Tuesday, March 05, 2013

Oed y Cymry Cymraeg

Taenlen arall yn ymwneud a'r Cynulliad gan Ioan - ac un difyr  ydi hi hefyd.  Yr hyn mae wedi ei wneud y tro hwn ydi edrych ar oed cyfartalog oedolion Cymraeg eu hiaith o gymharu a rhai di Gymraeg.

Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod oed cyfartalog Cymry Cymraeg ychydig yn is nag ydi oed y di Gymraeg.  Mae Ioan o'r farn mai dyma'r tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd - a dwi'n siwr bod hynny yn gywir.  Yn wir mae'r Cymry Cymraeg yn ieuengach na'r di Gymraeg ym mhob man ond Abertawe, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Castell Nedd Port Talbot a Wrecsam.  Mae'r gwahaniaeth yn arwyddocaol iawn yn y De Ddwyrain.

Yng Ngwynedd yn unig aeth oedran y Cymry Cymraeg yn hyn, ac yng Nghaerfyrddin mae'r Cymry Cymraeg hynaf.  Aeth oedran y Cymry Cymreg tros Gymru i lawr 1.6  blwyddyn, er i oedran y di Gymraeg gynyddu 0.6 bl.



16 comments:

Hogyn o Rachub said...

Dyma ydi diddorol - yn enwedig yn rhai o'r Cymoedd. Mae oedran siaradwyr Cymraeg wedi gostwng dros y 10 mlynedd ddiwethaf, sy'n od iawn o ystyried mai un o'r ffactorau honedig dros ystadegau cyfrifiad 2001 ydi goradrodd mewn plant. Ydi hwn efallai'n awgrymu fel arall?

Ioan said...

HOR, just i glirio un pwynt, cyfartaledd oedolion (20 oed ac i fynu) ydi'r tabl yma.

Yn bersonol, dwi ddim yn siwr am y theory gor-adrodd plant yn 2001. Yn un peth mae'r ganran o plant sy'n siarad Cymraeg yn 2011 bron union yr un peth ac oedd o yn 2001.

Os ti'n edrych ar grwp 10-14 oed 2001, mi oedd eu canlyniadau Cymraeg Iaith gynta + Cymraeg ail iaith cwrs llawn y gorau eriod (rioed wedi ei ail adrodd ers hynnu). Dwi'n amau bod y gwymp fach yn y ganran o blant yn gwymp go-iawn, a ddim yn fater o rieni 2001 un goradrodd sgil Cymraeg Joni bach.

Wrth drio modelu canlyniadau 20-24 drwy edrych ar canlyniadau GCSE 2002-2006 a census 2001, y model gorau sgena'i (a tydio ddim yn un da o gwbl), ydi pan dwi'n cymeryd bod na DDIM gwerth i GCSE cwrs byr yn y Gymraeg.

William Dolben said...

Diolch Ioan a BM am ddadansoddi a phrocio..

Nid ystadegydd mohonof ond rwy'n mannu fod yna lot o ffactorau.

1. Mae'r boblogaeth wedi heneiddio. Pawb yn byw yn hyn a bellu. Canlyniad hyn ydi tanamcangyfrif dirywiad y Gymraeg mewn llefydd fel Sir Gâr e.e. Roedd siaradwraig ola Islwyn Ffowc Elis yn hen ddynes dros ei phedwar ugain ond buasai hon yn 105 heddiw! a 120 erbyn 2100!
2. Mae'r rhai ifainc yn symud o'r Fro Gymraeg a'r Cymry cynhenid sy'n aros yn byw yn hyn. Achos Gwynedd?

Beth bynnag ydi'r gwir, buaswn i'n taeru mai:

1. un peth ydi gallu a peth arall gwahanol iawn ydi gwneud. Mae rhai wedi clodfori Gwlad y Basg am adfer y Fasgeg ond mae'r un broblem ganddynt: miloedd un dysgu'r iaith ond ychydig yn ei defnyddio. Mae hi'n wleidyddol gywir i ddweud eich bod yn siarad Basgeg ond nid wyf yn credu fod 30%+ o blant Gwlad y Basg yn siarad yr iaith ar yr aelwyd (dyna mae'r ystadegua swyddogol yn ei ddweud). Yn enwedig pan nad oedd ond 15-20% o'r rhieni'n siaradwyr brodorol. Hyd yn oed yn Ngatalwnia lle mae'r iaith yn debyg iawn i Sbaeneg (haws dôd yn rhugl) , mae plant o aelwydydd Sbaeneg (dros 75% ym Marcelona) yn siarad Sbaeneg ar fuarth yr ysgol a maent yn rhoi cic i'r Gatalaneg unwaith yr ymadawant â'r ysgol.

