Monday, March 11, 2013

Cymharu'r Cyfrifiad a ffigyrau ysgolion mewn perthynas a'r Gymraeg

Mae yna dipyn o sgwrs wedi bod yn mynd rhagddi ynglyn a pha mor ddibynadwy ydi'r ffigyrau cyfrifiad mewn perthynas a phlant ysgol.  Yr awgrym a geir ydi bod gor gyfrifo plant oed ysgol mewn rhai rhannau o Gymru.  Fel rhan o'r drafodaeth honno mae William Dolben wedi mynd ati i gymharu faint o blant sy'n rhugl yn ol ffigyrau ysgolion a faint sy'n siarad y Gymraeg yn ol y Cyfrifiad a dod i gasgliadau o'r gwahaniaeth rhwng y ddau.  Doedd hi ddim yn bosibl i William gyhoeddi ei dabl ar y dudalen sylwadau, felly 'dwi wedi gwneud hynny yma.

 Heb fod yn rhy dechnegol, lle mae'r rhif yng ngholofn G yn uchel, mae gwahaniaeth mawr rhwng y nifer a ystyrir yn rhugl yn y ffigyrau a geir o ysgolion a'r niferoedd sy'n siarad y Gymraeg yn ol y Cyfrifiad.  Felly mae yna berthynas agos rhwng ffigyrau'r ysgolion a rhai'r Cyfrifiad yng Nghaerdydd, tra bod gwahaniaeth mawr yng Nghasnewydd.  Yr awgrym yma ydi bod ffigyrau Cyfrifiad Caerdydd yn fwy dibynadwy na rhai Casnewydd - mewn perthynas a phlant o leiaf

Rwan dydi'r Cyfrifiad ddim yn ystyried pa mor rhugl mae pobl yn siarad y Gymraeg, felly mae'n fater braidd yn oddrychol , pwy sy'n gallu siarad yr iaith a phwy na all wneud hynny.  Serch hynny mae'r ymarferiad yn un hynod ddiddorol, ac mae'n awgrymu bod gor gyfrifo siaradwyr Cymraeg sylweddol yn rhai o'r siroedd sy'n agos at y ffin efo Lloegr.



15 comments:

Ioan said...

Diddorol de?!!

Dwi'm yn siwr os oes 'na or gyfri yng Nghasnewydd er engraifft. Be mae'r tabl yn ddangos ydi bod tua 3% yn rhugl (gallwn gymeryd bod nhw wedi cael ei nodi yn siaradwyr Cymraeg yn y census), a bod 'na tua 6% allan o'r 41% sy'n gallu siarad cymraeg (ond ddim yn rhugl) wedi nodi yn y census bod nhw'n gallu siarad Cymraeg.

Mae ella'n fwy arwyddocaol bod yna gymaint o plant yn cael y lebal "Methu siarad Cymraeg", er eu bod yn gallu (ond ddim yn rhugl).

A bod yn hollol onest, sioc ydi bod mwy o siroedd ddim efo patrwm sir Fynwy. Mi fuasech yn gobeithio bod pob plentyn sy'n cael gwersi Cymraeg bob wythnos yn gallu dweud bod nhw'n gallu siarad Cymraeg - ond ddim yn rhugl.

Gyda llaw, colofn F=E-B ia?

Cai Larsen said...

Ia - F ydi'r gwahaniaeth rhwng E a B.

Ioan said...

Reit ta:

O edrych ar y % o'r siaradwyr Cymraeg heb for yn rhygl, gafodd ei nodi yn siaradwyr Cymraeg yn y Census.

Castell-nedd Port 51.1%
Ceredigion 50.0%
Abertawe 44.9%
Conwy 43.8%
Merthyr Tudful 38.7%
Pen-y-bont ar Og 35.1%
Bro Morgannwg 30.8%
Sir Benfro 30.5%
Gwynedd 25.2%
Sir y Fflint 22.6%
Ynys Môn 22.1%
Casnewydd 15.1%
Wrecsam 14.7%
Blaenau Gwent 11.7%
Rhondda Cynon 10.7%
Powys 9.7%
Sir Ddinbych 9.5%
Torfaen 8.6%
Sir Gaerfyrddin 7.9%
Sir Fynwy 5.6%
Caerffili -1.3%
Caerdydd -6.5%

i.e. (E-B)/C

Cai Larsen said...

