Wednesday, September 18, 2013

Enwebiaeth Ynys Mon - y sibrydion diweddaraf

Mae'r sibrydion am pwy sy'n bwriadu rhoi eu henwau ymlaen i geisio disodli Albert Owen yn 2016 yn awgrymu bod cryn ddiddordeb.  Rydym eisoes wedi nodi bod Ann Griffith wedi rhoi ei henw ymlaen.

Mae'n debyg y bydd Heledd Fychan, Ken Taylor a John Rowlands yn rhoi eu henwau ymlaen hefyd.  Mae Heledd yn ddigon adnabyddus.  Safodd Ken -  sy'n byw yn y Fali yn yr etholiadau cyngor diweddar, ond yn anffodus ni chafodd ei ethol.  Mae John yn byw yng Nghaerdydd,  ond mae ei wreiddiau ym Mon ac mae wedi sefyll mewn etholiadu seneddol yng Nghaerdydd yn y gorffennol.

Mae'n ddigon posibl y bydd eraill yn sefyll.

5 comments:

BoiCymraeg said...

Mae Mair, merch John Rowlands, yn gynghorydd ym Mangor.

Heledd Fychan said...

Dim sail i'r sibrydion - fydda'i ddim yn mynd am Fon. http://heleddfychan.blogspot.co.uk/2013/09/mon-san-steffan.html

Anonymous said...

Da iawn Heledd Fychan am gywiro y blogiwr. Mae'r blogwyr yn amal yn meddwl eu bod yn gwybod y blydi lot ond dyma enghraifft arall o'r blogiwr yn lledaenu straeon annwir. Pob lwc i chi Heledd beth bynnag fyddwch yn ei wneud. Piti garw na fyddech wedi sefyll acw yn Arfon yn lle gadael i rywun llawer llai tebol gerdded i mewn.

Cai Larsen said...

Diolch am yr wybodaeth Heledd.

Anonymous said...

Ma john yn useless druan - dyn neis & all that .

Sibrydion oedd Blogmenai yn galw nhw - beth am y Carwyn Jones arall yna , sut foi ydy o ?

Fydde Heledd ddim wedi ennill.

Blynyddoedd yn ol enw Arthur Emyr oedd yn cael ei greubwyll .