Thursday, March 07, 2013

Gwilym Owen - rhagor o nonsens yn Golwg

Mae'n anffodus bod darn diweddaraf Gwilym Owen yn Golwg yn dangos holl nodweddion gwaethaf y cynnyrch mae yn ei gyflwyno ger ein bron trwy golofnau'r cofnodolyn  - anallu i seilio ei ddadleuon ar ffeithiau cadarn, defnydd ymfflamychol o iaith a pharodrwydd i gymryd ei yrru gan ei ragfarnau.

Yr hyn sydd wedi troi'r drol y tro yma ydi'r ffaith i Leanne Wood ddal record y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i gyfri mewn perthynas ag addysg.  Bydd darllenwyr cyson colofn Gwilym yn gwybod ei fod o'r farn mai priod bwrpas Plaid Cymru ydi cefnogi'r Blaid Lafur. Mae'n ymateb trwy ymosod ar record Cyngor Gwynedd ym maes addysg, ac yn anffodus mae peth o'i sail tros wneud hynny yn ffeithiol anghywir.  Cyn mynd ymlaen mae'n debyg gen i y dyliwn ddatgan diddordeb yma - dwi'n gweithio yn y maes addysg yng Ngwynedd.

Mae Gwilym yn mynd ati i ymosod ar y sector addysg yng Ngwynedd o sawl cyfeiriad ar yr un pryd - y broses ail strwythuro ysgolion, cyflwr adeilad Ysgol y Groeslon ac ati.  Tra nad ydw i'n cytuno efo'r hyn mae Gwilym yn ei ddweud yma, dau honiad arall - honiadau cwbl ddi sail sydd gen i o dan sylw heddiw.

Yr honiad cyntaf ydi bod canran uchel o blant Gwynedd yn mynd i'r sector uwchradd yn anllythrennog.  Yn nodweddiadol 'dydi Gwilym ddim yn nodi ar ba sail mae'n gwneud datganiad mor ryfeddol ac ysgubol. Y gwir ydi bod neb - neu nesaf peth i neb yn mynd i'r sector uwchradd yn anllythrennog.  Mae yna ganran - fel ym mhob Awdurdod arall yn y DU - yn mynd i'r sector uwchradd heb gyrraedd y lefel disgwyliedig mewn iaith (lefel 4), ond mae'n sarhaus i blant sydd yn aml  ag anghenion dysgu sylweddol a sydd wedi ymdrechu'n galed i gyrraedd lefel 3 i ddweud na allant 'sgwennu na darllen.  Mae hefyd yn ddatganiad cwbl gamarweiniol.

Rhag ofn bod rhywun a diddordeb mewn ffeithiau yn hytrach na sterics mae perfformiad Gwynedd ar ddiwedd y sector cynradd yn gadarn iawn o gymharu a gweddill Cymru.  Mae perfformiad DPC (Dangosydd Pynciau Craidd) Gwynedd yn sylweddol uwch na Chymru ac wedi cynyddu ar raddfa uwch na’n genedlaethol dros gyfnod treigl ers 2009. Mae perfformiad 2012 yn dangos cynnydd o 3.4% ar berfformiad 2011.  Yn wir mae  perfformiad cymharol Gwynedd yn y DPC yn dda ac yn well na’r disgwyliad dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda Gwynedd wedi perfformio yn yr ail neu drydydd safle o holl awdurdodau Cymru dros gyfnod treigl tair blynedd.

