Tuesday, September 03, 2013

Oes goblygiadau ehangach i ganlyniad is etholiad Ynys Mon

Syd Morgan ofynnodd i mi ar gae'r Eisteddfod beth oeddwn yn meddwl fyddai goblygiadau ehangach buddugoliaeth y Blaid yn Ynys Mon.  A dweud y gwir doeddwn i ddim wedi meddwl rhyw lawer am y peth, ond mae'n gwestiwn diddorol.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod yr etholaeth yma efo hanes o dorri ei chwys ei hun a'r ail beth ydi na fydd yn bosibl ailadrodd yr ymgyrch enfawr a gafwyd gan y Blaid mewn etholiad Cymru gyfan.

 Ond er gwaethaf hynny 'dydi hyd yn oed Ynys Mon ddim yn bodoli mewn gwagle, ac mi fydd yn bosibl efelychu'r dulliau ymgyrchu a ddefnyddwyd gan y Blaid mewn etholiadau eraill, os nad y raddfa.

Ymhellach mae elfennau o'r canlyniad yn adlewyrchu'r hyn rydym yn ei gasglu o'r polau piniwn i rhyw raddau neu'i gilydd.  Mae'r polau yn awgrymu'n gryf bod y Lib Dems o dan bwysau sylweddol mewn etholaethau lle nad oes ganddynt bresenoldeb sylweddol fel Ynys Mon.  Mae'r polau hynny hefyd yn awgrymu bod UKIP yn gwneud yn gymharol dda, ac yn arbennig felly ar draul y Toriaid.  Adlewyrchwyd hynny yn Ynys Mon - er bod y patrwm yn llawer cryfach yno na'r hyn a awgrymir yn y polau.

Y gwahaniaeth mawr rhwng y polau a'r canlyniad oedd perfformiad Llafur a'r Blaid.  Mae'r polau yn awgrymu bod Llafur yn gwneud yn dda tra bod ffigyrau'r Blaid yn weddol ddi symud.  Syrthiodd pleidlais Llafur trwy'r llawr ym Mon, tra bod un y Blaid wedi cynyddu'n sylweddol.  Mae nifer wedi nodi bod yr hyn ddigwyddodd i bleidlais Llafur yn awgrymu bod eu cefnogaeth mewn gwirionedd yn feddal.  Mae'n debygol bod hynny'n wir.

Os ydi pleidlais yn feddal mae'n haws  i blaid arall fwyta i mewn iddi, ac mae yna awgrym yn y polau Cymreig bod Plaid Cymru mewn lle cryf i wneud hynny.  Mae'r Blaid yn perfformio'n gryf iawn yn y cwestiwn am y bleidlais ranbarthol yn y polau hynny.  Mae rhai yn dehongli hyn fel tystiolaeth bod pleidleiswyr yn dod i ddeall mai gwastraff o bleidlais ydi rhoi un i Lafur yn y rhan fwyaf o'r rhanbarthau.  'Dwi'n anghytuno - mae'n fwy tebygol ei fod yn awgrymu bod cydadran sylweddol o'r bleidlais Lafur yn 'cynhesu' tuag at y Blaid.  Tra nad ydynt eto yn fodlon dweud mai'r Blaid ydi eu prif ddewis, maent yn ddigon hapus i gysylltu eu hunain efo hi mewn ffordd arall.  Mae'n debygol mai natur yr arweinyddiaeth cymharol newydd sy'n gyfrifol am hyn.  Mae'r sefyllfa newydd yma yn gam bras tuag at gael cefnogaeth gadarnach wrth gwrs.

Mae'n bosibl edrych ar etholiad fel cwestiwn, neu nifer o gwestiynau wedi eu plethu trwy'i gilydd.  Y prif gwestiwn yn is etholiad Mon oedd - 'Pwy ydi'r person gorau i gynrychioli Ynys Mon' yng Nghaerdydd?'. Roedd yr ateb yn amlwg i'r rhan fwyaf o bobl.  Y prif gwestiwn mewn etholiad cyffredinol ydi 'Pa blaid ydi'r gorau i reoli'r DU?'. Dyna pam bod y Blaid a'r SNP yn cael yr etholiadau hynny yn anos na'r un arall.  Y prif gwestiwn yn etholiadau'r Cynulliad ydi pa blaid ydi'r orau i reoli Cymru?'. 'Does yna ddim rheswm yn y Byd pam mai 'Llafur' ddylai fod yr ateb i hynny yn  2016 os mai meddal ydi eu cefnogaeth.  Ar wahan i Carwyn Jones ychydig o wleidyddion poblogaidd sydd ganddynt, a byddant yn amddiffyn record o fethiant yn ymestyn yn ol i gychwyn y Cynulliad.  Bydd gan y Blaid ymgeiswyr llawer mwy sylweddol.  Gallai hynny, ynghyd ag amrediad o bolisiau atyniadol sydd a'r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, wneud yr ateb i'r cwestiwn ynglyn a phwy sydd orau i reoli Cymru fod yr un mor amlwg a'r cwestiwn ynglyn a phwy sydd orau i gynrychioli Ynys Mon yn y Cynulliad.

