Saturday, September 28, 2013

Stori'r Cymoedd

Mae'n anodd meddwl am unrhyw beth sy'n fwy o gondemniad o'r weinyddiaeth Lafur yng Nghaerdydd na phenderfyniad Persimmon i beidio ag adeiladu tai yn y Cymoedd i'r  gogledd o Bontypridd oherwydd nad ydi hi'n bosibl gwneud elw o wneud hynny.



Fel pob dim arall mae pris ty yn cael ei yrru yn bennaf gan faint mae pobl yn fodlon ei roi amdano.  Ymddengys nad ydi pobl yn fodlon talu llawer mwy na gwerth y tir, y defnyddiau a'r llafur yn y rhan fwyaf o'r Cymoedd - a'r rheswm am hynny wrth gwrs ydi na all trigolion y Cymoedd fforddio i dalu'r pris  am dai newydd.  Mae'r ardaloedd yma wrth gwrs ymysg y lleoedd sydd efo'r stoc tai hynaf a salaf yng Nghymru.

Mae sefyllfa lle nad ydi hi'n werth adeiladu tai newydd mewn cymuned yn un drist ac yn wir yn sefyllfa drychinebuss o safbwynt y gymuned honno.  Mae'n arwydd pendant mai dirywio ydi'r  unig ddyfodol..  Mae llawer iawn o bobl yn byw yn y cymunedau o dan sylw - ac maent ymysg y bobl mwyaf tebygol o bleidleisio i Lafur yn y DU.  Yn wir mae Llafur wedi tra arglwyddiaethu yn yr ardaloedd hyn yn ddi dor ers 1918.  Methodd y blaid honno atal y dirywiad economaidd yn y Cymoedd pan maent wedi llywodraethu yng Nghaerdydd a phan maent wedi llywodraethu yn Llundain - ac eto maent wedi cynnal eu poblogrwydd etholiadol yn yr union ardaloedd hynny.

Ac rwan mae wedi dod i hyn.  Mae'n ddameg o gyflwr Cymru heddiw - ymlyniad niferoedd sylweddol o bobl at blaid sy'n gallu creu dim ond tlodi sydd yn ei dro yn creu dibyniaeth economaidd ar y wladwriaeth sy'n creu'r ymlyniad at y blaid sy'n creu tlodi ac ati ac ati.  

5 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Dydw i ddim yn arbenigwr ar y Cymoedd. Beth wyt ti'n meddwl y dylid ei wneud yn wahanol yno? Hyd y gwela i mae'r diwydiant a ddenodd pobl yno yr ystod y chwyldro diwydiannol wedi mynd, a mae lleoliad a tirwedd yr ardal yn anaddas er mwyn i bobl allu cymudo i fynd i'r gwaith mewn mannau eraill. Onid yw dirywiad i raddau yn anochel? Pe bai'r Cymoedd yn pleidleisio dros PC neu'r Ceidwadwyr fory, a fyddai yno unrhyw wahaniaeth mawr yn eu safonau byw mewn deg mlynedd? Gofyn ydw i, does gen i ddim atebion!

Cai Larsen said...

Mi fyddai dirywiad yn anochel petaet mewn gwlad fawr yn ddaearyddol - mae tref yng nghanol Ohio sy'n colli ei raison d'etre yn marw - yn llythrennol bron. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn symud oddi yno er mwyn cael gwaith - mae tai gwag ym mhob man.

Ond mae Cymru'n fach - mae'r Cymoedd oll yn agos at Abertawe, Caerdydd neu Gasnewydd. Ond i bobl gymudo ti angen systemau trafnidiaeth da.

Ond hanner yr ateb ydi hynny - os oes gen ti dy ddwylo ar y lefrau economaidd mawr mi fedri di gynllunio i adfywio cymunedau - dyna pam pam bod gen ti ddiwydiannau cynhyrchu yn Limerick neu Galway.

Anonymous said...

Nid wyf i wedi fy argyhoeddi fod system drafnidiaeth arbenning i Gaerdydd neu Abertawe ac ati yn ateb. Os yw hi mor hawdd i gyrraedd Caerdydd er engraifft ag yw hi i gyrraedd dyweder Treherbert, paham mynd am beint neu fwyd neu siopa neu at y cyfreithiwr ayyb yn Nhreherbert? Mae'r un ddadl yn cael ei ddefnyddio parthed HS2 yn Lloeger. A fydd Llundain yn anadlu bywyd i mewn i'r dinasoedd mae'r rheilffordd yn cysylltu, neu a fydd hi'n tynnu'r gwaed sy'n weddill o'r claf? Mae hyd yn oed y BBC wedi rhedeg erthyglau yn nodi hyn.....gan Stephanie Flanders (nawr o J P Morgan) os dwi'n cofio'n gywir. Mi allaf ddod o hyd iddo os oes angen. Mae na ffyrdd arall....beth am lefel treth corfforiaethol yn is i lefydd sy'n bell o'r canolfannau dinesig yn ogystal a gwell trafnidiaeth? Gallai Dolgellau fod yn is fyth!

Cai Larsen said...

Wel mi fyddai cael ein dwylo ar drethiant yn rhoi'r modd i ni fynd i'r afael a than berfformiad economaidd yng Nghymru wrth gwrs. Ond dydi Llafur ddim eisiau cael eu dwylo ar elfennau arwyddocaol o'r system drethiant - am resymau mae'r blog yma wedi eu trafod o'r blaen. Yn wir mae Peter Hain o'r farn y byddai dod a rheolaeth ar drethiant i Gaerdydd yn ddiwedd ar y genedl.

Dylan said...

Fy nealltwriaeth i oedd bod amrywio'r dreth gorfforaethol o fewn un wlad wedi'i wahardd gan reolau Ewropeaidd. Ydw i'n iawn?