Tuesday, September 24, 2013

Ydi'r iaith yn marw yn Sir Gaerfyrddin?

Y cefndir i'r cwestiwn ydi nifer o ddadleuon sydd wedi eu hysgogi gan fy sylwadau ar y syniad o ad leoli S4C yng Nghaerfyrddin neu yng Ngwynedd.  Fy nadl i oedd y byddai'r canrannau sy'n siarad yr iaith yn rhwym o gwympo yn y dyfodol canolig oherwydd strwythur oedran Cymry Cymraeg y sir.  Roedd ffigyrau a ddarparwyd gan Ioan yn cefnogi'r ddamcaniaeth:

....................... % 25-39 .. % 75+ .. Gwahaniaeth
Caerfyrddin ..... 37.1% ... 52.8% ... -15.7%
Neath Port Talbot 11.1% . 17.6% . -6.5%
Abertawe ........... 7.7% ... 14.1% ... -6.5%
CYMRU ….......... 15.5% ... 17.5% ... -1.9%
Conwy …........... 29.0% ... 23.3% ... 5.7%
RCT …................ 12.3% ... 5.7% ... 6.6%
Caerphilly …...... 9.2% ... 2.5% ... 6.7%
Gwynedd …....... 69.1% ... 60.7% ... 8.3%
Ynys Mon …....... 60.3% ... 51.8% ... 8.4%

Roeddwn serch hynny yn nodi bod y sefyllfa yn debygol o wella mewn amser oherwydd bod y cyfrifiad bellach yn awgrymu bod trosglwyddiad iaith y sir yn cymharu'n dda efo gweddill Cymru - hy y gymhariaeth rhwng y cohorts sy'n esgor ar blant ar hyn o bryd a phlant 3/4 oed.  

Serch hynny cafwyd neges gan William Dolben sy'n paentio llun mwy du o lawer o sefyllfa'r iaith yn Sir Gaerfyrddin.  Yr hyn mae William yn ei wneud ydi cymharu data'r Cyfrifiad efo data arall (addysgol yn bennaf) ac yn dod i gasgliadau llawer tywyllach.  Mi ymatebaf iddo ar ol cael cyfle i bori'r data (mewn ychydig ddyddiau mae'n debyg), ond dwi'n dyfynu'r neges ar y dudalen flaen er mwyn ysgogi trafodaeth.  Oes gennych chi farn?  Ydych chi'n byw yn Sir Gar?  Croeso i unrhyw un adael sylw.  

Sylwadau Wiliam:



Hwyrach fy mod wedi bod yn fyrbwyll wrth roi Caerfyrddin ymlaen ond rwy'n dal i ochri hefo Ioan cyn belled â mae dirywiad yr iaith yn Si Gâr yn y cwestiwn.
Mae gennym dair ffynhonnell: y cyfrifiad, arolygon y Bwrdd Iaith a data ysgolion a rhieni. Fel rwyf wedi deud o'r blaen mae'r cyfrifiad yn gamarweiniol. Mae arolygon y Bwrdd Iaith yn awgrymu fod 60% o'r rhai sy'n honni eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl. Rhyw 20% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg a tua 12% (neu 300,000) yn rhugl. Wrth gwrs mae canrannau y rhai rhugl yn uwch yn y Gorllewin ac ymhlith y rhai hen os cofiaf yn iawn ond yn bendant mae'r cyfrifiad yn gorliwio iechyd y Gymraeg hyd yn oed yn fanno.
Trown rwan at y drydedd ffynhonnell sef y cyfrifiad ysgolion (cynradd). Mae'r data i'w cael yn y wefan hon:

