Monday, September 23, 2013

Ynys Mon - etholiad San Steffan - y diweddaraf

Ymddengys bod tri o'r pedwar a awgrymais oedd am roi eu henwau ymlaen am enwebiaeth y Blaid yn Ynys Mon wedi gwneud hynny - Ann Griffith, Ken Taylor a John Rowlands.  Mae un enw arall yn yr het - John V Williams sydd wedi ei fagu yng Nghaergybi ond sy'n byw yn Aberystwyth ar hyn o bryd.  Mae gan Ann a John V gyfrifon trydar - @AnnGriffPlaid a @JohnVWilliams.  Dwi'n siwr y bydd ganddynt ddigon i'w ddweud cyn yr hystings - dilynwch nhw.

Hyd y gwn i does gan y ddau arall ddim cyfrifon - ond os dwi'n anghywir cysylltwch a fi plis - dwi'n fwy na pharod i gyhoeddi'r manylion.

O.N. -   Deallaf mai cyfeiriad cyri trydar Ken ydi - @beiciwr535

3 comments:

Anonymous said...

Cyfrif Trydar Ken Taylor ydi
@beiciwr535

Anonymous said...

Hi, John V Williams, bydd pawb yn f'adnabod fel Vaughan. Diolch am y son. Fel y dywedoch ar hyn o byd dw i'n athro Cymraeg yn Aberystwyth, ac ie, wedi magu yng Nghaergybi ond teulu yn Rhydwyn, Llanfaethlu, Tregele, Llanrhyddlad a Thalwrn.
Cofion.

Anonymous said...

Cawn rhagor o wybodaeth plis am bob un , beth am iddyn wneud youtube fideo o gwmpas pum munud a rhoi hyperlink I Blogmenai

Ma hon yn sedd bwysig nawr - dwi meddwl y bydd un o'r uchod yn aelod seneddol .