2. ffynhonnell wan iawn ydi'r cyfrifiad bellach. Dylem sbïo'n fanylach ar ystadegau addysg, fesul ysgol. Rhyw 16% sy'n rhugl eu Cymraeg yn ôl y cyfrifiad addysg. Credaf fod miloedd o Gymry Cymraeg wedi'u cofnodi'n ddi-Gymraeg tan 1971 (israddoldeb a rhyw deimlad nad oedd eu Cymraeg yn ddigon da ar ôl clywed Cymraeg "safonol" y cyfryngau hwyrach). Os nac arbedwn y fro Gymraeg, bydd y Gymraeg yr un sefyllfa â`r Wyddeleg. 30-40% yn ei harddel adeg y cyfrifiad ac 1% yn ei siarad yn naturiol

Ioan said...

WD,

Mae Gwynedd ac Ynys Mon yn unygryw gan eu bod yn dilyn yr un patrwn ar di-Gymraeg (patrwm normal dweud y gwir). ee ym Mon, nifer o oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg yn codi 29,151 (+744), a'r cyfartaledd oed yn heneiddio.

Yr amser i boeni, ydi pan bod y nifer yn disgyn, a'r cyfartaledd oedran yn codi.

Caerfyrddin fel arfer efo ffigyrau digalon - lawr 5300, a'r cyfartaledd oedran prin yn newid 52.2 (-0.6). Mi fydd sir Gar yn dangos cwymp mawr yn y nifer o oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg eto yn 2021.

Dwi ddim yn credu bod y Cyfrifiad yn ffynhonnell wan - ond i ni gofio mae mesyr y gallu mae o'n wneud, ddim y gwneud fel ti'n dweud. Mae cymharu'r Census efo ffynhonellau eraill yn bwysig iawn. Mi fasa'n gret cael gafael ar ganlyniadau GCSE pob awdurdod lleol er engraifft.

William Dolben said...

Annwyl Ioan,

Diolch.

Ti'n oawn

Gorau po fwyaf cun belled a mae ffynnonellau yn y cwestiwn. Ond rwy'n dal i feddwl fod Clive Betts yn gywir pan ddywedodd yn Culture in Crisis nad oedd dysgwyr yn y Fro Gymraeg yn meiddio cofnodi eu hunain yn Gymry Cymraeg (yn 1971) ond fod dysgwr yn Gwent hefo crap ar y Gymraeg yn dueddol o ddweud ei fod yn siarad Cymraeg. Dwi'n meddwl i'r duedd hon fynd yn fwy cyffredin o 1981 ymlaen.
Sbïa ar y dabl a wnaethost ti rwy'n meddwl hefo'r cymunedau mwyaf "Cymraeg" ymhlith plant 3-15 oed. Mewn lle fel Caernarfon mae 90% yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg a mae Estyn yn cadarnhau hyn gyda 80%+ yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd.

Ond mae yna lefydd lle mae 50% o'r rhai 3-15 yn siarad Cymraeg ond os sbïa di mewn adroddiadau Estyn 0-10% sy'n siarad Cymraeg ar yr aelwyd: 0% yn yr ysgol Saesneg a rhyw 10-20% yn yr ysgol Gymraeg. Rwy'n sôn am lefydd fel Pontarddulais, Rhosllannerchrugog. Wrth gwrs mae lot o blant yn dysgu Cymraeg ond byrdwn fy nadl ydi fod yr iaith wedi marw YN GYMDEITHASOL i bob pwrpas hyd yn oed pan mae 50% neu lai yn y cymunedau hyn.

Mae gagendor rhwng cymuned 80-90% ag un 50%....os ydym yn sôn am ddata y cyfrifiad

Rwy'n derbyn fod yr iaith yn fyw mewn rhai llefydd yn yr amgylchiadau hyn lle mae yna fewnlifiad a dwy garfan glir o Gymry a Saeson (Môn?)

Yr unig beth dwi'm yn ei ddallt ydi dy ddidordeb yn y canlyniadau TGAU. Beth ydi't gwahaniaeth rhwng rhein a'r ystadegau Cyfrifiad ysgolion? Ydi plant rhugl (cynhenid + dysgwyr) yn cymeryd TGAU Cynraeg iaith gyntaf a'r dysgwyr heb fod yn rhugl yn dewis ail iaith?