Dwi ddim eisiau bod yn rhy bedantig yma, ond mae'n debyg bod y gwahaniaeth yn y ddau set o ffigyrau rhywfaint yn uwch na mae William yn awgrymu.

Mae William wedi dewis y grwp 5 i 9 yn y cyfrifiad. Mae'r grwp ysgol yn 4 i 11. Mae'r plant yn fwy tebygol o fod yn rhugl erbyn maent yn 11 nag ydynt yn 9 - hy pan maent yn siaradwyr ail iaith rhugl. Felly hwyrach o gael y ffigyrau 4-11 byddai ffigyrau colofn E ychydig yn uwch.

Ioan said...

Ar y llaw arall, mae'r gwahaniaeth yn yr ystadegau 3-4 o'i gymharu a 5-9 yn llawer mwy na'r gwahaniaeth rhwng 5-9 a 10-14. A dweud y gwir, does na ddim lot o wahaniaeth rhwng 5-9 a 10-14.

Cai Larsen said...

Wel - mi ddylai yna fod. Mae plentyn 14 oed sydd wedi bod trwy addysg Gymraeg yn siwr o fod yn fwy rhugl nag un 5 oed. Na?

Ioan said...

Yng Nhymru, 5-9 oed- 38%, 10-14 oed - 42%, fellu dwi ddim yn gweld lot o broblem efo dim ond defnyddio data 5-9 oed. Beth bynnag - fi di'r un pedantic i fod... :-)

William Dolben said...

Diolch Cai am lwytho'r daenlen a'r esboniad a diolch i Ioan am y sylwadau. Yn gyntaf, Cai gyrrais ffeil wedyn hefo % oedd yn rhugl ym 1950 a 1960. A fedri di ei llwytho? Mae'n ddiddorol a roedd y ffigyrau Cymraeg ar yr aelwyd ym 1961 yn darogan y canrannau ym 2011. Dim ond 45% o blant Sir Gâr oedd yn siarad Cymraeg ym 1961. Isel iawn yn ymyl Caernarfon a Meirion (rhyw 70%). A deud y gwir mae'r gostyngiad o 70% yn y ddwy sir honno i ryw 57% yn galonogol o ystyried y mewnlifiad. Wrth gwrs mae'r Wynedd wedi colli Aberconwy ond er hynny mae'r iaith yn gwneud yn go lew o dda yng Ngwynedd. Mae'n debyg hefyd fod y broses o golli iaith wedi gwreiddio'n barod mewn lle fel Bangor erbyn 1950-1960

Mae gennyf gopi o Drydydd Arolwg Iaith sir Gaernarfon (1950) ac yn y flwyddyn honno dim ond 40-45% o fabanod Bangor oedd yn siarad Cymraeg (a llai fyth yn Gymry cynhenid rwy'n amau er nad ydynt y canrannau gennyf: ryw draean hwyrach a oedd yn "Gymry". Roedd gan 80% o'r plant o leiaf un rhiant yn siarad Cymraeg!! Yr un fath ac ambell ei dre yn Sir Gaerfyrddin!

