanaeth Iehyd Cymru, yn hytrach na thaflu bai trwy'r amser.