Mae'r ystadegau cyfrifiad ysgolion yn dweud wrthat % y plant sy'n astudio Cymraeg iaith gyntaf gyda llaw

Dechreuais astudio y cyfrifiad ysgolion ar ôl darllen adroddiadau addysg yn y 1950 a 1960au. Yn Sir Gâr dim ond 45% oedd yn cyrraedd yr ysgol yn siarad Cymraeg yn ôl ym 1960. 11.3% oedd y ffigyr yng Nghymru gyfan. Ers hanner can myledd yn ôl! Sdim rhyfedd fod y mwyafrif yn siarad Saesneg bellach. Mae'r plant hynny yn deidiau a neiniau erbyn hyn!

Yr unig beth sydd wedi gwella'n sylweddol ers 1950-60 ydi canran y rhai sy'n hollol ddi-Gymraeg

William Dolben said...

Annwyl Ioan,

Ar ôl i ti weithio fel lladd nadredd dyn fi yn mynd ati i ddadansoddi. Amgeuaf dabl sy'n cymharu canran y plant sy'n siarad Cymraeg ar yr aelwyd / yn rhugl / heb fod in rhugl a dim Cymraeg. Rwyf wedi addasu'r ffigyrau o'r Cyfrifiad Ysgolion a wedi eu "cywiro" trwy adael allan y ganran oedd heb ateb. Rwy wedi trefnu y siroedd yn ôl eu cymreictod ar yr aelwyd o Wynedd i Gasnewydd

Rhieni sy'n gwerthuso yn y cyfrifiad ysgol a'r cyfrifiad poblogaeth. Ond mae yna anghysondeb yn eu hymddygiad wrth nodi iaith eu plant.

Ar y cyfan 14.7% sy'n rhugl yn y cyfrifiad ysgolion a 18.8% sy'n siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad 5-9 oed) Yng Nghymru gyfan 39% sy'n siarad Cymraeg neu â chrap go lew (hed fod yn rhugl) arni. A 61% ydi canran y di-Gymraeg (oes mae problem dysgu Cymraeg ddyrys gennym!)

Rwyf wedi ychwanegu dwy golofn: E canran y siaradwyr Cymraeg rhwng 5-9 oed yn y cyfrfiad ac E: y ffactor chwyddo sy'n rhoi syniad i ti faint o blabt "heb fod yn rhugl" sy'n cael eu confnodi'n Gymraeg. Po uchaf y ffactor po fwyaf mae'r rhieni wedi cofnodi plant nad ydynt yn rhugl yn siaradwyr Cymraeg.

Mae yna bethau diddorol yma a rwyf mewn ffwnder wyllt achos does dim tuedd glir!

Mae rhieni mewn RHAI llefydd Saesneg ei iaith fel Casnewydd, Fflint, Torfaen yn "goradrodd" hefo ffactor o 2 on mewn RHAI eraill fel Caerffili, Caerdydd a'r Rhondda mae ffigyrau'r ddau gyfrifiad yn debyg iawn. OND mae ffactor "chwyddo" Ceredigion lot yn uwch na siroedd eraill y Gorllewin! Mewnfudwyr yn meddwl fod eu plant yn rhugl?



Disgyblion cynradd a'r Gymraeg 2011/12 Addaswyd o'r Cyfrifiad ysgolion gan William Dolben
Awdurdod Lleol % % % %
A B C D E F G
Gwynedd 57,9 64,8 24,2 11,1 70,9 6,1 1,09
Ynys Môn 38,3 45,7 39,9 14,3 54,5 8,9 1,19
Ceredigion 26,3 31,9 48,0 20,1 55,9 24,0 1,75
Sir Gaerfyrddin 22,4 40,2 24,0 35,7 42,1 1,8 1,05
Conwy 11,1 12,2 27,2 60,5 24,1 11,9 1,97
Sir Ddinbych 10,4 16,5 32,6 51,0 19,6 3,1 1,19
Powys 6,2 11,4 56,9 31,7 16,9 5,6 1,49
Rhondda Cynon Taf 5,4 15,3 13,1 71,6 16,7 1,5 1,10
Caerdydd 4,7 11,4 4,6 84,0 11,1 -0,3 0,97
Sir Benfro 4,5 11,3 24,6 64,1 18,8 7,5 1,67
Castell-nedd Port Talbot 4,2 12,1 9,4 78,6 16,9 4,8 1,39
Bro Morgannwg 3,3 9,2 7,8 83,0 11,6 2,3 1,25
Abertawe 2,5 6,1 9,8 84,1 10,5 4,3 1,71
Pen-y-bont ar Ogwr 2,1 7,9 7,7 84,4 10,6 2,7 1,34
Wrecsam 1,8 6,8 30,7 62,5 11,3 4,5 1,66
Caerffili 1,7 13,5 38,9 47,5 13,0 -0,5 0,96
Sir Fynwy 1,2 3,6 65,6 30,7 7,3 3,7 2,01
Sir y Fflint 1,1 4,5 25,7 69,9 10,3 5,9 2,31
Merthyr Tudful 0,7 8,9 6,2 84,9 11,3 2,3 1,26
Torfaen 0,4 7,2 47,9 44,7 11,3 4,1 1,57
Blaenau Gwent 0,2 3,5 46,1 50,4 8,9 5,4 2,55
Casnewydd 0,2 3,0 41,1 55,9 9,2 6,2 3,06

