Saturday, September 28, 2013

Pam bod Cris Dafis yn anghywir ynglyn a natur cymuned Gymraeg Caerdydd

Ddim yn aml mae rhywun yn darllen erthygl lle mae'r awdur wedi cam ddeall yr hyn mae'n sgwennu amdano yn llwyr  - ond roedd ymdrech Cris Dafis yn Golwg yr wythnos yma yn dipyn o eithriad yn yr ystyr hwnnw.  Mae'n erthygl sy'n tystio i anwybodaeth ei hawdur ynglyn a'r hyn ydi'r Gymru Gymraeg.

Byrdwn yr erthygl ydi y dylid cadw S4C yng Nghaerdydd oherwydd bod y ddinas honno mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn 'niwtral' a'i bod yn cynrychioli gweddill Cymru mewn ffordd nad ydi ardaloedd traddodiadol Gymraeg yn llwyddo i'w wneud.  Yn wir ymddengys bod ei siaradwyr Cymraeg yn fwy nodweddiadol o rai gweddill Cymru na thrigolion y Fro Gymraeg.

Mae'r busnes niwtral yn chwerthinllyd o wirion wrth gwrs.  Caerdydd ydi'r rhan lleiaf niwtral o Gymru ar sawl cyfri - mae'r ddinas wedi derbyn llawer, llawer mwy o gyfalaf cyhoeddus na'r un rhan arall o Gymru. Mae iddi hefyd ei nodweddion, ei buddianau, ei chryfderau a'i gwendidau fel pob man arall yng Nghymru. Os ydi Cris eisiau lleoli S4C mewn lle 'niwtral' dylai ystyried lobio i'w lleoli yn Lloegr.    

Ond mater bach ydi hynny yn y bon - yr hyn sy'n wirioneddol ryfedd ydi'r awgrym bod Caerdydd yn gynrychioladol o gynulleidfa botensial S4C.  Mi fyddai rhywun yn meddwl mai Cymry Cymraeg fyddai'r rhan fwyaf o ddigon o'r gynulleidfa botensial. Wedi'r cwbl mae gan Gymry di Gymraeg 1,001 o sianeli i ddewis rhyngddynt mewn iaith maent yn ei deall.  Mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn wahanol iawn ar sawl cyfri i Gymry Cymraeg yn gyffredinol, ac maent hefyd yn wahanol iawn i boblogaeth Cymru yn ei chyfanrwydd.  Beth am gael golwg arnynt ochr yn ochr a Chymry Cymraeg Gwynedd?

Mae yna 79,395 o bobl yn deall y Gymraeg yng Ngwynedd a 78,487 yn gallu ei siarad, ei darllen neu ei hysgrifennu.  Y ffigyrau cyfatebol yng Nghaerdydd ydi 44,164 a 43,459.

Dwy o wardiau  mwyaf breintiedig Gwynedd ydi Menai (Caernarfon) a Llanrug, ward lleiaf breintiedig y sir ydi Peblig.  Y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Menai  ydi 83.9%, Llanrug 87.6%, a Peblig 87.3% Peblig hefyd ydi un o wardiau mwyaf trefol Gwynedd, Llanuwchllyn ydi'r mwyaf gwledig - y ganran sy'n siarad y Gymraeg yno ydi 79.2%.

Elai ydi ardal dlotaf Caerdydd - y ganran sy'n siarad y Gymraeg yno ydi 8.7% , Eglwys Newydd  a Creigiau / San Ffagan a Llandaf ydi tair o'r  wardiau lleiaf difreintiedig y brifddinas - mae 14.7%, 18.2% , 15.2%  yn siarad yr iaith yn y lleoedd hynny.  Treganna yn unig  sydd a chanran uwch.  Mae Treganna yn rhywle yn y canol o ran amddifadedd - ond mae hefyd yn gartref i nifer fawr o fewnfudwyr dosbarth canol o'r Fro Gymraeg.  Mae canrannau'r rhan fwyaf o wardiau tlawd eraill Caerdydd yn arwyddocaol is na'r cymedr.

348 ty cyngor sydd a Chymry Cymraeg yn ddeilydd tenantiaeth yng Nghaerdydd - tua 3% o'r cyfanswm.  Mae tua deg gwaith cymaint o dai cyngor a Chymry Cymraeg yn ddeilydd tenantiaeth yng Ngwynedd - ac mae'r ganran dair gwaith cymaint.  Mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn llawer mwy dosbarth canol nag ydi rhai Gwynedd - ac maen nhw'n llawer mwy dosbarth canol na phobl Cymru yn gyffredinol.