Ar ben hynny mae'r sir gyda deilliannau llawer, llawer gwell na'r un arall o ran y Gymraeg.  O'r hanner cant ward sydd a mwy na 90% o blant oed ysgol yn siarad y Gymraeg mae 43 o'r rheiny yng Ngwynedd.  Gwynedd sydd â’r ganran uchaf o ddigon o ddisgyblion a asesir yn y Gymraeg yn Cyfnod Allweddol 1/2 a 3.Mae’r ganran a asesir yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ar draws CS/CA1/CA2 a CA3 yn rhagorol mewn cymhariaeth gyda holl awdurdodau eraill Cymru.
Mae’r ganran sy’n cyrraedd y lefel disgwyliedig yn CA1/2/3 yn uchel iawn dros y cyfnod treigl ac yn uwch na’r holl Awdurdodau eraill y gellid gwneud cymhariaeth ystyrlon yn eu herbyn [Mon/Caerfyrddin/Ceredigion].

Mae Gwilym hefyd yn honni mai 27% yn unig o blant y sir sy'n dewis chwarae yn y Gymraeg ar dir ysgolion.  Mae Gwil yn hoff iawn o'r 27% 'ma, ac rydym wedi gwneud ychydig o waith ditectif i ddarganfod o ble daw'r ffigwr anhygoel o isel yma yn y gorffennol. Daw o adroddiad a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Gwynedd rai blynyddoedd yn ol.  Mae'r adroddiad yn ymwneud a'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg rhwng plant.

Rwan roedd y canlynol ymysg canfyddiadau'r  adroddiad - 

Iaith rhwng plant ar y buarth – 27% Cymraeg, 25% Cymraeg a Saesneg, Saesneg bron bob amser 19%, Saesneg rhan fwyaf 15%, Cymraeg rhan fwyaf 11%, Dim ateb 3%.

Felly pan mae Gwil yn dweud wrthym mai 27% sy'n gwneud defnydd o'r Gymraeg ar fuarth ysgol yr hyn nad yw yn ei ddweud wrthym ydi mai cyfeirio at y sawl sy'n defnyddio'r iaith 'pob amser' mae ei annwyl 27%..  Mae 81% yn gwneud peth defnydd o'r iaith mewn gwirionedd.  Ond nid dyna'r unig beth mae Gwil yn ei gadw oddi wrthym.  Wele'r ysgolion a gymrodd rhan yn yr arolygiad:


Ysgol Bro Cynfal, Ysgol Cwm y Glo Ysgol Cymerau Ysgol Edmwnd Prys Ysgol Glan Cegin Ysgol Gwaun Gynfi Ysgol Llanbedrog Ysgol y Garnedd, Ysgol Aberdyfi Ysgol Abergynolwyn Ysgol Bryncrug Ysgol Dyffryn Dulas Ysgol Llanegryn Ysgol Llwyngwril Ysgol Pennal
Ysgol Penybryn 

Byddai wedi bod yn anodd creu sampl mwy Seisnig o ran cefndir y plant.  Daw hanner yr ysgolion, a mwy na hanner y sampl plant o Fro Dysynni - ardal isaf ei phoblogaeth a mwyaf Seisnig y sir.  Er mai tua 5% o blant y sir sy'n byw yno, daw mwy na hanner y sampl o'r ardal.  Daw dwy o'r ysgolion sy'n weddill o ail ardal mwyaf Seisnig y sir - ardal Bangor.  Does yna ddim un o'r ysgolion o'r cymunedau 80%+ sy'n siarad yr iaith - cymunedau sydd - pob un - yn boblog iawn yng nghyd destun Gwynedd.  

Felly trwy ddethol ei ystadegau yn ofalus iawn mae Gwil wedi troi stori sy'n adrodd bod 81% o blant sampl Seisnig iawn yn gwneud peth defnydd o'r Gymraeg i stori gyfangwbl gam arweiniol mai dim ond 27% o holl blant y sir sy'n defnyddio'r Gymraeg efo'i gilydd.  Y gorau fedrwn ni ei ddweud am Gwil ydi ei fod yn rhy ddiog i ddarllen adroddiad mae'n fodlon ei defnyddio i ddod i gasgliadau ysgubol a hysteraidd.  Y gwaethaf y gallwn ei ddweud yw ei fod yn ymarfer newyddiadura anonest a chelwyddog er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad ar ran y Blaid Lafur.

