Saturday, March 23, 2013

Tref Gymraeg Mr Price

Dwi ddim yn siwr beth i'w wneud o syniad Adam Price i 'godi tref' newydd Gymraeg ar lannau'r Fenai, ond mae'n codi pwynt diddorol - sef bod y Gymraeg yn datblygu i fod yn iaith fwyfwy trefol.  Ceir 15 o wardiau 80%+ sy'n siarad y Gymraeg ac maen nhw i gyd wedi eu canoli ar drefi neu bentrefi mawr.  Ceir saith ward arall sy'n ymylu ar 80%, ac mae chwech o'r rheiny yn rhai trefol hefyd.

Yn wir pan safodd Toni Schivone ar Faes Caernarfon ym Mis Ionawr nonodd ei bod yn bosibl mai dwsin o wardiau yn unig fyddai a mwy na 70% yn siarad yr iaith trwy Gymru.  Roedd yna ddeg o rai efo mwy nag 80% yn siarad y Gymraeg o fewn ychydig filltiroedd o ble'r oedd yn siarad - y cwbl ohonynt yn yr Arfon ol ddiwydiannol.

Dydi'r rhesymau am hyn ddim yn anodd iawn i'w egluro ar un ystyr.  Mae ardaloedd trefol y Gogledd Orllewin yn rhannu agweddau diwylliannol ehangach  yr ardal sy'n sicrhau trosglwyddiad iaith effeithiol iawn, mae'r gyfundrefn addysg yn gefn i'r Gymraeg, mae'r gallu i siarad y Gymraeg yn bwysig o ran cyflogaeth, ac mae'r lefelau o fewnfudo yn isel.  Y ffaith nad oes yna lawer o fewnfudo o Loegr i ardaloedd trefol sy'n egluro pam bod Arfon (y tu allan i Fangor) bellach yn fwy Cymreig na Gogledd Meirion a Dwyfor.  Dydi mewnfudo ddim yn cael llawer o effaith ar drosglwyddiad iaith yn y Gogledd Orllewin, ond mae'n llusgo'r canrannau i lawr yn yr ardaloedd gwledig.  Lefelau mewnfudo sydd wrth wraidd y gwahaniaethau yn y canrannau sy'n gallu siarad yr iaith yn y rhan fwyaf o'r Gogledd Orllewin.

Mi fyddwn i hefyd yn awgrymu bod y patrwm gwledig / trefol yn dal oddi mewn i wardiau unigol hefyd.  Er enghraifft mae Trefor (pentref ol ddiwydiannol) a Llithfaen yn yr un ward (Llanaelhaearn), ond mi fyddwn yn betio bod y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Nhrefor yn sylweddol uwch nag ydyw'n Llithfaen. Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn  uwch yng Nghaernarfon nag yw yn Neiniolen, ond fyddech chi ddim yn credu hynny petaech yn mynd am dro i stad tai cymunedol sylweddol Pentre Helen yng nghanol y pentref.  Byddai'n rhaid i chi fynd i gyrion Deiniolen  - Dinorwig, Gallt y Foel, Clwt y Bont neu Fachwen i ddod o hyd i'r di Gymraeg.  Cafwyd cwymp arwyddocaol yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Llanberis, ond nid ar stadau tai Dol Elidir, Dol Peris na Maes Padarn yng nghanol y pentref ddigwyddodd y cwymp hwnnw.

Ac mae yna resymau amlwg am hynny hefyd - mae'r Cymry ar rhyw olwg yn fwy tebyg i'r Saeson mae'r mewnfudwyr wedi eu gadael ar ol yn Lloegr nag ydynt i'r mewnfudwyr eu hunain.  Maent eisiau byw yn agos at wasanaethau a siopau.  Mae'r mewnfudwyr yn amlach na pheidio wedi gadael llefydd trefol yn Lloegr sydd a darpariaeth dda o ran gwasanaethau am rhywbeth amgen.  Dydi symud o stad tai yn Warrington i un yn Neiniolen ddim yn gwneud synnwyr i bobl felly.

Mae Adam yn gywir i resymu mai cymunedau trefol sy'n gyrru twf economaidd, Mae hefyd yn gywir i resymu bod bodolaeth cymunedau trefol Cymraeg eu hiaith yn bwysig i ddyfodol yr iaith.  Y drwg efo cynllunio i ehangu'r ardal drefol ar lannau gorllewin Afon Menai ydi y byddai hynny'n cael effaith negyddol ar gymunedau Cymraeg mwy gwledig Ynys Mon a gorllewin a de Gwynedd.  Wedi'r cwbl hyn a hyn o Gymry Cymraeg sydd ar gael i gyflenwi datblygiad trefol Cymraeg. Mae'r Gymru Gymraeg angen cymunedau trefol, ond mae hefyd angen tiriogaeth sylweddol. Byddai newid cydbwysedd lle mae'r Cymry Cymraeg yn byw yn debygol o leihau maint y Gymru Gymraeg yn sylweddol.

2 comments:

Ioan said...

Am syniad od... nifer y siaradwyr Cymraeg yn sefydlog - fellu achyb y Gymraeg drwy adeiladu cannoedd o dai newydd. Am lol.

I gryfau'r Gymraeg yn Arfon a De Mon, mi faswn i'n canolbwyntio ar Gymraegio
1) Prifysgol Bangor
2) Ysbyty Gwynedd
3) Addysg ym Mangor (a David Hughes i raddau)

Anonymous said...

Yn union. Yn yr un modd Cymreigio;
Prifysgol Aberystwyth; Ysbyty Bronglais ac addysg yn Aberystwyth ac yn arbennig Penglais