Gellir gweld patrwm tebyg o edrych ar iechyd siaradwyr Cymraeg Caerdydd a Gwynedd - mae deg gwaith cymaint o siaradwyr Cymraeg Caerdydd mewn iechyd da neu dda iawn na sydd mewn iechyd gwael neu wael iawn, tra mai 5:1 ydi'r gymhareb yng Ngwynedd.  Mae proffeil Cymry Cymraeg Gwynedd yn llawer mwy tebyg i broffeil Cymru gyfan yn ol y mesur yma na phroffeil siaradwyr Cymraeg Caerdydd.

Awn ymlaen i edrych ar berthynas Cymry Cymraeg Gwynedd a Chaerdydd a phobl ddi Gymraeg a phobl o'r tu allan i Gymru.

Mae gan Wynedd fwy o lawer o siaradwyr Cymraeg sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru na sydd yng Nghaerdydd - 8,184 i 4,358.  Mae 4,023 o bobl eraill sydd heb eu geni yng Nghymru yn deall yr iaith yng Ngwynedd - 1,925 ydi'r ffigwr yng Nghaerdydd.  Mae tua pum gwaith cymaint o bobl sydd a hunaniaeth Seisnig yn siarad y Gymraeg yng Ngwynedd na sydd yng Nghaerdydd tra bod dwywaith cymaint o bobl sydd a hunaniaeth Albanaidd yn gwneud hynny.  Mae'r rhifau am Wyddelod Cymraeg eu hiaith yn debyg.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae yna lawer mwy o deuluoedd lle mae pawb yn siarad y Gymraeg yng Ngwynedd na sydd yng Nghaerdydd (26,000 i 5,000).  Ond mae yna lawer o deuluoedd lle mae pobl yn siarad y ddwy yng Ngwynedd hefyd.  Mae yna 16,000 o deuluoedd cymysg yng Nghaerdydd tra bod 11,000 teulu felly yng Ngwynedd.

A wedyn dyna i ni oedran.  O edrych ar y cohorts blynyddol mae'r henoed wedi eu tan gynrychioli ymysg siaradwyr Cymraeg Caerdydd a Gwynedd fel ei gilydd, ond yn yr oedranau ieuengach mae Gwynedd yn fwy cytbwys o lawer.  Yng Nghaerdydd mae tua dwywaith cymaint o bobl 10 oed yn siarad y Gymraeg na phobl 30 oed ac mae yna ddwywaith cymaint o bobl 30 oed a sydd o rai 50 oed. Yng Ngwynedd mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg sydd yn y tri chohort blynyddol yma yn weddol debyg.


Rwan mae cryn le i gredu bod proffeil cymdeithasegol Cymry Cymraeg Gwynedd yn llawer mwy tebyg i un Cymry Cymraeg yn gyffredinol nag ydi proffeil Cymry Cymraeg Caerdydd.  Ond mae hefyd yn debygol bod proffeil Cymry Cymraeg Gwynedd yn fwy tebyg i un Cymru yn ei chyfanrwydd - ac yn wir mae'n fwy tebyg i un Gaerdydd yn ei chyfanrwydd na phroffeil cymdeithasegol Cymry Cymraeg Caerdydd.  Fel grwp mae'r cyfryw Gymry yn gymdeithasegol anarferol iawn.

Dydw i ddim yn beirniadu Cymry Cymraeg y brifddinas wrth gwrs - dwi'n 'nabod llawer ohonynt, 'dwi'n briod ag un ohonynt ac yn dad i un arall.  Cynnyrch set o amgylchiadau penodol ydi'r gymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghaerdydd - yn union fel pob cymuned arall. Mae'r  hyn ydyw fel pob cymuned arall. Ond erys y ffaith nad yw'n cynrychioli fawr ddim arall yng Nghymru yn arbennig o agos.

Dydi lleoliad S4C ddim yn arbennig o bwysig o ran delwedd y sianel, y ddadl tros ei lleoli yn rhywle fel Gwynedd ydi y byddai'n gefn i'r iaith yno ac yn hwb bach i'r economi.  Ond pe byddai lleoliad yn bwysig go brin y byddai ei rhoi mewn ardal Gymraeg ei hiaith yn broblem i Gymry Cymraeg ochrau Caerdydd - mae gwreiddiau llawer ohonynt yn y Gymru Gymraeg, ac mae canran uchel iawn o'r gweddill yn wylwyr Cyw a ddim yn debygol o fwydro eu pennau ynglyn a lleoliad bloc o swyddfeydd.

*Data i gyd o gyfrifiad 2011 oni bai am yr hyn sydd mewn italig - mae hwnnw o gyfrifiad 2001 - y ffigyrau hynny heb eu rhyddhau eto ar gyfer 2011.


