Sunday, September 08, 2013

Enwebiadau yn agor ar gyfer etholiad yn Ynys Mon - eto fyth!

Beth bynnag fydd yn digwydd yn y polau piniwn 'cenedlaethol, rhwng rwan ag Etholiad Cyffredinol 2015, mi fydd yna gryn ddiddordeb yn Ynys Mon.  Nid yn unig ei bod yn etholaeth ymylol iawn - ond mae hefyd yn unigryw.  Dyma'r unig etholaeth lle mae pleidlais yr Aelod Cynulliad yn uwch nag un yr Aelod Seneddol.  Gyda'r Aelod Cynulliad yn perthyn i Blaid Cymru, a'r Aelod Seneddol yn perthyn i'r Blaid Lafur mae posibilrwydd cryf y bydd y Blaid yn cipio'r sedd oddi ar Lafur.





Mae enwebiadau ar gyfer ymgeisyddiaeth y Blaid yn agor 'fory.  Gall Blogmenai ddatgelu mai un fydd yn rhoi ei henw ymlaen ydi Ann Griffith.  Etholwyd Ann yn gynghorydd tros Fro Aberffraw yn gynharach eleni gan lwyddo i ddod o fewn trwch blewyn i bleidlais  Peter Rogers.

Bydd yn ddiddorol gweld pwy arall fydd yn rhoi ei enw ymlaen yn ystod y dyddiau nesaf. 

6 comments:

Anonymous said...

Be sy'n gneud 2015 mor ddiddorol ar Ynys Mon tro hwn ydi'r posibilrwydd y bydd UKIP yn ennill tua 5,000/6,000 o bleidleisiau- ar gefn eu llwyddiant yn Etholiadau Ewrop 2014.

O'r pleidiau Prydeinig- Llafur a'r Ceidwadwyr y daw'r pleidleisiau ychwanegol hyn.

Yn sgil hynny, gallai pleidlais graidd Plaid Cymru ar yr ynys(tua 9,000) fod yn ddigon i ad-ennill y sedd: heb fod angen y "star factor" a welwyd yn llwyddiant Rh ap I yn yr is-etholiad.



Anonymous said...

Anon 2.56pm
Anghytuno - o'r Blaid Lafur fydd y pledileisiau yma yn dod o. Caranle UKIP ym Mon erbyn hyn ydy Caergybi nid ochrau Beaumaris.

Mae hon yn sedd y gallai PC wedi'i enill 2 waith yn y gorffennol ond da ni wedi mynd am ymgeiswyr hollol anaddas.

Dwin gobeithio fydd Carwyn Jones yn rhoi ei enw ymlaen hefyd - dyn hoffus iawn. Ond dwi yn pryderu am unrhyw un o'r cynghorwyr newydd sydd am drio (cynnwys Ann + Carwyn) oherwydd nad ydw i wedi ei gweld nhw ar y teledu ag ati yn siarad- erbyn hyn mae hyn yn holl bwysig

Anonymous said...

Cytuno yn llwyr a'r sylwadau fod yr etholaeth bellach yn enilliadwy i'r Blaid, ac wedi bod yn y gorffennol petai yr ymgeiswyr iawn wedi'w dewis y ddau tro olaf (parch mawr i'r ddau ac i'w gwaith caled, ond nid y dewis gorau o ran persenoliaeth a plesio'r werin ar y stepan drws). Mi wnes ddarogan pob etholiad yn gywir ym Mon - gan gynnwys yr adeg gollodd y Blaid y sedd i Lafur gyda sylwebyddion a chefnogwyr yn darogan "shoe in" a tua 20,000 o bleidleisiau i Eilian Williams.Gyda ymgeisydd addas, ymgyrch effeithiol, polisiau call bydd yr ymgeisydd a'r Aelod Cynulliad yn eu harddel, yna dwi yn darogan y bydd y Blaid yn ail-enill y sedd. Ond mae'r meini prawf uchod yn allweddol, gyda'r maen prawf cyntaf yn ymwneud a dewis doeth o ran ymgeisydd.

Unknown said...

Trist o beth ond pwy ti'n adnabod ym Mhlaid Cymru sydd yn bwysig os ti am cael dy enwebu ac nid be ti'n gwybod !
Colled mawr fydd i Sir Fon os na wnewch chi aelodau Plaid Cymru rhoi chwarae teg i Ann LLangaffo .
Y Cynghorydd Gruffydd Williams
Llais Gwynedd a Chenedlaetholwr i'r carn
Dim psudonium i fi
Cymru am Byth

Cai Larsen said...

Mae pawb sy'n perthyn i'r Blaid yn cael gwahoddiad i hustings Gruff, ac mae pawb sydd yn yr hystings yn cael pleidlais. Democratiaeth ydi'r term dwi'n meddwl.

Aled GJ said...

Mae'n ymddangos bod Heledd Fychan wedi rhoi ei henw ymlaen erbyn hyn. Mae gan Heledd rinweddau pendant fel gwleidydd a lot i'w gynnig i Blaid Cymru, ond tybed na fyddai Ann Griffith yn ymgeisydd mwy addas i gystadlu am y sedd yn etholiad cyffredinol 2015.

Bydd dim modd cynnal ymgyrch 'razzamataz' arall fel yr un a enillodd yr is-etholiad i Rhun ap Iorwerth y tro hwn. Bydd angen ymgyrch wahanol iawn i gystadlu yn erbyn y math o broffil "dyn y bobl" y mae Albert Owen wedi'i ddatblygu dros y blynyddoedd ar ran y Blaid Lafur.

Mae gan Ann lot o'r rhinweddau tawel sy'n perthyn i Albert, megis y gallu i uniaethu hefo pobl gyffredin a siarad drostyn nhw mewn cyfnod sydd yn un anodd iawn, iawn i bobl ar hyn o bryd.

Byddai hi'n siwr o allu sicrhau'r bleidlais graidd sydd gan PC yn yr etholaeth( tua 8,000)- a denu pobl eraill i'w chefnogi hefyd oherwydd bod iddi apel sydd y tu hwnt i ffiniau pleidiol.

Gyda UKIP yn debyg o ddwyn 2,000/3,000 o bleidleisiau gan Lafur er gwaethaf apel Albert- mae'r sedd yma i'w hennill yn 2015.