Canfyddiad o addasrwydd i reoli (ynghyd ag ymgyrchu effeithiol) sydd y tu ol i gryfder etholiadol yr SNP mewn etholiadau Senedd yr Alban.  Personoliaethau a pholisiau sydd y tu ol i'r canfyddiad o addasrwydd.  O gael hynny'n iawn mae canlyniad Ynys Mon yn awgrymu bod gan y Blaid y potensial i efelychu'r hyn a wnaeth yr SNP.  

6 comments:

Pwll y Carw said...

Cytunaf yn llwyr... a gwnes i sylwadau tebyg ar Click on Wales y diwrnod o'r blaen.

Gobeithio nad oes ots gennyt mod i'n eu pestio nhw isod...


"However, I do believe that Plaid have a bigger opportunity in 2016 than is currently appreciated. Labour will have governed in Wales for nearly 20 years by that point. I’ll say that again, nearly twenty years.

Much of Labour’s ‘soft’ support – and I think we have seen in the last 20 years that it genuinely has that kind of support in many areas, a kind of inert defaultism like when you choose a highly promoted branded product in a supermarket rather than a better priced or better suited alternative simply out of apathy – will genuinely question the democratic legitimacy of that I think, and will ‘vote for a change’ IF PROMPTED TO DO SO. But they will need to be told that that is what they are doing, told that it is the morally right thing to do, and be reassured that the alternative meets a ‘health and safety’ quality assurance threshold.

In theory, with the right policy positions, leadership (plural) and campaign – the proactive influencers that is – any of the other three parties could do this and benefit from the ‘time for a change’ vote. But they will all be subject to reactive influencers as well – association with UK political trials and tribulations, engrained prejudices, etc. – and on current estimation both the Conservatives and Liberal Democrats seem to be suffering quite seriously from these reactive, negative influencers with no great prospect of major improvement by 2016. Furthermore, the entrenched ‘British’ vote is being cannibalised bit by bit by UKIP.

Inevitably Plaid will suffer from some engrained views against its ‘separatist’ identity, but as the SNP have proven, much of that can be ameliorated by positioning and communication, and it has a clean bill of health in respect of negative UK connotations (unless someone has a particular dislike of Elfyn Llwyd’s moustache or Jonathan Edwards’s habit of leaving his top button undone that is).

On paper at least, Plaid look like the party who could most profit from a ‘time for a change’-style election, but they have to start thinking like that now and putting the policy, leadership and communication components in place. They have to give serious consideration to the ‘health and safety’ approval test as well – it all rests on consumer confidence in the end.

If I were in the same strategy meeting as Leanne Wood, Adam Price, Simon Thomas and Rhun ap Iorwerth this weekend, I’d be writing advertising and PR copy for that campaign NOW, and I’d start putting the product specification and brand values in place that best support that campaign.

The 2016 general election will be fought on those terms, and considerable inroads made, if Plaid choose to make it so. But it is a choice.

You heard it here first…

Cai Larsen said...

Dim problem - difyr iawn.

Alwyn ap Huw said...

Yr hyn sy'n ddifir i mi yw mai Rhun yw'r unig ymgeisydd "erioed" i ennill MWY o bleidlais unigol fel AC na'r AS lleol ers cychwyn y Cynulliad.

Rwy'n gobeithio bydd hynny'n cael ei ddiddymu gan ymgeisydd y Blaid yn yr etholiad nesaf i Lansteffan, ond ta waeth, mae'n ystadeg difyr dros ben!

Cai Larsen said...

Faint o amser gymrodd o i ti wirio'r ffaith yna Alwyn.

Anonymous said...

Tybed a oes gan blogmenai sylwadau ar wleidyddiaeth Gwlad y Basg yn dilyn ei ymweliad? Ac yn arbennig y rhaniad ymysg y cenedlaetholwyr - EAJ/PNV (canol cymhedrol) a Bildu (adain chwith).

Cai Larsen said...

Dwi ymhell o fod yn arbenigwr - ond ella y tria i wneud rhywbeth os ga i amser.

Fel sylw cyffredinol fodd bynnag mae yna adlewyrchiad o'r hyn ddigwyddodd yn Iwerddon bymtheg mlynedd yn ol. Pan ddaeth ymgyrch arfog yr IRA i ben cryfhawyd cefnogaeth etholiadol eu cynrychiolwyr gwleidyddol yn sylweddol. Mae rhywbeth tebyg (ond mwy cymhleth) wedi digwydd yng Ngwlad y Basg.