11 comments:

Anonymous said...

Yn fy mhrofiad i mae'n nodweddiadol o Gymry Cymraeg Caerdydd nad ydynt yn gallu gweld eu hunain yng nghyd destun gweddill Cymru. Does ganddyn nhw ddim syniad am y tlodi a'r amddifadedd sydd i'w weld mewn llawer o lefydd - yn y Gymru Gymraeg a'r tu allan iddi. yn anffodus mae hyn yn arbennig o wir am y sawl sydd wedi byw yno erioed. Mae'n gocwn bach cyfforddus. Dwi wedi byw yno ers talwm, ond bellach wedi gadael.

Anonymous said...

Mae'n dechrau mynd yn nodweddiadol o Golwg i gyflogi hacs Llafuraidd ei bedlera eu rhagfarnau yn ddi ddiwedd ac yn ddi dystiolaeth.

Anonymous said...

Does na bygyr ol yn llafuraidd am hacs Golwg. Plaid canol cymru ydi'r blydi lot.

Anonymous said...

Plaid canol Cymru......Gwilym Owen!!!!

Anonymous said...

Chris, Gwilym, Leighton - seriouslu like?

Anonymous said...

Mae colofnau Golwg yn gallu bod yn fact free zones ar adegau a dweud y gwir.

Anonymous said...

Tybed os ydi Golwg yn caniatau i gwahanol Lafurwyr rwdlan yn ddi ddiwedd ac yn ddi ddeall am eu bod nhw eisiau cadw eu grant gan y Cynulliad?

William Dolben said...

Diolch am y dadansoddi trylwyr, Cai

Mae ystadegau'r Aeleg yn yr Alban newydd ddôd allan. Maent yn berthnasol am fod gan yr Alban yr un broblem â Cymru: bro Gymraeg neu Aeleg (Gaidhealtachd) sy'n crebachu a thyfiant yn yr ardaloedd Seisnigaidd.

Yn ôl Wikipedia: " BBC Alba has four studios across Scotland, located in Stornoway, Glasgow, Inverness and Portree. Continuity and channel management is based in Stornoway while the news services are based in Inverness" 'Dwn' i'm lle mae'r pencadlys ond ymddengys nad ydynt wedi canoli popeth yn Glaschu

Yn ail nid yw canlyniadau'r cyfrifiad yn debyg o godi calon y rhai ohonom sydd am weld yr ieithoedd bach yn parhau.

Gyrraf daenlen at Cai iddo gael ddadansoddi a llwytho ond dyma'r prifganfyddiadau:

1. Yr Alban: gostyngiad bach of ryw fil i 57,000 sef llai na 2% yn nifer y siaradwyr
2. Dirywiad cyson yn y Gaidhealtachd: Yn Eilean Siar (Ynys Hir) o 61% ym 2001 i lawr i 52% ym 2011. Yn 1971 roedd dros 95% yn siarad Gaeleg mewn rhai cymunedau yn Lewis ond erbyn hyn rhyw 12% o'r plant sydd yn siarad Gaeleg ar yr aelwyd yn yr ynysoedd anghysbell hyn. Heb fewnlifiad o bwys (a er gwaetha'r feirniadaeth lem o'r White Settlers) mae'r trigolion cynhenid wedi rhoi'r farwol i'w hiaith eu hunain
3. Dirwyiad pellach yn yr unig ardaloedd lle mae'r iaith yn gyfrwng cymdeithasol mewn rhai cymunedau yn y gorllewin sef Argyll (2001: 4.7%, 2011: 4%, HIghland: 6.2% a 5.4%....

Dyma'r wefan: http://en.wikipedia.org/wiki/Scottish_Gaelic#cite_note-scotland.gov.uk-24

mae'r sefyllfa'n waeth fyth yn yr ysgolion a nodir yn Wikipedia mai dim ond 624 o blant oedd yn siarad Gaeleg ar yr aelwyd ym 2010

Cai Larsen said...

Diolch William - mi bostia i dy sylwadau a'r data maes o law.

cris dafis said...

Rwyt ti wedi camddeall yr hyn ro'n i'n ei ddweud. Mae Caerdydd yn lleoliad niwtral yn yr ystyr mai ar y sail ei bod yn brifddinas a bod rhwydwaith cyfryngau yno y mae pencadlys S4C wedi ei lleoli yno. Hynny yw, nid ar sail ieithyddol y lleolwyd pencadlys S4C yno. Nid yw felly yn ei chysylltu ei hun ag unrhyw ardal ieithyddol benodol.

cris dafis said...

Gobeithio bod hynny rywfaint yn haws ei ddeall.