13 comments:

Anonymous said...

I recently looked at how many GCSE examinations in Gwynedd are taken through the medium of Welsh. You might be interested. If you exclude English(lang and lit) and Welsh first language (lang and lit) and also exclude the non-state schools (all English Medium) then 54% of GCSE exams in Gwynedd were taken through the medium of Welsh. In 2009 the figure was 56% and in 2010 55%. I didn't sample in 2011. You can look at that in one of two ways: declining Welsh competency/confidence or a variation around a static percentage (55%).

Anonymous said...

"Bydd darllenwyr cyson colofn Gwilym yn gwybod ei fod o'r farn mai priod bwrpas Plaid Cymru ydi cefnogi'r Blaid Lafur. "

Ai Dafydd El wyt ti'n son am?!

Anonymous said...

Os ydi Golwg yn parhau i gyhoeddi erthyglau camarweiniol a maleisus am berfformiad ysgolion Gwynedd dylai ysgolion Gwynedd ynghyd a'r cyngor sir roi'r gorau i gyhoeddi hysbysebion drudfawr yn y cylchgrawn.

menaiblog said...

Dydw i ddim yn cytuno a dweud y gwir - byddai'n anffodus mynd i lawr lon Sir Gaerfyrddin a chosbi papurau sy'n bod y feirniadol.

Serch hynny mae'r colofnau Gwilym Owen yn anarferol i'r graddau ei fod yn barod i bardduo trwy wneud honiadau sydd yn ddi sail ac yn anwir.

Anonymous said...

Mae Golwg wrth ei bodd efo controfersi achos bod newyddiadurwyr y cylchgraen yn gobeithio bod controfersi yn gwerthu (debyg eu bod yn iawn). Mae'n ymddangos bod y gwir yn llai pwysig/diddorol na chontrofersi. Pant a chi, Gwilym Owen, byddwch gontrofersial.

menaiblog said...

Mae bod yn ddadleuol yn iawn. Y broblem efo GO ydi ei fod yn creu ei 'ffeithiau' ei hun.

Anonymous said...

Mae colofnau GO yn siwtio Golwg yn iawn - profocio ymateb gan yr ychydig filoedd sydd yn ei archebu (cefnogwyr Plaid Cymru Gwynedd) a sgorio brownie points efo'r rhai sy'n ei sybsideiddio drwy golbio'r Nats (y Blaid Lafur / Llywodraeth Cymru)

Anonymous said...


Gwilym Owen = Joseph Goebbles
Golwg = Völkischer Beobachter

Propoganda Prydeinig ydi'r holl beth

Anonymous said...

Mae'r gymhariaeth Goebles yn amlwg yn wirion braidd, ond yn sicr mae GO yn tynnu ffeithiau allan o'i din ac yn cael ei dalu gan Golwg am eu stwffio nhw o flaen ein gwynebau.

Anonymous said...

Sori, pwy yn union ydo Gwilym Owen?

menaiblog said...

Dwi'n tueddu i weld Gwil ychydig fel Alf Garnett - boi mewn oed mawr sy'n llawn rhagfarnau a sy'n cael y myll weithiau pan mae o'n edrych ar y teli bocs. Wedyn mae o'n dechrau rhaffu nonsens at ei gilydd sydd wedi ei seilio ar ei ragfarnau. Yn wahanol i Alf mae gan Gwil golofn mewn papur cenedlaethol i gyflwyno ei fyllio rhagfarnllyd.

Anonymous said...

Rel Blaid Lafur - gwleidyddiaeth y gwter.

menaiblog said...

A bod yn deg dydi Llafur yn lleol ddim wedi bod yn arbennig o fudur ers talwm. Dwi'n siwr y byddant eisiau dadgysylltu eu hunain oddi wrth gwleidydda ffantasiol Gwilym Owen.