Cymru 7,9 14,7 24,5 60,8 18,8 4,1 1,28


8.25 Disgyblion ysgolion cynradd a gynhelir, 5 oed a throsodd, yn ôl eu gallu i siarad Cymraeg, asesiad rhieni, 2011/12 (a) (b)
(a)
(b)
Ym mis Ionawr.
Canfyddiad y rhieni o rhuglder y plentyn yn y Gymraeg nid gallu'r plentyn ei waith ysgol.
A Cymry Cynhenid
B Cymraeg rhugl
C Cymraeg heb fod yn rhugl
D di-Gymraeg
E Cymraeg 5-9 Cyfrifiad 2011
F Y ffactor "chwyddo" E-A+B, sef Cymry heb fod yn rhugl a gofnodwyd yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011
G Y ffactor "chwyddo"

William Dolben said...

Mae'n ddrwg gennyf, dwn i'm sut i yrru y daenlen heb golli'r fformat. Ioan / BM, fedri di fy helpu?

William

William Dolben said...

Erby meddwl syfrdanol ydi ffactor Sir Gâr. Mae canran y siaradwyr Cymraeg yn yr ysgolion a'r cyfrfiad yn debyg iawn. Yn wahanol i Geredigion lle mae rhieni'n yn 75% mwy tebyg o'e cofnodi eu plant hefo crap ar yr iaith yn Gymraeg....

William Dolben said...

http://www.medical-reprints.com/Plant%27r_Gymraeg.html

hwde, mae'r daenlen yma

menaiblog said...

William - os wnei di e bostio'r daenlen i mi, af ati i'w rhoi ar y dudalen flaen.

Mae fy nghyfeiriad ebost ar dudalen flaen y blog.

WIlliam Dolben said...

Diolch BM dwi newydd anfon y daenlen

Ioan said...

Un pwynt, sy'n cadarnau dy ddadansoddiad ydi bod y cwestiwn wedi newid yn 2001. Ella bod y cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn 2001, yn fwy oherwydd y newid cwestiwn nag oedd pobl yn sylwi..?

William Dolben said...

Annwyl Ioan,

Dwn i'm a deud y gwir. Bydd BM yn rhoi fy nhabl ar y blog heno mae'n debyg. Rwyf wedi ychwanegu rhai ffigyrau o arolygon ysgolion ym 1950 a 1960. Hwyrach fod newid y cwestiwn wedi newid y atebion ym 2011 ond yr hyn sy'n glir o'r ystadegau o 1950 ymlaen ydi fod mewnfudo, diboblogi a diffyg trosglwyddo iaith yn ffactorau llawer cryfach. Er enghraifft dim ond 45% o blant Sir Gâr oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd ym 1960. Yr adeg honno, 70%+ oedd yn Gymry cynhenid ym Meirion a Môn. Gallasai ystadegydd ym 1962 fod wedi ragweld y canrannau ym 2011!!! Wrth gwrs mae'r siroedd wedi newid a mae'n amhosibl cymharu 'r rhan fwya ohonynt . Diolch i BM ymlaen llaw

William Dolben said...

Ioan cofia egluro wrthyf pwysigrwydd ystadegau TGAU ar ôl gweld fy nhabl

Anonymous said...

buy valium valium drug dependence - valium side effects wikipedia

Anonymous said...

Nice blog! Is your theme custom made or did you download
it from
somewhere? A theme like yours with a few simple adjustements
would really make my blog stand out. Please let me know where you
got your theme. Bless you

my blog post - Click here