Mae'n glir fod diffiniad rhuglder yn benbleth. Mae tua 20% o blant Cymru mewn ysgolion cynradd Cymraeg traddodiadol neu benodedig. Ond dim ond 15% sy'n rhugl. Ond os edrychi di ar adroddiadau Estyn maent yn arfer deud fod hyn a hyn o'r plant yn Gymry cynhenid (neu i'n ffwndro ni: yn dôd o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn "brif iaith") ac fel arfer "mae 90% neu bob copa walltog yn siarad Cymraeg safon mamiaith.... lle mae'r 25% o blant nad ydynt yn rhugl felly? Yn y blynyddoedd cynnar: y bababod?
Mae hefyd amrywiaeth fawr yn y siroedd. 31% yn ddi-Gymraeg ym Mynwy, 36% yn Sir Gâr a 61% yng Nghymru? Sgersli belîf! Hwyrach fod yr amrywiaeth wedi cynyddu er newid y metholodeg (roedd yr athrawon yn gwerthuso gynt a'r rhieni sy'n gwneud er 2002 rwy'n credu. mae'n debyg fod deud bore da'n ddigon i ddarbwyllo rhiant yn Sir Fynwy dy fod yn rhugl ond bod rhieni cynhenid Sir Gâr yn llymach o lawer wrth farnu.

Er hyn dwi'm yn gweld patrwm o gwbl yn y cyfrifiad. Pam fod dwywaith cynaint o bobl yng Ngheredigion yn cyfri eu hunain yn siaradwyr C yn y cyfrifiad nag yng Ngwynedd? Wedi drysu'n llwyr

Beth bynnag, Ioan fedri di gymharu hyn hefo'r canlyniadau TGAU roeddit yn sôn amdanynt?


William


Ioan said...

WD ddwedodd
"...mae'n debyg fod deud bore da'n ddigon i ddarbwyllo rhiant yn Sir Fynwy dy fod yn rhugl "

Dim ond 3.6% yn Sir Fynwy sy'n dweud bod nhw'n rhugl. Mi fasa ti'n gobeithio bod pob disgybl sy'n cael gwersi Cymraeg bob wythnos yn gallu dweud bod on gallu Cymraeg - ond ddim yn rhugl. Ac os tydyn nhw ddim, wel be di'r pwynt???

William Dolben said...

Syththiaf ar fy mai, ti'n iawn. Roeddwn i'n misio wrth ddeud bod hi'n haws darbwyllo rhiant ym Mynwy dy fod yn rhugl. Be oeddwn i am ddeud oedd bod hi' n haws eu darbwyllo dy fod yn siarad C ond ddim yn rhugl. Methu dallt dwi y ganran o 30% di-Gymraeg yn Sir Mynwy......
Hwyrach y bydde TGAU iaith gyntaf yn well ffordd o ddeud pwy sy'n rhugl. Be ti'n feddwl?

Emlyn Uwch Cych said...

Y trafferth gyda TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf ydy nid prawf a yw'r ymgeisydd yn rhugl ei Ch/Gymraeg ydy o. Profi gallu addysgiadol mae'r TGAU (fel TGAU Iaith Saesneg).

Fyddech chi'n awgrymu nad yw'r dros 30% fethodd gyrraedd gradd C yn TGAU Iaith Saesneg ddim yn rhugl yn yr iaith honno?

Ioan said...

Mae'r nifer sy'n sefyll TGAU Cymraeg Iaith Cynta + Ail Iaith (llawn) yn debyg iawn i'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg oed 10-14 yn y Census:

Colofn A: Census 10-14 oed
Colofn B: Sefyll GCSE Cymraeg Iaith gyntaf + ail (llawn)
................ A .......... B
1991 .. 46818 .. 51127
2001 .. 85675 .. 79788
2011* . 75093 .. 75885

* Canlyniadau ddim i fewn eto... fellu wedi defnyddio'r pum mlynedd ddwetha.

Ioan said...

Ydi colofn E yn gywir - edrych yn od i fi (a lot rhy isel). Sori mod i heb sylwi yn gynt.

WIlliam Dolben said...

Ioan,

Mi sbïaf ar yr ystadegau ddydd Llun. Ydy, ame 18% yn edrych yn isel erbyn meddwl

WIlliam Dolben said...

Ioan,

Roeddwn i wedi gwneud ponsh ohoni. Wedi ffwndro ffigyrau 3-4, a wedi'u rhoi yn lle rhai 5-9. Wedi gyrru taenlen newydd hefo % 5-9 a'r ffactor gywir i Cai rai munudau'n ôl