Monday, March 04, 2013

Goblygiadau buddugoliaeth i Lafur yn etholiad San Steffan 2015

Un peth sy'n dipyn o ddirgelwch i mi ydi'r gwahaniaeth anferth rhwng yr hyn sydd gan y polau piniwn i'w ddweud a barn y marchnadoedd betio ynglyn a chanlyniadau etholiad cyffredinol 2015.  Dydi'r marchnadoedd ddim yn ystyried y posibilrwydd o fwyafrif llwyr Llafur fawr cryfach na'r posibilrwydd o neb yn llwyddo i gael mwyafrif - fel yn 2010.

Eto - yn ol y pol YouGov diweddaraf y gallaf gael hyd iddo (Llaf 42%, Toriaid 32%, Lib Dems 12%), petai etholiad yn cael ei chynnal rwan byddai Llafur yn cael 379 sedd, y Toriaid 223 a'r Lib Dems 23.

Ymladdodd Llafur yr etholiad cyffredinol diwethaf yn erbyn storm gweddol berffaith - roeddent newydd wneud llanast llwyr o'r economi tra'n cael eu harwain gan yr arweinydd gwaethaf maent erioed wedi ei gael.  Bydd amgylchiadau 2015 yn llawer haws iddynt.  Mi fyddwn i'n rhyfeddu petai Llafur methu a chael mwyafrif llwyr ar eu pennau eu hunain.

Yn anffodus byddai hynny yn rhwym o arwain at gynnydd yn nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig.  Dydi hegemoni Llafur ddim yn rhywbeth i'w groesawu - methiant economaidd parhaus a pharhaol ydi prif nodwedd yr hegemoni hwnnw.  Ond mae yna un cysur - a chysur go fawr.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol bod yna gyfraith ddi feth i'w gweld yn hanes etholiadol diweddar Cymru.  Pan mae Llafur yn colli grym yn San Steffan mae'n adeiladu cefnogaeth etholiadol yn gyflym yng Nghymru, ac mae'r gefnogaeth honno yn amlygu ei hun ar pob lefel etholiadol.  Ond pan mae Llafur yn ennill grym yn San Steffan mae'n colli cefnogaeth etholiadol yng Nghymru - ac mae'n gwneud hynny yn eithaf cyflym hefyd.

Petai yna etholiad Cynulliad rwan yng Nghymru, byddai Llafur yn ennill.  Ond byddai buddugoliaeth i Lafur yn etholiadau San Steffan 2015 yn newid yr amodau etholiadol yng Nghymru yn llwyr erbyn 2016.  Byddai sefyllfa felly yn ei gwneud yn llawer, llawer mwy tebygol y gallai Plaid Cymru efelychu'r hyn ddigwyddodd yn 1998 a chynyddu ei phoblogrwydd a'i chynrychiolaeth ym Mae Caerdydd yn sylweddol.

11 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Hmmm dydw i ddim yn siwr a ydw i'n cytuno. Fe fydd y llywodreath Lafur yn San Steffan yn dal yn ei gyfnod 'mis mel' pan ddaw etholiad y Cynulliad. Mae'n debygol y bydd yr economi yn tyfu eto hefyd. Fe fydd yn cymryd blynyddoedd eto cyn bod pobl yn dechrau cael llond bol ar Lafur, fel oedd wedi digwydd erbyn 2007.

Efrogwr said...

Ac wrth gwrs gallai'r Alban fod wedi pleidleisio "ie" a faint o seddi bydd gan yr SNP yn Llundain yn 2015? Digon i atal mwyafrif Llafur?

Ioan said...

Pwy di'r ffefryn yn Arfon ti'n meddwl? Mi faswn ni'n deud 50/50.

'Dwi ddim chwaith yn disgwyl 'mis mel' i Lafyr - mi fasa patha'n gallu mynd o chwith yn gyflym iawn. Fasa chi'n benthyg pres i Ed Balls?

menaiblog said...

Doedd mis mel Llafur o fawr o werth ym 1998.

menaiblog said...

Bydd nifer o'r seddi Cymreig sydd ddim yn nwylo Llafur ar hyn o bryd o dan bwysau. A dweud y gwir bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Dylan said...

Peth arall: os yw'r Alban yn annibynnol erbyn hynny, byddai Llafur wedi colli dwsinau lu o seddi saff. Byddai'n anodd iawn i Lafur gael mwyafrif heb yr Alban.

menaiblog said...

Fydd yr Alban ddim yn annibynnol erbyn hynny - hyd yn oed os mai 'Ia' ydi'r bleidlais.

Efrogwr said...

Ie, ond gallai ennill yr refferendum arwain at gynydd sylweddol yn nifer yr ASau SNP yn Llundain yn 2012. Gallai colli'r refferendum gael yr un effaith (pleidleiswyr ddim eisiau annibynniaeth ond eisiau llywodraeth mor gref a phosibl yng Nghaeredin er atal backlash gan yr Unoliaethwyr).

menaiblog said...

Pe byddai'r SNP yn cymryd pob sedd yn yr Alban, Llafur fyddai'n cael mwyafrif llwyr os ydi'r polau presenol ygywir.

Aled GJ said...

Dwi'n anghytuno a dy ddadansoddiad mai Llywodraeth Lafur glir a gawn ni wedi etholiad 2015. Mae gwleidyddiaeth glymbleidiol yma i aros yn San Steffan, a hynny'n rhannol gan fod y gefnogaeth bleidiol draddodiadol yn prysur ddadfeilio. Mae dyfodiad UKIP i'r tirlun gwleidyddol yn arwydd o hyn, ac mae eu presenoldeb hwy yn saff o wneud ffactorau clymbleidiol yn gryfach fyth erbyn 2015. Faswn i ddim yn betio yn erbyn rhyw fath o ddealltwriaeth glymbleidiol ymlaen llaw gan y Toriaid ac UKIP er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r dde.

Ac ar wahan i hynny- pwy mewn difrif calon all ddychmygu'r llipryn Ed Miliband yn brif weinidog?!

BoiCymraeg said...

Dydw i ddim yn gweld UKIP yn ennill seddi yn 2015. Ar y mwyaf, ychydig bach o seddi 'wnawn nhw eu hennill. O dan y system etholiadol presennol mae angen trefniadaeth etholiadol lleol cryf i ennill seddi; ee. Brighton ar gyfer y Blaid Werdd, Gwynedd ar gyfer Plaid Cymru... mae'r ffaith i'r Democratiaid Rhyddfrydol cydnabod a deall hyn cynyddu eu cynrychiolaeth yn sylweddol ers yr 1980au, er nad yw eu cefnogaeth wedi cynyddu rhyw lawer (22% yn 1983 a 22 sedd, 23% yn 2010 a 57 sedd).

Does gan UKIP ddim trefniadaeth etholiadol cryf (cynghorwyr ayyb) mewn ardaloedd penodol; does gennyn nhw ddim "Brighton". Hyd yn oed os yw'r blaid yn cael 20% o'r bleidlais poblogaidd anodd yw eu gweld yn ennill digon o seddi i achosi sefyllfa lle mae "llywodraeth glymbleidiol yma i aros", yn enwedig os yw cynrychiolaeth y Dems Rhydd yn lleihau, sy'n edrych yn debygol.

Wrth gwrs, mi all perfformiad da gan UKIP effeithio'r canlyniad yn fawr drwy lleihau cefnogaeth y Ceidwadwyr a gadael i'r Blaid Lafur enill seddi dros Loegr.