http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121001section8ency.xls
Maent yn ddiweddar (2011/12) ac yn fwy gwrthrychol na'r cyfrifiad yn fy marn i er mai'r rhieni sydd yn gwerthuso gallu ieithyddol eu plant (yr un fath â'r cyfrifiad!)
22.4% o blant yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Sir Gâr. Y ffigyrau cyfatebol yn siroedd eraill y Gorllewin yw Gwynedd 57,6%, Môn 38.3% a Cheredigion 26.2% Er bod y mewnlifiad wedi bod yn fwy yn y tair sir hon, mae'r ganran o Gymry cynhenid yn uwch (am fod trosglwyddiad iaith yn uwch)
Ond wrth graffu ar y plant sydd yn dôd yn rhugl yn yr ysgol gynradd (yn ôl y RHIENI, cofiwch!) mae gwallt fy mhen yn codi:
Sir Gâr 17.7%
Gwynedd 6.8%
Môn 7.4%
Ceredigion 5.6%
Annodd coelio fod system addysg Sir Gâr bron dairgwaith gwell na Gwynedd, Môn a Cheredigion am gynhyrchu Cymry rhugl yn yr ysgol
Pan newidwyd y ffordd o werthuso iaith plant ym 2006 cododd canrannau y plant oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd am fod rhieni yn fwy tebyg o ddeud fod eu plant yn Gymry na'r athrawon (Cai fel athro be dechi'n feddwl?). Ni wn pa fethodoleg sy'n drywach a rwy'n siwr fod yna resymau da am newid y fethodoleg ond y gwir plaen ydi fod bron 80% o blant Si Gâr yn siarad Saesneg ar yr aelwyd (sef yr un ganran oedd yn siarad Cymraeg yng nghyfrifad 1961! Mae'n wir hefyd fod y dirywiad wedi dechrau 50 mlynedd yn ôl a chynt (dim ond 45% o blant ysgol oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Sir Gâr ym 1961!) Ond y drwg ar y cyfrifiad ydi'r ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio = mae'r Cymry Cymraeg cynhenid yn byw yn hyn ac yn caddugo'r dirywiad!
Rwy'n cael yr argraff fod rhieni'r siroedd eraill yn llymach wrth gloriannu Cymraeg eu plant. Mae cogio dy fod yn siarad Cymraeg yn annoddach yng Ngaernarfon hefyd decien i
Awn ni rwan i ardal Rhydaman i sbïo ar adroddiadau ysgol (2010 a 2013 yn achos Bewts). Dyma a gefais (nifer y plant a'r % o Gymry cynhenid mewn cromfachau):
Ysgol G. Rhydaman 225 (30%)
Ysgol Bro Banw 411 (8%)
Ysgol Ty Croes 173 (2.3%)
Ysgol Betws 77 (<3 br="">CYFANSWM 886 ( 12%)
Mae'n frawychus. Yn yr ardal hon yn 1971 oedd >75% yn siarad Cymraeg. Ond hyd yn oed ym 2011, yn ôl y sensws oedd 49% yn siarad Cymraeg yn Rhydaman, 47% yn Nhy Croes a 53% ym Mhontaman (Betws). Os ydi 12% o blant yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd mewn ardal lle mae'r cyfrifiad yn sôn am 50% pa obaith sydd?.......Yn y genhedlaeth nesaf os priodith y 12% hefo'i gilydd bydd 12% o Gymry ar yr aelwyd. Ond os priodant hefo pobl eraill aiff y ganran i lawr i 1-2%.
Mae'r sefyllfa'n dipyn gwell mewn rhai pentrefi o gwmpas Rhydaman (Llandybïe, Brynaman, Garnant a Chwm Gwendraeth) ond hyd yn oed yn y llefydd hynny sydd yn debyg eu naws i Stiniog, Pesda a Llanberis mae canran y Cynry cynhenid yn yr ysgolion cynradd o dan 40%...
Nid wyf am feirniadu'r ysgolion a hwyrach yr aiff rhai o'r dysgwyr ati i siarad Cymraeg ar yr aelwyd ond rhaid inni wynebu'r ffeithiau
Mae yna newidiadau ar y gweill yn ysgolion uwchradd fydd yn hybu'r Gymraeg ond os marw (a marw ydi'r gair, Cai) bydd yr iaith ar yr aelwyd i be ydio o da?



10 comments:

Unknown said...

Ganddo fucking cyngor hopeless o so called fucking independents ond sy'n gweithredu fel grwp.

Alwyn ap Huw said...

Parthed y canrannau sydd yn cael gafael ar y Gymraeg yn yr ysgol yn hytrach nac ar yr aelwyd sef (yn ôl y post) Sir Gâr 17.7% Gwynedd 6.8% Môn 7.4% Ceredigion 5.6%, ydy’r rhifau yn ganrannau o holl blant y siroedd neu yn ganran o'r plant sy'n dechrau’r ysgol yn di Gymraeg?

