Wednesday, March 27, 2013

O'r Fali i Ddinas Dinlle

Mae'n debyg bod penderfyniad i symud y gwasanaeth achub yn y Fali i ddwylo preifat a bod y cwmni preifat yn ei dro yn ail leoli ar gyrion Caernarfon yn fater dadleuol, ac mae'n naturiol bod gwleidyddion Ynys Mon yn cwyno am y peth.

Dwi ddim yn gwybod digon am y mater i fynegi barn, ag eithrio i nodi ei bod yn ddigon naturiol bod cwmni preifat yn dod i benderfyniadau ar sail masnachol.  Ond mae un agwedd gadarnhaol i'r stori o leiaf.  Roedd y ffaith bod y Llu Awyr yn gyfrifol am achub bywydau ar y mynyddoedd neu yn y mor yn bropoganda effeithiol i sefydliad sydd yn ei hanfod yn defnyddio llawer o'i adnoddau ac ynni yn mynd i wledydd pell i ladd rhai o drigolion y gwledydd hynny.  Roedd yna pob amser rhywbeth yn rhyfedd am y syniad o un o feibion Charles Windsor mewn Sea King yn achub bywydau, tra bod y llall mewn gwlad bell yn mynd o gwmpas mewn gunship Appache yn dod a bywydau tramorwyr i derfyn yn eu gwlad eu hunain.

O leiaf bydd yr amwyster bach yma ynglyn a phwrpas y lluoedd diogelwch yn dod i ben.  

7 comments:

Anonymous said...

Da Iawn. Dan i yn gwybod rwan lle mae werin y Blaid yn sefyll. Cadwa yn glir o Ynys Mon brawd.

Anonymous said...

Cytuno 100% gyda blog menai

Anonymous said...

Bang on Blogmenai - fel arfer.

Anonymous said...

Falch o weld lluoedd arfog Lloegr yn gadael Cymru, yr unig siom i mi ydy nad ydym nhw wedi cau Fali ym llwyr.

Cai Larsen said...

Anon 7.18 - be, fydd yna Appache yn aros amdanaf i yr ochr arall i'r bont?

Anonymous said...

Pobol y sector cyhoeddus wedi bod yn brysur neithiwr!!. Dyn O'r Fali

Anonymous said...

Ydi'r lluoedd arfog yn achub pobl o liff? ;-)