Os mae canran yr holl blant ydyw yna mi fyddwn yn disgwyl i ganran Gwynedd i fod yn is na chanrannau siroedd eraill am ddau reswm. Yn gyntaf oherwydd bod llai o blant yng Ngwynedd ar gael i gyflwyno'r Gymraeg iddynt am y tro cyntaf yn yr ysgol 33% o gymharu â 66% yn sir Gâr; yn ail oherwydd bydd gan y rhieni sydd yn gwneud y gwerthuso gwell pren mesur i werthuso galluoedd ieithyddol eu plant yn ei herbyn na rhieni mewn ardaloedd lle nad yw Cymraeg naturiol yn cael ei glywed mor aml.

Cai Larsen said...

Canran o'r cwbl ydi o - mae llawer mwy o blant ail iaith ar gael yng Nghaerfyrddin i ddysgu'r iaith yn rhugl. Ffactor arall pwysig ydi bod mwy o blant ail iaith Gwynedd (a Mon wrth gwrs) yn fewnfudwyr o Loegr. Mae'r di Gymraeg yng Nghaerfyrddin yn fwy tebygol o fod a chysylltiad uniongyrchol teuluol efo'r Gymraeg - felly mae'n llai o dalcen caled.

Cai Larsen said...

Hefyd - dim ond wrth ddod i'r ysgol mae'r asesiad yn un rhieni. Asesiadau ysgol ydi'r rhai hwyrach.

Anonymous said...

Mae iaith yr abraham wood 'na yn warthus.

William Dolben said...

Diolch Cai,

Oeddwn i heb sylweddoli fod yr athrawon yn gwerthuso ar ol y flwyddyn gyntaf. Meddwl oeddwn mai'r rhieni oedd yn gneud bob amser.

Cai Larsen said...

Na- does yna ond cyfle iddyn nhw wneud hynny wrth gofrestru eu plant.

Ioan said...

Tabl bach arall:

% o bobl sydd wedi eu geni yng Ngymry, sy'n gallu siarad Cymraeg

Awdurdod lleol ... Oed 25 i 34
Gwynedd ............ 89.8%
Ynys Mon ........... 76.4%
Ceredigion ........ 73.1%
Carmarthenshire . 46.2%
Conwy ................ 41.6%
Sir Ddinbych ...... 32.3%
Powys ................. 23.4%

O ran pobl ifanc o Gymru, Sir Gaerfyrddin yn debycach i Conwy a Sir Ddinbych na'r dair sir "Bro Gymraeg"

William Dolben said...

Diddorol, Ioan..yr unig beth ydi: mae yna chwaneg o Gymry o beth coblyn ar yr aelwyd yn Sir Gâr: 22.4%.
Yn Ninbych: 10.3%, Conwy 11.1%, Powys 6.2%...

Sylwais hefyd fod y rhai sy'n dôd yn rhugl yn amrywio cryn dipyn yn y siroedd hyn:

Dinbych +6.1%
Conwy +1.2%
Powys +5.1%

FFigur Conwy yn siomedig ynde?

Alwyn ap Huw said...

Mae ffigyrau Conwy yn gywilyddus o siomedig ond dim yn annisgwyl.

15 mlynedd yn ôl roedd rhai o ysgolion Conwy yn troi plant o aelwydydd Cymraeg yn ymarferol uniaith Saesneg; ond mae pethau'n gwella.

Ers i Blaid Cymru dod yn rhan o grŵp rheoli'r Cyngor rhyw 6 mlynedd yn ôl mae nifer o ysgolion wedi cael ffrydiau Cymraeg newydd sydd yn dechrau profi'n boblogaidd efo rhieni di Gymraeg. Mae angen troi rhai o'r ffrydiau yn ysgolion Cymraeg cyflawn ac mae angen ail ysgol Cymraeg uwchradd yn y sir, datblygiadau sydd o dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

Nid da lle gellir gwell ond mae pethau wedi dechrau symud i'r cyfeiriad cywir yma. Bydd yn ddiddorol gweld os yw ffigyrau Conwy yn gwella dros y blynyddoedd nesaf i weld pa mor llwyddiannus bu'r newid cyfeiriad